(a) yn adran 11(1) o Ddeddf Gwaredu Sbwriel (Amwynder) 1978[1], at ddibenion arfer y pwerau a roddir gan adran 2A(11) o'r Ddeddf honno;
(b) yn adran 9(1) o Ddeddf Rheoli Llygredd (Diwygio) 1989[2], at ddibenion arfer y pwerau a roddir gan adran 5B(12) o'r Ddeddf honno;
(c) yn adran 29(1A)(b) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990[3], at ddibenion arfer y pwerau a roddir gan adrannau 34A(12) a 47ZB(4) a (5) o'r Ddeddf honno;
(ch) yn adran 98(1A)(b) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990[4], at ddibenion arfer y pwerau a roddir gan adrannau 88(11) a 97A(1), (2) a (4) o'r Ddeddf honno;
(d) yn adran 11(2A)(b) o Ddeddf Sŵ n 1996[5], at ddibenion arfer y pwerau a roddir gan adran 8A(4) a (5) o'r Ddeddf honno;
(dd) yn adran 47(1) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003[6], at ddibenion arfer y pwerau a roddir gan adrannau 43A(4) a (5) a 47(4) o'r Ddeddf honno;
(e) yn adran 9(2) o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005[7], at ddibenion arfer y pwerau a roddir gan adran 6(11) o'r Ddeddf honno;
(f) yn adran 66(b) o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005, at ddibenion arfer y pwerau a roddir gan adrannnau 59(12) a 60(4) a (5) o'r Ddeddf honno;
(ff) yn adran 81(1) o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005, at ddibenion arfer y pwerau a roddir gan adrannau 74(4) a (5) o'r Ddeddf honno.
(g) yn adran 98(1)(b) o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005, at ddibenion arfer y pwerau a roddir gan adran 97(1)(a) a (2)(c) o'r Ddeddf honno.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 67(1) o Deddf Cymdogaethau a'r Amgylchedd Glân 2005 a'r pwerau a enwir yn is-baragraffau (a) i (g) o'r paragraff uchod yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tramgwyddau Amgylcheddol (Cosbau Penodedig) (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 15 Mawrth 2007.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Ystodau rhagnodedig o gosbau penodedig
2.
—(1) Rhaid i swm cosb benodedig y gellir ei bennu gan—
(a) prif awdurdod sbwriel yng Nghymru o dan adran 88(6A)(a) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990[8];
(b) prif awdurdod sbwriel yng Nghymru o dan baragraff 7(4)(a) o Atodlen 3A i Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990[9];
(c) awdurdod lleol perthnasol yng Nghymru o dan adran 43A(1)(a) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003;
(ch) prif awdurdod neu awdurdod eilaidd yng Nghymru o dan adran 60(1)(a) o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 o ran unrhyw orchymyn rheoli cŵ n a gafodd ei wneud gan yr awdurdod hwnnw;
(d) awdurdod lleol yng Nghymru o dan adran 74(2)(a) o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd Glân 2005,
beidio â bod yn llai na £75 a dim mwy na £150.
(2) Rhaid i swm cosb benodedig y gellir ei bennu gan—
(a) awdurdod casglu gwastraff yng Nghymru o dan adran 47ZB(2)(a) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990;
(b) prif awdurdod sbwriel yng Nghymru o dan adran 94A(4)(a) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990[10];
(c) awdurdod lleol yng Nghymru o dan adran 8A(2)(a) o Ddeddf Swn 1996;
beidio â bod yn llai na £100 a dim mwy na £150.
(3) Caiff awdurdod sy'n gweithredu o dan fwy nag un o'r darpariaethau a enwir ym mharagraff (1) neu (2) bennu swm gwahanol o dan bob un o'r cyfryw ddarpariaethau.
Symiau llai o gosbau penodedig
3.
—(1) Pan fo—
(a) awdurdod sbwriel yng Nghymru sy'n gweithredu o dan adran 88(7) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990[11];
(b) prif awdurdod sbwriel yng Nghymru sy'n gweithredu o dan baragraff 7(5) o Atodlen 3A i Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990;
(c) awdurdod lleol yng Nghymru sy'n gweithredu o dan adran 43A(3) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003;
(ch) prif awdurdod neu awdurdod eilaidd yng Nghymru sy'n gweithredu o dan adran 60(3) o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005;
(d) awdurdod lleol yng Nghymru sy'n gweithredu o dan adran 74(3) o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005,
yn gwneud darpariaeth i drin cosb benodedig yn un a gafodd ei thalu os caiff swm llai ei dalu cyn diwedd cyfnod a bennir gan yr awdurdod hwnnw, rhaid i'r swm llai hwnnw beidio â bod yn llai na £50.
(2) Os bydd—
(a) awdurdod casglu gwastraff yng Nghymru sy'n gweithredu o dan adran 47ZB(3) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990;
(b) prif awdurdod sbwriel yng Nghymru sy'n gweithredu o dan adran 94A(5) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990;
(c) awdurdod lleol yng Nghymru sy'n gweithredu o dan adran 8A(3) o Ddeddf Sŵ n 1996;
(ch) awdurdod lleol sy'n gweithredu o dan adran 6(10) o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005,
yn gwneud darpariaeth i drin cosb benodedig yn un a gafodd ei thalu os caiff swm llai ei dalu cyn diwedd cyfnod a bennir gan yr awdurdod hwnnw, rhaid i'r swm llai hwnnw beidio â bod yn llai na £60.
(3) Os bydd awdurdod lleol sy'n gweithredu o dan adran 2A(10) o Ddeddf Gwaredu Sbwriel (Amwynder) 1978[12] yn gwneud darpariaeth i drin cosb benodedig yn un a gafodd ei thalu os caiff swm llai ei dalu cyn diwedd cyfnod a bennir gan yr awdurdod hwnnw, rhaid i'r swm llai hwnnw beidio â bod yn llai na £120.
(4) Os bydd—
(a) awdurdod rheoleiddio sy'n gweithredu o dan adran 5B(11) o Ddeddf Rheoli Llygredd (Diwygio) 1989[13];
(b) awdurdod gorfodi sy'n gweithredu o dan adran 34A(11) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990[14],
yn gwneud darpariaeth i drin cosb benodedig yn un a gafodd ei thalu os caiff swm llai ei dalu cyn diwedd cyfnod a bennir gan yr awdurdod hwnnw, rhaid i'r swm llai hwnnw beidio â bod yn llai na £180.
Amod sydd i'w fodloni gan berson cyn y caiff awdurdod eilaidd awdurdodi'r person hwnnw at ddibenion rhoi hysbysiadau cosbau penodedig
4.
Yr amod sydd i'w bodloni gan berson cyn y caiff awdurdod eilaidd awdurdodi'r person hwnnw yn ysgrifenedig at ddibenion rhoi hysbysiadau o dan—
(a) adran 88 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990;
(b) adran 43(1) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003;
(c) adran 59 o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005,
yw fod rhaid i'r person gwblhau'n llwyddiannus gwrs hyfforddi cosb benodedig.
Y defnydd o dderbyniadau cosb benodedig gan gynghorau cymuned
5.
—(1) Ni chaiff cyngor cymuned ddefnyddio unrhyw symiau y mae'n ei dderbyn yn unol â hysbysiadau o dan—
(a) adran 88 (hysbysiadau cosb benodedig am adael ysbwriel) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990[15]
(b) adran 43(1) (hysbysiadau cosb am lunio graffiti a gosod posteri yn anghyfreithlon)[16] o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003;
(c) adran 59 (hysbysiadau cosb benodedig am droseddau o dan orchmynion rheoli cŵn) o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005.
ond yn unig at ddibenion y swyddogaethau a bennir ym mharagraff (2)
(2) Y swyddogaethau a bennir at ddibenion y rheoliad hwn yw'r swyddogaethau o dan—
(a) adran 88 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990;
(b) adran 43(1) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003;
(c) Pennod 1 o Ran 6 o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005.
(3) Rhaid i gynghorau cymuned roi i Gynulliad Cenedlaethol Cynru y fath wybodaeth ynghylch y symiau y maent yn eu derbyn mewn cysylltiad â'r darpariaethau a bennir ym mharagraff (1) ag a ddichon fod yn ofynnol gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[17]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
6 Mawrth 2007
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Mae'r Rheoliadau yn rhagnodi'r ystodau y mae'n ofynnol i symiau o gosbau penodedig arbennig y gellir eu pennu (yn lle'r swm a ragnodir yn y ddeddfwriaeth berthnasol) gan awdurdod lleol (yn ôl disgrifiadau amrywiol yn y ddeddfwriaeth berthnasol) ddod o fewn eu cwmpas (rheoliad 2).
Mae'r Rheoliadau hefyd yn rhagnodi lleiafswm y gosb benodedig y caiff awdurdod lleol (os yw'n dewis gwneud hynny) ei drin fel taliad llawn o gosb benodedig pan fydd swm llai na'r swm llawn a ragnodir (p'un ai'r swm a bennir gan yr awdurdod lleol, neu'r swm a ragnodir yn y ddeddfwriaeth berthnasol yw hwn) yn cael ei dalu o fewn y cyfryw gyfnod o lai nag 14 o ddiwrnodau y caiff yr awdurdod lleol ei bennu yn yr hysbysiad (rheoliad 3).
Yn unol â hynny, o ran hysbysiad o gosb benodedig y gellir ei ddyroddi am dramgwyddau penodol y swm a ragnodir yn y ddeddfwriaeth berthnasol ar eu cyfer yw £75, mae'r Rheoliadau'n rhagnodi y bydd yr ystod y caiff awdurdod lleol ddewis pennu ei swm ei hun y gellir ei gymhwyso'n lleol o fewn ei chwmpas rhwng £75 a £150 (rheoliad 2(1)). Os bydd awdurdod lleol yn penderfynu trin swm llai a gaiff ei dalu o fewn cyfnod penodedig fel taliad llawn o'r gosb benodedig, mae'r Rheoliadau yn darparu bod rhaid i'r swm llai hwnnw beidio â bod yn llai na £50 (rheoliad 3(1)).
O ran tramgwyddau penodol eraill, swm y gosb benodedig a ragnodir yn y ddeddfwriaeth berthnasol ar eu cyfer yw £100, mae'r Rheoliadau'n rhagnodi y bydd yr ystod y caiff awdurdod lleol ddewis pennu ei swm ei hun y gellir ei gymhwyso'n lleol o fewn ei chwmpas rhwng £100 a £150 (rheoliad 2(2)). O ran unrhyw o'r tramgwyddau hyn, os bydd awdurdod lleol yn penderfynu trin swm llai a gaiff ei dalu o fewn cyfnod penodedig fel taliad llawn o'r gosb benodedig, mae'r Rheoliadau darparu na fydd y swm llai hwnnw yn llai na £60 (rheoliad 3(2)(a), (b) ac (c)).
O ran tramgwyddau eraill, a symiau y gosb benodedig a ragnodir yn y ddeddfwriaeth berthnasol ar eu cyfer yw, yn eu trefn, £100, £200 a £300 (ond ym mhob achos heb gyfleusterau i awdurdod bennu swm gwahanol y gellir ei gymhwyso'n lleol), caiff awdurdod barhau i drin swm llai a gaiff ei dalu o fewn cyfnod penodedig fel taliad llawn o'r gosb benodedig, ac mae'r Rheoliadau'n darparu na fydd y symiau llai hynny yn llai na £60 (rheoliad 3(2)(ch)); £120 (rheoliad 3(3)); neu £180 (rheoliad 3(4)), yn eu trefn.
Mae'r Rheoliadau hefyd yn rhagnodi'r amod y mae'n rhaid ei fodloni cyn y caiff person fod yn awdurdodedig gan gyngor cymuned at ddibenion rhoi hysbysiad o gosb benodedig o dan naill ai adran 88 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (p.43), adran 43(1) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (p.38), neu adran 59 o Ddeddf Cymdogaethau a'r Amgylchedd Glân 2005 (p.16). Yr amod yw fod rhaid i'r person gwblhau'n llwyddiannus gwrs hyfforddi cosb benodedig (rheoliad 4).
Mae'r Rheoliadau hefyd yn darparu y caiff cyngor cymuned ddefnyddio unrhyw symiau y mae'n ei dderbyn yn unol â hysbysiadau a ddyroddir o dan—
(a) adran 88 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (ysbwriel);
(b) adran 43(1) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (graffiti a gosod posteri yn anghyfreithlon); ac
(c) adran 59 o Ddeddf Cymdogaethau Glan a'r Amgylchedd 2005 (gorchmynion rheoli cwn).
at ddibenion ei swyddogaethau o dan yr adrannau hynny ac, o ran gorchmynion rheoli cwn, at ddibenion ei swyddogaethau o dan Bennod 1 o Ran 6 o Ddeddf 2005 (rheoliad 5(1) a (2)).
Mae rheoliad 5(3) yn ei gwneud yn ofynnol i gynghorau cymuned roi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru y fath wybodaeth ynghylch eu derbyniadau cosb benodedig ag a ddichon fod yn ofynnol gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Notes:
[1]
1978 p.3; mewnosodwyd y diffiniad o "appropriate person" yn adran 11(1) gan adran 14(3) o Ddeddf Cymdogaethau a'r Amgylchedd Glân 2005 (p.16), a mewnosodwyd adran 2A gan adran 10 o Ddeddf 2005.back
[2]
1989 p.14; mewnosodwyd y diffiniad o "appropriate person" yn adran 9(1) gan adran 39(2) o Ddeddf Cymdogaethau a'r Amgylchedd Glân 2005, a mewnosodwyd adran 5B gan adran 38 o Ddeddf 2005.back
[3]
1990 p.43; mewnosodwyd adran 29(1A) gan adran 51 o Deddf Cymdogaethau a'r Amgylchedd Glân 2005, mewnosodwyd adran 34A gan adran 45 o Ddeddf 2005, a mewnosodwyd adran 47ZB gan adran 48 o Ddeddf 2005.back
[4]
1990 p.43; mewnosodwyd adran 98(1A) gan adran 26 o Ddeddf Cymdogaethau a'r Amgylchedd Glân 2005, mewnosodwyd adran 88(11) gan adran 19(6) o Ddeddf 2005, a mewnosodwyd adran 97A gan adran 24 o Ddeddf 2005.back
[5]
1996 p.37; mewnosodwyd adran 11(2A) gan adran 85(2) o Ddeddf Cymdogaetha Glân a'r Amgylchedd Glân 2005, a mewnosodwyd adran 8A gan adran 82(2) o Ddeddf 2005.back
[6]
2003 p.38; mewnosodwyd adran 43A gan adran 28(2) o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd Glân 2005, a mewnosodwyd adran 47(4) gan adran 30(2) o Ddeddf 2005.back
[7]
2005 p.16.back
[8]
Mewnosodwyd adran 88(6)(A) gan adran 19(2) o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005.back
[9]
Mewnosodwyd Atodlen 3A, ac adran 94B sy'n rhoi effaith iddi, gan adran 23 o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005.back
[10]
1990 p.43; mewnosodwyd adran 94(A) gan adran 22 o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005.back
[11]
1990 p.43; mewnosodwyd adran 88(7) gan adran 19(2) o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005..back
[12]
1978 p.3; mewnosodwyd adran 2(A) gan adran 10 o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (p.16).back
[13]
1989 p.14; mewnosodwyd adran 5B gan adran 38 o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005.back
[14]
1990 p.43; mewnosodwyd adran 34A gan adran 45 o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005..back
[15]
1990 p.43; mae adran 88(9)(f) fel y'i diwygiwyd gan adran 19(1) a (4) o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 yn cynnwys cynghorau cymuned yn y rhestr o awdurdodau a ddiffinir fel "litter authorities" (awdurdodau ysbwriel) y mae eu swyddogion awdurdodedig wedi'u galluogi i ddyroddi hysbysiadau cosb benodedig o dan yr adran honno.back
[16]
2003 p.38; yn rhinwedd bod yn gymwys fel awdurdod ysbwriel at ddibenion adran 88 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 mae cyngor cymuned hefyd yn awdurdod lleol at ddibenion adrannau 43 i 43B a 45 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 y mae eu swyddogion awdurdodedig wedi'u galluogi i ddyroddi hysbysiadau cosb benodedig o dan yr adran honno.back
[17]
1998 p.38.back
English version
ISBN
978 0 11 091529 6
| © Crown copyright 2007 |
Prepared
14 March 2007
|