BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Arolygu'r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Gwasanaethau Cysylltiedig (Cymru) 2006 Rhif 3103 (Cy.286) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20063103w.html |
[New search] [Help]
Wedi'u gwneud | 21 Tachwedd 2006 | ||
Yn dod i rym | 1 Ebrill 2007 |
(2) Os yw'n ofynnol, o dan y Rheoliadau hyn, i rywbeth gael ei wneud gan gyfeirio at gyfnod o amser sy'n cael ei gyfrif o ddyddiad penodol, mae'r cyfnod hwnnw'n dechrau yn union ar ôl y dyddiad hwnnw.
(3) Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at adrannau (heb fwy) yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf 2005.
Arolygiadau cyntaf
3.
—(1) Mae'r Rheoliad hwn yn gymwys yn achos darparydd gwasanaeth neu ddarparydd perthnasol na chafodd ei archwilio o'r blaen naill ai o dan adran 35 neu 35A o Ddeddf 1998[5] nac o dan adran 55 neu 56.
(2) Os yw'r rheoliad hwn yn gymwys, mae'r darparydd gwasanaeth neu'r darparydd perthnasol i gael ei arolygu o dan adran 55 neu 56 (yn ôl y digwydd), o fewn cyfnod o chwe blynedd o'r dyddiad pryd y daeth y darparydd gwasanaeth neu'r darparydd perthnasol gyntaf yn ddarparydd o'r fath.
Bylchau rhwng arolygiadau olynol
4.
—(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 3, rhaid i'r Prif Arolygydd wneud arolygiad, o dan adran 55, ar bob darparydd gwasanaeth, ac o dan adran 56 ar bob darparyddperthnasol, ar ôl pob bwlch o chwe blynedd.
(2) At ddibenion paragraff (1), mae bylchau yn cychwyn o'r dyddiad pryd y cwblhawyd yr arolygiad diwethaf ar y darparydd gwasanaeth (o dan adran 35 o Ddeddf 1998 neu adran 55) neu ar y darparydd perthnasol (o dan adran 35A o Ddeddf 1998 neu adran 56).
Y cyfnod ar gyfer paratoi adroddiad o arolygiad
5.
Y cyfnod y mae adroddiad o arolygiad i gael ei baratoi o'i fewn yw deg a thrigain o ddiwrnodau gwaith o'r dyddiad pryd y cwblhawyd yr arolygiad arno.
Dyletswydd i baratoi cynllun gwaith
6.
Rhaid i berson sy'n cael arolygiad dan adran 55 neu 56 baratoi adroddiad ysgrifenedig sy'n ymateb i'r adroddiad o arolygiad gan osod allan y camau fydd yn cael eu cymryd i fynd i'r afael ag unrhyw faterion y cyfeirir atynt yn yr adroddiad o arolygiad neu i weithredu unrhyw argymhellion a geir yn yr adroddiad, a'r graddfeydd amser ar gyfer cymryd y camau hynny neu ar gyfer gweithredu'r argymhellion hynny (y cyfeirir atynt yn y Rheoliadau hyn fel "cynllun gwaith").
Y cyfnod ar gyfer paratoi cynllun gwaith
7.
Y cyfnod y mae'n rhaid i berson sy'n cael archwiliad dan adran 55 neu 56 baratoi cynllun gwaith o'i fewn yw hanner cant o ddiwrnodau gwaith o'r dyddiad y cafodd y person hwnnw gopi o'r adroddiad o arolygiad o dan adran 57(7)(b).
Darparu copïau o adroddiadau o arolygiadau a chynlluniau gwaith a'u cyhoeddi
8.
—(1) Rhaid i'r Prif Arolygydd anfon copi o adroddiad o arolygiad at y personau a ddynodir ym mharagraff (3) (yn ychwanegol at y rheini a ddynodir yn adran 57(7)(b)(i), (ii) a (iv) o Ddeddf 2005).
(2) Rhaid i'r person sydd wedi paratoi cynllun gwaith anfon copi ohono at y personau a ddynodir ym mharagraff (3).
(3) Y personau hynny yw—
9.
Rhaid i gopi o'r adroddiad o arolygiad a'r cynllun gwaith fod ar gael i'w archwilio yn swyddfa gofrestredig neu ym mhrif swyddfa'r darparydd gwasanaeth neu'r darparydd perthnasol a gafodd ei archwilio, a rhaid ei gyhoeddi ar unrhyw wefan ar y rhyngrwyd sydd gan y darparydd hwnnw.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[6].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
21 Tachwedd 2006
[4] Gweler adran 73 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000, p.21.back
[5] 1998 p.30. Diwygiwyd adran 35 gan baragraff 77 o Atodlen 9 i Ddeddf Dysgu a Medrau 2000, a mewnosodwyd adran 35A gan adran 81 o'r Ddeddf honno. Diddymir y ddwy adran gan Ddeddf 2005, Atodlen 19, Rhan 1, sy'n effeithiol o 1 Ebrill 2007: O.S. 2006/1338 (Cy.130) (C.45).back