BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau'r Byrddau Iechyd Lleol (Swyddogaethau) (Cymru) (Diwygio) 2007 Rhif 315 (Cy.29)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070315w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2007 Rhif 315 (Cy.29)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Byrddau Iechyd Lleol (Swyddogaethau) (Cymru) (Diwygio) 2007

  Wedi'u gwneud 6 Chwefror 2007 
  Yn dod i rym 1 Gorffennaf 2007 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16BB a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[1] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi, cychwyn, rhychwantu a dehongli
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw "Rheoliadau'r Byrddau Iechyd Lleol (Swyddogaethau) (Cymru) (Diwygio) 2007".

    (2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Gorffennaf 2007.

    (3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

    (4) Yn y Rheoliadau hyn ystyr "y Prif Reoliadau" yw Rheoliadau'r Byrddau Iechyd Lleol (Swyddogaethau) (Cymru) 2003 [
2].

Diwygio'r Prif Reoliadau
     2. —(1) Yn rheoliad 2(1) o'r Prif Reoliadau mewnosoder y diffiniadau canlynol yn y lle priodol yn ôl trefn yr wyddor—

    (2) Yn rheoliad 2(2) o'r Prif Reoliadau, ar ôl y geiriau "at ddibenion y Rheoliadau hyn," mewnosoder y geiriau "ac yn ddarostyngedig i reoliad 2A,".

    (3) Ar ôl rheoliad 2 o'r Prif Reoliadau, mewnosoder y rheoliad a ganlyn—



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[10]


D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

6 Chwefror 2007



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Byrddau Iechyd Lleol (Swyddogaethau) (Cymru) 2003 er mwyn ymestyn y categori o bobl y mae'r Bwrdd Iechyd Lleol ("BILl") yn gyfrifol amdano fel comisiynydd gwasanaethau (ac o'r herwydd yn gyllidwr gwasanaethau hefyd).

Effaith y diwygiadau i'r Prif Reoliadau yw cynnal cyfrifoldeb Bwrdd Iechyd Lleol dros blant mewn categorïau penodol sy'n dod o'r ardal ond sydd wedyn yn cael eu lleoli y tu allan i'r ardal ac a fyddent fel arall yn dod yn gyfrifoldeb i BILl arall yn rhinwedd y ffaith eu bod "yn preswylio fel arfer" yn yr ardal honno.

Y plant sydd o dan sylw yw plant sy'n derbyn gofal gan awdurdodau lleol, y rhai sy'n gadael gofal awdurdod lleol, plant sy'n preswylio mewn ysgol a enwir yn eu datganiad o achos anghenion addysgol arbennig a phlant sydd ag anghenion iechyd sy'n parhau ac sydd, am unrhyw un neu rai o'r rhesymau hynny, yn cael eu lleoli y tu allan i'w hardal.


Notes:

[1] 1977 p.49. Mewnosodir adran 16BB gan adran 6(1) o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002.back

[2] O.S. 2003/150 (Cy. 20) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2003/816 (Cy. 101).back

[3] 1989 p.41.back

[4] Ailddeddfir adran 38(7) o'r Ddeddf fel adran 71(10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.back

[5] Ailddeddfir adran 41(2) o'r Ddeddf fel adran 80(8) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.back

[6] Ailddeddfir adran 16CA o'r Ddeddf fel adran 56 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.back

[7] Ailddeddfir adran 16CC o'r Ddeddf fel adran 41 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.back

[8] Diffinnir "awdurdod lleol" yn adran 128 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 p. 49.back

[9] 1996 p. 56.back

[10] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091501 1


 © Crown copyright 2007

Prepared 15 February 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070315w.html