BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd) (Cymru) 2007 Rhif 196 (Cy.15)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070196w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2007 Rhif 196 (Cy.15)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd) (Cymru) 2007

  Wedi'u gwneud 30 Ionawr 2007 
  Yn dod i rym 31 Ionawr 2007 


CYNNWYS


RHAN 1

Cyffredinol
1. Enwi, cymhwyso a chychwyn
2. Dehongli

RHAN 2

Dynodi awdurdodau cymwys a chyfnewid gwybodaeth rhyngddynt
3. Dibenion y dynodiadau
4. Dynodi'r Cynulliad Cenedlaethol yn awdurdod cymwys
5. Dynodi awdurdodau lleol, etc., yn awdurdodau cymwys
6. Cyfnewid gwybodaeth

RHAN 3

Archwiliadau a rheolaethau'r Gymuned
7. Pwerau archwilwyr ac eithriad ar gyfer archwilwyr yr Asiantaeth Safonau Bwyd
8. Pwerau'r Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas ag archwiliadau awdurdodau lleol, etc.
9. Pwerau'r Asiantaeth Safonau Bwyd sy'n ymgymryd ag archwiliadau ar ran y Cynulliad Cenedlaethol
10. Rheolaethau'r Gymuned

RHAN 4

Cymorth a chydweithrediad o dan Deitl IV ac adennill treuliau
11. Dyletswyddau awdurdodau lleol, etc, o dan Deitl IV
12. Hwyluso cymorth a chydweithrediad o dan Deitl IV
13. Adennill treuliau

RHAN 5

Gorfodi a chosbau
14. Dehongli a chymhwyso Rhan 5, etc.
15. Gorfodi
16. Pwerau swyddogion gorfodi
17. Tramgwyddau a chosbau
18. Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol
19. Terfynau amser ar gyfer erlyn
20. Diwygio Rheoliadau 2006

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'i ddynodi[
1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd (yn ddarostyngedig i eithriadau penodol) a mesurau ym maes milfeddygaeth i ddiogelu iechyd y cyhoedd.

     Mae wedi cynnal ymgynghoriad yn unol ag Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd[3], fel y diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 575/2006 Senedd Ewrop a'r Cyngor[4].

     Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972:



RHAN 1

Cyffredinol

Enwi, cymhwyso a chychwyn
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd) (Cymru) 2007.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 31 Ionawr 2007.

Dehongli
    
2. —(1) Yn y Rheoliadau hyn—

    (2) Yn y Rheoliadau hyn—

    (3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "deddfwriaeth berthnasol" ("relevant legislation") yw cyfraith bwyd anifeiliaid a chyfraith bwyd y mae Rheoliad 882/2004 yn gymwys iddynt a rheolau iechyd a lles anifeiliaid, ac eithrio—

    (4) Ym mharagraff (3)(b)—

    (5) Oni ddarperir fel arall yn y rheoliad hwn, mae i dermau a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yr un ystyr ag a roddir i'r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn Rheoliad 882/2004.

    (6) Oni fynnir fel arall gan y cyd-destun, mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at "Erthygl" ("Article") neu "Teitl" ("Title") yn gyfeiriadau at Erthygl neu Deitl, yn ôl eu trefn, o Reoliad 882/2004.

    (7) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at offeryn Cymunedol yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y'i diwygir o dro i dro.



RHAN 2

Dynodi awdurdodau cymwys a chyfnewid gwybodaeth rhyngddynt

Dibenion y dynodiadau
     3. Mae dynodiadau yn y Rhan hon yn cael eu gwneud at ddibenion Erthygl 4.1.

Dynodi'r Cynulliad Cenedlaethol yn awdurdod cymwys
    
4. Mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i ddynodi'n awdurdod cymwys mewn perthynas â deddfwriaeth berthnasol.

Dynodi awdurdodau lleol, etc., yn awdurdodau cymwys
    
5. —(1) Mae'r awdurdod lleol wedi'i ddynodi'n awdurdod cymwys mewn perthynas â swyddogaethau gorfodi a gweithredu (ac eithrio erlyn) y mae'n eu harfer o dan ddeddfwriaeth berthnasol.

    (2) Mae'r awdurdod bwyd wedi'i ddynodi'n awdurdod cymwys mewn perthynas â swyddogaethau gorfodi a gweithredu (ac eithrio erlyn) y mae'n eu harfer o dan ddeddfwriaeth berthnasol.

    (3) Yn y rheoliad hwn, mae "yr awdurdod lleol" ac "yr awdurdod bwyd" yn cynnwys awdurdod lleol neu awdurdod bwyd sy'n arfer ei swyddogaethau, sef y rhai y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1) neu (2) fel "awdurdod gorfodi" o dan ddeddfwriaeth berthnasol ac o fewn ystyr "enforcement authority" mewn deddfwriaeth o'r fath.

Cyfnewid gwybodaeth
    
6. Caiff awdurdodau cymwys a ddynodir o dan y Rheoliadau hyn ddatgelu gwybodaeth i'w gilydd ac i awdurdodau cymwys eraill yn y Deyrnas Unedig ac i Aelod-wladwriaethau eraill at ddibenion Rheoliad 882/2004.



RHAN 3

Archwiliadau a rheolaethau'r Gymuned

Pwerau archwilwyr ac eithriad ar gyfer archwilwyr yr Asiantaeth Safonau Bwyd
    
7. —(1) Caiff archwilydd arfer y pwerau yn y rheoliad hwn os yw wedi'i awdurdodi—

    (2) At ddibenion cynnal archwiliad, caiff archwilydd fynd i mewn i fangre y mae gan arolygydd bŵer i fynd iddo o dan ddeddfwriaeth berthnasol ("mangre archwilio") fel petai'r archwilydd yn arolygydd sy'n bodloni'r meini prawf ar gyfer sicrhau mynediad o'r fath o dan y ddeddfwriaeth berthnasol honno.

    (3) Caiff archwilydd sy'n arfer ei bŵer mynediad ddod ag unrhyw berson gydag ef y mae ar yr archwilydd angen rhesymol am ei gymorth.

    (4) Caiff archwilydd ofyn i unrhyw berson yn unrhyw fangre archwilio am unrhyw wybodaeth y mae arno angen rhesymol amdani at ddibenion yr archwiliad, a chaiff arolygu unrhyw gofnodion y mae arno angen rhesymol amdanynt at y dibenion hynny.

    (5) Caiff archwilydd wneud copïau o'r cofnodion hynny neu ei gwneud yn ofynnol i'r copïau gael eu gwneud.

    (6) Wrth arfer y pwerau a roddwyd gan y rheoliad hwn, rhaid i archwilydd, os gofynnir iddo wneud hynny, ddangos tystiolaeth ei fod wedi'i awdurdodi o dan y Rheoliadau hyn.

    (7) Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo rheoliad 9 yn gymwys.

Pwerau'r Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas ag archwiliadau awdurdodau lleol, etc.
    
8. —(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cymwys a ddynodir o dan reoliad 5 ddarparu gwybodaeth iddo am unrhyw archwiliadau y mae'r awdurdod cymwys hwnnw wedi'u cynnal neu wedi'u cael neu y mae'r awdurdod cymwys hwnnw yn bwriadu eu cynnal neu eu cael.

    (2) Pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol yn ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei darparu o dan baragraff (1), rhaid iddo wneud hynny'n ysgrifenedig a rhaid iddo nodi o fewn pa derfyn amser y mae'r wybodaeth sy'n ofynnol i gael ei darparu.

    (3) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud yn ofynnol—

Pwerau'r Asiantaeth Safonau Bwyd sy'n ymgymryd ag archwiliadau ar ran y Cynulliad Cenedlaethol
    
9. —(1) Pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol yn trefnu bod yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn ymgymryd ag archwiliad mewn perthynas â deddfwriaeth berthnasol, bydd darpariaethau archwilio Rheoliadau 2006 yn gymwys fel petai—

    (2) Dyma ddarpariaethau archwilio Rheoliadau 2006—

    (3) Mae rheoliadau 17(2), (4) a (5)(c), 18(2) i (9), 19 i 21, 41 i 43, 45 a 46 o Reoliadau 2006 yn gymwys pan fo paragraff (1) o'r rheoliad hwn yn gymwys fel petai'r paragraff hwnnw'n un o ddarpariaethau Rheoliadau 2006 a oedd i'w gorfodi neu i'w gweithredu o dan Reoliadau 2006.

Rheolaethau'r Gymuned
    
10. I'r graddau nad oes gan arolygydd bwerau eisoes i wneud hynny, er mwyn ei gwneud yn hwylus i archwiliadau gael eu cynnal gan arbenigwyr y Comisiwn yn unol ag Erthygl 45, caiff arolygydd fynd i unrhyw fangre y mae ganddo bŵer i gael mynediad iddo o dan ddeddfwriaeth berthnasol, ac—



RHAN 4

Cymorth a chydweithrediad o dan Deitl IV

Dyletswyddau awdurdodau lleol, etc, o dan Deitl IV
    
11. Rhaid i awdurdod lleol neu awdurdod bwyd sydd wedi'i ddynodi'n awdurdod cymwys o dan reoliad 5 hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol os yw'n credu nad yw'n gallu cymryd camau sy'n ofynnol mewn unrhyw achos unigol o dan Deitl IV (cymorth a chydweithrediad gweinyddol ym meysydd bwyd anifeiliaid a bwyd) a rhaid iddo ddarparu i'r Cynulliad Cenedlaethol unrhyw wybodaeth y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn yn rhesymol amdano.

Hwyluso cymorth a chydweithrediad o dan Deitl IV
    
12. —(1) At ddibenion cynorthwyo awdurdod cymwys Aelod-wladwriaeth arall fel y darperir ar ei gyfer o dan Erthygl 36.3, neu alluogi awdurdod cymwys a ddynodir o dan y Rheoliadau hyn i wneud hynny, caiff arolygydd sy'n arfer ei bwerau o dan ddeddfwriaeth berthnasol i fynd i mewn i fangre neu i arolygu cofnodion—

    (2) At ddibenion hwyluso ymweliad gan dîm arolygu a anfonir gan y Comisiwn fel y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 40.3(a), caiff arolygydd ddod â chynrychiolwyr y Comisiwn gydag ef wrth arfer ei bwerau o dan ddeddfwriaeth berthnasol i fynd i mewn i fangre neu i arolygu cofnodion.

Adennill treuliau
    
13. —(1) Rhaid i dreuliau a godir gan awdurdod cymwys ar fusnes bwyd anifeiliaid neu fusnes bwyd yn unol ag Erthygl 40.4 gael eu talu gan y busnes hwnnw ar ôl cael archiad ysgrifenedig gan yr awdurdod cymwys o dan sylw.

    (2) Rhaid i dreuliau a godir gan awdurdod cymwys ar weithredydd yn unol ag Erthygl 28 gael eu talu gan y gweithredydd hwnnw ar ôl cael archiad ysgrifenedig gan yr awdurdod cymwys dan sylw.

    (3) Yn y rheoliad hwn ystyr "awdurdod cymwys" ("competent authority") yw awdurdod cymwys a ddynodir o dan reoliad 4 neu 5.



RHAN 5

Gorfodi a chosbau

Dehongli a chymhwyso Rhan 5, etc.
    
14. —(1) Yn y Rhan hon—

    (2) Nid yw Rheoliadau 15 i 19 yn gymwys pan fo rheoliad 9 yn gymwys.

Gorfodi
    
15. Mae gorfodi'r Rheoliadau hyn yn gyfrifoldeb yr awdurdod cymwys sydd, o dan unrhyw amgylchiadau penodol, yn awdurdodi bod pwerau yn cael eu harfer o dan y Rheoliadau hyn.

Pwerau swyddogion gorfodi
    
16. —(1) Caiff swyddog gorfodi—

    (2) Rhaid i swyddog gorfodi wneud y canlynol—

Tramgwyddau a chosbau
    
17. —(1) Bydd person yn euog o dramgwydd os yw heb esgus rhesymol yn rhwystro unrhyw un o'r personau canlynol, neu'n peri neu'n caniatáu iddo gael ei rwystro—

    (2) At ddibenion paragraff (1), mae rhwystro yn cynnwys—

    (3) Mae person yn euog o dramgwydd os yw'n darparu heb esgus rhesymol i archwilydd perthnasol, arolygydd perthnasol neu swyddog gorfodi, wybodaeth sy'n anwir neu'n gamarweiniol mewn unrhyw fanylyn o bwys.

    (4) Mae person sy'n euog o dramgwydd o dan y rheoliad hwn yn atebol, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na thri mis, neu'r ddau.

Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol
    
18. —(1) Pan brofir bod tramgwydd o dan reoliad 17 a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad swyddog, neu os gellir priodoli'r tramgwydd hwnnw i unrhyw esgeulustod ar ei ran, bydd y swyddog, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o'r tramgwydd ac yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

    (2) Pan fo materion corff corfforaethol yn cael eu rheoli gan ei aelodau, mae paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â gweithredoedd a diffyg gweithredoedd aelod mewn cysylltiad â'i swyddogaethau rheoli fel pe bai'r aelod hwnnw yn un o gyfarwyddwyr y corff.

    (3) ystyr "swyddog", mewn perthynas â chorff corfforaethol, yw cyfarwyddwr, aelod o'r pwyllgor rheoli, prif weithredwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i'r corff, neu berson sy'n honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd swydd o'r fath.

Terfynau amser ar gyfer erlyn
    
19. Caiff erlyniad am dramgwydd o dan y Rhan hon ddechrau heb fod yn hwyrach na diwedd—

p'un bynnag yw'r cynharaf.

Diwygio Rheoliadau 2006
    
20. —(1) Mae Rheoliadau 2006 wedi'u diwygio fel a ganlyn.

    (2) Yn rheoliad 2(1), yn y paragraff sy'n dechrau "mae i "Rheoliad 178/2002" ("Regulation 178/2002")" mewnosoder ar ôl y geiriau ""Cyfarwyddeb 2004/41" ("Directive 2004/41")," y geiriau ""Rheoliad 999/2001" ("Regulation 999/2001")".

    (3) Yn Atodlen 1, ar ôl y diffiniad o ""Cyfarwyddeb 2004/41" ("Directive 2004/41")", mewnosoder—

    (4) Ym mharagraff (a) o Atodlen 3—



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[17]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

30 Ionawr 2007



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ac yn gorfodi Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 (OJ Rhif L165, 30.04.2004, t. 1) ("Rheoliad 882/2004") Senedd Ewrop a'r Cyngor ynghylch rheolau iechyd a lles anifeiliaid, a'r gyfraith ynglŷn â bwyd anifeiliaid a bwyd a eithriwyd o Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2006 ("Rheoliadau 2006"), sydd hefyd yn cymhwyso ac yn gorfodi Rheoliad 882/2004. Diwygiwyd testun Rheoliad 882/2004 ac mae i'w weld bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L191, 28.05.2004, t. 1).

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer dynodi Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac awdurdodau lleol (gan gynnwys awdurdodau bwyd) yn awdurdodau cymwys at ddibenion Erthygl 4.1 o Reoliad 882/2004 (rheoliadau 3 i 5). Mae a wnelo'r dynodiadau â'r canlynol:

Maent yn ymwneud hefyd ag enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy ("TSEs") ynglŷn â rheolaethau profi (gan gynnwys samplu) ar wartheg, defaid a geifr a gigyddir ar gyfer eu bwyta gan bobl.

Nid yw'r dynodiadau yn cynnwys bwydydd anifeiliaid â meddyginiaeth ac ychwanegion sootechnegol, a gwmpesir ym mharagraff 4 o Atodlen 5 i Reoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol 2005 (O.S. 2006/2407).

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu'n bendant ar gyfer cyfnewid gwybodaeth rhwng awdurdodau cymwys yng Nghymru a mannau eraill yn y Deyrnas Unedig, ac yn yr Undeb Ewropeaidd (rheoliad 6).

Maent yn creu pwerau annibynnol i archwilwyr awdurdod cymwys gynnal archwiliadau sy'n ofynnol o dan Erthygl 4.6 o Reoliad 882/2004 (rheoliad 7). Mae darpariaeth wedi'i gwneud i Gynulliad Cenedlaethol Cymru alw am wybodaeth oddi wrth awdurdod lleol am ei archwiliadau; ac iddo ei gwneud yn ofynnol i archwilydd gynnal archwiliad o reolaethau swyddogol yr awdurdod lleol hwnnw fel awdurdod cymwys (rheoliad 8).

Pan fo Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn trefnu bod yr Asiantaeth Safonau Bwyd i gynnal archwiliad o'r ddeddfwriaeth berthnasol o dan y Rheoliadau hyn, bydd darpariaethau monitro Rheoliadau 2006 yn gymwys ynghyd â'r darpariaethau gorfodi cyfatebol yn Rheoliadau 2006 (rheoliad 9 o'r Rheoliadau hyn).

Mae'r Rheoliadau yn ychwanegu at bwerau presennol arolygwyr hefyd er mwyn caniatáu iddynt ddod ag arbenigwyr y Comisiwn gyda hwy at ddibenion archwiliadau'r Comisiwn ei hun (rheoliad 10). Mae darpariaethau i hwyluso cymorth a chydweithrediad rhwng Aelod-wladwriaethau sy'n ofynnol o dan Deitl IV (Erthyglau 34 i 40) o Reoliad 882/2004 (rheoliadau 11 a 12), yn enwedig i alluogi swyddogion y Comisiwn ac Aelod-wladwriaethau eraill i fod yn bresennol gydag arolygydd sy'n ymchwilio i doriadau a amheuir o dan y ddeddfwriaeth berthnasol. Mae rheoliad 13 yn darparu ar gyfer talu ar archiad ysgrifenedig dreuliau a godir o dan Erthygl 40.4 ac Erthygl 28 o Reoliad 882/2004.

Mae Rhan 5 yn darparu ar gyfer gorfodi'r Rheoliadau, gan gynnwys pwerau swyddogion gorfodi i'r perwyl hwn (rheoliad 16). Mae'n dramgwydd o dan reoliad 17 i rwystro archwilydd, swyddog gorfodi, neu arolygydd sy'n dod â chynrychiolwyr o'r Comisiwn neu Aelod-wladwriaethau eraill gydag ef, neu i rwystro unrhyw bersonau sy'n dod gydag arolygydd neu archwilydd. Mae'n dramgwydd hefyd o dan reoliad 17 i ddarparu gwybodaeth gamarweiniol neu anwir i arolygydd neu archwilydd neu swyddog gorfodi, neu i fethu â darparu gwybodaeth y mae unrhyw un ohonynt yn gofyn amdani. Y gosb ar gollfarn ddiannod am y tramgwyddau yw dirwy ar lefel 5 o'r raddfa safonol (£5,000 ar hyn o bryd) neu dri mis yn y carchar, neu'r ddau (rheoliad 17(4)). Mae darpariaeth wedi'i gwneud i erlyn tramgwyddau a gyflawnir gan gyrff corfforaethol (rheoliad 18), a phennir terfynau amser ar gyfer erlyn yn rheoliad 19.

Mae rheoliad 20 yn diwygio Rheoliadau 2006 i dynnu o'r diffiniad o "cyfraith bwyd berthnasol", i'r graddau y mae'n gymwys o ran bwyd, Atodlen 2 i Reoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2006 ("Rheoliadau TSE") a darpariaethau penodol yn y Rheoliad UE ar TSEs (Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 (OJ Rhif L147, 31.5.2001, t. 1)) ynghylch monitro TSEs mewn geifr a defaid a gigyddir.

Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ynglŷn â'r Rheoliadau hyn ac mae ar gael oddi wrth Swyddfa'r Prif Swyddog Milfeddygol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.


Notes:

[1] OS 2005/2766 mewn perthynas â'r polisi amaethyddol cyffredin (yn ddarostyngedig i eithriadau penodol), ac OS 2003/1246 mewn perthynas â mesurau milfeddygol i ddiogelu iechyd y cyhoedd.back

[2] 1972 p. 68.back

[3] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.back

[4] OJ Rhif L100, 8.4.2006, t. 3.back

[5] OJ Rhif L165, 30.4.2004, t.1; gweler y testun sydd wedi'i gywiro yn y corigendwm i'r Rheoliad a gyhoeddwyd yn OJ Rhif L 191, 28.5.2004, t. 1.back

[6] OJ Rhif L136, 24.5.2006, t. 3.back

[7] OJ Rhif L278, 10.10.2006, t.15.back

[8] OJ Rhif L338, 22.12.2005, t. 27.back

[9] OJ Rhif L338, 22.12.2005, t. 83.back

[10] OS 2006/590 (Cy.66) fel y'i diwygiwyd gan OS 2006/1704 (Cy.166), rheoliad 1(3).back

[11] OS 2006/2407.back

[12] OJ Rhif L311, 28.11.2001, t. 1.back

[13] OJ Rhif L136, 30.4.2004, t. 58.back

[14] OJ Rhif L268, 18.10.2003, t. 29.back

[15] OJ Rhif L147, 31.5.2001, t. 1 fel y'i diwygir gan Reoliad y Comisiwn (EC) 1041/2006 sy'n diwygio Atodiad III i Reoliad (EC) Rhif 999/2001 Senedd Ewrop a'r Cyngor ynglyn â monitro enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy mewn anifeiliaid o deulu'r ddafad.back

[16] OS 2006/1226 (Cy.117).back

[17] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091493 7


 © Crown copyright 2007

Prepared 7 February 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070196w.html