BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu a Rhyddhad yn ôl Disgresiwn) (Cymru) (Diwygio) 2006 Rhif 3392 (Cy.311)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20063392w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 3392 (Cy.311)

ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU

Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu a Rhyddhad yn ôl Disgresiwn) (Cymru) (Diwygio) 2006

  Wedi'u gwneud 12 Rhagfyr 2006 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2007 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 47(8) a 62 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988[1] a pharagraffau 1 a 2(2) o Atodlen 9 iddi ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.

Enwi, cymhwyso a chychwyn
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu a Rhyddhad yn ôl Disgresiwn) (Cymru) (Diwygio) 2006 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2007.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Rhyddhad yn ôl Disgresiwn) 1989
    
2. Yn rheoliad 2 o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Rhyddhad yn ôl Disgresiwn) 1989[2] mewnosoder ar y diwedd —

Diwygio Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993
     3. —(1) Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru )1993[4] wedi'u diwygio fel a ganlyn.

    (2) Ym mharagraff 5(a) o Atodlen 1, yn lle "section 43(5)" rhodder "section 43(4A)(b), (5)".

    (3) Ym mharagraff 1 o Ran I o Atodlen 2—

    (4) Ym mharagraff 1 o Ran II o Atodlen 2—

    (5) Nid oes dim yn y rheoliad hwn sy'n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw fater gael ei gynnwys mewn unrhyw hysbysiad a gyflwynir o ran unrhyw swm sy'n daladwy o ran unrhyw ddiwrnod cyn 1 Ebrill 2007.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

12 Rhagfyr 2006



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)


Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn diwygio'r rheoliadau canlynol o ganlyniad i ddirymu, oddi ar 1 Ebrill 2007, y cynllun rhyddhad ardrethi gwledig a chyflwyno cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach.

Mae rheoliad 2 yn diwygio'r Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Rhyddhad yn ôl Disgresiwn) 1989 drwy ddileu'r angen i awdurdodau bilio (cynghorau sir a bwrdeistrefi sirol) i anfon hysbysiad 12 mis i dalwyr ardrethi os yw effaith dyfodiad i rym adran 63 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (a dirymiad canlyniadol y cynllun rhyddhad ardrethi gwledig yng Nghymru a dilead disgresiwn awdurdodau bilio i ddarparu rhyddhad ardrethi o dan adran 47 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 o ran aneddiadau gwledig) yw y byddai'n ofynnol i dalwyr ardrethi dalu swm taladwy mwy.

Mae rheoliad 3 yn diwygio Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu (Cymru) 1993 drwy ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau bilio osod nodyn yn yr hysbysiadau sy'n galw am dalu ardrethi annomestig ynghylch effaith cyflwyno'r cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach.


Notes:

[1] 1988 p.41. Cafodd y pwerau hyn eu datganoli, o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), gweler y cyfeiriad at Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1999 yn Atodlen 1.back

[2] O.S. 1989/1059, a ddiwygiwyd gan O.S. 1993/616.back

[3] 2003 c.26. Daw adran 63 i rym ar 1 Ebrill 2007.back

[4] O.S. 1993/252, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/284, 1996/311, 1996/1880, 1997/356, 1998/155, 2000/794 (Cy.30), 2003/414 (Cy.59) a 2005/256 (Cy.22).back

[5] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091478 3


 © Crown copyright 2006

Prepared 22 December 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20063392w.html