BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2007 Rhif 307 (Cy.26)
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
Rheoliadau Adolygu Achosion Plant (Cymru) 2007
|
Wedi'u gwneud |
6 Chwefror 2007 | |
|
Yn dod i rym |
1 Gorffennaf 2007 | |
TREFN Y RHEOLIADAU
ATODLENNI
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 26(1), (2), (2A) a (2B), 59(4)(a) a (5) a 104(1) a (4) o Ddeddf Plant 1989[1] a pharagraffau 10(1) a (2)(l) o Atodlen 6 iddi yn gwneud y rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1.
—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adolygu Achosion Plant (Cymru) 2007 a deuant i rym ar 1 Gorffennaf 2007.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall—
ystyr "yr ardal y mae'r plentyn yn preswylio ynddi fel arfer" ("the area in which the child is ordinarily resident") yw ardal yr awdurdod lleol lle mae cartref y plentyn;
ystyr "awdurdod cyfrifol" ("responsible authority") yw—
(a) mewn perthynas â lleoliad gan awdurdod lleol (gan gynnwys un pan fo'r plentyn yn cael llety a chynhaliaeth mewn cartref gwirfoddol neu gartref preifat i blant), yw'r awdurdod lleol sy'n lleoli'r plentyn,
(b) mewn perthynas â lleoliad gan sefydliad gwirfoddol o blentyn nad yw'n derbyn gofal awdurdod lleol, y sefydliad gwirfoddol sy'n lleoli'r plentyn, ac
(c) mewn perthynas â lleoliad mewn cartref preifat i blant o blentyn nad yw naill ai'n derbyn gofal awdurdod lleol nac wedi'i letya mewn cartref o'r fath gan sefydliad gwirfoddol, y person sy'n rhedeg y cartref;
ystyr “y Ddeddf ("the Act") yw Deddf Plant 1989;
ystyr "gweithiwr dolen gyswllt" ("link worker") yw aelod o staff cartref i blant a benodwyd yn unol â Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002[2] gyda chyfrifoldeb penodol dros ddiogelu a hybu iechyd a lles addysgol plentyn unigol a thros gydgysylltu â darparwyr addysg a gofal iechyd ar ran y plentyn hwnnw;
ystyr "nyrs gofrestredig" ("registered nurse") yw person a gofrestrwyd gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth[3];
ystyr "panel" ("panel") yw panel o gynrychiolwyr o'r asianteithiau hynny a all gynorthwyo awdurdod cyfrifol wrth gynllunio lleoliad plentyn ac wrth ddiwallu anghenion y plentyn hwnnw yn ystod cyfnod y lleoliad;
ystyr "wedi'i leoli i'w fabwysiadu" ("placed for adoption") yw wedi'i leoli yn unol â Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002[4] neu Ddeddf Mabwysiadu 1976[5];
ystyr "ymarferydd meddygol cofrestredig" ("registered medical practitioner") yw person cofrestredig cyflawn o fewn ystyr Deddf Feddygol 1983[6]; ac
ystyr "ymwelydd annibynnol" (“independent visitor) yw ymwelydd annibynnol a benodir o dan baragraff 17 o Atodlen 2 i'r Ddeddf.
(3) Rhaid i unrhyw hysbysiad sy'n ofynnol o dan y Rheoliadau hyn gael ei roi'n ysgrifenedig a chaniateir ei anfon drwy'r post.
(4) Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall —
(a) mae unrhyw gyfeiriad at reoliad â Rhif yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn ac mae unrhyw gyfeiriad mewn rheoliad at baragraff â Rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y rheoliad hwnnw;
(b) mae unrhyw gyfeiriad at Atodlen â Rhif yn gyfeiriad at yr Atodlen sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn.
(5) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dyletswydd i adolygu achosion plant
2.
Rhaid i bob awdurdod cyfrifol adolygu yn unol â'r Rheoliadau hyn achos pob plentyn tra bydd yn derbyn gofal neu tra bydd llety yn cael ei ddarparu iddo.
Swyddogion adolygu annibynnol
3.
—(1) Rhaid i bob awdurdod cyfrifol benodi person ("y swyddog adolygu annibynnol") ynglŷn â phob achos i gyflawni'r swyddogaethau canlynol—
(a) cymryd rhan yn adolygiad yr achos sydd o dan sylw;
(b) monitro perfformiad swyddogaethau'r awdurdod hwnnw o ran yr adolygiad;
(c) cyfeirio'r achos at Swyddog Achosion Teuluol ar gyfer Cymru neu at swyddog Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd os yw'r plentyn fel arfer yn preswylio yn Loegr os bydd y swyddog adolygu annibynnol yn ystyried bod hynny'n briodol.
(2) Rhaid bod gan y swyddog adolygu annibynnol brofiad sylweddol mewn gwaith cymdeithasol a rhaid i'r swyddog ddal Diploma mewn Gwaith Cymdeithasol neu Radd mewn Gwaith Cymdeithasol neu gymhwyster cyfatebol sy'n cael ei gydnabod gan Gyngor Gofal Cymru[7].
(3) Rhaid bod y swyddog adolygu annibynnol wedi'i gofrestru'n weithiwr cymdeithasol mewn cofrestr a gedwir gan Gyngor Gofal Cymru neu gan y Cyngor Gofal Cymdeithasol Cyffredinol, o dan adran 56 o Ddeddf Safonau Gofal 2000[8] neu mewn cofrestr gyfatebol a gedwir o dan gyfraith yr yr Alban neu Ogledd Iwerddon.
(4) Os bydd swyddog adolygu annibynnol yn cyflawni swyddogaethau o dan y rheoliadau hyn yng Nghymru a'i fod wedi'i gofrestru'n weithiwr cymdeithasol mewn cofrestr heblaw un a gedwir gan Gyngor Gofal Cymru, rhaid iddo gofrestru'n weithiwr cymdeithasol gyda Chyngor Gofal Cymru am y cyfnod y bydd yn cyflawni'r swyddogaethau hynny.
(5) Os yw'r swyddog adolygu annibynnol yn gyflogai i'r awdurdod cyfrifol rhaid i swydd y swyddog adolygu annibynnol beidio â bod o dan reolaeth uniongyrchol—
(a) person sy'n ymwneud â rheolaeth yr achos;
(b) person sydd â chyfrifoldebau rheoli ynglŷn â pherson a grybwyllir yn is-baragraff (a); neu
(c) person sydd â rheolaeth dros yr adnoddau a ddyrennir i'r achos.
(6) Rhaid i'r swyddog adolygu annibynnol cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol gadeirio unrhyw gyfarfod a gynhelir i ystyried achos y plentyn mewn cysylltiad ag adolygiad o'r achos hwnnw.
(7) Rhaid i'r swyddog adolygu annibynnol, cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol, gymryd camau i sicrhau bod yr adolygiad yn cael ei gynnal yn unol â'r Rheoliadau hyn a sicrhau'n benodol—
(a) bod barn y plentyn yn cael ei deall a'i chymryd i ystyriaeth;
(b) bod y personau sy'n gyfrifol am weithredu unrhyw benderfyniad a wneir o ganlyniad i'r adolygiad yn cael eu dynodi; ac
(c) bod unrhyw fethiant i adolygu'r achos yn unol â'r Rheoliadau hyn neu unrhyw fethiant i gymryd camau priodol neu wneud neu gyflawni trefniadau yn unol â rheoliad 9 yn cael ei ddwyn i sylw personau sydd ar lefel ddigonol o gyfrifoldeb yn yr awdurdod cyfrifol.
(8) Yn achos plentyn sy'n dymuno cymryd camau cyfreithiol o dan y Ddeddf, er enghraifft er mwyn gwneud cais i'r llys am orchymyn cyswllt neu am ryddhad o orchymyn gofal, swyddogaeth y swyddog adolygu annibynnol yw—
(a) cynorthwyo'r plentyn i gael cyngor cyfreithiol; neu
(b) cadarnhau a oes oedolyn priodol sy'n gallu ac sy'n barod i roi'r cymorth hwnnw neu ddwyn achos cyfreithiol ar ran y plentyn.
Amser pan fo'n rhaid adolygu pob achos
4.
—(1) Rhaid adolygu pob achos o fewn pedair wythnos ar ôl y dyddiad pan fydd y plentyn yn dechrau derbyn gofal gan yr awdurdod cyfrifol neu'n dechrau cael ei letya ganddo.
(2) Rhaid cyflawni'r ail adolygiad dim mwy na thri mis ar ôl yr adolygiad cyntaf ac wedyn rhaid cyflawni adolygiadau dilynol dim mwy na chwe mis ar ôl dyddiad yr adolygiad blaenorol.
(3) Nid oes dim byd yn y rheoliad hwn yn rhwystro'r awdurdod cyfrifol rhag adolygu'r achos cyn yr amser a bennir ym mharagraff (1) neu (2) ac, yn benodol, rhaid iddo wneud hynny os yw'r swyddog adolygu annibynnol yn cyfarwyddo hynny.
(4) Mae'r rheoliad hwn yn ddarostyngedig i reoliad 12 (cymhwyso'r Rheoliadau i gyfnodau byr).
Y dull ar gyfer adolygu achosion
5.
—(1) Rhaid i bob awdurdod cyfrifol gosod allan mewn ysgrifen ei drefniadau sy'n llywodraethu'r dull y bydd achos pob plentyn yn cael ei adolygu a rhaid iddo ddwyn y trefniadau ysgrifenedig i sylw'r rheini a bennir yn rheoliad 8(1).
(2) Rhaid i'r awdurdod cyfrifol y mae plentyn yn derbyn gofal ganddo neu sy'n darparu llety i blentyn wneud trefniadau i gydgysylltu cyflawni pob agwedd ar yr adolygiad o achos y plentyn hwnnw.
(3) Rhaid i'r awdurdod cyfrifol benodi un o'i swyddogion i gynorthwyo'r awdurdod i gydgysylltu pob agwedd ar yr adolygiad.
(4) Rhaid i'r dull yr adolygir pob achos, i'r graddau y mae'n ymarferol, gynnwys yr elfennau a bennir yn Atodlen 1.
(5) Nid oes dim byd yn y Rheoliadau hyn ddylai rwystro cyflawni unrhyw adolygiad o dan y Rheoliadau hyn nac unrhyw adolygiad, asesiad neu ystyriaeth arall o dan unrhyw ddarpariaeth arall ar yr un pryd.
Ystyriaethau y mae awdurdodau cyfrifol i roi sylw iddynt
6.
Yr ystyriaethau y mae awdurdod cyfrifol i roi sylw iddynt i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol wrth adolygu pob achos yw'r ystyriaethau cyffredinol a bennir yn Atodelen 2 a'r ystyriaethau ynghylch iechyd y plentyn a bennir yn Atodlen 3.
Adolygiadau iechyd
7.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), rhaid i'r awdurdod cyfrifol, o ran pob plentyn sy'n parhau i dderbyn gofal neu y darperir llety iddo ganddo, wneud trefniadau bod ymarferydd meddygol cofrestredig neu nyrs gofrestredig, yn cynnal asesiad, a all gynnwys archwiliad corfforol, o gyflwr iechyd y plentyn—
(a) o leiaf unwaith, ac yn amlach os bydd lles y plentyn yn gwneud hynny'n ofynnol, ym mhob cyfnod o chwe mis cyn pen-blwydd y plentyn yn bump oed; ac
(b) o leiaf unwaith, ac yn amlach os bydd lles y plentyn yn gwneud hynny'n ofynnol, ym mhob cyfnod o ddeuddeng mis ar ôl pen-blwydd y plentyn yn bump oed.
(2) Rhaid i'r awdurdod cyfrifol ei gwneud yn ofynnol i'r person a gyflawnodd yr asesiad o dan baragraff (1) baratoi adroddiad ysgrifenedig sy'n ymdrin â'r materion a restrir yn Atodlen 3, gyda chyfeiriad penodol at gyflwr iechyd meddwl y plentyn.
(3) Rhaid i'r awdurdod cyfrifol adolygu'r cynllun ar gyfer iechyd y plentyn yn y dyfodol a gafodd ei baratoi yn unol â rheoliad 8(1)(ch) o Reoliadau Lleoli Plant (Cymru) 2007[9] yn ôl y cyfnodau a bennir yn is-baragraffau (a) a (b) o baragraff (1).
(4) Mae'r cyfeiriad ym mharagraff (3) at gynllun ar gyfer iechyd y plentyn yn y dyfodol yn cynnwys cynllun a gafodd ei baratoi yn unol â rheoliad 7(1)(c) o Reoliadau Trefniadau ar gyfer Lleoli Plant (Cyffredinol) 1991[10]
(5) Nid yw paragraff (1) yn gymwys os yw'r plentyn, ac yntau'n deall digon i wneud hynny, yn gwrthod cydsynio i'r asesiad.
Ymgynghori, cymryd rhan a hysbysu
8.
—(1) Cyn cynnal unrhyw adolygiad rhaid i'r awdurdod cyfrifol, os nad yw hynny'n rhesymol ymarferol, geisio barn a chymryd i ystyriaeth farn—
(a) y plentyn;
(b) ei rieni;
(c) unrhyw berson nad yw'n rhiant iddo ond sydd â chyfrifoldeb rhiant drosto;
(ch) os cafodd y plentyn ei leoli mewn cartref plant, gweithiwr dolen gyswllt y plentyn; a
(d) unrhyw berson arall y mae'r awdurdod yn ystyried bod ei farn yn berthnasol;
gan gynnwys, yn benodol, farn y personau hynny o ran unrhyw fater penodol sydd i'w ystyried yn ystod yr adolygiad.
(2) Rhaid i'r awdurdod cyfrifol cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol gael y personau y gofynnir am eu barn o dan baragraff (1) i gymryd rhan yn yr adolygiad gan gynnwys, os yw'r awdurdod yn ystyried bod hynny'n briodol, presenoldeb y personau hynny mewn rhan o gyfarfod neu mewn cyfarfod cyfan sydd i ystyried achos unrhyw blentyn mewn cysylltiad ag unrhyw agwedd ar adolygiad yr achos hwnnw.
(3) Rhaid i'r awdurdod cyfrifol, cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol, hysbysu'r canlynol o fanylion canlyniad yr adolygiad ac o unrhyw benderfyniad a wnaed ganddo yn sgil yr adolygiad—
(a) y plentyn;
(b) ei rieni;
(c) unrhyw berson nad yw'n rhiant iddo ond sydd â chyfrifoldeb rhiant drosto;
(ch) os cafodd y plentyn ei leoli mewn cartref plant, gweithiwr dolen gyswllt y plentyn; a
(d) unrhyw berson arall y mae'r awdurdod yn ystyried y dylid ei hysbysu.
Trefniadau ar gyfer gweithredu penderfyniadau sy'n deillio o'r adolygiadau a hysbysu'r swyddog adolygu annibynnol
9.
—(1) Rhaid i'r awdurdod cyfrifol wneud a chyflawni trefniadau eu hunain neu gyda phersonau eraill i weithredu unrhyw benderfyniad y mae'r awdurdod yn bwriadu ei wneud yn ystod adolygiad o achos plentyn neu o ganlyniad iddo.
(2) Rhaid i'r awdurdod cyfrifol hysbysu'r swyddog adolygu annibynnol —
(a) o unrhyw fethiant arwyddocaol i wneud neu gyflawni trefniadau yn unol â pharagraff (1); a
(b) o unrhyw newid arwyddocaol mewn amgylchiadau sy'n digwydd ar ôl yr adolygiad sy'n effeithio ar y trefniadau hynny.
Monitro trefniadau ar gyfer adolygiadau
10.
Rhaid i bob awdurdod cyfrifol fonitro'r trefniadau a wnaeth er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn.
Cofnodi gwybodaeth am yr adolygiadau
11.
Rhaid i bob awdurdod cyfrifol sicrhau bod—
(a) gwybodaeth a geir ynglŷn ag adolygiad achos plentyn; a
(b) manylion o'r trafodion mewn unrhyw gyfarfod a drefnwyd gan yr awdurdod yr ystyrir achos y plentyn ynddo mewn cysylltiad ag unrhyw agwedd ar adolygiad yr achos hwnnw; ac
(c) manylion o unrhyw benderfyniadau a wnaed yn ystod yr adolygiad neu o ganlyniad iddo;
yn cael eu cofnodi'n ysgrifenedig.
Cymhwyso'r Rheoliadau i gyfnodau byr
12.
—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i achosion y mae awdurdod cyfrifol wedi trefnu bod plentyn i dderbyn gofal neu bod llety yn cael ei ddarparu iddo am gyfres o gyfnodau byr yn yr un lle a bod y trefniant o'r fath na fydd unrhyw gyfnod unigol yn para am fwy na phedair wythnos ac na fydd cyfanswm parhad y cyfnodau'n fwy na 120 o ddiwrnodau mewn unrhyw gyfnod o 12 mis.
(2) Nid yw rheoliad 4 yn gymwys i achos y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo, ond yn hytrach—
(a) mae pob achos o'r fath i gael ei adolygu o fewn tri mis ar ôl dechrau'r cyfnod cyntaf o'r cyfnodau byr;
(b) os bydd yr achos yn parhau, rhaid cyflawni'r ail adolygiad ddim mwy na chwe mis ar ôl yr adolygiad cyntaf; ac
(c) wedyn, os bydd yr achos yn parhau, rhaid cyflawni adolygiadau dilynol ddim mwy na chwe mis ar ôl dyddiad yr adolygiad blaenorol.
(3) At ddibenion rheoliad 7, rhaid ymdrin â phlentyn fel un sy'n parhau i dderbyn gofal neu y darperir llety iddo drwy'r cyfnod y mae'r rheoliad hwn yn gymwys i'w achos.
Darpariaethau trosiannol
13.
—(1) Os yw plentyn, yn union cyn 1 Gorffennaf 2007 yn cael ei letya gan awdurdod lleol, corff gwirfoddol neu mewn cartref plant preifat, bydd y Rheoliadau hyn yn effeithiol yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Os cafodd plentyn ei letya gan awdurdod lleol, corff gwirfoddol neu mewn cartref plant preifat cyn 1 Gorffennaf 2007 ac na fu adolygiad o'i achos, neu os nad oes adolygiad wedi'i gyflawni o dan ddarpariaethau Rheoliadau Adolygu Achosion Plant 1991[11], rhaid adolygu achos y plentyn hwnnw ddim hwyrach na phedair wythnos ar ôl 1 Gorffennaf 2007 a rhaid i adolygiadau dilynol ddigwydd yn unol â rheoliad 4(2) neu 12(2) yn ôl y digwydd.
(3) Os bydd rheoliad 4 yn gymwys, a bod plentyn wedi cael ei letya gan awdurdod lleol, corff gwirfoddol neu mewn cartref plant preifat cyn 1 Gorffennaf 2007 a bod adolygiad o'i achos wedi cael ei gynnal cyn y dyddiad hwnnw, rhaid cyflawni adolygiad nesaf o achos y plentyn—
(a) os oedd yr adolygiad cyn 1 Gorffennaf 2007 yn adolygiad cyntaf, dri mis ar ôl dyddiad yr adolygiad hwnnw; neu
(b) os oedd yr adolygiad diwethaf cyn 1 Gorffennaf 2007 yn ail adolygiad neu'n adolygiad dilynol, chwe mis ar ôl dyddiad yr adolygiad hwnnw; ac
yn y naill achos a'r llall rhaid i adolygiadau dilynol ddigwydd yn unol â rheoliad 4(2).
(4) Os bydd rheoliad 12 yn gymwys, a bod plentyn wedi cael ei letya gan awdurdod lleol, corff gwirfoddol neu mewn cartref plant preifat cyn 1 Gorffennaf 2007 a bod adolygiad o'i achos wedi cael ei gynnal cyn y dyddiad hwnnw, rhaid cyflawni adolygiad nesaf o achos y plentyn—
(a) os oedd yr adolygiad diwethaf cyn 1 Gorffennaf 2007 yn adolygiad cyntaf, chwe mis ar ôl dyddiad yr adolygiad hwnnw; neu
(b) os oedd yr adolygiad diwethaf cyn 1 Gorffennaf 2007 yn ail adolygiad neu'n adolygiad dilynol, chwe mis ar ôl dyddiad yr adolygiad hwnnw; ac
yn y naill achos a'r llall rhaid i adolygiadau dilynol ddigwydd yn unol â rheoliad 12(2).
Eithriadau i gymhwysiad y Rheoliadau
14.
—(1) Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys yn achos plentyn y darperir llety iddo, heblaw gan awdurdod lleol neu gan gorff gwirfoddol, mewn ysgol sydd yn gartref plant o fewn ystyr adran 1(6) o Ddeddf Safonau Gofal 2000[12].
(2) Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys yn achos plentyn a leolir ar gyfer ei fabwysiadu.
Dirymu
15.
Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Adolygu Achosion Plant 1991 o ran Cymru[13].
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[14].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
6 Chwefror 2007
ATODLEN 1Rheoliad 5(4)
Elfennau sydd i'w cynnwys mewn adolygiad
1.
Sicrhau gwybodaeth gyson am y trefniadau wrth i'r plentyn dderbyn gofal ac o unrhyw newid perthnasol yn amgylchiadau'r plentyn.
2.
Sicrhau gwybodaeth gyson am enw a chyfeiriad unrhyw berson y dylid ystyried ei farn yn ystod yr adolygiad.
3.
Gwneud y paratoadau angenrheidiol a darparu unrhyw wybodaeth berthnasol i'r rhai sy'n cymryd rhan mewn unrhyw gyfarfod gan yr awdurdod cyfrifol sy'n ystyried achos y plentyn mewn cysylltiad ag unrhyw agwedd ar yr adolygiad.
4.
Rhoi cychwyn i gyfarfodydd personél perthnasol yr awdurdod cyfrifol a phersonau perthnasol eraill i ystyried adolygiad o achos y plentyn.
5.
Esbonio i'r plentyn unrhyw gamau y caiff eu cymryd o dan y Ddeddf gan gynnwys, pan fo'n briodol—
(a) ei hawl i wneud cais, gyda chaniatâd, am orchymyn adran 8 (preswylio, cyswllt a gorchmynion eraill ynglŷn phlant),
(b) os yw mewn gofal, ei hawl i wneud cais am ryddhad o'r gorchymyn gofal, ac
(c) bod y weithdrefn a sefydlwyd o dan y Ddeddf ar gael er mwyn ystyried cynrychioliadau.
6.
Gwneud penderfyniadau neu gymryd camau yn dilyn penderfyniadau adolygu sy'n deillio o'r adolygiad neu'n dod yn ei sgil.
ATODLEN 2Rheoliad 6
Ystyriaethau y mae awdurdodau cyfrifol i roi sylw iddynt
1.
Yn achos plentyn sydd mewn gofal, a ddylid gwneud cais i ryddhau'r gorchymyn gofal.
2.
Os yr awdurdod cyfrifol yw'r awdurdod lleol, a ddylai geisio newid yn statws gyfreithiol y plentyn.
3.
Trefniadau ar gyfer cyswllt, ac a oes angen gwneud newidiadau i'r trefniadau er mwyn hybu cyswllt gyda theulu'r plentyn ac eraill cyn belled ag bônt yn gyson â'i les.
4.
Unrhyw drefniadau arbennig sydd wedi cael eu gwneud neu angen i'w gwneud ar gyfer y plentyn, gan gynnwys cynnal asesiadau naill ai gan awdurdod lleol neu gan bersonau eraill, megis y rhai ynghylch angen addysgol arbennig o dan Ddeddf Addysg 1996[15].
5.
Trefniadau di-oed a thymor hir yr awdurdod cyfrifol o ran bod y plentyn yn derbyn gofal neu o ran darpau llety i'r plentyn (a wnaed yn unol â darpariaethau Rheoliadau Lleoli Plant (Cymru) 2007, a oes angen newid y trefniadau hynny ac ystyried camau gweithredu amgen.
6.
A ydyw'r awdurdod cyfrifol wedi cydymffurfio â gofynion Rheoliadau Lleoli Plant (Cymru) 2007[16] ac yn benodol â rheoliadau 4 ac 8.
7.
Os yw'r awdurdod cyfrifol yn awdurdod lleol, a ddylid penodi ymwelydd annibynnol os na phenodwyd un eisoes.
8.
Anghenion addysgol y plentyn, ei gynnydd a'i ddatblygiad addysgol gan gynnwys, pan fo'n gymwys, a drosglwyddwyd y cofnodion addysgol perthnasol.
9.
Os yw plentyn wedi cael ei leoli y tu allan i'r ardal lle mae fel arfer yn preswylio ynddi, a ddylai achos y plentyn gael ei drosglwyddo i banel.
10.
A oes angen gwneud trefniadau ar gyfer yr amser pan na fydd y plentyn yn derbyn gofal neu pan na ddarperir llety iddo gan yr awdurdod cyfrifol.
11.
A oes angen paratoi cynlluniau i ddod o hyd i deulu dirprwyol parhaol ar gyfer y plentyn.
ATODLEN 3Rheoliad 6
Ystyriaethau iechyd y mae awdurdodau cyfrifol i roi sylw iddynt
1.
Cyflwr iechyd y plentyn gan gynnwys ei iechyd corfforol, geneuol, iechyd emosiynol ac iechyd meddwl.
2.
Hanes iechyd y plentyn gan gynnwys, i'r graddau y mae hynny'n ymarferol, hanes iechyd ei deulu.
3.
Effaith iechyd a hanes iechyd y plentyn ar ei ddatblygiad.
4.
Y trefniadau presennol ar gyfer gofal a thriniaeth feddygol a deintyddol y plentyn ac ar gyfer goruchwylio ei ofal meddygol a deintyddol, ac yn benodol, os cafodd plentyn ei asesu yn blentyn y mae angen gwasanaethau iechyd meddwl arno, a yw'r plentyn yn derbyn y gwasanaethau hynny.
5.
A yw'r awdurdod cyfrifol wedi cydymffurfio â gofynion rheoliad 6 (i'r graddau y mae'n ymwneud ag iechyd y plentyn) a rheoliad 8 o Reoliadau Lleoli Plant (Cymru) 2007[17].
6.
A drosglwyddwyd, pan fo hynny'n briodol, y cofnodion meddygol perthnasol.
7.
Yr angen posibl am ddull priodol o weithredu y dylid ei ddynodi i gynorthwyo newid angenrheidiol mewn gofal, triniaeth neu oruchwyliaeth o'r fath fel y cyfeirir ato ym mharagraff (4).
8.
Yr angen posibl am fesurau ataliol, megis brechu ac imiwneiddio, sgrinio ar gyfer y golwg a'r clyw ac am gyngor a chyfarwyddyd ar iechyd, (gan gynnwys iechyd meddwl a iechyd geneud) ac ar faterion gofal personol a hybu materion iechyd sy'n briodol i anghenion y plentyn.
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Caiff y Rheoliadau hyn eu gwneud o dan ddarpariaethau Deddf Plant 1989 ac maent yn dirymu a disodli Rheoliadau Adolygu Achosion Plant 1991 i'r graddau y mae'r Rheoliadau hynny'n gymwys o ran Cymru. Mae'r Rheoliadau'n darparu ar gyfer adolygu'r trefniadau i leoli plant yng Nghymru sy'n derbyn gofal gan awdurdodau lleol neu sy'n cael eu lletya gan gyrff gwirfoddol neu gan gartrefi plant preifat.
Mae rheoliad 2 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyfrifol adolygu lleoliadau plant.
Mae rheoliad 3 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyfrifol benodi swyddogion adolygu annibynnol i gyflawni'r gwaith adolygu yn unol â'r Rheoliadau hyn.
Mae rheoliad 4 (yn ddarostyngedig i reoliad 12), yn darparu ar gyfer amseru ac amlder yr adolygiadau, ac mae'n caniatáu i'r swyddog adolygu annibynnol gyfarwyddo bod adolygiadau'n cael eu gwneud rhwng ysbeidiau byrrach na'r rhai a bennir yn y rheoliad.
Mae rheoliad 5 yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod cyfrifol osod eu trefniadau ar y dull y cynhelir yr adolygiadau o dan y Rheoliadau hyn, a dwyn y trefniadau hynny i sylw'r bobl a grybwyllir yn rheoliad 8. Os bydd plentyn yn derbyn gofal gan awdurdod cyfrifol, mae'r rheoliad yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod gydgysylltu'r adolygiadau a phenodi swyddog i gynorthwyo yn y broses honno, gan roi sylw i'r materion a nodir yn Atodlen 1 (Yr elfennau sydd i'w cynnwys yn yr adolygiad).
Mae rheoliad 6 yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod cyfrifol pan fydd yn adolygu achos plentyn, roi sylw i'r materion a nodir yn Atodlen 2 (Ystyriaethau y mae awdurdodau cyfrifol i roi sylw iddynt), ac Atodlen 3 (Ystyriaethau iechyd y mae awdurdodau cyfrifol i roi sylw iddynt).
Mae rheoliad 7 yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod cyfrifol drefnu ar gyfer asesiadau iechyd ac adroddiadau ysgrifenedig ynglŷn â phob plentyn sy'n derbyn gofal ganddynt, gan fynd i'r afael â'r materion a nodir yn Atodlen 3, darparu ar gyfer amlder yr asesiadau hynny ac yn ei gwneud yn ofynnol i gael adolygiad, rhwng ysbeidiau penodedig, o'r cynllun ar gyfer iechyd y plentyn yn y dyfodol, a wneir o dan Reoliadau Lleoli Plant (Cymru) 2007.
Mae rheoliad 8 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cyfrifol ymgynghori ag amryw o bobl a bennir yn y rheoliad er mwyn iddynt gymryd rhan yn yr adolygiad, gan gynnwys y plentyn, a hysbysu'r bobl hynny o fanylion canlyniad yr adolygiad ac unrhyw benderfyniad a wnaed yn ei sgil.
Mae rheoliad 9 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cyfrifol wneud trefniadau i weithredu unrhyw benderfyniad a wnaed wrth lunio adolygiad neu o ganlyniad i adolygiad, a hysbysu'r swyddog adolygu annibynnol o unrhyw fethiant i wneud y cyfryw drefniadau, neu o unrhyw newid arwyddocaol mewn amgylchiadau ar ôl yr adolygiad a all effeithio ar y trefniadau.
Mae rheoliad 10 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cyfrifol fonitro'r trefniadau ar gyfer adolygiadau er mwyn sicrhau ei fod yn cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn.
Mae rheoliad 11 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cyfrifol lunio cofnod ysgrifenedig o'r adolygiad ar achos plentyn a'r materion cysylltiedig.
Mae rheoliad 12 yn darparu ar gyfer cymhwyso'r Rheoliadau hyn mewn amgylchiadau pan fo plentyn yn derbyn gofal neu pan ddarperir llety iddo am gyfres o gyfnodau byr (a ddiffinnir yn y rheoliad) ac mae'n darparu ar gyfer amserau ac amlder adolygiadau mewn achosion o'r fath.
Mae rheoliad 13 yn gwneud darpariaethau trosiannol.
Mae rheoliad 14 yn eithrio mathau penodol o leoli plant o ofynion y Rheoliadau hyn.
Mae rheoliad 15 yn dirymu Rheoliadau Adolygu Achosion Plant 1991 o ran Cymru.
Notes:
[1]
1989 p.41. Mae'r pwerau hyn yn arferadwy gan yr Ysgrifennydd Gwladol. O ran Cymru mae'r swyddogaethau wedi cael eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 O.S. 1999/672 a'r cofnod ar gyfer Deddf 1989 Act yn Atodlen 1 iddo a chan adran 145(1) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002. Diwygiwyd adran 26 gan adran 118 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant Act 2002 p.38.back
[2]
Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002 (O.S.2002/327 (Cy.40)). Mewnosodwyd y gofyniad i benodi "link worker" yn rheoliad 11 o Reoliadau Cartrefi Plant (Cymru) gan reoliad 2(c) o Reoliadau Cartrefi Plant (Cymru) (Diwygio) 2007 (2007/311 (Cy.28)).back
[3]
Sefydlwyd gan Orchymyn Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth 2001 O.S. 2002/253 a daeth i rym ar 12 Chwefror 2002.back
[4]
2002 p.38.back
[5]
1976 p.36.back
[6]
1983 (p. 54).back
[7]
Sefydlwyd gan adran 44(1)(b) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 p.14.back
[8]
Deddf Safonau Gofal 2000 (p.14).back
[9]
Rheoliadau Lleoli Plant (Cymru) 2007 (O.S.2007/310 (Cy.27).back
[10]
Dirymwyd Rheoliadau Trefniadau ar gyfer Lleoli Plant (Cyffredinol) 1991 (O.S. 1991/890) ac ailddeddfwyd hwy o ran Cymru ar 1 Gorffennaf 2007 gan Reoliadau Lleoli Plant (Cymru) 2007 O.S. 2007/310 (Cy.27).back
[11]
1991 O.S.1991/895.back
[12]
2000 p.14.back
[13]
1991 O.S.1991/895.back
[14]
1998 p.38.back
[15]
1996 p.56.back
[16]
O.S. 2007/(Cy.27).back
[17]
2007 (O.S. 2007/310 (Cy.27).back
English version
ISBN
0 11 091504 6
| © Crown copyright 2007 |
Prepared
19 February 2007
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070307w.html