BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Tai (Gorchmynion Rheoli a Gorchmynion Rheoli Anheddau Gwag) (Darpariaethau Atodol) (Cymru) 2006 Rhif 2822 (Cy.245)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20062822w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 2822 (Cy.245)

TAI, CYMRU

Rheoliadau Tai (Gorchmynion Rheoli a Gorchmynion Rheoli Anheddau Gwag) (Darpariaethau Atodol) (Cymru) 2006

  Wedi'u gwneud 25 Hydref 2006 
  Yn dod i rym 26 Hydref 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 145 o Ddeddf Tai 2004[1], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tai (Gorchmynion Rheoli a Gorchmynion Rheoli Anheddau Gwag) (Darpariaethau Atodol) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar y 26 Hydref 2006.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli
    
2. Yn y Rheoliadau hyn —

Darpariaethau atodol
     3. —(1) Os yw awdurdod tai lleol, o dan —

i'w drin fel lesddeiliad mangre (neu ran o fangre) o dan les[8], mae'r paragraffau a ganlyn yn gymwys.

    (2) Cyn gynted ag y gwneir gorchymyn rhaid i'r awdurdod tai lleol sy'n gwneud y gorchymyn gyflwyno i lesydd uniongyrchol y person perthnasol ("y lesydd") hysbysiad yn cynnwys y manylion a ganlyn —

    (3) O'r dyddiad y daw'r gorchymyn i rym nid yw'r awdurdod tai lleol na'r person perthnasol i fod yn atebol am dalu rhent tir, taliadau gwasanaeth neu daliadau eraill sy'n ddyledus o dan y les, p'un a ydynt yn ddyledus cyn neu ar ôl dyddiad y gorchymyn —

    (4) Yn ddarostyngedig i baragraff 3(3) o'r dyddiad y daw'r gorchymyn i rym —

    (5) Os bydd y person perthnasol y mae copi o alwad am dalu, o hysbysiad neu o ddogfen arall o dan baragraff (4)(ch) yn dod i'w law, yn dymuno herio unrhyw fater a gaiff ei gynnwys ynddo neu ynddi, rhaid i'r awdurdod tai lleol ddarparu'r cyfryw wybodaeth a'r cyfryw gymorth ag y gall fod yn rhesymol i'r person perthnasol ofyn amdano neu amdani.

    (6) Ni chaiff y person perthnasol ofyn i'r awdurdod tai lleol ohirio talu unrhyw rent tir, taliadau gwasanaeth neu daliadau eraill y mae'n rhesymol i'r awdurdod tai lleol fod o'r farn eu bod yn ddyledus neu'n parhau'n ddyledus o dan y les, p'un a yw'r person perthnasol yn cwestiynu galwad am y cyfryw daliad ai peidio.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[9]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

25 Hydref 2006



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaethau atodol pan fydd yr awdurdod tai lleol i'w drin fel lesddeiliad o dan les mangre sy'n ddarostyngedig i orchymyn rheoli interim neu derfynol a wnaed o dan Bennod 1 o Ran 4 o Ddeddf Tai 2004 ("y Ddeddf") neu orchymyn rheoli anheddau gwag ("GRhAG"), a hwnnw'n orchymyn interim neu derfynol, a wnaed o dan Bennod 2 o Ran 4 o'r Ddeddf.

Gorchymyn a wnaed gan awdurdod tai lleol mewn cysylltiad â thŷ amlfeddiannaeth fel y'i diffinnir yn adrannau 254 o'r Ddeddf neu â thŷ y mae Rhan 3 o'r Ddeddf yn gymwys iddo yw gorchymyn rheoli interim. Fe'i gwneir i ddiogelu iechyd a diogelwch meddianwyr tŷ neu fangreoedd cyfagos ac i hybu rheoli eiddo'r tŷ. Gorchymyn (sy'n dod i ben heb fod yn fwy na phum mlynedd ar ôl ei wneud ac) a wneir gan awdurdod tai lleol at ddiben sicrhau bod y tŷ'n cael ei reoli'n briodol ar sail hirdymor yn unol â chynllun rheoli a geir yn y gorchymyn yw gorchymyn rheoli terfynol. (Adran 101 o'r Ddeddf).

Mae GRhAG interim yn orchymyn a wneir gan awdurdod tai lleol i'w alluogi i gymryd camau er mwyn sicrhau bod annedd yn cael ei meddiannu, ac yn parhau i fod yn un a feddiennir. Rhaid i awdurdod tai lleol wneud ymdrechion rhesymol i hysbysu'r perchennog perthnasol ei fod yn ystyried gwneud gorchymyn o'r fath ac i ganfod pa gamau y mae'r perchennog perthnasol yn eu cymryd, neu'n bwriadu eu cymryd, i sicrhau bod yr eiddo'n cael ei feddiannu. Gwneir GRhAG terfynol i olynu GRhAG interim er mwyn sicrhau bod annedd yn cael ei meddiannu (adrannau 132 ac 133 o'r Ddeddf).

Unwaith y bydd gorchymyn rheoli interim neu derfynol neu GRhAG mewn grym mae'r awdurdod tai lleol yn caffael, mewn perthynas â'r fangre, hawliau a ddisgrifir ym Mhenodau 1 a 2 o Ran 4 o'r Ddeddf. Nid yw'r awdurdod, fodd bynnag, yn caffael unrhyw ystad neu fuddiant yn y fangre ac nid oes ganddo bwer felly i'w gwaredu. Os yw landlord uniongyrchol y fangre (neu ran o fangre, ac eithrio yn achos GRhAGau) yn lesddeiliad y fangre (neu ran ohoni) o dan les, mae'r awdurdod tai lleol i'w drin fel pe bai'n lesddeiliad yn ei le (ond yn dal heb gaffael ystad neu fuddiant). (Adrannau 107 a 116 o'r Ddeddf, a pharagraffau 2 a 10 o Atodlen 7 iddi).

Mae rheoliad 3 yn gymwys pan fydd awdurdod tai lleol i'w drin fel lesddeiliad mangre yn lle person arall ("y person perthnasol"). Mae'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod tai lleol hysbysu lesydd uniongyrchol y person perthnasol hwnnw bod gorchymyn rheoli neu GRhAG wedi'i wneud ac iddo egluro canlyniadau'r gorchymyn. Mae'n darparu i'r awdurdod tai lleol fod yn atebol am dalu rhent tir, taliadau gwasanaeth a thaliadau eraill sy'n ddyledus ganddo fel pe bai yn lesddeiliad, a hynny o'r dyddiad y daw'r gorchymyn i rym, ond mae'n ei gwneud yn ofynnol i gopïau o unrhyw hysbysiadau a gyflwynir i'r awdurdod tai lleol gael eu hanfon i'r person perthnasol.

Mae arfarniad rheoliadol wedi'i wneud mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn ac mae ar gael oddi wrth Uned y Sector Preifat, Yr Adran Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ,
e-bost: [email protected]


Notes:

[1] 2004 p.34. Mae'r pwer a roddir gan adran 145 yn arferadwy, o ran Cymru, gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Gweler y diffiniad o "appropriate national authority" yn adran 261(1) o'r Ddeddf.back

[2] Gweler adran 101 (3) o'r Ddeddf.back

[3] Gweler adran 101 (4) o'r Ddeddf.back

[4] Gweler adran 132 (1)(a) a (2) o'r Ddeddf.back

[5] Gweler adran 132 (1)(b) a (3) o'r Ddeddf.back

[6] Caniateir gwneud gorchymyn rheoli anheddau gwag interim neu derfynol mewn cysylltiad â thy amlfeddiannaeth neu dy Rhan 3 (gweler adran 146 o'r Ddeddf ac adrannau 79 a 254).back

[7] Caniateir gwneud gorchymyn rheoli anheddau gwag interim neu derfynol mewn cysylltiad ag annedd (gweler adran 132(4)(a) a (b)).back

[8] Am ystyr "les"("lease"), "lesddeiliad" ("lessee") a "lesydd" ("lessor") gweler adran 262(1) i (5) o'r Ddeddf.back

[9] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091424 4


 © Crown copyright 2006

Prepared 1 November 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20062822w.html