BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Tatws Hadyd (Ffioedd) (Cymru) (Rhif 2) 2006 Rhif 2961 (Cy.267)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20062961w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 2961 (Cy.267)

HADAU, CYMRU

Rheoliadau Tatws Hadyd (Ffioedd) (Cymru) (Rhif 2) 2006

  Wedi'u gwneud 7 Tachwedd 2006 
  Yn dod i rym 16 Tachwedd 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 16(1) ac (1A)(e) o Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964[1] ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo[2].

Yn unol ag adran 16(1) o'r Ddeddf honno mae wedi ymgynghori â chynrychiolwyr y buddiannau hynny y mae'n ymddangos iddo y bydd y Rheoliadau canlynol yn ymwneud â hwy:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tatws Hadyd (Ffioedd) (Cymru) (Rhif 2) 2006.

    (2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 16 Tachwedd 2006.

    (3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Ffioedd
    
2. —(1) Rhaid i geisydd —

dalu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ynghylch unrhyw un o'i swyddogaethau o dan Reoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2006 neu i unrhyw berson a awdurdodir ganddo i gyflawni'r cyfryw swyddogaethau ar ei ran y ffioedd a restrir yn yr Atodlen ynglŷn â'r cyfryw swyddogaethau.

    (2) Mae'r ffi a bennir yn yr Atodlen fel y ffi sy'n daladwy am bob swyddogaeth yn ddarostyngedig i unrhyw leiafswm ffi a bennir ar gyfer y swyddogaeth honno.

Dirymu
     3. Dirymir Rheoliadau Tatws Hadyd (Ffioedd) (Cymru) 2006[4].



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

7 Tachwedd 2006



YR ATODLEN
Rheoliad 2



Y Swyddogaeth Ffi(1) (Ffi flaenorol) Lleiafswm y ffi (Lleiafswm blaenorol y ffi)
Arolygu cnydau sy'n tyfu a darparu seliau a labeli o ran ceisiadau —
am ardystiad fel tatws hadyd cyn-sylfaenol £81.00* (£81.00) N/A (N/A)
am ardystiad fel tatws hadyd sylfaenol, a ddosbarthir yn—                                            
Super Elite 1, Super Elite 2 neu Super Elite 3 £40.50 (£40.50) £81.00 (£81.00)
Elite 1, Elite 2 neu Elite 3 £40.50 (£40.50) £81.00 (£81.00)
A £38.50 (£38.50) £77.00 (£77.00)
am ardystiad fel tatws hadyd ardystiedig £35.00 (£35.00) £70.00 (£70.00)
am awdurdodiad i farchnata tatws hadyd yn unol â rheoliad 8 o Reoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2006 £81.00* (£81.00)(²) N/A (N/A)
Arolygu cloron a gynaeafwyd
Hyd at ddau arolygiad £12.00 (£12.00) £24.00 (£24.00)
Y trydydd arolygiad a phob arolygiad wedyn £81.00* (£81.00) N/A (N/A)



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Tatws Hadyd (Ffioedd) (Cymru) 2006 (OS 2006/519 (Cy. 63), er mwyn adlewyrchu newidiadau a wnaed gan Reoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2006 (OS 2006/2929 (Cy.264) yn yr agwedd a gymerir at ardystio swyddogol o datws hadyd fel tatws hadyd cyn-sylfaenol, tatws hadyd sylfaenol a thatws hadyd ardystiedig ac ynghylch arolygu a darparu seliau a labeli ar gyfer tatws hadyd sy'n perthyn i amrywogaethau y cyflwynwyd cais i'w cofnodi ar Restr Genedlaethol ond na phenderfynwyd arno hyd yma (a chaniateir marchnata'r cyfryw datws at ddibenion cynnal profion ac arbrofion arnynt). Mae'r newidiadau yn bennaf yn adlewyrchu newidiadau mewn terminoleg ac ni fu newidiadau yn swm y ffioedd sy'n daladwy ar hyn o bryd.

Paratowyd Arfarniad Rheoliadol ynglŷn â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Adran Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.


Notes:

[1] 1964 p.14; diwygiwyd adran 16 gan adran 4(1) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p.68) a pharagraff 5(1), (2) a (3) o Atodlen 4 iddi, O.S. 1977/1112, ac adran 2 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1986 (p.49); gweler adran 38(1) ar gyfer diffiniad o "the Minister".back

[2] O dan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 O.S. 1999/672 cafodd swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd o dan Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964, a oedd wedi cael eu trosglwyddo i'r Ysgrifennydd Gwladol gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978, eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.back

[3] O.S. 2006/2929 (Cy.264) .back

[4] O.S. 2006/519 (Cy. 63).back

[5] 1998 p.38.back

[6] O.S. 1991/2206, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back



ISBN 0 11 091436 7


 © Crown copyright 2006

Prepared 20 November 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20062961w.html