BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Lleoli Plant (Cymru) 2007 Rhif 310 (Cy.27)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070310w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2007 Rhif 310 (Cy.27)

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Rheoliadau Lleoli Plant (Cymru) 2007

  Wedi'u gwneud 6 Chwefror 2007 
  Yn dod i rym 1 Gorffennaf 2007 


TREFN Y RHEOLIADAU

1. Enwi a chychwyn
2. Dehongli
3. Cymhwyso'r Rheoliadau
4. Gwneud trefniadau
5. Materion i'w hystyried wrth wneud trefniadau a'u cynnwys
6. Hysbysiad o drefniadau
7. Trefniadau ar gyfer cyswllt
8. Gofal ac asesiadau iechyd.
9. Sefydlu cofnodion
10. Cadwraeth cofnodion a'u cyfrinachedd;
11. Y Gofrestr
12. Cael at gofnodion a'r gofrestr gan swyddogion achosion teuluol ar gyfer Cymru; a swyddogion y gwasanaeth
13. Trefniadau rhwng awdurdodau lleol ac awdurdodau ardal
14. Cymhwyso'r Rheoliadau i leoliadau tymor byr
15. Dirymu Rheoliadau Trefniadau ar gyfer Lleoli Plant (Cyffredinol) 1991

YR ATODLENNI

  1. Materion y mae awdurdodau cyfrifol i'w hystyried

  2. Materion iechyd y mae awdurdodau cyfrifol i'w hystyried

  3. Materion addysgol y mae awdurdodau cyfrifol i'w hystyried

  4. Materion sydd i'w cynnwys mewn trefniadau i letya plant nad ydynt mewn gofal

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 23(2)(a), (f)(ii) a (5), 59(2) a (3), 104(1) a (4) o Ddeddf Plant 1989[
1] a pharagraffau 12, 13 a 14 o Atodlen 2, paragraff 4(1)(a) o Atodlen 4, paragraff 7(1)(a) o Atodlen 5 a pharagraff 10(1)(a) o Atodlen 6 iddi yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi a chychwyn
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Lleoli Plant (Cymru) 2007 a deuant i rym ar 1 Gorffennaf 2007:

Dehongli
    
2. —(1) Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall—

    (2) Rhaid i unrhyw hysbysiad sy'n ofynnol o dan y Rheoliadau hyn gael ei roi'n ysgrifenedig a chaniateir ei anfon drwy'r post.

    (3) Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall —

Cymhwyso'r Rheoliadau
     3. —(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i leoliadau—

    (2) Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i leoli plentyn, ac eithrio gan awdurdod lleol neu gorff gwirfoddol mewn ysgol sy'n gartref plant o fewn ystyr adran 1(6) o Ddeddf Safonau Gofal 2000[8]

    (3) Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i unrhyw leoli plentyn i'w fabwysiadu.

    (4) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Gwneud trefniadau
     4. —(1) Cyn lleoli plentyn rhaid i'r awdurdod cyfrifol, i'r graddau y bo hynny'n rhesymol ymarferol, wneud trefniadau ar unwaith a thros dymor hir ar gyfer y lleoliad hwnnw, ac ar gyfer hybu lles y plentyn sydd i'w leoli.

    (2) Pan na fo'n ymarferol gwneud y trefniadau hynny cyn y lleoli, rhaid i'r awdurdod cyfrifol eu gwneud cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol wedi hynny.

    (3) Yn achos plentyn y mae adran 20(11) o'r Ddeddf yn gymwys iddo rhaid i'r awdurdod cyfrifol, i'r graddau y bo hynny'n rhesymol ymarferol, fod wedi cytuno ar y trefniadau gyda'r plentyn cyn gwneud lleoliad ac os nad yw hynny'n ymarferol cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol wedi hynny.

    (4) Mewn unrhyw achos arall pan fo plentyn yn derbyn gofal neu lety ond nad yw mewn gofal rhaid i'r awdurdod cyfrifol, i'r graddau y mae hynny'n rhesymol ymarferol, fod wedi cytuno ar y trefniadau—

    (5) Rhaid i unrhyw drefniadau a wneir gan awdurdod cyfrifol o dan y rheoliad hwn gael eu cofnodi yn ysgrifenedig.

Materion i'w hystyried wrth wneud trefniadau a'u cynnwys
    
5. —(1) Yr ystyriaethau y mae'r awdurdod cyfrifol i roi sylw iddynt i'r graddau sy'n rhesymol ymarferol wrth wneud y trefniadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 4 ym mhob achos yw'r ystyriaethau cyffredinol a bennir yn Atodlen 1, yr ystyriaethau ynghylch iechyd y plentyn a bennir yn Atodlen 2, yr ystyriaethau ynghylch addysg plentyn a bennir yn Atodlen 3 a'r ystyriaethau ym mharagraff (2) i (5).

    (2) Pan fo awdurdod cyfrifol yn ystyried lleoli plentyn y tu allan i'r ardal y mae'r plentyn yn preswylio ynddi fel arfer rhaid iddo gyfeirio achos y plentyn at banel—

    (3) Pan na chyfeirir achos plentyn y mae paragraff (2) yn gymwys iddo gan yr awdurdod cyfrifol at banel cyn gwneud y lleoliad, rhaid i'r awdurdod cyfrifol ddarparu rhesymau ysgrifenedig, wedi'u hardystio gan uwch swyddog yr awdurdod cyfrifol, dros beidio â gwneud hynny.

    (4) Rhaid i'r awdurdod cyfrifol beidio â lleoli plentyn y tu allan i'r ardal y mae'r plentyn yn preswylio ynddi fel arfer ynddi oni bai ei fod wedi'i fodloni naill ai—

    (5) Rhaid i unrhyw benderfyniad i leoli plentyn y tu allan i'r ardal y mae'n preswylio ynddi fel arfer, gyda rhesymau drosto, gael ei gofnodi'n ysgrifenedig a bod wedi ei ardystio gan uwch swyddog o'r awdurdod cyfrifol.

    (6) Rhaid i gofnod ysgrifenedig a wneir yn unol â pharagraff (3) neu (5) fod ar gael ar ffurf addas—

    (7) Pan fo awdurdod cyfrifol yn gwneud trefniadau i leoli plentyn y tu allan i Gymru rhaid iddo sicrhau, i'r graddau y bo hynny'n rhesymol ymarferol, fod yna gydymffurfiaeth â'r gofynion a fuasai wedi bod yn gymwys o dan y Rheoliadau hyn petai'r plentyn wedi cael ei leoli yng Nghymru.

    (8) Ac eithrio mewn achos gofal, rhaid i'r trefniadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 4 gynnwys, pan fo hynny'n ymarferol, drefniadau ynghylch y materion a bennir yn Atodlen 4.

Hysbysiad o drefniadau
    
6. —(1) Rhaid i'r awdurdod cyfrifol, i'r graddau y bo hynny'n rhesymol ymarferol ac yn gydnaws â lles y plentyn, hysbysu'r personau a ganlyn yn ysgrifenedig o'r trefniadau i leoli plentyn, cyn gwneud y lleoliad—

    (2) Pan nad yw'n ymarferol rhoi'r hysbysiad cyn gwneud y lleoliad, rhaid ei roi cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol wedi hynny a sut bynnag dim hwyrach na 10 niwrnod gwaith o ddyddiad gwneud y lleoliad.

    (3) Rhaid i'r awdurdod cyfrifol anfon copi o'r trefniadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 4 neu o'r rhan honno o'r trefniadau na fydd yn ei farn ef yn rhagfarnu lles y plentyn, gyda'r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) ond yn achos hysbysiad i'r rheini a bennir ym mharagraff (1)(b) i (f) dim ond manylion o'r rhan honno o'r trefniadau sydd yn ei farn ef yn angenrheidiol i'r personau hynny wybod amdanynt y mae'n rhaid iddo'u hanfon.

    (4) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), yn achos hysbysiad i unrhyw un o'r personau neu'r cyrff a bennir ym mharagraff (1)(c) ac (ch), rhaid i'r awdurdod cyfrifol roi i'r person hwnnw neu'r corff hwnnw gopïau o unrhyw adroddiad neu asesiad perthnasol sydd ar gael ar adeg gwneud y lleoliad neu a geir wedi hynny yn ystod y lleoliad.

    (5) Pan fo plentyn yn cael ei leoli mewn ardal wahanol i'r ardal y mae'r plentyn yn preswylio ynddi fel arfer ynddi, pan yn hysbysu'r personau neu'r cyrff hynny a bennir ym mharagraff 1(b) i (ch) o'r trefniadau, rhaid i'r awdurdod cyfrifol ofyn ar yr un pryd i'r personau neu'r cyrff a bennir felly pan fo'n gymwys, geisio trosglwyddiad cofnodion cyn i'r lleoliad gael ei wneud, neu os nad yw hynny'n ymarferol, cyn gynted ag y bo'n ymarferol wedi hynny.

    (6) Rhaid i'r awdurdod cyfrifol barhau i adolygu unrhyw gais a wneir yn unol â pharagraff (5) hyd nes ei fod wedi'i fodloni bod trosglwyddo'r cofnodion—

Trefniadau ar gyfer cyswllt
    
7. Wrth weithredu'r trefniadau y cyfeirir atynt ym mharagraff 6 o Atodlen 4, rhaid i gorff gwirfoddol neu berson sy'n cadw cartref preifat i blant ymdrechu i hybu cyswllt rhwng y plentyn a'r personau a grybwyllir yn y paragraff hwnnw, oni bai bod gwneud hynny yn anymarferol yn rhesymol neu'n anghydnaws â lles y plentyn.

Gofal ac asesiadau iechyd
    
8. —(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (6), rhaid i awdurdod cyfrifol —

    (2) Rhaid i awdurdod cyfrifol sicrhau fod pob plentyn yn ystod y lleoliad yn cael—

    (3) Rhaid i awdurdod cyfrifol sicrhau fod y plentyn—

    (4) Rhaid i awdurdod cyfrifol sicrhau i'r graddau y bo hynny'n ymarferol, fod plentyn yn parhau i fod wedi'i gofrestru gydag ymarferydd cyffredinol ac o dan ofal ymarferydd deintyddol cofrestredig drwy gydol y lleoliad.

    (5) Nid yw paragraff (1) yn gymwys os yw iechyd y plentyn wedi cael ei asesu o fewn y cyfnod o dri mis yn union cyn y lleoliad a bod adroddiad o'r asesiad wedi cael ei baratoi yn unol â'r paragraff hwnnw.

    (6) Nid yw is-baragraffau (a) a (b) o baragraff (1) yn gymwys os yw'r plentyn, ac yntau a'i ddealltwriaeth yn ddigonol iddo wneud hynny, yn gwrthod cydsynio â'r asesiad.

    (7) Os cafodd plentyn ei leoli cyn 1 Gorffennaf 2007, ac y byddai'r rheoliad hwn fel arall yn gymwys iddo, ac na wnaed asesiad o iechyd y plentyn, neu os na chafodd y plentyn ei gofrestru gydag ymarferydd cyffredinol neu ei osod dan ofal ymarferydd deintyddol cofrestredig, mae'r rheoliad hwn yn gymwys megis petai'r lleoliad wedi ei wneud ar 1 Gorffennaf 2007.

Sefydlu cofnodion
    
9. —(1) Rhaid i awdurdod cyfrifol sefydlu, a chynnal cofnod achos ysgrifenedig mewn perthynas â phob plentyn y mae yn ei leoli.

    (2) Rhaid i'r cofnod gynnwys—

Cadwraeth cofnodion a'u cyfrinachedd
    
10. —(1) Rhaid i gofnod achos sy'n ymwneud â phlentyn a leolir gael ei gadw gan yr awdurdod cyfrifol hyd bymthegfed blwyddiant a thrigain dyddiad geni'r plentyn y mae'n ymwneud ag ef neu, os bydd farw'r plentyn cyn cyrraedd 18 mlwydd oed, am gyfnod o 15 mlynedd sy'n dechrau gyda dyddiad ei farwolaeth.

    (2) Cydymffurfir â gofynion paragraff (1) naill ai drwy ddal gafael ar y cofnod ysgrifenedig gwreiddiol, neu ar gopi ohono, neu drwy gadw'r holl wybodaeth o gofnod o'r fath mewn rhyw ffurf arall y gellir cael ato (megis drwy gyfrifiadur).

    (3) Rhaid i awdurdod cyfrifol sicrhau bod cofnodion yn cael eu cadw'n ddiogel a rhaid iddo gymryd pob cam angenrheidiol i sicrhau bod yr wybodaeth a geir ynddynt yn cael ei drin yn gyfrinachol, yn ddarostyngedig yn unig i—

Y Gofrestr
    
11. —(1) Rhaid i awdurdod lleol, mewn perthynas â phob plentyn a leolir yn ardal yr awdurdod hwnnw (ganddo ef ei hun a chan unrhyw awdurdod cyfrifol arall) ac mewn perthynas â phob plentyn a leolir ganddo ef ei hun y tu allan i'w ardal, gofnodi mewn cofrestr sydd i'w chadw at y diben hwnnw—

    (2) Rhaid i gorff gwirfoddol a pherson sy'n cadw cartref preifat i blant, mewn perthynas â phob plentyn a leolir ganddynt, gofnodi mewn cofrestr sydd i'w chadw at y diben hwnnw—

    (3) Dyma'r manylion sydd i'w cofnodi yn y gofrestr yn unol â pharagraffau (1) neu (2)—

    (4) Dyma'r manylion ychwanegol sydd i'w cofnodi yn y gofrestr, os yn briodol yn unol â pharagraffau (1) neu (2)—

    (5) Rhaid dal gafael ar gofnodion mewn cofrestri a gedwir yn unol â'r rheoliad hon nes bydd y plentyn y mae'r cofnod yn ymwneud ag ef yn cyrraedd 25 mlwydd oed neu, os bydd farw'r plentyn cyn cyrraedd 25 mlwydd oed, am gyfnod o 5 mlynedd sy'n dechrau gyda dyddiad ei farwolaeth.

    (6) Cydymffurfir â gofynion paragraff (1) naill ai drwy ddal gafael ar y cofnod ysgrifenedig gwreiddiol, neu ar gopi ohono, neu drwy gadw'r holl wybodaeth o gofnod o'r fath mewn rhyw ffurf arall y gellir cael ato (megis drwy gyfrifiadur).

    (7) Rhaid i awdurdod cyfrifol sicrhau bod cofnodion a gedwir yn unol â'r rheoliad hwn yn cael eu cadw'n ddiogel a rhaid iddo gymryd pob cam angenrheidiol i sicrhau bod yr wybodaeth a geir ynddynt yn cael ei drin fel petai'n gyfrinachol, yn ddarostyngedig yn unig i—

Cael at gofnodion a'r gofrestr gan swyddogion achosion teuluol ar gyfer Cymru a swyddogion y gwasanaeth
    
12. Rhaid i bob corff gwirfoddol, pan nad yw'n gweithredu fel person awdurdodedig, a phob person sy'n cadw cartref preifat i blant ddarparu i swyddog achosion teuluol ar gyfer Cymru neu i swyddog o'r gwasanaeth —

Trefniadau rhwng awdurdodau lleol ac awdurdodau ardal
    
13. Pan fo awdurdod lleol y mae plentyn yn derbyn gofal ganddo yn gwneud trefniadau gydag awdurdod ardal i'r awdurdod ardal gyflawni swyddogaethau mewn perthynas â'r lleoliad ar ran yr awdurdod lleol—

Cymhwyso'r Rheoliadau i leoliadau tymor byr
    
14. —(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo awdurdod cyfrifol wedi trefnu i leoli plentyn mewn cyfres o leoliadau tymor byr yn yr un lle ac mae'r trefniant yn gyfryw ag nad oes unrhyw leoliad unigol i barhau am fwy na 4 wythnos ac nad yw cyfanswm y lleoliadau i fod i barhau am fwy na 120 o ddiwrnodau mewn unrhyw gyfnod o 12 mis.

    (2) Gellir trin unrhyw gyfres o leoliadau tymor byr y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddynt fel lleoliad unigol at ddibenion y Rheoliadau hyn.

Dirymu Rheoliadau Trefniadau Lleoli Plant (Cyffredinol) 1991
    
15. Dirymir Rheoliadau Trefniadau Lleoli Plant (Cyffredinol) 1991[9] o ran Cymru.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[10].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

6 Chwefror 2007



ATODLEN 1
Rheoliad 5(1)


MATERION Y MAE AWDURDODAU CYFRIFOL I'W HYSTYRIED


     1. Yn achos plentyn sydd mewn gofal, a ddylid gwneud cais i ddod a'r gorchymyn gofal i ben.

     2. Pan fo'r awdurdod cyfrifol yn awdurdod lleol a ddylai'r awdurdod geisio newid yn statws cyfreithiol y plentyn.

     3. Trefniadau ar gyfer cyswllt, ac a oes unrhyw angen am newidiadau yn y trefniadau er mwyn hybu cysylltiad â theulu'r plentyn ac eraill i'r graddau y mae hynny'n gydnaws â'i les.

4.Trefniadau'r awdurdod cyfrifol ar unwaith a thros dymor hir ar gyfer y plentyn, trefniadau blaenorol mewn perthynas â'r plentyn, ac a oes angen newid yn y trefniadau hynny ac ystyried dulliau amgen o weithredu.

     5. Pan fo'r awdurdod cyfrifol yn awdurdod lleol, a ddylid penodi ymwelydd annibynnol os na phenodwyd un eisoes.

     6. A oes angen gwneud trefniadau ar gyfer yr adeg pan na fydd y plentyn yn derbyn gofal gan yr awdurdod cyfrifol.

     7. A oes angen gwneud cynlluniau i ganfod teulu amgen parhaol i'r plentyn.



ATODLEN 2
Rheoliad 5(1)


MATERION IECHYD Y MAE AWDURDODAU CYFRIFOL I'W HYSTYRIED


     1. Cyflwr iechyd y plentyn, gan gynnwys ei iechyd corfforol, geneuol, emosiynol a meddyliol.

     2. Hanes iechyd y plentyn gan gynnwys, i'r graddau y mae hynny'n ymarferol, hanes iechyd ei deulu.

     3. Effaith iechyd a hanes iechyd y plentyn ar ei ddatblygiad.

     4. Unrhyw angen sydd gan y plentyn am wasanaethau iechyd meddwl.

     5. Y trefniadau presennol ar gyfer gofal a thriniaeth feddygol a deintyddol y plentyn a'i goruchwyliaeth iechyd gan gyfeirio'n benodol at wasanaethau iechyd meddwl.

     6. Yr angen posibl am ddull priodol o weithredu y dylid ei ddynodi i gynorthwyo newid angenrheidiol mewn gofal, triniaeth neu oruchwyliaeth o'r fath.

     7. Yr angen posibl am fesurau ataliol, megis brechu ac imiwneiddio, sgrinio ar gyfer y golwg a'r clyw ac am gyngor a chyfarwyddyd ar iechyd, gan gynnwys iechyd meddwl a iechyd geneuol ac ar faterion gofal personol ac hybu iechyd sy'n briodol i anghenion y plentyn.

     8. O ystyried yr wybodaeth sydd ar gael mewn perthynas â'r materion a osodir ym mharagraffau 1 i 7 gan gynnwys yr adroddiadau o unrhyw asesiadau, a fydd anghenion iechyd y plentyn yn cael eu diwallu yn y lleoliad arfaethedig.



ATODLEN 3
Rheoliad 5(1)


MATERION ADDYSGOL Y MAE AWDURDODAU CYFRIFOL I'W HYSTYRIED.


     1. Hanes addysgol y plentyn.

     2. Yr angen i sicrhau dilyniant yn addysg y plentyn a hybu cyrhaeddiad addysgol y plentyn.

     3. Yr angen i ddynodi unrhyw angen addysgol a eill fod gan y plentyn ac i weithredu i ddiwallu'r angen hwnnw.

     4. Yr angen i wneud unrhyw asesiad mewn perthynas ag unrhyw angen addysgol arbennig o dan Ddeddf Addysg 1996[
11] ac i ddiwallu unrhyw anghenion o'r fath a ddynodir mewn datganiad anghenion addysgol arbennig a wneir o dan adran 324 o'r Ddeddf honno.

     5. O ystyried yr wybodaeth sydd ar gael ym mharagraffau 1 i 4 o'r Atodlen hon, a fydd anghenion addysgol y plentyn yn cael eu diwallu yn y lleoliad arfaethedig.



ATODLEN 4
Rheoliad 5(8)


MATERION SYDD I'W CYNNWYS MEWN TREFNIADAU I LETYA PLANT NAD YDYNT MEWN GOFAL


     1. Y math o lety sydd i'w ddarparu a'i gyfeiriad ynghyd ag enw unrhyw berson fydd yn gyfrifol am y plentyn yn y llety hwnnw ar ran yr awdurdod cyfrifol.

     2. Manylion unrhyw wasanaethau sydd i'w darparu ar gyfer y plentyn.

     3. Cyfrifoldebau penodol yr awdurdod cyfrifol ac—

     4. Pa ddirprwyo a fu gan y personau y cyfeirir atynt ym mharagraff 3(b) ac (c) o'r Atodlen hon i'r awdurdod cyfrifol o gyfrifoldeb rhiant dros ofal y plentyn o ddydd i ddydd.

     5. Y trefniadau ar gyfer rhoi rhan i'r personau hynny a'r plentyn mewn gwneud penderfyniadau mewn perthynas â'r plentyn o ystyried—

     6. Y trefniadau ar gyfer cyswllt rhwng y plentyn ac—

ac os yn briodol, y rhesymau pam na fyddai cyswllt gydag unrhyw berson o'r fath yn rhesymol ymarferol neu pam y byddai'n anghydnaws â lles y plentyn.

     7. Y trefniadau ar gyfer rhoi hysbysiad o newid mewn trefniadau ar gyfer cyswllt i unrhyw un o'r personau y cyfeirir atynt ym mharagraff 6.

     8. Yn achos plentyn 16 mlwydd oed neu fwy a yw adran 20(11) o'r Ddeddf (lletya plentyn 16 mlwydd oed neu fwy er gwaethaf gwrthwynebiad gan riant) yn gymwys.

     9. Y cyfnod y disgwylir i'r trefniadau barhau a'r camau a ddylai fod yn gymwys i ddwyn y trefniadau i ben, gan gynnwys trefniadau i adsefydlu'r plentyn gyda'r person yr oedd yn byw gydag ef cyn gwneud y trefniadau gwirfoddol, neu gyda rhyw berson addas arall, gan ystyried yn benodol, yn achos awdurdod lleol sydd â phlentyn yn derbyn gofal ganddo, adran 23(6) o'r Ddeddf (dyletswydd i leoli plant pan fo'n ymarferol gyda rhieni etc.) a pharagraff 15 o Atodlen 2 o'r Ddeddf (cynnal cyswllt rhwng y plentyn a'i deulu).



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)


Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Trefniadau ar gyfer Lleoli Plant (Cyffredinol) 1991 o ran Cymru. Mae'r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth ar gyfer y trefniadau i leoli plant gan awdurdodau lleol, cyrff gwirfoddol a phersonau sy'n cadw cartrefi preifat i blant yng Nghymru. Caiff y lleoliadau fod gyda rhieni maeth, mewn cartrefi cymunedol, cartrefi gwirfoddol i blant neu gartrefi preifat i blant ac o dan drefniadau eraill (ond nid mewn cartref a ddarperir yn unol â threfniadau a wneir gan y Cynulliad o dan adran 82(5) o Ddeddf Plant 1989).

Mae rheoliad 4 yn darparu ar gyfer gwneud trefniadau i letya a chynnal plant, i hybu eu lles ac i gynllunio lleoliadau.

Mae rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth ar gyfer y materion i'w hystyried gan awdurdod cyfrifol pan fydd yn gwneud trefniadau i leoli plentyn, gan gynnwys y gweithdrefnau i'w dilyn pan fo lleoliad y tu allan i'r ardal lle y mae plentyn fel arfer yn byw yn cael ei ystyried. Mae'r rheoliad hefyd ym rhoi awdurdod cyfrifol o dan ddyletswydd i wneud cofnod ysgrifenedig o'r rhesymau dros y camau a gymerir ganddo o dan y rheoliad.

Mae rheoliad 6 yn darparu bod yr awdurdod cyfrifol yn hysbysu pobl benodol o'r trefniadau ar gyfer lleoli plentyn, ac mae'n pennu cyfnod o amser y mae'n rhaid gwneud yr hysbysiad oddi mewn iddo, ynghyd â gofyniad bod yn rhaid i'r awdurdod cyfrifol, pan fo hynny'n briodol, ofyn i gyrff penodol i roi'r gwaith o drosglwyddo cofnodion perthnasol ar droed.

Mae rheoliad 7 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff gwirfoddol a'r personau hynny sy'n cadw cartrefi preifat i blant hybu cyswllt rhwng plentyn a phobl benodol.

Mae rheoliad 8 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cyfrifol wneud trefniadau ar gyfer asesu iechyd plentyn, ar gyfer darparu gwasanaethau gofal iechyd yn ystod cyfnod y lleoliad ac ar gyfer cofrestru'r plentyn gyda meddyg teulu a deintydd.

Mae rheoliad 9 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cyfrifol gadw cofnod achos ysgrifenedig ar gyfer pob plentyn y mae'n ei leoli, ac yn darparu ar gyfer y math o wybodaeth i'w chadw yn y cofnod hwnnw.

Mae rheoliad 10 yn darparu ar gyfer faint o amser y mae'n rhaid cadw cofnod achos ac ar gyfer diogelwch a chyfrinachedd y cofnodion hynny.

Mae rheoliad 11 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol, corff gwirfoddol a pherson sy'n cadw cartref preifat i blant, gadw cofrestr yn cynnwys manylion yr holl blant a leolir ganddynt.

Mae rheoliad 12 yn ei gwneud yn ofynnol i gorff gwirfoddol neu berson sy'n cadw cartref preifat i blant, ddarparu bod swyddogion achosion teuluol ar gyfer Cymru neu swyddogion y gwasanaeth yn cael gweld cofnodion.

Mae rheoliad 13 yn darparu ar gyfer y trefniadau sydd i'w gwneud rhwng awdurdod lleol ac awdurdod ardal, pan fydd awdurdod lleol yn trefnu i'r awdurdod ardal gyflawni rhai o'i swyddogaethau mewn cysylltiad â phlentyn sydd yn derbyn gofal gan yr awdurdod lleol.

Mae rheoliad 14 yn darparu ar gyfer cymhwyso'r Rheoliadau i leoliadau tymor byr.

Mae rheoliad 15 yn dirymu Rheoliadau Trefniadau Lleoli Plant (Cyffredinol) 1991 o ran Cymru.


Notes:

[1] 1989 p.41. Mae'r pwerau hyn yn arferadwy gan yr Ysgrifennydd Gwladol. O ran Cymru, trosglwyddir y swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), a'r cofnod ar gyfer Deddf 1989 yn Atodlen 1 iddo ac adran 145 (1) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002.back

[2] Sefydlwyd gan Orchymyn Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth 2001 O.S. 2002/253 a daeth i rym ar 12 Chwefror 2002.back

[3] 2002 p.38.back

[4] 1976 p.36.back

[5] 1977 p.49back

[6] 1977 p.46back

[7] 1983 p.54.back

[8] 2000 p.14.back

[9] 1991 O.S. 1991/890.back

[10] 1998 p.38.back

[11] 1996 p.56back



English version



ISBN 0 11 091503 8


 © Crown copyright 2007

Prepared 19 February 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070310w.html