BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2006 Rhif 3347 (Cy.307)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20063347w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 3347 (Cy.307)

ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU

Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2006

  Wedi'u gwneud 12 Rhagfyr 2006 
  Yn dod i rym 31 Rhagfyr 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 60, 140(4) a 143(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 [1] a pharagraffau 4 a 6 o Atodlen 8 iddi ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru:

Enwi, cymhwyso a chychwyn
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2006 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2006.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992
    
2. —(1) Diwygir Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992[2] fel a ganlyn parthed blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2007.

    (2) Ym mharagraff 3(1)(b) o atodlen 1, yn lle'r geiriau "other than" hyd at ddiwedd y paragraff hwnnw, rhodder "in relation to which section 47(2)(b), (ba) or (c) applies were taken into account".

    (3) Ym mharagraff 2(12) o atodlen 2, yn lle "1.004" rhodder "1.001".

    (4) Yn lle atodlen 4 rhodder yr atodlen a osodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

12 Rhagfyr 2006



YR ATODLEN
Rheoliad 2

          






NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)


Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn diwygio'r Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992 ("Rheoliadau 1992").

O dan Ran II o Atodlen 8 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol ("Deddf 1988") mae'n ofynnol i awdurdodau bilio (yng Nghymru, cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol) dalu symiau (a elwir yn gyfraniadau ardrethu annomestig) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae Rheoliadau 1992 yn cynnwys rheolau ar gyfer cyfrifo'r cyfraniadau hynny ar gyfer awdurdodau bilio Cymru.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1992—

    – trwy newid geiriad paragraff 3(1) o Atodlen 1 (Rheolau ar gyfer Cyfrifo Cyfraniadau Ardrethu Annomestig) bod y didyniad o 90% y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw yn cyfeirio yn unig at ryddhad ardrethu disgresiynol a roddir gan awdurdodau bilio mewn perthynas â hereditamentau y mae adran 47(2)(b), (ba) neu (c) yn gymwys iddynt. O ganlyniad ni fydd yna ddidyniad mewn perthynas â rhyddhad disgresiynol ardrethi a roddir gan yr awdurdod bilio i drethdalwyr sy'n meddiannu hereditamentau y mae adran 43(4B) o Ddeddf 1988 yn gymwys iddynt (hereditamentau sy'n cael rhyddhad gorfodol ardrethi busnesau bychain);

    – trwy roi lluosydd newydd ym mharagraff 2(12) o Atodlen 2 yn lle'r un presennol (Rhagdybiaethau parthed swm gros); a

    – trwy roi Atodlen 4 newydd yn lle'r un bresennol (Ffigyrau Poblogaeth Oedolion).


Notes:

[1] 1988 p. 41. Cafodd y pwerau hyn eu datganoli, o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), gweler y cyfeiriad at Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1999 yn Atodlen 1.back

[2] OS 1992/3238, a ddiwygiwyd gan O.S. 1993/1505, 1993/3077, 1994/547, 1994/1742, 1994/3125, 1995/3235, 1996/619, 1996/3018, 1997/3003, 1998/2962, 1999/3439 (Cy.47), 2000/3382 (Cy.220), 2001/3910 (Cy.322), 2002/3054 (Cy.289), 2003/3211 (Cy.304), 2004/3232 (Cy.280) a 2005/3345 (Cy.259).back

[3] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091476 7


 © Crown copyright 2006

Prepared 21 December 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20063347w.html