BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Safonau Ansawdd Aer (Cymru) 2007 Rhif 717 (Cy.63) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070717w.html |
[New search] [Help]
Wedi'u gwneud | 6 Mawrth 2007 | ||
Yn dod I rym | 15 Mawrth 2007 |
1. | Enwi, cychwyn a chymhwyso |
2. | Diffiniadau |
3. | Dynodi Cynulliad Cenedlaethol Cymru |
4. | Rhagarweiniol a chymhwyso |
5. | Parthau a chrynoadau |
6. | Safonau ansawdd aer |
7. | Mesurau cyrhaeddiad cyffredinol |
8. | Cynlluniau gwella |
9. | Mesurau gwella eraill |
10. | Cynnal safonau ansawdd aer |
11. | Cynlluniau gweithredu |
12. | Dyletswydd i asesu ansawdd aer |
13. | Dulliau asesu |
14. | Mesuriadau sefydlog |
15. | Pwyntiau samplu |
16. | Gofynion asesu eraill |
17. | Mesuriadau PM2.5 |
18. | Mesuriadau rhagsylweddion osôn |
19. | Monitro hydrocarbonau aromatig polysyclig |
20. | Monitro'r cefndir |
21. | Gofynion cyffredinol |
22. | Gwybodaeth ynglyn â pharthau |
23. | Gwybodaeth ynglyn â chrynodiadau |
24. | Gwybodaeth ynglyn â thorri trothwy rhybuddio neu drothwy gwybodaeth |
25. | Gwybodaeth ynglyn â thorri safonau ansawdd aer |
26. | Adroddiad blynyddol osôn |
27. | Gwybodaeth ynglyn â chynlluniau gweithredu a gwella |
28. | Cyfranogiad y cyhoedd mewn cynlluniau gwella |
29. | Casglu gwybodaeth etc. |
30. | Dirymiadau |
ATODLEN 1 — | Safonau ansawdd aer |
RHAN 1 — | Gwerthoedd terfyn ar gyfer llygryddion Grŵp A |
RHAN 2 — | Ffiniau goddefiant ar gyfer bensen a nitrogen deuocsid |
RHAN 3 — | Gwerthoedd targed ar gyfer llygryddion Grŵp B |
RHAN 4 — | Gwerthoedd targed ac amcanion hirdymor ar gyfer osôn |
ATODLEN 2 — | Gwybodaeth i'w chynnwys mewn Cynllun Gwella |
ATODLEN 3 — | Trothwyon rhybuddio a gwybodaeth |
RHAN 1 — | Trothwyon rhybuddio ar gyfer nitrogen deuocsid a sylffwr deuocsid |
RHAN 2 — | Trothwyon rhybuddio a gwybodaeth ar gyfer osôn |
ATODLEN 4 — | Trothwyon asesu |
RHAN 1 — | Trothwyon asesu ar gyfer llygryddion Grŵp A |
RHAN 2 — | Trothwyon asesu ar gyfer llygryddion Grŵp B |
RHAN 3 — | Penderfynu pan fydd gormodiant uwchlaw'r trothwyon asesu |
ATODLEN 5 — | Lleoli pwyntiau samplu |
RHAN 1 — | Lleoli ar y raddfa facro ar gyfer llygryddion Grŵp A |
RHAN 2 — | Lleoli ar y raddfa facro ar gyfer llygryddion Grŵp B |
RHAN 3 — | Lleoli ar y raddfa facro ar gyfer osôn |
RHAN 4 — | Lleoli ar y raddfa facro |
RHAN 5 — | Dogfennaeth ac adolygu dewis safle |
ATODLEN 6 — | Isafsymiau'r pwyntiau samplu |
RHAN 1 — | Llygryddion Grŵp A: gwerthoedd terfyn yn seiliedig ar iechyd pobl a throthwyon rhybuddio |
RHAN 2 — | Llygryddion Grŵp A: gwerthoedd terfyn ar gyfer diogelu ecosystemau neu lystyfiant |
RHAN 3 — | Llygryddion Grŵp B |
RHAN 4 — | Osôn |
RHAN 5 — | Osôn lleiafswm y pwyntiau samplu ar gyfer mesuriadau sefydlog y parthau sy'n cyrraedd yr amcanion hirdymor |
ATODLEN 7 — | Gofynion ar gyfer dulliau asesu ac eithrio mesuriadau sefydlog |
RHAN 1 — | Llygryddion Grŵp A |
RHAN 2 — | Llygryddion Grŵp B |
RHAN 3 — | Osôn a rhagsylweddion osôn |
ATODLEN 8 — | Amcanion ansawdd data |
RHAN 1 — | Llygryddion Grŵp A a PM2.5 |
RHAN 2 — | Llygryddion Grŵp B, hydrocarbonau aromatig polysyclig a mercwri nwyol llwyr |
RHAN 3 — | Osôn a nitrogen deuocsid yn cael eu hasesu mewn pwyntiau samplu osôn |
ATODLEN 9 — | Dulliau cyfeirio |
RHAN 1 — | Llygryddion Grŵp A |
RHAN 2 — | Llygryddion Grŵp B mewn aer amgylchynol |
RHAN 3 — | Osôn |
RHAN 4 — | Dulliau cyfeirio eraill |
ATODLEN 10 — | Sylweddau rhagsylweddyn osôn |
ATODLEN 11 — | Gwybodaeth i'r cyhoedd pan fydd gormodiant uwchlaw'r trothwyon rhybuddio neu wybodaeth |
RHAN 1 — | Trothwyon rhybuddio ar gyfer nitrogen deuocsid a sylffwr deuocsid |
RHAN 2 — | Trothwyon rhybuddio a gwybodaeth ar gyfer osôn |
ATODLEN 12 — | Casglu gwybodaeth a meini prawf ar gyfer cydgasglu data a chyfrifo paramedrau ystadegol |
RHAN 1 — | Gwybodaeth i'w chyflwyno i'r Comisiwn |
RHAN 2 — | Meini prawf ar gyfer agregu data a chyfrifo paramedrau ystadegol |
ATODLEN 13 — | Dirymiadau |
ac yn y ddau achos, mae cyfeiriad at grynodiad yn gyfeiriad at grynodiad a aseswyd gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â'r Rheoliadau hyn;
(2) Mae i'r geiriau a dywediadau eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yr ystyr a roddir iddynt yn y Cyfarwyddebau canlynol —
Dynodi Cynulliad Cenedlaethol Cymru
3.
Mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi ei ddynodi fel yr awdurdod cymwys at ddibenion erthygl 3 (gweithredu a chyfrifoldebau) o Gyfarwyddeb y Cyngor 96/62/EC.
(2) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod yr holl fesurau a gymerir o dan Pennod 2 neu 3 o'r Rhan hon—
Parthau a chrynoadau
5.
—(1) Mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, at ddibenion y Rhan hon, rannu tiriogaeth Cymru yn barthau.
(2) Bydd parth yn cael ei ddosbarthu fel crynhoad at ddibenion y Rhan hon lle—
(3) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol sefydlu gwahanol barthau ar gyfer gwahanol lygryddion lle y mae'n barnu bod hynny'n briodol.
Safonau ansawdd aer
6.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) i (4), mae'n ofynnol i'r safonau ansawdd aer canlynol a nodwyd yn Atodlen 1 gael eu cyrraedd ym mhob parth—
(2) Y dyddiad cyrhaeddiad ar gyfer gwerth terfyn neu darged yw—
(3) Mae'r amcanion hirdymor i'w cyflawni yn yr hirdymor, i'r graddau y gellir cyflawni'r amcanion hyn trwy'r mesurau sy'n ofynnol gan reoliad 7(3)(b).
(4) Yn achos bensen a nitrogen deuocsid, mae'r ffiniau goddefaint a nodwyd yn Rhan 2 o Atodlen 1 yn gymwys yn y cyfnodau a bennir.
(3) Y mesurau angenrheidiol mewn perthynas ag osôn yw'r mesurau y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn barnu eu bod —
Cynlluniau gwella
8.
—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â phob parth lle—
(2) Pan fo paragraff (1)(a) yn gymwys, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol baratoi a gweithredu cynllun gwella mewn perthynas â'r llygrydd dan sylw neu, os cyflawnir yr amod a bennir o ran y ddau llygrydd, mewn perthynas â'r ddau lygrydd hynny.
(3) Pan fo paragraff (1)(b) yn gymwys, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol baratoi a gweithredu cynllun gwella mewn perthynas ag osôn oni bai ei fod yn barnu na ellid cyrraedd y gwerth targed trwy fesurau cymesur.
(4) Rhaid i gynllun gwella gynnwys yr wybodaeth a nodwyd yn Atodlen 2.
(5) Pan y bo'n ofynnol paratoi a gweithredu cynllun gwella o dan baragraffau (2) a (3), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, lle y mae'n barnu bod hynny'n briodol, baratoi a gweithredu cynllun gwella integredig sy'n cwmpasu pob un o'r llygryddion perthnasol.
(6) At ddibenion y rheoliad hwn, caiff cynllun gwella gynnwys naill ai cynllun neu raglen y mae'n rhaid iddynt, ym mhob achos, anelu at gyrraedd y gwerth terfyn neu darged yn y parth perthnasol erbyn y dyddiad cyrhaeddiad ar gyfer y llygrydd dan sylw.
Mesurau gwella eraill
9.
—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i bob parth lle y mae crynodiadau o—
(2) Pan fo paragraff (1)(a) yn gymwys, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol—
(3) Pan fo paragraff (1)(b) yn gymwys, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol baratoi a gweithredu mesurau y mae'n ystyried eu bod yn rhai cost effeithiol gyda'r bwriad o gyrraedd yr amcan hirdymor.
(4) Mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod y mesurau sy'n ofynnol ym mharagraff (3) yn gyson ag unrhyw gynllun gwella a baratowyd ar gyfer osôn o dan reoliad 8(3).
(2) Pan fo is-baragraff (a) neu (b) o baragraff (1) yn gymwys, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, mewn perthynas â phob llygrydd sy'n bodloni'r amodau a nodwyd yn yr is-baragraffau hynny, sicrhau cydymffurfedd â'r gwerthoedd terfyn neu darged perthnasol ac ymdrechu i gadw'r crynodiad isaf y mae'n barnu sy'n gydnaws â datblygu cynaliadwy.
(3) Pan fo paragraff (1)(c) yn gymwys, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol—
Cynlluniau gweithredu
11.
—(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â,—
(2) Rhaid i'r cynlluniau gweithredu ddangos y mesurau sydd i'w cymryd mewn unrhyw barth yn y tymor byr i gyflawni'r amcanion a nodwyd ym mharagraff (3) os bydd amgylchiadau lle y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn barnu y bydd risg of fynd yn uwch nag unrhyw un o'r canlynol—
(3) Amcanion pob cynllun gweithredu yw—
(4) Mewn perthynas ag osôn, mae'r ymrwymiad a osodir gan baragraff (1)(a) dim ond yn gymwys, i'r graddau y rhoddir ystyriaeth i amodau daearyddol, meteorolegol ac economaidd, os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn barnu bod posibilrwydd sylweddol i'r amodau a nodwyd ym mharagraff (3) gael eu cyflawni.
(5) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, pan fo'n ystyried bod y risgiau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (2) yn codi o fewn unrhyw barth, weithredu'r mesurau a nodwyd yn y cynlluniau gweithredu perthnasol o fewn y parth dan sylw i'r graddau y mae'n eu barnu yn angenrheidiol o fewn amgylchiadau'r achos pendodol.
(6) Mae Atodlen 3 yn effeithiol wrth ragnodi—
mae'n rhaid asesu trwy fesuriadau sefydlog.
(3) Mewn achosion lle nad yw paragraff (2) yn gymwys ac, yn achos nitrogen deuocsid, yn ddarostyngedig i reoliad 15(7), caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddefnyddio'r dulliau asesu canlynol mewn perthynas â llygryddion Grŵp A a llygryddion Grwp B—
ar yr amod bod crynodiadau o'r llygrydd perthnasol, dros gyfnod cynrychioladol, wedi bod yn is na'r trothwy asesu uchaf; neu
(b) defnyddio dulliau modelu neu amcangyfrif gwrthrychol yn unig, ar yr amod—
(4) Ni chaiff y Cynulliad Cenedlaethol ddefnyddio'r dulliau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (3)(b) i asesu nitrogen deuocsid na sylffwr deuocsid o fewn crynhoad.
(5) At ddibenion paragraffau (2) a (3)—
(6) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol adolygu'r dull y caiff llygryddion Grŵp A a llygryddion Grŵp B eu hasesu ym mhob parth—
(7) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol asesu crynodiadau osôn trwy fesuriadau parhaus sefydlog os yw'r crynodiadau, yn y parth perthnasol, wedi bod yn uwch na'r amcan hirdymor yn ystod unrhyw un o fesuriadau y pum mlynedd blaenorol.
(8) Mewn achosion lle bo llai na phum mlynedd o ddata ar gael, caiff y Cynulliad Cenedlaethol asesu crynodiadau osôn trwy gyfuno'r canlynol —
Mesuriadau sefydlog
14.
—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys mewn achosion lle, mewn perthynas ag un neu fwy o lygryddion, caiff parth ei asesu yn unol â'r dulliau y cyfeirir atynt yn rheoliad 13(2), (3)(a) neu (7).
(2) Pan gaiff parth ei asesu yn unol â rheoliad 13(2) neu (3)(a), rhaid i fesuriadau o'r llygrydd perthnasol, sydd yn ddarostyngedig yn achos nitrogen deuocsid i'r gofynion a osodir gan reoliad 15(7) mewn perthynas â'r asesiadau sy'n ofynnol gan y rheoliad hwnnw, gael eu cymryd mewn safleoedd sefydlog naill ai'n barhaus neu drwy samplu ar hap ac mae'n rhaid i nifer y mesuriadau fod yn ddigon mawr i alluogi pennu crynodiadau o'r llygrydd yn briodol.
(3) Pan fo parth yn cael ei asesu yn unol â rheoliad 13(2), caiff y Cynulliad Cenedlaethol ychwanegu gwybodaeth o bwyntiau samplu ar gyfer mesuriadau sefydlog gyda gwybodaeth o ddulliau modelu lle y mae'n barnu y bydd hyn yn darparu lefel ddigonol o wybodaeth ynglyn ag ansawdd aer amgylchynol.
(4) Pan fo parth yn cael ei asesu yn unol â rheoliad 13(7), caiff y Cynulliad Cenedlaethol ychwanegu gwybodaeth o bwyntiau samplu gyda gwybodaeth o fesuriadau dangosol neu fodelu ar yr amod y cydymffurfir â'r amodau a nodwyd yn rheoliad 15(6).
Pwyntiau samplu
15.
—(1) Pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol yn asesu crynodiadau llygrydd o fewn parth yn unol â'r dulliau y cyfeirir atynt yn rheoliad 13(2), (3)(a) neu (7) mae'n rhaid iddo sicrhau, mewn perthynas â phob llygrydd —
(2) Mewn achosion lle caiff parth ei asesu yn unol â—
pennir isafswm nifer y pwyntiau samplu yn y Rhannau perthnasol o Atodlen 6.
(3) Pan gaiff parth ei asesu yn unol â—
rhaid i isafswm nifer y pwyntiau samplu sy'n ofynnol ar gyfer pob llygrydd fod yn nifer y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn barnu ei fod yn ddigonol, a'i ystyried ynghyd â dosbarthiad y technegau eraill o ran eu lleoliad, ar gyfer darganfod crynodiadau y llygrydd perthnasol.
(4) Pan fo parth yn cael ei asesu yn unol â rheoliad 13(7), caiff y Cynulliad Cenedlaethol leihau nifer y pwyntiau samplu sy'n ofynnol o dan baragraff (2)(b) ar yr amod bod yr amodau a osodir ym mharagraffau (5) neu (6) yn cael eu bodloni.
(5) Mewn achos parthau lle—
caiff y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu ar nifer y pwyntiau samplu yn unol â Rhan 5 o Atodlen 6.
(6) Yn achos parthau lle y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn ychwanegu at yr wybodaeth a geir o bwyntiau samplu ar gyfer mesuriadau sefydlog trwy ddefnyddio gwybodaeth o fesuriadau dangosol neu fodelu yn unol â rheoliad 14(4), caiff leihau nifer y pwyntiau samplu ar yr amod—
(b) bod nifer y pwyntiau samplu sydd i'w gosod a dosbarthiad y technegau eraill o ran eu lleoliad yn ddigon i ddarganfod y crynodiad osôn ac er mwyn crynhoi canlyniadau'r asesu fel a nodir yn Rhan 3 o Atodlen 7;
(c) bod cyfanswm nifer y pwyntiau samplu ym mhob parth yn—
p'un bynnag sy'n cynhyrchu'r nifer mwyaf o bwyntiau samplu;
(ch) bod pob parth yn cynnwys o leiaf un pwynt samplu; a
(d) bod crynodiadau o nitrogen deuocsid yn cael eu hasesu ym mhob un o'r pwyntiau samplu sy'n weddill ac eithrio mewn gorsafoedd cefndir gwledig, yn unol â pharagraff (7).
(7) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau—
a
(b) bod y mesuriad o nitrogen deuocsid sy'n cael ei gymryd yn y pwyntiau samplu hyn yn barhaus, ac eithrio mewn gorsafoedd cefndir gwledig lle gellir defnyddio dulliau mesur eraill.
Gofynion asesu eraill
16.
—(1) Pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol yn ymgymryd ag asesiadau mewn perthynas â —
rhaid iddo gydymffurfio â gofynion y Rhan berthnasol o Atodlen 7 wrth ddefnyddio'r dulliau eraill hynny.
(2) Wrth wneud unrhyw asesiad o dan y Pennod hwn, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi sylw i'r amcanion ansawdd data perthnasol sydd wedi eu nodi yn Atodlen 8.
(3) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gynnal asesiadau yn unol â —
(4) O ran bensen, carbon monocsid, nitrogen deuocsid, ocsidau nitrogen, osôn a sylffwr deuocsid, rhaid i fesuriadau cyfaint gael eu safon ar dymheredd o 293K a phwysedd o 101.3 kPa.
(c) defnyddio dulliau cyfeirio ar gyfer samplu a mesur y mae'n barnu sy'n addas; ac
(ch) rhoi sylw i'r amcanion ansawdd data a nodwyd yn Rhan 1 o Atodlen 8.
Mesuriadau rhagsylweddion osôn
18.
—(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â pharagraff (2), osod a gweithredu un neu, os yw'n barnu bod hynny'n angenrheidiol, rhagor o orsafoedd mesur i gyflenwi data ynglyn â chrynodiadau rhagsylweddion osôn sydd wedi eu nodi yn Atodlen 10.
(2) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi sylw i Atodlen 10 wrth ddewis nifer a safleoedd gorsafoedd mesur a'u gweithrediad.
Monitro hydrocarbonau aromatig polysyclig
19.
—(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â pharagraffau (3) i (6), fonitro crynodiadau o—
(2) Dyma'r hydrocarbonau aromatig polysyclig sy'n ofynnol iddynt gael eu hasesu gan baragraff (1)—
(3) Rhaid i'r monitro sy'n ofynnol gan baragraff (1) gael ei gynnal mewn safleoedd monitro a ddynodwyd at y diben hwn gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â pharagraffau (4) a (5).
(4) Rhaid i bob safle monitro—
(5) Bydd cyfanswm nifer y safleoedd monitro a'u detholiad cyffredinol yr hyn y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn ei farnu sy'n angenrheidiol er mwyn sicrhau bod y monitro a wneir yn darparu gwybodaeth ddigonol i adnabod tueddiadau hirdymor ac amrywiad daearyddol crynodiadau.
(6) Mae rheoliad 16(2) a (3) yn gymwys i'r monitro sy'n ofynnol gan y rheoliad hwn.
(7) At ddiben paragraff (1)(b), ystyr "hydrocarbonau aromatig polysyclig" ("polycyclic aromatic hydrocarbons") yw cyfansoddion organig, heblaw benso(a)pyren, sy'n cynnwys o leiaf dau gylch aromatig ymdoddedig a wnaed yn gyfan gwbl o garbon a hydrogen.
Monitro cefndir
20.
—(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â pharagraffau (3) a (4), osod a gweithredu pwyntiau samplu cefndir i ddarparu'r mesuriadau sy'n ofynnol gan baragraff (2).
(2) Mae'r mesuriadau sy'n ofynnol gan y rheoliad hwn yn fesuriadau dangosol o—
a
(b) llwyr ddyddodiad o—
(3) At ddibenion paragraffau (1) a (2), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau—
(4) Mae rheoliad 16(2) a (3) yn gymwys i'r mesuriadau sy'n ofynnol gan y rheoliad hwn.
(5) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol—
(6) At ddibenion paragraff (2)(a)(iii), ystyr "mercwri nwyol llwyr" ("total gaseous mercury") yw—
(2) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod yr wybodaeth y mae'r Rhan hon yn berthnasol iddi—
(3) At ddibenion y Rhan hon, ystyr "y cyhoedd" yw personau naturiol neu gyfreithiol, yn cynnwys cyrff gofal iechyd a sefydliadau sy'n cynrychioli buddiannau poblogaethau sensitif, defnyddwyr a'r amgylchedd ac y mae ganddynt fuddiant mewn ansawdd aer amgylchynol.
Gwybodaeth ynglyn â pharthau
22.
Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol drefny bod y canlynol ar gael—
(c) tan 1 Ionawr 2010, rhestr o barthau lle y mae crynodiadau o bensen neu nitrogen deuocsid naill ai—
gan nodi, ym mhob achos, y llygrydd a'r gwerthoedd terfyn perthnasol; ac
(ch) rhestr yn dosbarthu pob parth mewn perthynas â'r dull y caiff crynodiad o bob llygrydd ei asesu yn y parth hwnnw yn unol â rheoliad 13.
Gwybodaeth am grynodiadau
23.
—(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â pharagraffau (2) a (3), sicrhau bod gwybodaeth ar gael ynglyn â—
(2) Rhaid i'r wybodaeth y mae paragraff (1)(a) yn ei gwneud hi'n ofynnol i fod ar gael, ac, i'r graddau ei bod yn berthnasol i PM2.5, paragraff(1)(d)(i), gael ei diweddaru mewn perthynas â—
(b) carbon monocsid, fel yr uchafswm cyfartaledd cyfredol dros wyth awr—
(c) plwm, bob tri mis; ac
(ch) nitrogen deuocsid, sylffwr deuocsid, PM2.5 a PM10—
(3) Rhaid i'r wybodaeth y mae paragraff (1)(c) yn ei gwneud hi'n ofynnol i fod ar gael, gael ei diweddaru—
Gwybodaeth am dorri trothwy rhybuddio neu drothwy gwybodaeth
24.
—(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y bo modd ym mhob achos, ddarparu'r wybodaeth sy'n ofynnol gan baragraffau (2) i (4) lle—
neu
(b) rhagwelir y bydd gormodiant uwchlaw'r trothwy rhybuddio neu'r trothwy gwybodaeth ar gyfer osôn.
(2) Pan fo paragraff (1)(a)(i) yn gymwys, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol o leiaf ddarparu'r wybodaeth fel a nodir yn Rhan 1 o Atodlen 11.
(3) Pan fo paragraff (1)(a)(ii) yn gymwys, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol o leiaf ddarparu'r wybodaeth fel a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 11.
(4) Pan fo paragraff (1)(b) yn gymwys, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ddarparu'r wybodaeth sy'n ofynnol gan baragraff (3), i'r graddau y bo hynny'n ymarferol.
(5) Pan fo—
rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gyfuno'r wybodaeth mewn perthynas â'r ddau is-baragraff hynny y mae'n ofynnol i wneud hynny gan baragraffau (2) i (4) mewn fformat cynhwysfawr.
(6) Heb ragfarnu cyffredinolrwydd yr ymrwymiad a osodir gan y rheoliad hwn i ddarparu gwybodaeth i'r cyhoedd, mewn achosion lle mae gormodiant yn uwch na'r trothwy rhybuddio ar gyfer osôn neu rhagwelir y bydd uwchlaw, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau y darperir gwybodaeth amserol i bob sefydliad gofal iechyd perthnasol.
Gwybodaeth am dorri safonau ansawdd aer
25.
—(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ddarparu'r wybodaeth sy'n ofynnol gan baragraffau (2) i (5) mewn perthynas â phob un o'r llygryddion y mae'r paragraffau hynny yn berthnasol iddynt.
(2) Ar gyfer llygryddion Grŵp A, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol—
dros y cyfnodau cyfartaleddu perthnasol sydd wedi eu nodi yn Rhan 1 o Atodlen 1 a Rhan 1 o Atodlen 3 yn y drefn honno; a
(b) darparu asesiad byr o'r digwyddiadau hyn a'u heffaith ar iechyd.
(3) Ar gyfer llygryddion Grŵp B, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol—
(4) Ar gyfer osôn, mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol—
a
(b) darparu asesiad byr o bob digwyddiad, gan gynnwys ei faint a'i effaith ar iechyd.
(5) Mae'n rhaid i'r wybodaeth y mae paragraffau (2) a (4) yn ei gwneud hi'n ofynnol eu darparu, gael ei diweddaru yn unol â'r amserlen a bennwyd ar gyfer y llygryddion hynny gan reoliad 23(2) a (3).
Adroddiad blynyddol osôn
26.
—(1) Mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gynhyrchu adroddiad blynyddol mewn perthynas ag osôn yn unol â pharagraffau (2) a (3).
(2) Mae'n rhaid i'r adroddiad blynyddol gynnwys o leiaf yr wybodaeth ganlynol—
(b) ar gyfer llystyfiant, dynodiad am bob achlysur pan bu gormodiant uwchlaw—
(c) mewn perthynas â'r ddau is-baragraff (a) a (b), asesiad byr o effeithiau pob digwyddiad o'r fath.
(3) Caiff yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (2)(b) gynnwys, lle bo'n briodol,—
Gwybodaeth am gynlluniau gweithredu a gwella
27.
—(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol drefnu bod y canlynol ar gael, a darparu gwybodaeth am weithredu, pob cynllun gweithredu a chynllun gwella.
(2) Pan fo rheoliad 11(4) yn gymwys, mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod canlyniadau'r archwiliadau a wnaed yng nghyd-destun ei ystyriaeth o dan y rheoliad hwnnw ar gael, p'un bynnag os yw wedi paratoi cynllun gweithredu o dan rheoliad 11(1)(a) neu beidio.
Cyfranogiad y cyhoedd mewn cynlluniau gwella
28.
—(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ymgynghori â'r cyhoedd lle y mae'n bwriadu paratoi, addasu neu adolygu cynllun gwella.
(2) Pan fo paragraff (1) yn gymwys, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol—
(3) Pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol, ar ôl ymgynghori, yn dod i benderfyniad ynglyn â'i gynnig, rhaid iddo roi gwybod i'r cyhoedd a darparu gwybodaeth am y rhesymau a'r ystyriaeth y mae wedi seilio ei benderfyniad.
Cyfnod cyfartaleddu | Gwerth terfyn | Dyddiad cyflawni | |
Gwerth terfyn ar gyfer diogelu iechyd pobl | Blwyddyn galendr | 5 µg/m³ | 1 Ionawr 2010 |
Cyfnod cyfartaleddu | Gwerth terfyn | |
Gwerth terfyn ar gyfer diogelu iechyd pobl | Y cymedr 8 awr dyddiol uchaf | 10 mg/m³ |
Cyfnod cyfartaleddu | Gwerth terfyn | |
Gwerth terfyn blynyddol ar gyfer diogelu iechyd pobl | Blwyddyn galendr | 0.5 µg/m³ |
Cyfnod cyfartaleddu | Gwerth terfyn | Dyddiad cyflawni | |
Gwerth terfyn bob awr ar gyfer diogelu iechyd dynol | 1 awr | 200 µg/m³ NO2, sef ffigur na ddylid mynd yn uwch nag ef mwy na 18 gwaith fesul blwyddyn galendr | 1 Ionawr 2010 |
Gwerth terfyn blynyddol ar gyfer diogelu iechyd pobl | Blwyddyn galendr | 40 µg/m³ NO2 | 1 Ionawr 2010 |
Gwerth terfyn blynyddol ar gyfer diogelu llystyfiant | Blwyddyn galendr | 30 µg/m³ NOx |
Cyfnod cyfartaleddu | Gwerth terfyn | |
Gwerth terfyn 24 awr ar gyfer diogelu iechyd pobl | 24 awr | 50 µg/m³ PM10, sef ffigur na ddylid mynd yn uwch nag ef mwy na 35 gwaith fesul blwyddyn galendr |
Gwerth terfyn blynyddol ar gyfer diogelu iechyd dynol | Blwyddyn galendr | 40 µg/m³ PM10 |
Cyfnod cyfartaleddu | Gwerth terfyn | |
Gwerth terfyn bob awr ar gyfer diogelu iechyd pobl | 1 awr | 350 µg/m³, sef ffigur na ddylid mynd yn uwch nag ef mwy na 24 gwaith fesul blwyddyn galendr |
Gwerth terfyn dyddiol ar gyfer diogelu iechyd pobl | 24 awr | 125 µg/m³, sef ffigur na ddylid mynd yn uwch nag ef mwy na 3 gwaith fesul blwyddyn galendr |
Gwerth terfyn ar gyfer diogelu ecosystemau | Blwyddyn galendr a gaeaf (1 Hydref i 31 Mawrth) | 20 µg/m³ |
Dechrau'r cyfnod pan fydd y ffin yn gymwys | Diwedd y cyfnod pan fydd y ffin yn gymwys | Bensen | Nitrogen deuocsid (gwerth terfyn bob awr ar gyfer diogelu iechyd pobl | Nitrogen deuocsid pobl) (gwerth terfyn blynyddol ar gyfer diogelu iechyd pobl) |
Pan ddaw'r Rheoliadau hyn i rym | 31 Rhagfyr 2007 | 3 µg/m³ | 30 µg/m³ | 6 µg/m³ |
1 Ionawr 2008 | 31 Rhagfyr 2008 | 2 µg/m³ | 20 µg/m³ | 4 µg/m³ |
1 Ionawr 2009 | 31 Rhagfyr 2009 | 1 µg/m³ | 10 µg/m³ | 2 µg/m³ |
Llygrydd | Gwerth targed |
Arsenig | 6 ng/m³ |
Benso(a)pyren | 1 ng/m³ |
Cadmiwm | 5 ng/m³ |
Nicel | 20 ng/m³ |
Gwerthoedd targed
Paramedr | Gwerth targed ar gyfer 2010(¹) | |
Gwerth targed ar gyfer diogelu iechyd pobl | Y cymedr 8 awr dyddiol uchaf(²) | 120 µg/m³, sef sef ffigur na ddylid mynd yn uwch nag ef ar fwy na 25 diwrnod fesul blwyddyn galendr a hynny wedi'i gyfartaleddu dros dair blynedd(³) |
Gwerth targed ar gyfer dros diogelu llystyfiant | AOT40, wedi'i gyfrifo o werthoedd 1 awr o Fai i Orffennaf | 18,000 µg/m³.h wedi'i gyfartaleddu bum mlynedd(³) |
Paramedr | Yr amcan hirdymor | |
Amcan hirdymor ar gyfer diogelu iechyd pobl | Y cymedr 8 awr dyddiol uchaf o fewn blwyddyn galendr | 120 µg/m³ |
Amcan hirdymor ar gyfer diogelu llystyfiant | AOT40, wedi'i gyfrifo o werthoedd 1-awr o Fai i Orffennaf | 6,000 µg/m³.h |
2.
Gwybodaeth gyffredinol—
3.
Awdurdodau cyfrifol (enwau a chyfeiriadau personau sy'n gyfrifol am ddatblygu a gweithredu cynlluniau gwella).
4.
Natur y llygredd ac asesiad ohono—
5.
Tarddiad y llygredd—
6.
Dadansoddi'r sefyllfa—
7.
Manylion y mesurau hynny neu brosiectau gwella a oedd yn bodoli cyn 21 Tachwedd 1996—
8.
Manylion y mesurau neu'r prosiectau hynny a fabwysiadwyd gyda'r bwriad o ostwng llygredd ar ôl 21 Tachwedd 1996—
9.
Manylion y mesurau neu brosiectau arfaethedig neu sy'n cael eu hymchwilio ar gyfer yr hirdymor.
10.
Rhestr o'r cyhoeddiadau, dogfennau a gwaith a ddefnyddir i ychwanegu at yr wybodaeth sy'n ofynnol gan yr Atodlen hon.
Nitrogen deuocsid | 400 µg/m³ wedi'i fesur dros dair awr yn olynol mewn lleoliadau sy'n gynrychioliadol o ansawdd aer dros o leiaf 100 km² neu barth cyfan neu grynhoad cyfan, pa un bynnag yw'r lleiaf |
Sylffwr deuocsid | 500 µg/m³ wedi'i fesur dros dair awr yn olynol mewn lleoliadau sy'n gynrychioliadol o ansawdd aer dros o leiaf 100 km² neu barth cyfan neu grynhoad cyfan, pa un bynnag yw'r lleiaf |
Paramedr | Trothwy | |
Trothwy rhybuddio | Cyfartaledd o 1 awr(¹) | 240 µg/m³ |
Trothwy gwybodaeth | Cyfartaledd o 1 awr | 180 µg/m³ |
Cyfartaledd blynyddol | |
Trothwy asesu uchaf | 70% o'r gwerth terfyn (3.5 µg/m³) |
Trothwy asesu isaf | 40% o'r gwerth terfyn (2 µg/m³) |
Cyfartaledd o wyth awr | |
Trothwy asesu uchaf | 70% o'r gwerth terfyn (7 mg/m³) |
Trothwy asesu isaf | 50% o'r gwerth terfyn (5 mg/m³) |
Cyfartaledd blynyddol | |
Trothwy asesu uchaf | 70% o'r gwerth terfyn (0.35 µg/m³) |
Trothwy asesu isaf | 50% o'r gwerth terfyn (0.25 µg/m³) |
Gwerth terfyn bob awr ar gyfer diogelu iechyd pobl (NO2) | Gwerth terfyn blynyddol ar gyfer diogelu iechyd pobl (NO2) | Gwerth terfyn blynyddol ar gyfer diogelu llystyfiant (NOx) | |
Trothwy asesu uchaf | 70% o'r gwerth terfyn (140 µg/m³), sef ffigur na ddylid mynd yn uwch nag ef mwy na 18 gwaith mewn unrhyw flwyddyn galendr | 80% o'r gwerth terfyn (32 µg/m³) | 80% o'r gwerth terfyn (24 µg/m³) |
Trothwy asesu isaf | 50% o'r gwerth terfyn 100 µg/m³), sef ffigur na ddylid mynd yn uwch nag ef mwy na 18 gwaith mewn unrhyw flwyddyn galendr | 65% o'r gwerth terfyn (26 µg/m³) | 65% o'r gwerth terfyn (19.5 µg/m³) |
Cyfartaledd 24 awr | Cyfartaledd blynyddol | |
Trothwy asesu uchaf | 60% o'r gwerth terfyn (30 µg/m³), sef ffigur na ddylid mynd yn uwch nag ef mwy na 7 gwaith mewn unrhyw flwyddyn galendr | 70% o'r gwerth terfyn (14 µg/m³) |
Trothwy asesu isaf | 40% o'r gwerth terfyn (20 µg/m³), sef ffigur na ddylid mynd yn uwch nag ef mwy na 7 gwaith mewn unrhyw flwyddyn galendr | 50% o'r gwerth terfyn (10 µg/m³) |
Diogelu iechyd | Diogelu'r ecosystem | |
Trothwy asesu uchaf | 60% o'r gwerth terfyn 24 awr (75 µg/m³), sef ffigur na ddylid mynd yn uwch nag ef mwy na 3 gwaith mewn unrhyw flwyddyn galendr | 60% o werth terfyn y gaeaf (12 µg/m³) |
Trothwy asesu isaf | 40% o'r gwerth terfyn 24 awr (50 µg/m³), sef ffigur na ddylid mynd yn uwch nag ef mwy na 3 gwaith mewn unrhyw flwyddyn galendr | 40% o werth terfyn y gaeaf (8 µg/m³) |
Trothwy asesu uchaf | 60% o'r gwerth targed (3.6 ng/m³) |
Trothwy asesu isaf | 40% o'r gwerth targed (2.4 ng/m³) |
Trothwy asesu uchaf | 60% o'r gwerth targed (0.6 ng/m³) |
Trothwy asesu isaf | 40% o'r gwerth targed (0.4 ng/m³) |
Trothwy asesu uchaf | 60% o'r gwerth targed (3 ng/m³) |
Trothwy asesu isaf | 40% o'r gwerth targed (2 ng/m³) |
Trothwy asesu uchaf | 70% o'r gwerth targed (14 ng/m³) |
Trothwy asesu isaf | 50% o'r gwerth targed (10 ng/m³) |
2.
Yn gyffredinol dylai pwyntiau samplu gael eu lleoli i osgoi mesur micro-amgylcheddau bach sy'n agos iawn atynt. Fel canllaw, dylid lleoli pwynt samplu fel ei fod yn gynrychioliadol o ansawdd aer mewn ardal amgylchynol o ddim llai na 200 m² mewn safleoedd lle y mae llawer o draffig un agos atynt ac o sawl kilometr sgwâr mewn safleoedd cefndir trefol.
3.
Hefyd, lle bo'n bosibl, dylai pwyntiau samplu fod yn gynrychioliadol o leoliadau tebyg nad ydynt yn agos iawn atynt.
4.
Dylid ystyried yr angen i leoli pwyntiau samplu ar ynysoedd, lle y mae hynny'n angenrheidiol i ddiogelu iechyd pobl.
Diogelu ecosystemau a llystyfiant
5.
Dylai pwyntiau samplu sydd wedi'u targedu at ddiogelu ecosystemau neu lystyfiant gael eu lleoli mwy na 20 km oddi wrth grynoadau neu dros 5 km oddi wrth ardaloedd adeiledig eraill, safleoedd diwydiannol neu draffyrdd. Fel canllaw, dylid lleoli pwynt samplu i gynrychioli ansawdd aer mewn ardal amgylchynol o 1000 km² o leiaf. Caniateir lleoli pwynt samplu ar bellter llai neu i gynrychioli ansawdd aer mewn ardal llai estynedig, gan gymryd amodau daearyddol i ystyriaeth.
6.
Dylid ystyried yr angen i asesu ansawdd aer ar ynysoedd.
8.
Yn gyffredinol dylai pwyntiau samplu gael eu lleoli fel eu bod yn osgoi mesur micro-amgylcheddau bach iawn yn y cyffuniau agos. Fel arweiniad, dylai pwynt samplu fod yn gynrychioliadol o ansawdd aer mewn ardaloedd amgylchynol o ddim llai na 200 m² mewn safleoedd ar gyfer traffig yn bennaf, o leiaf 250m × 250m mewn safleoedd diwydiannol, lle bo hynny'n ddichonadwy, a sawl cilometr sgwâr mewn safleoedd cefndir trefol.
9.
Pan anelir at asesu lefelau cefndir ni ddylai'r safle samplu gael ei ddylanwadu gan grynoadau neu safleoedd diwydiannol sydd wrth ymyl, hynny yw safleoedd sy'n nes nag ychydig o gilometrau.
10.
Pan fo cyfraniadau o ffynonellau diwydiannol i gael eu hasesu, mae'n rhaid i o leiaf un pwynt samplu gael ei osod o du'r gwynt i'r ffynhonnell yn yr ardal breswyl agosaf. Lle na wyddys beth yw'r crynodiad cefndir, rhaid lleoli'r pwynt samplu ychwanegol yng nghyfeiriad y prif wynt. Yn benodol, pan fo rheoliad 9(1)(a) yn gymwys, dylid lleoli'r pwyntiau samplu fel y gellir monitro'r defnydd o'r mesurau y cyfeirir atynt yn rheoliad 7(2)(b).
11.
Hefyd, pan fo'n bosibl, dylai pwyntiau samplu fod yn gynrychioliadol o leoliadau tebyg nad ydynt yn agos iawn atynt. Lle bo'n briodol, dylent gael eu cyd-leoli gyda phwyntiau samplu ar gyfer PM10.
Math o orsaf | Amcan y mesuriad | Cynrychioldeb(¹) | Meini prawf lleoli ar y raddfa facro |
Trefol | Diogelu iechyd pobl: Asesu pa more agored yw'r boblogaeth drefol i osôn, h.y., pan fo'r dwysedd poblogaeth a chrynodiad osôn yn gymharol uchel ac yn nodweddiadol o ba mo'r agored yw'r boblogaeth gyffredinol | Ychydig o km² | I ffwrdd o ddylanwad allyriannau lleol megis traffig, gorsafoedd petrol etc.; lleoliadau awyredig lle gellir mesur y boblogaeth drefol a lefelau sydd wedi eu cymysgu'n dda; lleoliadau megis rhannau preswyl a rhannau masnachol mewn dinasoedd, parciau (i ffwrdd o'r coed), strydoedd mawr neu sgwarau gydag ychydig o draffig neu ddim o gwbl, mannau agored sy'n nodweddiadol o gyfleusterau addysg, chwaraeon neu hamdden. |
Maestrefol | Diogelu iechyd pobl a llystyfiant: Asesu pa mo'r agored i lygredd yw'r boblogaeth a'r llystyfiant sydd wedi'u lleoli ar gyrion y crynhoad, lle y mae'r lefelau osôn uchaf, y mae'r boblogaeth a'r llystyfiant yn debygol o fod yn agored yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol iddynt, yn digwydd | Rhai degau o km² | Ar ryw bellter penodol o ardal yr allyriannau uchaf, o du'r gwynt gan ddilyn cyfeiriadau'r prif wynt yn ystod amodau sy'n ffafriol ar gyfer ffurfio osôn; lle y mae'r boblogaeth, cnydau sensitif neu ecosystemau naturiol wedi'u lleoli ar ymylon allanol crynhoad yn agored i lefelau uchel o osôn; os yw'n briodol, rhai gorsafoedd maestrefol sydd hefyd o du'r gwynt i'r ardal lle y mae'r allyriannau uchaf, er mwyn penderfynu lefelau cefndir rhanbarthol osôn |
Gwledig | Diogelu iechyd pobl a llystyfiant: asesu pa mo'r agored yw'r boblogaeth, cnydau ac ecosystemau naturiol i grynodiadau osôn ar raddfa is-ranbarthol | Lefelau is-ranbarthol (ychydig o km²) | Gellir lleoli gorsafoedd mewn cytrefi bychain a/neu ardaloedd ag ecosystemau naturiol, fforestydd neu gnydau; yn gynrychioladol ar gyfer osôn i ffwrdd o ddylanwad allyriannau lleol uniongyrchol megis safleoedd diwydiannol a ffyrdd; mewn safleoedd â mannau agored ond nid ar bennau'r mynyddoedd uchaf |
Cefndir gwledig | Diogelu llystyfiant ac iechyd pobl: Asesu pa mo'r agored yw cnydau ac ecosystemau naturiol i grynodiadau osôn ar raddfa rhanbarthol yn ogystal â pha mor agored yw'r boblogaeth | Lefelau rhanbarthol /cenedlaethol/cyfandirol (1,000 i 10,000 km²) | Gorsafoedd sydd wedi'u lleoli mewn mannau â dwysedd poblogaeth is, e.e. gydag ecosystemau naturiol, fforestydd, yn bell iawn o fannau trefol a diwydiannol ac i ffwrdd o allyriannau lleol; osgoi lleoliadau sy'n rhwym wrth y duedd leol i ffurfio amodau gwrthdroi sy'n agos at y ddaear, a chopâu'r mynyddoedd uchaf hefyd; ni argymhellir safleoedd arfordirol gyda chylchoedd gwynt dyddiol amlwg sy'n lleol eu natur |
(dd) ar gyfer osôn, dylid lleoli profiedydd y fewnfa yn ddigon pell oddi wrth ffynonellau fel ffwrneisi a ffliwiau llosgi a dros 10 m oddi wrth y ffordd agosaf, gyda'r pellter yn cynyddu yn ôl dwysedd y traffig;
(e) ar gyfer mesur dyddodion mewn ardaloedd cefndir gwledig mewn perthynas â llygryddion Grwp B a llygryddion eraill sy'n disgyn o fewn rheoliadau 19 ac 20, dylid cymhwyso canllawiau a meini prawf Monitro a Gwerthuso Llygryddion Ewrop ar yr amod bod hynny'n ymarferol.
15.
Gall y ffactorau canlynol gael eu cymryd i ystyriaeth hefyd—
Poblogaeth y parth (miloedd) | Os yw'r crynodiadau yn uwch na'r trothwy asesu uchaf(¹) | Os yw uchafswm y crynodiadau rhwng y trothwyon asesu uchaf ac isaf | Ar gyfer nitrogen deuocsid a sylffwr deuocsid mewn crynoadau lle mae'r crynodiadau uchaf islaw'r trothwyon asesu isaf |
0—249 | 1 | 1 | ddim yn gymwys |
250—499 | 2 | 1 | 1 |
500—749 | 2 | 1 | 1 |
750—999 | 3 | 1 | 1 |
1,000—1,499 | 4 | 2 | 1 |
1,500—1,999 | 5 | 2 | 1 |
2,000—2,749 | 6 | 3 | 2 |
2,750—3,749 | 7 | 3 | 2 |
3,750—4,749 | 8 | 4 | 2 |
4,750—5,999 | 9 | 4 | 2 |
6,000 neu fwy | 10 | 5 | 3 |
Os yw mwyafswm y crynodiadau yn uwch na'r trothwy asesu uchaf | Os yw mwyafswm y crynodiadau rhwng y trothwyon asesu uchaf ac isaf |
1 orsaf bob 20,000 km2 | 1 orsaf bob 40,000 km2 |
Poblogaeth y parth (miloedd) | Os yw'r crynodiadau mwyaf yn uwch na'r trothwy asesu uchaf(¹) | Os yw'r crynodiadau mwyaf rhwng y trothwyon asesu uchaf ac isaf | ||
Arsenig, Cadmiwm, Nicel | Benso(a)pyren | Arsenig, Cadmiwm, Nicel | Benso(a)pyren | |
0—749 | 1 | 1 | 1 | 1 |
750—1,999 | 2 | 2 | 1 | 1 |
2,000—3,749 | 2 | 3 | 1 | 1 |
3,750—4,749 | 3 | 4 | 2 | 2 |
4,750—5,999 | 4 | 5 | 2 | 2 |
=6,000 | 5 | 5 | 2 | 2 |
Poblogaeth y parth (miloedd) | Crynoadau (trefol a maestrefol)(¹) | Parthau eraill (maestrefol a gwledig)(¹) | Cefndir gwledig |
0—249 | 1 | 1 orsaf/50,000 km² fel dwysedd cyfartalog ar gyfer pob parth yng Nghymru(²) | |
250—499 | 1 | 2 | 1 orsaf/50,000 km² fel dwysedd cyfartalog ar gyfer pob parth yng Nghymru(²) |
500—999 | 2 | 2 | 1 orsaf/50,000 km² fel dwysedd cyfartalog ar gyfer pob parth yng Nghymru(²) |
1,000—1,499 | 3 | 3 | 1 orsaf/50,000 km² fel dwysedd cyfartalog ar gyfer pob parth yng Nghymru(²) |
1,500—1,999 | 3 | 4 | 1 orsaf/50,000 km² fel dwysedd cyfartalog ar gyfer pob parth yng Nghymru(²) |
2,000—2,749 | 4 | 5 | 1 orsaf/50,000 km² fel dwysedd cyfartalog ar gyfer pob parth yng Nghymru(²) |
2,750—3,749 | 5 | 6 | 1 orsaf/50,000 km² fel dwysedd cyfartalog ar gyfer pob parth yng Nghymru(²) |
3,750 neu fwy | 1 orsaf ychwanegol fesul 2 filiwn o drigolion | 1 orsaf ychwanegol fesul 2 filiwn o drigolion | 1 orsaf/50,000 km² fel dwysedd cyfartalog ar gyfer pob parth yng Nghymru(²) |
2.
Lle bo hynny'n bosibl, rhaid sicrhau bod mapiau yn cael eu llunio sy'n dangos dosbarthiadau'r crynodiadau ym mhob parth.
7.
Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod mapiau yn cael eu llunio sy'n dangos dosbarthiadau'r crynodiadau ym mhob parth.
Sylffwr deuocsid, nitrogen deuocsid ac ocsidau nitrogen | Plwm, PM2.5 a PM10 | |
Mesuriadau parhaus | ||
Cywirdeb | 15% | 25% |
Lleiafswm y data a gipir | 90% | 90% |
Mesuriadau dangosol | ||
Cywirdeb | 25% | 50% |
Lleiafswm y data a gipir | 90% | 90% |
Lleiafswm yr amser a gwmpesir | 14% (Un mesuriad yr wythnos ar hap, wedi ei ddosbarthu'n gyfartal dros y flwyddyn, neu wyth wythnos wedi eu dosbarthu'n gyfartal dros y flwyddyn) | 14% (Un mesuriad yr wythnos ar hap, wedi ei ddosbarthu'n gyfartal dros y flwyddyn, neu wyth wythnos wedi ei ddosbarthu'n gyfartal dros y flwyddyn) |
Modelu | ||
Cywirdeb | ||
Cyfartaleddau bob awr | 50% —60% | |
Cyfartaleddau bob diwrnod | 50% | |
Cyfartaleddau blynyddol | 30% | 50% |
Amcangyfrif gwrthrychol | ||
Cywirdeb | 75% | 100% |
Bensen | Carbon monocsid | |
Mesuriadau sefydlog | ||
Ansicrwydd | 25% | 15% |
Lleiafswm y data a gipir | 90% | 90% |
Lleiafswm yr amser a gwmpesir | 35% mewn safleoedd cefndir trefol a thrafnidiaeth (wedi eu dosbarthu dros y flwyddyn i fod yn gynrychioliadol o wahanol amodau ar gyfer hinsawdd a thrafnidiaeth); 90% mewn safleoedd diwydiannol | |
Mesuriadau dangosol | ||
Ansicrwydd | 30% | 25% |
Lleiafswm y data a gipir | 90% | 90% |
Lleiafswm yr amser a gwmpesir | 14% (mesuriad un diwrnod yr wythnos ar hap, wedi ei ddosbarthu'n gyfartal dros y flwyddyn, neu 8 wythnos wedi eu dosbarthu'n gyfartal dros y flwyddyn) | 14% (un mesuriad yr wythnos ar hap, wedi ei ddosbarthu'n gyfartal dros y flwyddyn, neu 8 wythnos wedi eu dosbarthu'n gyfartal dros y flwyddyn) |
Modelu | ||
Ansicrwydd: | ||
Cyfartaleddau wyth awr | 50% | |
Cyfartaleddau blynyddol | 50% | |
Amcangyfrif gwrthrychol | ||
Ansicrwydd | 100% | 75% |
Benso(a)pyren | Arsenig, cadmiwm a nicel | Hydrocarbonau aromatig polysyclig a mercwri nwyol llwyr | Dyddodiad llwyr | |
Ansicrwydd | ||||
Mesuriadau sefydlog a dangosol | 50% | 40% | 50% | 70% |
Modelu | 60% | 60% | 60% | 60% |
Lleiafswm y data a gipir | 90% | 90% | 90% | 90% |
Lleiafswm yr amser a gwmpesir | ||||
Mesuriadau sefydlog | 33% | 50% | ||
Mesuriadau dangosol(¹) | 14% | 14% | 14% | 33% |
Ar gyfer osôn, NO a NO2 a asesir mewn pwyntiau samplu osôn | |
Mesur sefydlog parhaus | |
Ansicrwydd mesuriadau unigol | 15% |
Lleiafswm y data a gipir | 90% yn ystod yr haf; 75% yn ystod y gaeaf |
Mesur dangosol | |
Ansicrwydd mesuriadau unigol | 30% |
Lleiafswm y data a gipir | 90% |
Lleiafswm yr amser a gwmpesir | >10% yn ystod yr haf |
Modelu | |
Ansicrwydd | |
Cyfartaleddau 1 awr (yn ystod y dydd) | 50% |
Mwyafswm 8 awr y dydd | 50% |
Amcangyfrif gwrthrychol | |
Ansicrwydd | 75% |
Dull cyfeirio | |
Samplo a dadansoddi bensene | Dull samplo wedi ei bwmpio ar getrisen sorbent wedi ei ddilyn gan benderfyniad cromatograffig nwy |
Dadansoddi carbon monocsid | Dull sbectrometrig is-goch sydd ddim yn wasgarol (NDIR) |
Samplo plwm | Yr un dull cyfeirio ag ar gyfer PM10 |
Dadansoddi plwm | ISO 9855: 1993 Aer amgylchynol — Penderfynu ar gynnwys plwm gronynnol erosolau a gasglwyd mewn ffilterau. Dull amsugniad sbectrosgopeg atomig |
Dadansoddi nitrogen deuocsid ac ocsidau nitrogen | ISO 7996: 1985 Aer amgylchynol — penderfynu ar grynodiadau mas ocsidau nitrogen — dull cemymoleuedd |
Samplu a mesur PM10 | Y dull cyfeirio ar gyfer samplu a mesur PM10 yw'r un a ddisgrifir yn EN 12341 Ansawdd Aer — Gweithdrefn Prawf Maes i Ddangos Cyfwerthedd Cyfeiriadau Dulliau Samplu ar gyfer y ffracsiwn PM10 o fater gronynnol. Mae'r egwyddor mesur yn seiliedig ar gasglu ar ffilter y ffracsiwn PM10 o fater gronynnol amgylchedd a'r penderfyniad màs grafimetrig |
Dadansoddi sylffwr deuocsid | ISO/FDIS 10498 (Safonol mewn drafft) Aer amgylchynol — penderfynu ar sylffwr deuocsid — dull fflwroleuedd uwchfioled |
Dull cyfeirio | |
Samplu a dadansoddi llygryddion Grwp B ac eithrio benso(a)pyren mewn aer amgylchynol | Dull yn seiliedig ar samplu PM10 sy'n gywerth ag EN 12341, wedi ei ddilyn gan dreuliad o'r samplau a dadansoddiad gan Sbectromedreg Amsugno Atomig neu Sbectromedreg Màs ICP |
Crynodiadau Benso(a)pyren mewn aer amgylchynol | Dull yn seiliedig ar samplu PM10 sy'n gywerth ag EN 12341 |
Dull cyfeirio | |
Dadansoddi osôn | Dull ffotometrig UV (ISO FDIS 13964 neu gywerth) |
Calibreiddiad offerynnau osôn | Y dull ffotomedr UV Cyfeirio (ISO FDIS 13964, VDI 2468, B1.6 neu gywerth) |
Dull cyfeirio | |
Samplu a dadansoddi hydrocarbonau aromatig polysyclig mewn aer amgylchynol | Dull yn seiliedig ar samplu PM10 sy'n gywerth ag EN 12341 |
Samplu a dadansoddi mercwri mewn aer amgylchynol | Dull awtomatig yn seiliedig ar Sbectromedreg Amsugno Atomig neu Sbectromedreg Fflwroleuedd Atomig |
Samplu a dadansoddi dyddodiad llygryddion Grŵp B, mercwri a hydrocarbonau aromatig polysyclig | Dull yn seiliedig ar ddangosiad medryddion dyddodyn silindrog gyda dimensiynau safonol |
Ethan | 1-Buten | Isopren | Ethyl bensen |
Ethylen | trans-2-Buten | n-Hecsane | m+p-Sylen |
Acetylen | cis-2-Buten | i-Hecsane | o-Sylen |
Propan | 1.3-Butadiene | n-Heptan | 1,2,4-Trimeth. Bensen |
Propen | n-Pentan | n-Octan | 1,2,3-Trimeth. Bensen |
n-Butan | i-Pentan | i-Octan | 1,3,5-Trimeth. Bensen |
i-Butan | 1-Penten | Bensen | Fformaldehyd |
2-Penten | Toluen | Cyfanswm hydrocarbonau sydd ddim yn methan |
(c) y math o boblogaeth sydd â'r posibilrwydd o fod yn sensitif i'r digwyddiad; a'r
(ch) rhagofalon sydd i'w cymryd gan y boblogaeth sensitif dan sylw.
mae'n rhaid i'r manylion a nodwyd ym mharagraffau 3 i 6, fel lleiafswm, fod ar gael i'r cyhoedd ar raddfa digon mawr.
3.
Gwybodaeth am unrhyw ormodiant uwchlaw a welwyd—
4.
Y rhagolwg am y prynhawn, diwrnod neu ddyddiau canlynol,—
5.
Gwybodaeth am y math o boblogaeth sy'n gysylltiedig, effeithiau posibl ar iechyd ac ymddygiad a argymhellir—
6.
Rhaid i wybodaeth a ddarperir o dan yr Atodlen hon hefyd gynnwys—
Math o orsaf | Lefel | Amser cyfartaleddu / cronni | Data dros dro ar gyfer pob mis o fis Ebrill i fis Medi | Adroddiad ar gyfer pob blwddyn | |
Trothwy gwybodaeth | Unrhyw un | 180µg/m³ | 1 awr | Ar gyfer pob diwrnod gydag unrhyw ormodiant uwchlaw: dyddiad, cyfanswm oriau y gormodiant, osôn 1-awr a gwerthoedd NO2 cysylltiedig pan yn ofynnol | Ar gyfer pob diwrnod gydag unrhyw ormodiant uwchlaw: dyddiad cyfanswm oriau y gormodiant, osôn 1-awr a gwerthoedd NO2 cysylltiedig pan yn ofynnol |
Mwyafswm osôn 1-awr bob mis | |||||
Trothwy rhybuddio | Unrhyw un | 240µg/m³ | 1 awr | Ar gyfer pob diwrnod gydag unrhyw ormodiant uwchlaw: dyddiad, cyfanswm oriau y gormodiant, osôn 1-awr a gwerthoedd NO2 cysylltiedig pan yn ofynnol | Ar gyfer pob diwrnod gydag unrhyw ormodiant uwchlaw: dyddiad cyfanswm oriau y gormodiant, osôn 1-awr a gwerthoedd NO2 cysylltiedig pan yn ofynnol |
Diogelu iechyd | Unrhyw un | 120µg/m³ | 8 awr | Ar gyfer pob diwrnod gydag unrhyw ormodiant uwchlaw: dyddiad, mwyafswm 8 awr(¹) | Ar gyfer pob diwrnod gydag unrhyw ormodiant uwchlaw: dyddiad, mwyafswm 8 awr(¹) |
Diogelu llystyfiant | Maestrefol, gwledig, cefndir gwledig | AOT40(²) = 6,000 µg/m³.h | 1 awr, cronedig o fis Mai i fis Mehefin | Gwerth | |
Diogelu fforestydd | Maestrefol, gwledig, cefndir gwledig | AOT40(²) = 20,000 µg/m3.h | 1 awr, cronedig o fis Ebrill i fis Medi | Gwerth | |
Deunyddiau | Unrhyw un | 40 µg/m³ | 1 flwyddyn | Gwerth |
3.
Bydd data a gasglwyd mewn adroddiadau misol yn cael eu hystyried fel data amodol a bydd angen ei ddiweddaru lle bo angen mewn adroddiadau diweddarach.
Paramedr | Cyfran ofynnol o ddata dilys |
Gwerthoedd 1 awr | 75% (45 munud) |
Gwerthoedd 8 awr | 75% o werthoedd (6 awr) |
Mwyafswm cymedrig 8 awr bob dydd o gyfartaleddau 8 awr yn rhedeg bob awr | 75% o gyfartaleddau 8 awr yn rhedeg bob awr (18 8 awr y diwrnod) |
AOT40 | 90% o'r gwerthoedd 1-awr dros y cyfnod amser a ddiffinnir ar gyfer cyfrifo gwerth AOT40(¹) |
Cymedrig bob blwyddyn | 75% o'r gwerthoedd 1-awr dros dymhorau yr haf (Ebrill i Medi) a'r gaeaf (Ionawr i Mawrth, Hydref i Rhagfyr) ar wahân |
Nifer y gormodiant uwchlaw a'r gwerthoedd mwyafswm y mis | 90% o'r gwerthoedd cymedrig 8 awr mwyafswm bob dydd (27 gwerthoedd dyddiol ar gael y mis) 90% o'r gwerthoedd 1-awr rhwng 8:00 a 20:00 Amser Canol Ewrop |
Nifer y gormodiant uwchlaw a'r gwerthoedd mwyafswm y flwyddyn | Pump o chwe mis yr haf dros dymor yr haf (Ebrill i Medi) |
Rheoliadau sydd wedi eu dirymu | Cyfeiriad | Yn weithredol o |
Rheoliadau Gwerthoedd Terfyn Ansawdd Aer (Diwygio) (Cymru) 2005 | O.S. 2005/1157 (Cy. 74) | 15 Mawrth 2007 |
Rheoliadau Ansawdd Aer (Osôn) (Cymru) 2003 | O.S. 2003/1848 (Cy. 198) | 15 Mawrth 2007 |
Rheoliadau Gwerthoedd Terfyn Ansawdd Aer (Cymru) 2002 | O.S. 2002/3183 (Cy. 299)(¹) | 15 Mawrth 2007 |
Rheoliad 6 o Reoliadau Safonau Ansawdd 1989(²), i'r graddau ei fod yn gymwys mewn perthynas â Chymru | O.S. 1989/317(³) | 1 Ionawr 2010 |
Mae Rhan 1 o'r Rheoliadau hyn yn cynnwys rheoliad 3, sy'n dynodi Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol") fel yr awdurdod cymwys at ddibenion erthygl 3 (gweithredu a chyfrifoldebau) o Gyfarwyddeb y Cyngor 96/62/EC.
Mae Rhan 2 o'r Rheoliadau hyn yn ei gwneud hi'n ofynnol cyrraedd at safonau ansawdd aer mewn perthynas â chrynodiad gwahanol lygryddion mewn aer amgylchynol.
At ddibenion Rhan 2, mae'n ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol rannu Cymru yn barthau lle gwneir yr asesu a'r rheoli angenrheidiol o ansawdd aer (rheoliad 5).
Yn unol â rheoliad 6, gosodir gwerthoedd terfyn ar gyfer llygryddion "Grŵp A" (bensen, carbon monocsid, plwm, nitrogen deuocsid ac ocsidau nitrogen, mater gronynnol (PM10) a sylffwr deuocsid); gosodir gwerthoedd targed ar gyfer llygryddion "Grŵp B" (cynnwys arsenig, benso(a)pyrene, cadmiwm a nicel, neu eu cyfansoddion, o fewn y ffracsiwn PM10); a gosodir gwerthoedd targed ac amcanion hirdymor ar gyfer osôn.
Mae Pennod 2 o Ran 2 yn gosod y mesurau y mae'n ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol eu dilyn er mwyn sicrhau cyrraedd at y safonau perthnasol. Y mesurau sydd eu hangen yn arferol yw'r rhai sydd wedi eu nodi yn rheoliad 7. Mewn perthynas â bensen neu nitrogen deuocsid, lle y mae crynodiadau yn uwch na'r gwerthoedd terfyn ynghyd â'r ffin goddefiant sydd wedi ei dynodi, mae rheoliad 8(2) yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol baratoi a gweithredu cynllun gwella. Hefyd mae'n ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol baratoi a gweithredu cynllun gwella yn sgil rheoliad 8(3) mewn achosion lle y mae crynodiadau osôn yn uwch na'r gwerth targed oni bai bod y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried na fyddai'r gwerth targed yn gyraeddadwy trwy fesurau cymesur. Yn olaf, mae rheoliad 9 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol weithredu'r mesurau a nodwyd yn y rheoliad hwnnw mewn achosion lle mae crynodiadau o lygryddion Grŵp B yn uwch na'r gwerth targed perthnasol neu mewn achosion lle y mae crynodiadau o osôn yn cydymffurfio â'r gwerth targed ond yn uwch nag amcan hirdymor.
Mae rheoliad 10 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau cydymffurfedd â'r gwerthoedd terfyn a'r gwerthoedd targed a, chyn belled â bod y ffactorau a nodwyd yn y rheoliad hwnnw yn caniatáu, yr amcan hirdymor ar gyfer osôn.
Mae rheoliad 11 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol baratoi, ac i'r graddau y mae'n ystyried hynny'n angenrheidiol, iddo roi ar waith gynlluniau gweithredu sy'n dangos y mesurau sydd i'w cymryd mewn achosion lle y bo risg o fynd yn uwch nag unrhyw werth terfyn neu trothwyon rhybuddio ar gyfer nitrogen deuocsid a sylffwr deuocsid. Mae'n ofynnol hefyd i'r Cynulliad Cenedlaethol ystyried paratoi cynlluniau gweithredu lle y bo risg o fynd yn uwch na'r trothwy rhybuddio ar gyfer osôn.
Mae rheoliad 12 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol asesu crynodiad llygryddion Grwp A, llygryddion Grŵp B ac osôn ym mhob parth.
Mae rheoliadau 13 i 16 yn rhagnodi'r dulliau asesu sy'n ofynnol neu a ganiateir (yn ôl yr achos) a'r gofynion manwl mewn perthynas â phob dull (er enghraifft, gofynion ynglyn â phwyntiau samplu ar gyfer mesuriadau sefydlog).
Yn Rhan 3 o'r Rheoliadau hyn, mae rheoliadau 17 i 19 yn ei gwneud hi'n ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol fonitro neu fesur, yn y drefn honno, PM2.5, rhagsylweddion osôn a hydrocarbonau aromatig polysyclig penodol. Mae Rheoliad 20 yn ei gwneud hi'n ofynnol cymryd y mesuriadau dangosol o'r crynodiad a'r dyddodiad o lygryddion Grŵp B, hydrocarbonau aromatig polysyclig a mercwri.
Yn Rhan 4 o'r Rheoliadau hyn, mae rheoliadau 21 i 25 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol ledaenu'r wybodaeth ddiweddaraf i'r cyhoedd, gan gynnwys sefydliadau sy'n cynrychioli buddiannau perthnasol y cyhoedd. Mae rheoliad 26 yn ei gwneud yn ofynnol cynhyrchu adroddiad blynyddol ar gyfer osôn ac mae rheoliad 27 yn mynnu bod cynlluniau gweithredu a chynlluniau gwella, a gwybodaeth ynglyn a'u gweithredu ar gael. Mae rheoliad 28 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau y caiff y cyhoedd gyfrannu at ddatblygu, addasu ac adolygu cynlluniau gwella.
Yn Rhan 5 o'r Rheoliadau hyn, mae rheoliad 29 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol gael a chasglu data ac mae rheoliad 30 yn darparu ar gyfer diddymu Rheoliadau sy'n cael eu disodli gan y Rheoliadau hyn.
[3] OJ Rhif L 296, 21.11.96, t. 55.back
[4] OJ Rhif L 163, 29.06.99, t. 41.back
[5] OJ Rhif L 313, 13.12.00, t. 12.back
[6] OJ Rhif L 67, 09.03.02, t.14.back
[7] OJ Rhif L 23, 26.01.05, t. 3.back
[8] OJ Rhif L 257, 10.10.96, t.26.back
[9] Gweithredir y Gyfarwyddeb gan Reoliadau Atal a Rheoli Llygredd (Cymru a Lloegr) 2000 (O.S. 2000/1973 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2001/503, 2002/275, 2002/1702, 2003/1699, 2003/3296, 2004/3276, 2005/1448 a 2006/2802 (Cy.241)).back
[11] OJ Rhif L 125, 18.05.94, p.1.back
[12] Gellir prynu copïau o gyhoeddiadau'r Sefydliad Safonau Rhyngwladol oddi wrth Adran Farchnata'r Sefydliad Safonau Prydeinig ('BSI') naill ai dros y ffôn (0208 996 9001) neu drwy'r post o BSI, Standards House, 389 Chiswick High Road, London W4 4AL, http://www.bsi-global.com back
[13] Cyhoeddiad y Pwyllgor Ewropeaidd ar Safoni ("CEN"), cyfeiriad CEN yw 36, Rue de Stassart, B-1050, Brwsel, Gwlad Belg http://www.cenorm.be back
[14] Mae cyfeiriad llawn ar gyfer y Gyfarwyddeb hon i'w gael yn rheoliad 2(2)(d).back
[15] OJ L 35, 05.02.97, t.14.back