BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2006 Rhif 2929 (Cy.264)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20062929w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 2929 (Cy.264)

HADAU, CYMRU

Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2006

  Wedi'u gwneud 7 Tachwedd 2006 
  Yn dod i rym 15 Tachwedd 2006 


CYNNWYS

1. Enwi, cychwyn a chymhwyso
2. Dehongli
3. Tatws hadyd nad yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt
4. Marchnata tatws hadyd
5. Marchnata yn y rhanbarth sydd wedi'i ddiogelu
6. Maint tatws hadyd
7. Marchnata tatws hadyd at ddibenion gwyddonol neu waith dethol
8. Marchnata tatws hadyd at ddibenion profi a threialu
9. Ardystio tatws hadyd
10. Cyfansoddiad lotiau o datws hadyd
11. Pecynnau a chynhwysyddion ar gyfer tatws hadyd
12. Labelu pecynnau a chynhwysyddion tatws hadyd
13. Selio pecynnau a chynhwysyddion
14. Dull adnabod tatws hadyd sydd wedi cael eu haddasu'n enetig
15. Tatws hadyd o'r tu allan i'r Gymuned Ewropeaidd: gwybodaeth
16. Manylion ar wahân
17. Manwerthiannau o datws hadyd
18. Samplu tatws hadyd
19.{t1}Cadw cofnodion
20. Gorfodi — pwerau i archwilio ac i fynnu cyflwyno
21. Gorfodi — pŵer i dynnu'n ôl labelau swyddogol, dogfennau swyddogol a thystysgrifau cnwd sy'n tyfu
22. Cyflwyno hysbysiadau
23. Diwygio darpariaethau'r Ddeddf
24. Dirymiadau

  ATODLEN 1 — TYSTYSGRIFAU CNWD SY'N TYFU

  ATODLEN 2 — LABEL SWYDDOGOL A DOGFEN SWYDDOGOL

  ATODLEN 3 — CLEFYDAU NEU BLÂU PENODEDIG, DIFROD A DIFFYGION A GODDEFIANNAU

  ATODLEN 4 — DOSBARTHIAD TATWS HADYD

  ATODLEN 5 — AWDURDODIAD I FARCHNATA TATWS HADYD AT DDIBENION PROFI A THREIALU

  ATODLEN 6 — GWYBODAETH O RAN TATWS HADYD O FWY NA DAU GILOGRAM A GYNHYRCHIR MEWN GWLAD AC EITHRIO AELOD- WLADWRIAETH

  ATODLEN 7 — MANYLION I'W PENNU MEWN NODYN GWERTHIANT, ETC

  ATODLEN 8 — DIRYMIADAU

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 16(1), (1A), (2), (3), (4) a (5) a 36 o Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964[
1] ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo[2].

     Yn unol ag adran 16(1) o'r Ddeddf honno mae wedi ymgynghori â chynrychiolwyr y buddiannau hynny y mae'n ymddangos iddo yr effeithir arnynt gan y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2006 a daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 15 Tachwedd 2006.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli
    
2. —(1) Yn y Rheoliadau hyn—

a rhaid dehongli "ardystiedig" ("certified") yn unol â hynny;

p'un ai am gydnabyddiaeth ai peidio ac at y dibenion hyn nid yw "defnydd masnachol" ("commercial exploitation") i'w ddeall fel petai'n cynnwys cyflenwi tatws hadyd i gyrff arolygu a phrofi swyddogol, na chyflenwi tatws hadyd i unrhyw berson at ddibenion eu prosesu na'u pecynnu cyn belled ag nad yw'r person hwnnw yn ennill hawl i'r tatws hadyd a gyflenwir; ac mae "marchnata" ("marketing"), "wedi'i farchnata" ("marketed") ac ymadroddion cytras i'w dehongli yn unol â hynny.

    (2) O ran tatws hadyd a gynhyrchir yn y Swistir, mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at y Gyfarwyddeb neu at Benderfyniad y Comisiwn 2004/842/EC neu unrhyw ddarpariaeth o'u mewn i'w ddehongli fel cyfeiriad at fod deddfwriaeth Cydffederasiwn y Swistir yn cael effaith gyfatebol yn unol â chytundeb masnach y Swistir.

    (3) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at oddefiant o ran tatws hadyd sy'n ffurfio sampl i gael ei ddehongli—

    (4) At ddibenion Atodlen 1, mae i "uned amaethyddol" yr ystyr a roddir i'r ymadrodd "agricultural unit" yn adran 109(2) o Ddeddf Amaeth 1947[16].

    (5) Mae i ymadroddion yn y Rheoliadau hyn nas diffinnir yn y rheoliad hwn neu mewn man arall yn y Rheoliadau hyn ac sy'n ymddangos yn y Gyfarwyddeb neu ym Mhenderfyniad y Comisiwn 2004/842/EC yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd iddynt yn y Gyfarwyddeb neu yn y Penderfyniad hwnnw.

Tatws hadyd nad yw'r rheoliadau hyn yn gymwys iddynt
     3. Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i datws hadyd a fwriedir ar gyfer eu hallforio i unrhyw wlad y tu allan i'r Gymuned Ewropeaidd.

Marchnata tatws hadyd
    
4. —(1) Rhaid i berson beidio â marchnata unrhyw datws hadyd ac eithrio—

    (2) Rhaid i berson beidio â marchnata unrhyw datws hadyd a gafodd eu trin â chynnyrch a gynhyrchir yn bennaf fel eli i lesteirio eginiad.

    (3) Yn y rheoliad hwn, ystyr "tatws hadyd gwyddonol a rhai i'w dethol" ("scientific and selection seed potatoes") yw tatws hadyd—

Marchnata yn y rhanbarth sydd wedi'i ddiogelu
    
5. Rhaid i berson beidio â marchnata unrhyw datws hadyd o fewn y rhanbarth sydd wedi'i ddiogelu ac eithrio—

Maint tatws hadyd
     6. —(1) Rhaid i berson beidio â marchnata unrhyw datws hadyd ac eithrio tatws hadyd o ddosbarth TC cyn-sylfaenol onid yw lleiafswm eu maint yn eu rhwystro rhag mynd drwy rwyll sgwâr 25 o filimetrau x 25 o filimetrau.

    (2) Rhaid i berson beidio â marchnata unrhyw datws hadyd mewn lot pan fo mwyafswm yr amrywiad rhwng cloron yn gyfryw a bod y gwahaniaeth rhwng y maint lleiaf a ganiateir a'r maint mwyaf a ganiateir yn fwy na 25 o filimetrau.

    (3) Mae gofynion paragraff (2) i gael eu trin fel petaent wedi eu bodloni cyhyd ag nad oes mwy na thri y cant o bwysau cyfan y cloron yn y lot yn cynnwys—

    (4) At ddibenion y rheoliad hwn—

    (5) Pan fo'n ofynnol datgan maint tatws hadyd yn unol â'r Rheoliadau hyn, rhaid datgan—

    (6) At ddibenion paragraff (5), mae mesuriadau o fwy na 35 o filimetrau i gael eu datgan at y pum milimetr agosaf.

Marchnata tatws hadyd at ddibenion gwyddonol neu waith dethol
    
7. —(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol awdurdodi marchnata tatws hadyd fesul ychydig at ddibenion gwyddonol neu waith dethol yn unol â'r rheoliad hwn.

    (2) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio ag awdurdodi marchnata tatws hadyd sy'n cynnwys unrhyw ddeunydd sydd wedi ei addasu'n enetig oni bai bod awdurdodiad mewn grym o dan y Rheoliad Bwyd a Bwyd Anifeiliaid neu o dan Ran C o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol.

    (3) Rhaid i gais am awdurdodiad i farchnata tatws hadyd yn unol â pharagraff (1) gael ei wneud yn ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol a rhaid bod gydag ef wybodaeth o'r fath ag a fo'n ofynnol gan y Cynulliad Cenedlaethol.

Marchnata tatws hadyd at ddibenion profi a threialu
    
8. —(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol awdurdodi marchnata tatws hadyd ar gyfer profion neu dreialon ar fentrau amaethyddol er mwyn casglu gwybodaeth ar drin neu ddefnyddio amrywogaeth o rywogaeth o datws yn unol â'r rheoliad hwn ac ag Atodlen 5.

    (2) Rhaid i gais am awdurdodiad neu i adnewyddu awdurdodiad i farchnata tatws hadyd yn unol â pharagraff (1) gael ei wneud yn ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol a rhaid bod gydag ef wybodaeth o'r fath ag a fo'n ofynnol gan y Cynulliad Cenedlaethol.

    (3) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio ag awdurdodi marchnata—

    (4) Caiff awdurdodiad a roddir yn unol â pharagraff (1), neu adnewyddu awdurdodiad o'r fath, fod am gyfnod o flwyddyn neu am unrhyw gyfnod byrrach a bennir gan y Cynulliad Cenedlaethol.

    (5) Wrth awdurdodi marchnata yn unol â pharagraff (1), caiff y Cynulliad Cenedlaethol osod yr amodau hynny ag y mae'n tybio eu bod yn angenrheidiol neu yn ddymunol o ystyried natur y profion neu'r treialon a natur y tatws hadyd y mae'r cais yn ymwneud â hwy gan gynnwys amod yn ymwneud â chadw cofnodion o ran marchnata'r tatws hadyd.

    (6) Mae awdurdodiad a roddir yn unol â pharagraff (1) yn peidio â bod yn effeithiol—

    (7) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol dynnu'n ôl unrhyw awdurdodiad a roddir yn unol â pharagraff (1) pan dorrir unrhyw amod y cyfeirir ato ym mharagraff (5).

    (8) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud yn ofynnol i'r person a gafodd awdurdodiad yn unol â pharagraff (1) ddarparu gwybodaeth i'r Cynulliad Cenedlaethol ynglŷn â—

Ardystio tatws hadyd
    
9. —(1) Rhaid i ardystio tatws hadyd a gynhyrchir yng Nghymru fod yn unol â'r rheoliad hwn.

    (2) Rhaid i swyddog awdurdodedig ardystio bod tatws hadyd a gynhyrchir yng Nghymru naill ai—

os yw gofnion paragraff (3) wedi'u bodloni.

    (3) Y gofynion y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yw—

    (4) Rhaid i gais am ardystiad o datws hadyd a gynhyrchir yng Nghymru gael ei wneud yn ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol a rhaid bod gydag ef wybodaeth o'r fath ag a fo'n ofynnol gan y Cynulliad Cenedlaethol.

    (5) At ddibenion paragraff (2), mae label swyddogol a ddyroddwyd yn unol â'r Rheoliadau hyn o ran tatws hadyd cyn-sylfaenol, tatws hadyd sylfaenol neu datws hadyd ardystiedig yn dystiolaeth ddigonol bod swyddog awdurdodedig wedi ardystio bod y tatws hadyd y mae'r label yn ymwneud â nhw yn datws hadyd cyn-sylfaenol, yn datws hadyd sylfaenol neu yn datws hadyd ardystiedig, yn ôl y digwydd.

Cyfansoddiad lotiau o datws hadyd
    
10. —(1) Rhaid i berson beidio â marchnata tatws hadyd cyn-sylfaenol, tatws hadyd sylfaenol na thatws hadyd ardystiedig ac eithrio mewn lot a'i chynnwys yn gyfangwbl yn datws hadyd—

    (2) Rhaid i berson beidio â marchnata tatws hadyd sydd i'w profi a'u treialu ac eithrio mewn lot a'i chynnwys yn gyfangwbl yn datws hadyd o un amrywogaeth;

    (3) At ddibenion y rheoliad hwn rhaid trin lot o datws hadyd fel petai ei chynnwys yn gyfangwbl o un amrywogaeth cyn belled â bod—

Pecynnau a chynhwysyddion ar gyfer tatws hadyd
    
11. Yn ddarostyngedig i reoliad 17, rhaid i berson beidio â marchnata unrhyw datws hadyd ac eithrio mewn pecyn neu gynhwysydd.

Labelu pecynnau a chynhwysyddion tatws hadyd
    
12. —(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 17, rhaid i berson beidio â marchnata—

ac eithrio mewn pecyn neu gynhwysydd wedi'i labelu'n briodol yn unol â'r rheoliad hwn.

    (2) At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr pecyn neu gynhwysydd wedi'i labelu'n briodol yw pecyn neu gynhwysydd—

    (3) Nid yw paragraff (2)(b) yn gymwys—

    (4) Rhaid i gais i'r Cynulliad Cenedlaethol am labelau swyddogol gael ei wneud yn ysgrifenedig a rhaid bod gydag ef wybodaeth o'r fath ag a fo'n ofynnol gan y Cynulliad Cenedlaethol.

    (5) Ar ôl iddo'i fodloni ei hun o'r canlynol yn unig y mae'r Cynulliad Cenedlaethol i ddyroddi label swyddogol neu ddogfen swyddogol—

    (6) Os cafodd pecyn neu gynhwysydd ei ail selio gan swyddog awdurdodedig yn unol â rheoliad 13(4) rhaid i'r label swyddogol ddatgan—

    (7) Pan fo unrhyw datws hadyd cyn-sylfaenol, tatws hadyd sylfaenol, tatws hadyd ardystiedig neu datws hadyd sydd i'w profi a'u treialu wedi cael eu trin ag unrhyw gynnyrch cemegol, rhaid i fath a swyddogaeth neu enw priodol y cynnyrch hwnnw—

    (8) At ddibenion adran 16(7)(a) o'r Ddeddf, ni ellir dal fod gwybodaeth sy'n ymwneud ag amrywogaeth o datws hadyd a geir mewn datganiad statudol yn gamarweiniol mewn manylyn perthnasol yn unig am ei fod yn gamarweiniol—

    (9) Ac eithrio yn unol â gofynion y Ddeddf, y Rheoliadau hyn neu Orchmynion a wnaed o dan Ddeddf Iechyd Planhigion 1967[18], rhaid i berson beidio, mewn cysylltiad â marchnata unrhyw datws hadyd, neu mewn cysylltiad â'u paratoi at y farchnad, mynd ati'n fwriadol i atgynhyrchu, symud ymaith, altro, difwyno, cuddio neu gamdrin mewn unrhyw fodd unrhyw label swyddogol neu ddogfen swyddogol, neu unrhyw label sydd ynghlwm neu ddogfen a gyflenwir yn unol â pharagraff (2).

Selio pecynnau a chynhwysyddion
     13. —(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 17, rhaid i berson beidio â marchnata—

ac eithrio mewn pecyn neu gynhwysydd wedi ei selio'n briodol.

    (2) At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr pecyn neu gynhwysydd wedi'i selio'n briodol yw pecyn neu gynhwysydd—

    (3) At ddibenion y rheoliad hwn ystyr "dyfais selio" ("sealing device" ) yw dyfais a gymhwyswyd i'r pecyn neu'r cynhwysydd yn y fath fodd fel y bydd yn cael ei thorri pan agorir y pecyn neu'r cynhwysydd.

    (4) Pan fo dyfais selio ar becyn neu gynhwysydd wedi ei thorri, rhaid peidio ag ail selio'r pecyn neu'r cynhwysydd â dyfais selio ac eithrio gan swyddog awdurdodedig neu o dan ei oruchwyliaeth.

Dull adnabod tatws hadyd sydd wedi cael eu haddasu'n enetig
    
14. Rhaid i berson beidio â marchnata tatws hadyd sydd wedi eu haddasu'n enetig oni bai—

Tatws hadyd o'r tu allan i'r Gymuned Ewropeaidd: gwybodaeth
    
15. Rhaid i unrhyw berson sy'n marchnata mwy na dau gilogram o datws hadyd a fewnforiwyd i Gymru o'r tu allan i'r Gymuned Ewropeaidd roi i'r Cynulliad Cenedlaethol, yn ysgrifenedig ac o fewn mis i farchnata'r tatws am y tro cyntaf, y manylion a bennir yn Atodlen 6.

Manylion ar wahân
    
16. Yn ddarostyngedig i rheoliad 17, rhaid i berson sy'n gwerthu tatws hadyd cyn-sylfaenol, tatws hadyd sylfaenol, tatws hadyd ardystiedig neu datws hadyd sydd i'w profi a'u treialu ddyroddi i'r prynwr, dim hwyrach na 14 o ddiwrnodau ar ôl y gwerthiant, neu os nad yw'r tatws hadyd yn cael eu danfon ar adeg y gwerthiant, heb fod yn hwyrach na 14 o ddiwrnodau ar ôl eu danfon, nodyn gwerthiant, nodyn danfon, anfoneb neu ddogfen gyffelyb yn pennu, o ran y tatws hadyd, y manylion a bennir yn Atodlen 7.

Manwerthiannau o datws hadyd
    
17. Nid yw Rheoliadau 11, 12, 13 a 16 yn gymwys i werthiant o lai na 50 o gilogramau o datws hadyd—

Samplu tatws hadyd
    
18. —(1) Rhaid i sampl o datws hadyd a gymerir at unrhyw ddiben mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn gael ei gymryd yn unol â'r rheoliad hwn.

    (2) Rhaid i sampl sy'n ofynnol—

gael ei gymryd gan swyddog awdurdodedig ac, yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid iddo fod o'r swmp neu'r nifer a ffurfio'r cyfryw ran neu rannau o'r cnwd sy'n tyfu neu sydd wedi eu gynaeafu ag sy'n briodol ym marn y swyddog awdurdodedig.

    (3) Pan fo sampl yn ofynnol o dan baragraff (2)(b) ac mae crynswth y tatws hadyd y dyroddwyd tystysgrif cnwd sy'n tyfu iddynt yn datws hadyd—

mae'n rhaid ei rannu fel bod pob llwyth neu, yn ôl y digwydd, swmp y tatws sy'n gysylltiedig â phob tystysgrif cnwd sy'n tyfu yn ffurfio lot ar wahân a rhaid, os oes angen, samplu pob lot ar wahân.

Cadw cofnodion
    
19. —(1) Rhaid i berson sy'n cynhyrchu tatws hadyd y bwriedir eu marchnata gadw cofnodion am gyfnod heb fod yn llai na dwy flynedd o bryniant y tatws hadyd y cynhyrchwyd y tatws hadyd hynny ohonynt ac o fanylion y cnydau a dyfwyd.

    (2) Rhaid i berson sy'n marchnata tatws hadyd gadw cofnodion am gyfnod heb fod yn llai na dwy flynedd o'i farchnata ar datws hadyd o'r fath.

Gorfodi — pwerau i archwilio ac i fynnu cyflwyno
    
20. —(1) Caiff swyddog awdurdodedig gynnal archwiliad a chymryd samplau o datws hadyd ac arolygu a chymryd copïau o ddogfennau perthnasol at ddibenion sicrhau cydymffurfiaeth ag unrhyw ddarpariaeth yn y rheoliadau hyn.

    (2) At ddibenion y rheoliad hwn rhaid i berson ganiatáu, ar unrhyw amser rhesymol, i swyddog awdurdodedig—

    (3) At ddibenion y rheoliad hwn caiff swyddog awdurdodedig drwy hysbysiad ysgrifenedig a gyflwynir i berson ei gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw—

    (4) Rhaid i berson y cyflwynwyd hysbysiad iddo yn unol â pharagraff (3) gydymffurfio â gofynion yr hysbysiad hwnnw o fewn saith niwrnod i'w gyflwyno neu o fewn unrhyw gyfnod hwy o amser a bennir yn yr hysbysiad.

    (5) At ddibenion y rheoliad hwn ystyr "dogfen berthnasol" ("relevant document") yw unrhyw dystysgrif cnwd yn tyfu, label swyddogol, dogfen swyddogol, dogfen neu label arall, neu gofnod neu anfoneb sy'n ymwneud â phlannu, cynhyrchu, ardystio neu farchnata tatws hadyd.

Gorfodi — pwer i dynnu'n ôl labelau swyddogol, dogfennau swyddogol a thystysgrifau cnwd yn tyfu
    
21. —(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol dynnu'n ôl label swyddogol neu ddogfen swyddogol—

    (2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol dynnu'n ôl dystysgrif cnwd yn tyfu pan fo wedi'i fodloni—

    (3) Pan dynnir yn ôl label swyddogol neu ddogfen swyddogol yn unol â pharagraff (1)(a)(ii), caiff y tatws hadyd y cymerwyd y sampl ohonynt fod yn ddarostyngedig i archwiliad swyddogol er mwyn penderfynu a oes unrhyw rai ohonynt nad ydynt yn mynd dros ben y goddefiannau a bennir yn Atodlen 3.

    (4) Pan gynhelir archwiliad swyddogol yn unol â pharagraff (3), caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddyroddi label swyddogol neu ddogfen swyddogol mewn perthynas â'r tatws hadyd hynny y canfyddir nad ydynt yn mynd dros ben y goddefiannau a bennir yn Atodlen 3.

    (5) Pan dynnir yn ôl label swyddogol, dogfen swyddogol neu dystysgrif cnwd yn tyfu yn unol â'r rheoliad hwn, caiff swyddog awdurdodedig—

    (6) Rhaid i berson sydd â label swyddogol, dogfen swyddogol neu dystysgrif cnwd yn tyfu ac a gafodd ei thynnu'n ôl yn unol â'r rheoliad hwn yn ei feddiant neu dan ei reolaeth—

Cyflwyno hysbysiadau
    
22. —(1) At ddibenion rheoliad 20(3), bernir bod hysbysiad wedi cael ei gyflwyno i unrhyw berson os caiff ei ddanfon ato'n bersonol neu os caiff ei adael iddo yn ei gartref neu yn ei fan gwaith hysbys diwethaf neu ei anfon drwy'r post mewn llythyr wedi ei gyfeirio ato yno.

    (2) Caiff hysbysiad ei chyflwyno—

ac at ddibenion y paragraff hwn prif swyddfa cwmni sy'n gofrestredig y tu allan i'r Deyrnas Unedig neu bartneriaeth sy'n cyflawni busnes y tu allan i'r Deyrnas Unedig yw ei brif swyddfa yn y Deyrnas Unedig.

Diwygio darpariaethau'r Ddeddf
    
23. —(1) Mewn cysylltiad â darpariaethau'r Rheoliadau hyn addesir neu eithrir gweithrediad y darpariaethau a ganlyn o'r Ddeddf yn unol â darpariaethau'r rheoliad hwn.

    (2) Addesir adran 25[
19] megis at ddibenion yr adran honno bod unrhyw gyfeiriad at "premises" yn gyfeiriad at "premises" ("mangre") fel y'i diffinnir yn y Rheoliadau hyn a bod unrhyw gyfeiriad at is-adran sy'n cynnwys cyfeiriad at "premises" yn gyfeiriad at yr is-adran honno wedi ei haddasu felly.

    (3) Addesir adran 25(1) megis petai'r cyfeiriad at is-adran (4) o'r adran honno yn gyfeiriad at yr is-adran fel y'i haddaswyd gan ddarpariaeth paragraff (4).

    (4) Yn adran 25(4) hepgorer y geiriau o "potatoes" (pan fo'n digwydd gyntaf) i'r diwedd.

    (5) Yn adran 26, hepgorer adrannau (2), (4), (5), (6), (7), (8) a (9) .

Dirymiadau
     24. Dirymir y rheoliadau yn Atodlen 8 o ran Cymru.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
20].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

7 Tachwedd 2006



ATODLEN 1
Rheoliodau 2(1), 21(2) ac Atodlen 4


TYSTYSGRIFAU CNWD SY'N TYFU




RHAN I

Cyffredinol
     1. Pan gaiff gais i ardystio unrhyw datws hadyd, rhaid i swyddog awdurdodedig—

     2. Rhaid i dystysgrif cnwd sy'n tyfu ddatgan—

     3. Ni ddyroddir tystysgrif cnwd sy'n tyfu ond pan fo swyddog awdurdodedig wedi'i fodloni o ran y tatws hadyd a arolygwyd ganddo ef—



RHAN II

Tatws hadyd cyn-sylfaenol
     4. Rhaid peidio â dyroddi tystysgrif cnwd sy'n tyfu sy'n cynnwys datganiad bod modd marchnata tatws hadyd fel tatws hadyd cyn-sylfaenol o unrhyw dosbarth oni bai bod y swyddog awdurdodedig wedi'i fodloni—

     5. Rhaid peidio â dyroddi tystysgrif cnwd sy'n tyfu sy'n cynnwys datganiad bod modd marchnata tatws hadyd fel tatws hadyd cyn-sylfaenol o'r dosbarth TC cyn-sylfaenol oni bai bod y swyddog awdurdodedig wedi'i fodloni nad yw'r cnwd olynol nesaf a gynhyrchir allan o'r tatws hadyd yn debygol o gynnwys—

     6. Rhaid peidio â dyroddi tystysgrif cnwd sy'n tyfu sy'n cynnwys datganiad bod modd marchnata tatws hadyd fel tatws hadyd cyn sylfaenol o ddosbarth cyn- sylfaenol 1, cyn-sylfaenol 2, cyn-sylfaenol 3 na chyn- sylfaenol 4 oni bai, ym marn y swyddog awdurdodedig, nad yw'r cnwd olynol nesaf a gynhyrchir allan o'r tatws hadyd yn debygol o gynnwys—



RHAN III

Tatws hadyd sylfaenol
     7. Rhaid peidio â dyroddi tystysgrif cnwd sy'n tyfu sy'n cynnwys datganiad bod modd marchnata tatws hadyd fel tatws hadyd sylfaenol o unrhyw ddosbarth oni bai bod y swyddog awdurdodedig wedi'i fodloni—

     8. Rhaid peidio â dyroddi tystysgrif cnwd sy'n tyfu sy'n cynnwys datganiad bod modd marchnata tatws hadyd sylfaenol o unrhyw ddosbarth oni bai, ym marn y swyddog awdurdodedig, bod y cnwd olynol nesaf a gynhyrchir allan o'r tatws hadyd yn debygol o gynnwys—



RHAN IV

Tatws hadyd ardystiedig
     9. Rhaid peidio â dyroddi tystysgrif cnwd sy'n tyfu sy'n cynnwys datganiad bod modd marchnata tatws hadyd fel tatws hadyd ardystiedig yn achos tatws hadyd sydd yn tyfu neu a dyfwyd yn y rhanbarth sydd wedi'i ddiogelu.

     10. Rhaid peidio â dyroddi tystysgrif cnwd sy'n tyfu sy'n cynnwys datganiad bod modd marchnata tatws hadyd fel tatws hadyd ardystiedig oni bai bod y swyddog awdurdodedig wedi'i fodloni—

     11. Rhaid peidio â dyroddi tystysgrif cnwd sy'n tyfu sy'n cynnwys datganiad bod modd marchnata tatws fel tatws hadyd ardystiedig oni bai, ym marn y swyddog awdurdodedig, bod y cnwd olynol nesaf a gynhyrchir allan o'r tatws hadyd yn debygol o gynnwys—



ATODLEN 2
Rheoliad 2(1)


LABEL SWYDDOGOL A DOGFEN SWYDDOGOL




RHAN I

Label Swyddogol

     1. Rhaid i label swyddogol a ddefnyddir mewn perthynas â thatws hadyd cyn-sylfaenol fod wedi ei liwio'n wyn gyda llinell groeslinol fioled.

     2. Rhaid i label swyddogol a ddefnyddir mewn perthynas â thatws hadyd sylfaenol fod wedi ei liwio'n wyn.

     3. Rhaid i label swyddogol a ddefnyddir mewn perthynas â thatws hadyd ardystiedig fod wedi ei liwio'n las.

     4. Rhaid i label swyddogol a ddefnyddir mewn perthynas â thatws hadyd sydd i'w profi a'u treialu fod wedi ei liwio'n oren.

     5. Rhaid i label swyddogol fesur dim llai na 110 o filimetrau x 67 o filimetrau.

     6. Rhaid i label swyddogol ar gyfer tatws hadyd cyn-sylfaenol, mewn perthynas â'r tatws hadyd y mae'n ymwneud â nhw, ddatgan y manylion a ganlyn—

     7. Rhaid i label swyddogol ar gyfer tatws hadyd sylfaenol neu datws hadyd ardystiedig—

     8. Rhaid i label swyddogol ar gyfer tatws hadyd sydd i'w profi a'u treialu—

     9. Heb iddo leihau effaith paragraffau 1 i 8, caiff label swyddogol gynnwys datganiadau pellach o'r fath—



RHAN II

Dogfen swyddogol

     10. Rhaid i ddogfen swyddogol a ddefnyddir mewn perthynas â thatws hadyd cyn-sylfaenol fod wedi ei lliwio'n wyn gyda llinell groeslinol fioled.

     11. Rhaid i ddogfen swyddogol a ddefnyddir mewn perthynas â thatws hadyd sydd i'w profi a'u treialu fod wedi ei liwio'n oren.

     12. Rhaid i ddogfen swyddogol a ddefnyddir mewn perthynas â thatws hadyd sylfaenol fod yn wyn yn bennaf.

     13. Rhaid i ddogfen swyddogol a ddefnyddir mewn perthynas â thatws hadyd ardystiedig fod yn las yn bennaf.

     14. Rhaid i ddogfen swyddogol,mewn perthynas â'r tatws hadyd y mae'n ymwneud â hwy, ddatgan—



ATODLEN 3
Rheoliad 2(3), 9(3), 12(5) a 21(1)(3) a (4)


CLEFYDAU NEU BLÂU, DIFROD A DIFFYGION A GODDEFIANNAU PENODEDIG




RHAN I

Tatws hadyd cyn-sylfaenol o ddosbarth TC cyn-sylfaenol a gynhyrchir yng Nghymru

Colofn 1 Colofn 2
Clefydau neu blâu, difrod a diffygion Goddefiannau unigol
GRŵP I
Clefyd y Ddafaden (Synchytrium endobioticum (Schilb.) Perc.) Dim
Llyngyr y Gloronen (Ditylenchus destructor Thorne) Dim
Llyngyr tatws (rhywogaeth Globodera sy'n heintio tatws); Dim
Pydredd y Meinwe (Clavibacter michiganensis (Smith) Davis et al. ssp. sepedonicus (Spieck. & Kotth.) Davis et al.) Dim
Y Gafod Lwyd Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al.) Dim
Firoid y Gloronen Bigfain Dim
Chwilen Golorado (Leptinotarsa decemlineata (Say)) Dim
GRŵP II
Y Clwy Tatws (Phytophthora infestans (Mont.) de Bary) Dim
Pydredd Du'r Coesyn (Erwinia carotovora (Jones) Bergey et al. spp. atroseptica (Hellmers & Dowson) Dye neu Erwinia chrysanthemi Burkholder et al. neu'r ddau) Dim
Pydreddau Meddal gan gynnwys: Pydredd yr Archoll Diferol (Pythium ultimum Trow) Dim
Y Pydredd Pinc (Phytophthora erythroseptica Pethybridge) a Phydredd y Manbant Dim
Y Pydredd Sych (rhywogaeth Fusarium ) Dim
Y Madredd (rhywogaeth Phoma ) Dim
Cloron a ddifrodwyd gan rew Dim
GRŵP III
Brychni'r Croen (Polyscytalum pustulans (Owen & Wakefield) M. B. Ellis) Dim
GRŵP IV
Y Cen Du (Rhizoctonia solani Kuhn) Dim
Y Crach Cyffredin (rhywogaeth Streptomyces) Dim
GRŵP V
Y Crach Llychlyd (Spongospora subterranea (Wallr.) Legerh.) Dim
GRŵP VI
Diffygion allanol neu gloron, ac eithrio cloron heintiedig, â'u siâp heb fod yn nodweddiadol o'r rhywogaeth 3.0%
GRŵP VII
Baw neu sylwedd estronol arall 1.0%



RHAN II

Tatws hadyd cyn-sylfaenol o ddosbarth cyn-sylfaenol 1, cyn-sylfaenol 2, cyn-sylfaenol 3 neu gyn-sylfaenol 4 a gynhyrchir yng Nghymru

Colofn 1 Colofn 2 Colofn 3 Colofn 4
Clefydau neu blâu, difrod a diffygion Goddefiannau unigol Goddefiannau Grŵp Goddefiannau Grŵp Cyfunol
GRŵP I
Clefyd y Ddafaden (Synchytrium endobioticum (Schilb.) Perc.) Dim
Llyngyr y Gloronen (Ditylenchus destructor Thorne) Dim
Llyngyr tatws (rhywogaeth Globodera sy'n heintio tatws) Dim
Pydredd y Meinwe (Clavibacter michiganensis (Smith) Davis et al. ssp. Sepedonicus (Spieck. & Kotth.) Davis et al.) Dim
Y Gafod Lwyd (Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al.) Dim
Firoid y Gloronen Bigfain Dim
Chwilen Golorado (Leptinotarsa decemlineata (Say)) Dim
GRŵP II
Y Clwy Tatws (Phytophthora infestans (Mont.) de Bary) 0.2%
Pydredd Du'r Coesyn (Erwinia carotovora (Jones) Bergey et al. spp. atroseptica (Hellmers & Dowson) Dye neu Erwinia chrysanthemi Burkholder et al. neu'r ddau) Dim ) )
Pydreddau Meddal gan gynnwys: Pydredd yr Archoll Diferol (Pythium ultimum Trow) 0.2% ) )
Y Pydredd Pinc (Phytophthora erythroseptica Pethybridge) a Phydredd y Manbant 0.2% ) 0.2% )
Y Pydredd Sych (rhywogaeth Fusarium ) 0.2% ) )
Y Madredd (rhywogaeth Phoma) 0.2% ) )
Cloron a ddifrodwyd gan rew 0.2% ) )
GRŵP III
Brychni'r Croen (Polyscytalum pustulans (Owen & Wakefield) M. B. Ellis) 0.2% ) ) 4.0%
GRŵP IV
Y Cen Du (Rhizoctonia solani Kuhn) 1.0% ) 3.0% )
Cyn belled ag y bernir bod tatws hadyd sydd ag o leiaf ddau ysmotyn du yn y pen blaguro sy'n gyfangwbl heb eu heffeithio ac sydd â llai nag o leiaf yr wythfed ran o'u harwynebedd wedi ei effeithio heb gael eu heffeithio gan y clefyd.                                 
Y Crach Cyffredin (rhywogaeth Streptomyces) 3.0% ) )
Cyn belled ag y bernir bod tatws hadyd sydd ag o leiaf ddau ysmotyn du yn y pen blaguro sy'n gyfangwbl heb eu heffeithio ac sydd â llai na chwarter o'u harwynebedd wedi ei effeithio heb gael eu heffeithio gan y clefyd.                                 
GRŵP V
Y Crach Llychlyd (Spongospora subterranea (Wallr.) Legerh.) 1.0% ) )
Cyn belled ag y bernir bod tatws hadyd sydd ag o leiaf ddau ysmotyn du yn y pen blaguro sy'n gyfangwbl heb eu heffeithio ac sydd â llai nag o leiaf yr wythfed ran o'u harwynebedd wedi ei effeithio heb gael eu heffeithio gan y clefyd.                                 
GRŵP VI
Diffygion allanol neu gloron, ac eithrio cloron heintiedig, â'u siâp heb fod yn nodweddiadol o'r rhywogaeth 1.0%
Madredd arwynebol a achosir gan firws tatws Y Dim                      
GRŵP VII
Baw neu sylwedd estronol arall 1.0%



RHAN III

Tatws hadyd sylfaenol a thatws hadyd ardystiedig a gynhyrchir yng Nghymru


GRŵP I
Colofn 1 Colofn 2 Colofn 3 Column 4
Clefydau neu blâu, difrod a diffygion Goddefiannau unigol Goddefiannau Grŵp Goddefiannau Grŵp Cyfunol
Clefyd y Ddafaden (Synchytrium endobioticum (Schilb.) Perc.) Dim
Llyngyr y Gloronen (Ditylenchus destructor Thorne) Dim
Llyngyr Tatws (rhywogaeth Globodera sy'n heintio tatws) Dim
Pydredd y Meinwe (Clavibacter michiganensis (Smith) Davis et al. ssp. sepedonicus (Spieck. & Kotth.) Davis et al.) Dim
Y Gafod Lwyd Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al.) Dim
Firoid y Gloronen Bigfain; Dim
Chwilen Golorado (Leptinotarsa decemlineata (Say)) Dim
GRŵP II
Y Clwy Tatws (Phytophthora infestans (Mont.) de Bary) 1.0% ) )
Pydredd Du'r Coesyn (Erwinia carotovora (Jones) Bergey et al. spp. atroseptica (Hellmers & Dowson) Dye neu Erwinia chrysanthemi Burkholder et al. neu'r ddau) 1.0% ) )
Pydreddau Meddal gan gynnwys Pydredd yr Archoll Diferol (Pythium ultimum Trow) 1.0% ) 1.0% )
Y Pydredd Pinc (Phytophthora erythroseptica Pethybridge) a phydredd y Manbant 1.0% ) )
Y Pydredd Sych (rhywogaeth Fusarium) 1.0% ) )
Y Madredd (rhywogaeth Phoma ) 1.0% ) )
Cloron a ddifrodwyd gan rew 1.0% ) )
Cyn belled o ran tatws hadyd o Radd Gymuned ag nad yw'r goddefiannau unigol a restrir yng ngholofn 2 a'r goddefiannau grŵp a restrir yng ngholofn 3 yn fwy na 0.5% .                                 
GRŵP III
Brychni'r Croen (Polyscytalum pustulans (Owen & Wakefield) M. B. Ellis) 0.5% ac eithrio dosbarthiadau A ac CC; ) )
           2.0% ar gyfer dosbarthiadau A ac CC yn unig                      
Y Crach Llychlyd (Spongospora subterranea (Wallr.) Legerh.) 3.0% ) 4.0% ) 4.0%
Cyn belled ag y bernir bod tatws hadyd sydd ag o leiaf ddau ysmotyn du yn y pen blaguro sy'n gyfangwbl heb eu heffeithio ac sydd â llai nag o leiaf yr wythfed ran o'u harwynebedd wedi ei effeithio heb gael eu heffeithio gan y clefyd (ac eithrio pan fo'r crach llychlyd yn ei ffurf ganseraidd).                                 
GRŵP IV
Y Cen Du (Rhizoctonia solani Kuhn) 3.0% ) )
Cyn belled ag y bernir bod tatws hadyd sydd ag o leiaf ddau ysmotyn du yn y pen blaguro sy'n gyfangwbl heb eu heffeithio ac sydd â llai na chwarter o'u harwynebedd wedi ei effeithio o ran dosbarth A a dosbarth CC a llai na'r wythfed ran o ran pob dosbarth arall wedi ei effeithio heb gael eu heffeithio gan y clefyd.                                 
Y Crach Cyffredin (rhywogaeth Streptomyces) 4.0% ) )
Cyn belled ag y bernir bod tatws hadyd sydd ag o leiaf ddau ysmotyn du yn y pen blaguro sy'n gyfangwbl heb eu heffeithio ac sydd â llai na chwarter o'u harwynebedd wedi ei effeithio heb gael eu heffeithio gan y clefyd.                                 
GRŵP V
Diffygion allanol neu gloron, ac eithrio cloron â'u siâp heb fod yn nodweddiadol o'r rhywogaeth Madredd arwynebol a achosir gan firws tatws Y 2.0% 0.1% 2.0% )
GRŵP VI
Baw neu sylwedd estronol arall 1.0%



RHAN IV

Tatws hadyd sydd i'w profi a'u treialu

Colofn 1 Colofn 2 Colofn 3
Clefydau neu blâu, difrod a diffygion Goddefian nau unigol Goddefian nau Cyfunol
Llyngyr y Gloronen (Ditylenchus destructor Thorne) Dim
Llyngyr tatws (rhywogaeth Globodera sy'n heintio tatws) Dim
Pydredd y Meinwe (Clavibacter michiganensis (Smith) Davis et al. ssp. sepedonicus (Spieck. & Kotth.) Davis et al.) Dim
Y Gafod Lwyd Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al.) Dim
Firoid y Gloronen Bigfain; Dim
Chwilen Golorado (Leptinotarsa decemlineata (Say)) Dim
Clefyd y Ddafaden (Synchytrium endobioticum (Schilb.) Perc.) Dim
Baw neu sylwedd estronol arall 2.0%
Pydredd sych a phydredd gwlyb, ac eithrio os achosir hwy gan Synchytrium endobioticum Clavibacter michiganensis (Smith) Davis et al. ssp. Sepedonicus (Spieck. & Kotth.) Davis et al. neu Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al. 1.0% )
Diffygion allanol neu gloron, ac eithrio cloron â'u siâp heb fod yn nodweddiadol o'r rhywogaeth 3.0% ) 6.0%
Y Crach Cyffredin: cloron yr effeithiwyd arnynt dros fwy na thraean o'u harwynebedd 5.0% )



ATODLEN 4
Rheoliad 2(3) Atodlen 1


DOSBARTHIAD TATWS HADYD




RHAN I

Tatws hadyd y mae modd eu marchnata fel tatws hadyd cyn-sylfaenol

Wrth wneud penderfyniad at ddibenion Atodlen 1, paragraff 1(b), pan fo swyddog awdurdodedig yn penderfynu bod modd marchnata tatws hadyd fel tatws hadyd cyn-sylfaenol, caiff eu dosbarthu fel tatws hadyd o unrhyw un o'r dosbarthiadau a bennir yng ngholofn 1 o dabl 1 pan fo wedi'i fodloni yn sgil archwiliad bod y gofynion a bennir yng ngholofn 2 o ran y dosbarth hwnnw wedi eu bodloni.


Tabl 1
Colofn 1 Colofn 2
Dosbarth Gofynion
TC cyn-sylfaenol     (1) Rhaid i'r tatws hadyd—

    (a) bod yn deillio o stoc cenhedlol neu o gloron sydd wedi cael eu profi a gyflenwyd gan ffynhonnell sy'n dderbyniol gan y Cynulliad Cenedlaethol ac a gafodd eu tyfu ar uned lle nad oes deunudd o rywogaeth Solanaceae na deunydd arall, ac eithrio deunydd sy'n deillio o stoc cenhedlol neu o gloron sydd wedi cael eu profi sy'n dod o ffynhonnell sy'n dderbyniol gan y Cynulliad Cenedlaethol, wedi cael ei dyfu; a

    (b) bod wedi eu cadw rhag—

      (i) firysau tatws A, M, S, X, Y, crychni'r dail, firws tatws top mop, firws trwst tybaco a marwoldeb gwythiennol tybaco neu unrhyw firws arall o bwys,

      (ii) ysgub y gwrachod a phydredd du'r coesyn,

      (iii) gwyriadau mewn amrywogaeth a math, a

      (iv) sgrwff yn y pridd

Cyn-sylfaenol 1     (2) Rhaid i'r tatws hadyd—

    (a) bod yn deillio—

      (i) o stoc cenhedlol neu o gloron a gyflenwyd gan ffynhonnell sy'n dderbyniol gan y Cynulliad Cenedlaethol ac a gafodd eu tyfu ar uned lle nad oes deunudd o rywogaeth Solanaceae na deunydd arall, ac eithrio deunydd sy'n deillio o stoc cenhedlol neu o gloron sydd wedi cael eu profi sy'n dod o ffynhonnell sy'n dderbyniol gan y Cynulliad Cenedlaethol, wedi cael ei dyfu;

      (ii) o stoc a gafodd ei ddosbarthu fel TC cyn-sylfaenol yn y flwyddyn cyn plannu'r cnwd; neu

      (iii) unrhyw datws hadyd eraill o fath y rhoddodd y Cynulliad Cenedlaethol hysbysiad ysgrifenedig eu bod yn dderbyniol ganddo; a

    (b) bod wedi eu cadw rhag—

      (i) firysau tatws A, M, S, X, Y, crychni'r dail, firws tatws top mop, firws trwst tybaco a marwoldeb gwythiennol tybaco neu unrhyw firws arall o bwys,

      (ii) ysgub y gwrachod a phydredd du'r coesyn,

      (iii) gwyriadau mewn amrywogaeth a math, a

      (iv) sgrwff yn y pridd.

Cyn-sylfaenol 2     (3) Rhaid i'r tatws hadyd—

    (a) bod yn deillio—

      (i) o stoc a gafodd ei ddosbarthu fel cyn-sylfaenol 1 yn y flwyddyn cyn plannu'r cnwd; neu

      (ii) unrhyw datws hadyd eraill o fath y rhoddodd y Cynulliad Cenedlaethol hysbysiad ysgrifenedig eu bod yn dderbyniol ganddo; a

    (b) bod wedi eu cadw rhag—

      (i) firysau tatws A, M, S, X, Y, crychni'r dail, firws tatws top mop, firws trwst tybaco a marwoldeb gwythiennol tybaco neu unrhyw firws arall o bwys,

      (ii) ysgub y gwrachod a phydredd du'r coesyn,

      (iii) gwyriadau mewn amrywogaeth a math, a

      (iv) sgrwff yn y pridd.

Cyn-sylfaenol 3     (4) Rhaid i'r tatws hadyd—

    (a) bod yn deillio—

      (i) o stoc a gafodd ei ddosbarthu fel cyn-sylfaenol 2 yn y flwyddyn cyn plannu'r cnwd; neu

      (ii) o unrhyw datws hadyd eraill o fath y rhoddodd y Cynulliad Cenedlaethol hysbysiad ysgrifenedig eu bod yn dderbyniol ganddo; a

    (b) bod wedi eu cadw rhag—

      (i) firysau tatws A, M, S, X, Y, crychni'r dail, firws tatws top mop, firws trwst tybaco a marwoldeb gwythiennol tybaco neu unrhyw firws arall o bwys,

      (ii) ysgub y gwrachod a phydredd du'r coesyn,

      (iii) gwyriadau mewn amrywogaeth a math, a

      (iv) sgrwff yn y pridd.

Cyn-sylfaenol 4     (5) Rhaid i'r tatws hadyd—

    (a) bod yn deillio—

      (i) o stoc a gafodd ei ddosbarthu fel cyn-sylfaenol 3 yn y flwyddyn cyn plannu'r cnwd; neu

      (ii) o unrhyw datws hadyd eraill o fath y rhoddodd y Cynulliad Cenedlaethol hysbysiad ysgrifenedig eu bod yn dderbyniol ganddo; a

    (b) bod wedi eu cadw rhag—

      (i) firysau tatws A, M, S, X, Y, crychni'r dail, firws tatws top mop, firws trwst tybaco a marwoldeb gwythiennol tybaco neu unrhyw firws arall o bwys,

      (ii) ysgub y gwrachod a phydredd du'r coesyn,

      (iii) gwyriadau mewn amrywogaeth a math, a

      (iv) sgrwff yn y pridd.




RHAN II

Tatws hadyd y mae modd eu marchnata fel tatws hadyd sylfaenol

Wrth wneud penderfyniad at ddibenion Atodlen 1, paragraff 1(b), pan fo swyddog awdurdodedig yn penderfynu bod modd marchnata tatws hadyd fel tatws hadyd sylfaenol, caiff eu dosbarthu fel tatws hadyd—



RHAN III

Tatws hadyd y mae modd eu marchnata fel tatws hadyd ardystiedig

Wrth wneud penderfyniad at ddibenion Atodlen 1, paragraff 1(b), pan fo swyddog awdurdodedig yn penderfynu bod modd marchnata tatws hadyd fel tatws hadyd ardystiedig, rhaid iddo eu dosbarthu fel tatws hadyd o ddosbarth a elwir yn ddosbarth CC pan fo wedi'i fodloni drwy sampl bod y gofynion a bennir yng ngholofn 2 o dabl 3 o ran y dosbarth hwnnw wedi eu bodloni ac nad aethpwyd dros ben y goddefiannau a bennir yng ngholofn 3 o ran y tatws hynny.


Tabl 3
Colofn 1 Colofn 2 Colofn 3
Dosbarth Gofynion Goddefiannau
CC Rhaid i'r tatws hadyd fod wedi eu cynhyrchu —

    (a) yn uniongyrchol o datws hadyd cyn-sylfaenol, tatws hadyd sylfaenol, neu datws hadyd ardystiedig; neu

    (b) o gnwd a dyfwyd gydag awdurdod y Cynulliad Cenedlaethol neu mewn amgylchiadau y rhoddodd y Cynulliad Cenedlaethol hysbysiad ysgrifenedig eu bod yn dderbyniol ganddo.

(i) crychni'r dail ac amryliw trwm —

(ii) amryliw ysgafn — 5.0% . cyn belled ag nad yw cyfanswm y crychni'r dail a'r amryliw ysgafn yn fwy na 5%

(iii) pydredd du'r coesyn — 2.0% ;

(iv) gwyriadau mewn amrywogaeth a math a sgrwff yn y pridd — 0.5% , gydag 0.2% ohono yn wyriad mewn math.




ATODLEN 5
Rheoliad 8


AWDURDODIAD I FARCHNATA TATWS HADYD AT DDIBENION PROFI A THREIALU


     1. Pan geir cais am awdurdodiad wedi'i wneud yn unol â rheoliad 8, rhaid i swyddog awdurdodedig—

     2. Rhaid i awdurdodiad ddatgan—

     3. Rhaid i swyddog awdurdodedig beidio â dyroddi awdurdodiad onid yw wedi'i fodloni—



ATODLEN 6
Rheoliad 15


GWYBODAETH O RAN TATWS HADYD O FWY NA DAU GILOGRAM A GYNHYRCHIR MEWN GWLAD AC EITHRIO AELOD- WLADWRIAETH


Rhywogaeth

Amrywogaeth

Categori

Gwlad lle cynhyrchir a'r Awdurdod Ardystio

Gwlad lle'r anfonir

Mewnforiwr

Swm y tatws hadyd



ATODLEN 7
Rheoliad 16


MANYLION I'W NODI AR NODYN GWERTHIANT, ETC.


Enw a chyfeiriad y gwerthwr

Pwysau net (ac eithrio tatws hadyd cyn-sylfaenol)

Rhywogaeth (ac eithrio tatws hadyd sylfaenol a thatws hadyd ardystiedig)

Amrywogaeth

Categori

Dosbarth (yn ôl priodoldeb)

Gradd Gymuned (os yn gymwys)

Maint (ac eithrio tatws hadyd cyn-sylfaenol)

Rhif adnabod y cynhyrchydd neu (ac eithrio ar gyfer tatws hadyd a gynhyrchir yng Nghymru) Rhif cyfeirnod lot yr had

Manylion unrhyw driniaeth gemegol



ATODLEN 8
Rheoliad 24


DIRYMIADAU


(1) (2)
Y Rheoliadau sy'n cael eu Dirymu Cyfeirnodau
Rheoliadau Tatws Hadyd (1991) O.S. 1991/2206
Rheoliadau Tatws Hadyd (Diwygio) 1992 O.S. 1992/1031
Rheoliadau Tatws Hadyd (Diwygio) 1993 O.S. 1993/1878
Rheoliadau Tatws Hadyd (Diwygio) 1994 O.S. 1994/2592
Rheoliadau Tatws Hadyd (Diwygio) 1997 O.S. 1997/1474
Rheoliadau Tatws Hadyd (Diwygio) (Cymru) 2001 O.S. 2001/3666



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn, sydd yn gymwys o ran Cymru, yn cydgrynhoi, gyda diwygiadau, Reoliadau Tatws Hadyd 1991 (O.S. 1991/2206), Rheoliadau Tatws Hadyd (Diwygio) 1992 (O.S. 1992/1031), Rheoliadau Tatws Hadyd (Diwygio) 1993 (O.S. 1993/1878), Rheoliadau Tatws Hadyd (Diwygio) 1994 (O.S. 1994/2592), Rheoliadau Tatws Hadyd (Diwygio) 1997 (O.S. 1997/1474) a Rheoliadau Tatws Hadyd (Diwygio) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/3666).

Mae'r Rheoliadau yn rheoli cynhyrchu gyda'r bwriad o farchnata, ardystio a marchnata tatws hadyd yng Nghymru, ac eithrio'r rheini y bwriedir eu hallforio y tu allan i'r Gymuned Ewropeaidd, ac maent yn rhoi effaith i Gyfarwyddeb y Cyngor 2002/56/EC dyddiedig 13 Mehefin 2002 ar farchnata tatws hadyd (OJ L 193, 20.7.2002, t.60), fel y'i diwygiwyd, sy'n cydgrynhoi cyfraith flaenorol y Gymuned. Maent hefyd yn rhoi effaith i Benderfyniad y Comisiwn 2004/842/EC dyddiedig 1 Rhagfyr 2004 sy'n gosod dan ba amodau y gellir marchnata, at ddibenion profi a threialu, tatws hadyd na chawsant eu hychwanegu eto at Restr Genedlaethol, sy'n caniatáu i Aelod-wladwriaethau awdurdodi rhoi ar y farchnad hadau sy'n perthyn i amrywogaethau y mae cais i'w cynnwys yn y catalog cenedlaethol o amrywogaethau o rywogaethau planhigion amaethyddol neu o rywogaethau llysieuol wedi cael ei gyflwyno (OJ L 362, 9.12.2004, t.21).

Mae rheoliad 4 yn gwahardd marchnata unrhyw datws hadyd onid ydynt wedi cael eu hardystio naill ai fel tatws hadyd cyn-sylfaenol, neu sylfaenol neu ardystiedig, neu onid ydynt wedi cael eu hawdurdodi i'w marchnata at ddibenion gwyddonol neu at waith dethol neu at ddibenion profi a threialu. Ar gyfer tatws hadyd a gynhyrchir yng Nghymru, mae'n rhaid i ardystio, gan gynnwys penderfynu ar y categori a'r dosbarth y dylid marchnata'r tatws ynddo, ddigwydd yn unol â gofynion rheoliad 9.

Mae rheoliad 5 yn cymhwyso gofynion llymach i datws hadyd sydd i gael eu marchnata yn y " rhanbarth sydd wedi ei ddiogelu" ("protected region") (a ddiffinnir yn rheoliad 2(1)). Mae rheoliad 6 yn darparu na ellir marchnata tatws hadyd onid ydynt yn cydymffurfio â'r gofynion maint a osodir gan y rheoliad.

Mae rheoliadau 7 ac 8 yn caniatáu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol") awdurdodi marchnata tatws hadyd fesul ychydig at ddibenion gwyddonol neu waith dethol a thatws hadyd at ddibenion profi a threialu.

Mae rheoliad 11 yn darparu mai mewn pecynnau neu gynhwysyddion yn unig y gellir marchnata tatws hadyd (ac eithrio mân werthiannau fesul ychydig o datws hadyd sy'n cyfarfod amodau rheoliad 17). Dim ond os ydynt wedi eu labelu a'u selio (rheoliadau 12 ac 13), gyda'r labelau'n dwyn y manylion a bennir yn Atodlen 2 y gellir marchnata tatws hadyd mewn pecynnau neu gynhwysyddion (ac eithrio'r rheini yr awdurdodir eu marchnata at ddibenion gwyddonol neu waith dethol). Mae'n rhaid i ddogfennau sy'n mynd gyda thatws hadyd a gafodd eu haddasu'n enetig gynnwys cyfeiriad at y ffaith honno (rheoliad 14).

Mae rheoliad 18 yn darparu ar gyfer cymryd samplau fel rhan o'r broses ardystio neu i sicrhau cydymffurfiaeth â darpariaethau'r Rheoliadau.

Mae rheoliad 20 yn rhoi pwerau i'r Cynulliad Cenedlaethol i archwilio tatws hadyd a dogfennau perthnasol ac i sicrhau eu bod yn cael eu cyflwyno iddo ar gyfer hynny.

Mae rheoliad 21 yn caniatáu i'r Cynulliad Cenedlaethol dynnu'n ôl labelau swyddogol neu ddogfennau swyddogol sy'n ymwneud â thatws hadyd y canfyddir nad ydynt yn cydymffurfio â'r gofynion a osodir gan y Rheoliadau.

Mae mynd yn groes i unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau yn dramgwydd o dan adran 16(7)(b) o Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964 (p.14) sy'n dwyn atebolrwydd ar gollfarn ddiannod i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Mae'r Rheoliadau yn cynnwys diwygiadau drafftio a diwygiadau eraill o ganlyniad i ddatganoli swyddogaethau i Weinidogion yr Alban, o ran yr Alban, ac i'r Cynulliad Cenedlaethol, o ran Cymru.

Cafodd Arfarniad Rheoliadol ei baratoi mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth yr Adran Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.


Notes:

[1] 1964 p.14; diwygiwyd adran 16 gan adran 4(1) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a pharagraff 5(1), (2) a (3) o Atodlen 4 iddi (p.68), O.S. 1977/1112, ac adran 2 o Ddeddf Amaeth 1986 (p.49); gweler adran 38(1) am ddiffiniad o "the Minister".back

[2] O dan Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac atodlen 1 iddo trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog Amaeth, Pysgodfeydd a Bwyd o Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964, a drosglwyddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978 (O.S. 1978/272), i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.back

[3] OJ L 106, 17.4.2001, t.1.back

[4] OJ L 268, 18.10.2003, t.24.back

[5] OJ L 114, 30.4.2002, t.166. Cafodd hwn, ynghyd â chwe Chytundeb arall gyda Chydffederasiwn y Swistir, ei gymeradwyo gan y Cyngor a'r Comisiwn drwy Benderfyniad y Cyngor a'r Comisiwn 2002/309/EC, Euratom, OJ L 114, 30.4.2002, t.1.back

[6] OJ L 301, 28.9.2004, t.55.back

[7] O.S. 1991/2206; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1992/1031, O.S. 1993/1878, O.S. 1994/2592, O.S. 1997/1474 ac O.S. 2000/1788back

[8] OJ L106, 30.4.1993, t.7. Cyfeirir at y graddau gradd 1 EEC, gradd 2 EEC a gradd 3 EEC a geir yng Nghyfarwyddeb y Comisiwn 93/17/EEC bellach fel gradd 1EC, gradd 2 EC a gradd 3 EC yn eu trefn: gweler cyfeiriadau yn Erthygl 1 o Benderfyniad y Comisiwn ar 19 Rhagfyr 2003 yn awdurdodi, mewn perthynas â marchnata tatws hadyd yn y cyfan neu mewn rhan o Aelod-wladwriaethau penodol, mesurau llymach yn erbyn clefydau penodol nac y darperir ar eu cyfer yn Atodiadau I a II i Gyfarwyddeb y Cyngor 2002/56/EC (OJ L2, 6.1.2004, t47).back

[9] OJ L 193, 20.7.2002, t.60.back

[10] OJ L 25, 30.1.2003, t.42.back

[11] OJ L 165, 3.7.2003, t.23.back

[12] OJ L 362, 9.12.2004, t.21.back

[13] OJ L 268, 18.10.2003, t.1.back

[14] O.S. 2001/3510.back

[15] OJ L 193, 20.7.2002, t.1.back

[16] 1947 t.48.back

[17] OJ L 2, 6.1.2004, t.47.back

[18] 1967 p.8.back

[19] Mewnosodwyd adran 25 gan Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (1972 p. 68), Atodlen 3, Rhan III ac Atodlen 4, paragraff 5(2) a chan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1982 (p. 48), Atodlen 6, paragraff 16.back

[20] 1998 p.38.back

[21] O.S. 2006/1643 (Cy. 158).back

[22] OJ L106, 30.4.1993, t.7.back



ISBN 0 11 091432 5


 © Crown copyright 2006

Prepared 20 November 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20062929w.html