BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) 2007 Rhif 787 (Cy.68)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070787w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2007 Rhif 787 (Cy.68)

IECHYD Y CYHOEDD, CYMRU

Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) 2007

  Wedi'u gwneud 9 Mawrth 2007[a] 
  Yn dod i rym am 6am ar 2 Ebrill 2007 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 2(5), 3, 5(1) a (2), 6, 8(3), 10 a 79(3) o Ddeddf Iechyd 2006[1] a pharagraff 4 o Atodlen 1 iddi a chan adran 26 o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993[2], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) 2007 a deuant i rym am 6am ar 2 Ebrill 2007.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

    (3) Yn y Rheoliadau hyn (ac eithrio pan fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall) —

Ystyr mangre "gaeedig" a "sylweddol gaeedig"
     2. —(1) At ddibenion adran 2 o'r Ddeddf, mae mangre yn gaeedig os oes ganddi nenfwd neu do, ac os yw hi heblaw am ddrysau, ffenestri a choridorau, yn gwbl gaeedig naill ai'n barhaol neu dros dro.

    (2) At ddibenion adran 2 o'r Ddeddf, mae mangre yn sylweddol gaeedig os oes ganddi nenfwd neu do ac os yw cyfanswm arwynebedd unrhyw agoriadau yn y waliau yn llai na hanner arwynebedd y waliau, gan gynnwys strwythurau eraill sy'n cyflawni diben waliau.

    (3) Wrth benderfynu arwynebedd yr agoriadau at ddibenion paragraff (2), ni ddylid cymryd unrhyw gyfrif o agoriadau y mae drysau, ffenestri neu ffitiadau eraill ynddynt y gellir eu hagor neu eu cau.

    (4) Yn y rheoliad hwn mae "to" yn cynnwys unrhyw strwythur gosodedig neu symudol neu ddyfais osodedig neu symudol.

Esemptiadau i fangreoedd di-fwg
    
3. —(1) Nid yw annedd breifat yn ddi-fwg ac eithrio unrhyw ran ohoni—

    (2) Mae gwaith a gaiff ei wneud mewn rhan o annedd a ddefnyddir yn unig fel lle gwaith yn cael ei eithrio o baragraff (1)(b) os nad oes neb (heblaw person sy'n byw yn yr annedd) yn gweithio yn y rhan honno neu'n cael ei wahodd i ddod i'r rhan honno mewn cysylltiad â'r gwaith.

    (3) Eithrir o baragraff (1)(b) bob gwaith a gaiff ei wneud yn unig—

    (4) Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (6) nid yw'r disgrifiadau canlynol o fangreoedd yn rhai di-fwg —

    (5) At ddibenion paragraff (4) ystyr "ystafell ddynodedig" neu "ystafell wely ddynodedig" yn ôl y digwydd, yw ystafell —

    (6) Nid yw ystafell ddynodedig mewn cyfleuster ymchwil neu gyfleuster gynnal profion yn ystafell ddi-fwg pan fydd yn cael ei defnyddio ar gyfer unrhyw ymchwil neu ar gyfer cynnal profion sy'n ymwneud â—

Cerbydau di-fwg
    
4. —(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau canlynol y rheoliad hwn, rhaid i gerbyd fod yn ddi-fwg os caiff ei ddefnyddio —

    (2) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i gerbydau a rhannau o gerbydau sy'n gaeedig.

    (3) Mae cerbyd neu ran o gerbyd yn gaeedig at ddibenion paragraff (2) os oes ganddo ddrysau neu ffenestri y gellir eu hagor ond nid yw'n gaeedig oni bai bod to drosto yn gyfan gwbl neu'n rhannol.

    (4) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i bob cerbyd heblaw —

    (5) Yn y rheoliad hwn nid yw "to" yn cynnwys unrhyw do a gaiff ei roi o'r neilltu yn gyfan gwbl fel nad yw dros unrhyw ran o gerbydran y caiff personau deithio ynddi.

Arwyddion dim ysmygu: mangreoedd di-fwg
    
5. —(1) At ddibenion adran 6 o'r Ddeddf, rhaid i unrhyw berson sy'n meddiannu mangre ddi-fwg neu'n ymwneud â'i rheoli sicrhau bod arwyddion dim ysmygu sy'n bodloni'r gofynion a bennir ym mharagraff (2) yn cael eu harddangos yn y fangre honno yn unol â'r gofynion sydd ym mharagraff (3).

    (2) Rhaid i arwydd dim ysmygu —

    (3) Rhaid arddangos arwydd dim ysmygu sy'n cydymffurfio â gofynion paragraff (2) mewn lle amlwg wrth neu gerllaw pob mynedfa i fangre ddi-fwg.

Arwyddion dim ysmygu: cerbydau di-fwg
    
6. —(1) Rhaid i'r person perthnasol o ran cerbyd sy'n ddi-fwg yn rhinwedd rheoliad 4 sicrhau bod arwyddion dim ysmygu sy'n bodloni'r gofynion a bennir ym mharagraff (2) yn cael eu harddangos ar y cerbyd yn unol â'r gofynion sydd ym mharagraff (3).

    (2) Rhaid i arwydd dim ysmygu gynnwys darlun graffeg o sigarét yn llosgi o fewn cylch coch sy'n 75 o filimedrau mewn diamedr o leiaf a chyda bar coch ar draws y cylch sy'n croesi symbol y sigarét.

    (3) Rhaid arddangos arwydd dim ysmygu sy'n cydymffurfio â gofynion paragraff (2) mewn lle amlwg ym mhob cerbydran o'r cerbyd, y mae to drosti neu'n rhannol drosti, gan gynnwys cerbydran y gyrrwr.

    (4) Ym mharagraff (3) nid yw "to" yn cynnwys to a gaiff ei roi o'r neilltu yn gyfan gwbl fel nad yw dros unrhyw ran o gerbydran y caiff personau deithio ynddi.

    (5) At ddibenion y rheoliad hwn a rheoliad 7, ystyr "person perthnasol" o ran cerbyd di-fwg yw —

Dyletswydd i atal ysmygu mewn cerbydau di-fwg
    
7. Mae'n ddyletswydd ar y person perthnasol o ran cerbyd sy'n ddi-fwg yn rhinwedd rheoliad 4 beri bod person sy'n ysmygu yn y cerbyd yn stopio ysmygu.

Gorfodi: dynodi awdurdodau gorfodi
    
8. —(1) Dynodir cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol yng Nghymru yn awdurdodau gorfodi at ddibenion Pennod 1 o Ran 1 o'r Ddeddf.

    (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae gan bob awdurdod gorfodi swyddogaethau gorfodi o ran y mangreoedd a'r cerbydau sydd o fewn ei ardal.

    (3) Os bydd mwy nag un awdurdod gorfodi yn gwneud ymchwiliadau ynglŷn â'r un person o dan y pwerau a roddir gan Bennod 1 o Ran 1 o'r Ddeddf, caiff yr awdurdodau o dan sylw, drwy gytundeb, drosglwyddo'r swyddogaethau gorfodi i un ohonynt neu i unrhyw awdurdod gorfodi arall.

Gorfodi; hysbysiad o gosb
    
9. —(1) Mae'r ffurfiau hysbysiad o gosb a osodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn yn cael eu pennu o ran y tramgwyddau a ddisgrifir ynddynt.

    (2) Os bydd newid yn swm cosb benodedig neu swm disgownt neu yn lefel y raddfa safonol, rhaid amrywio'r ffurf berthnasol benodedig er mwyn adlewyrchu'r newid hwnnw.

    (3) Caiff awdurdodau gorfodi gynnwys gwybodaeth ar ffurfiau hysbysiad o gosb o ran y dull talu neu i hwyluso prosesu'r ffurflenni'n ariannol ac yn weinyddol a chaiff gynnwys ar y ffurflenni arfbeisiau, logos neu ddyfeisiadau eraill i gynrychioli'r awdurdod.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
5].


Rhodri Morgan
Prif Wenidog Cymru

9 Mawrth 2007



YR ATODLEN
Rheoliad 9(1)


Ffurfiau ar Hysbysiad o Gosb


Click here to view Image 1 of 11


Click here to view Image 2 of 11


Click here to view Image 3 of 11


Click here to view Image 4 of 11


Click here to view Image 5 of 11


Click here to view Image 6 of 11


Click here to view Image 7 of 11


Click here to view Image 8 of 11


Click here to view Image 9 of 11


Click here to view Image 10 of 11


Click here to view Image 11 of 11


NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch gwahardd ysmygu mewn mangreoedd a cherbydau penodol yn unol â phwerau sydd ym Mhennod 1 o Ran 1 o Ddeddf Iechyd 2006 ("y Ddeddf").

O ran mangreoedd maent yn pennu, yn rheoliad 2, ystyr "caeedig" a "sylweddol gaeedig" at ddibenion adran 2 o'r Ddeddf, sy'n darparu bod mangre yn ddi-fwg yn y mannau hynny sy'n gaeedig neu'n sylweddol gaeedig yn unig.

Maent yn pennu disgrifiadau o fangreoedd nad ydynt yn ddi-fwg ac yn pennu amgylchiadau ac amodau ac adegau pan nad yw mangreoedd penodol neu fannau penodol mewn mangreoedd yn ddi-fwg (rheoliad 3).

Mae'r Rheoliadau hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer disgrifiadau o gerbydau a'r amgylchiadau pan fydd y cyfryw gerbydau i fod yn ddi-fwg (rheoliad 4).

Mae rheoliadau 5 a 6 yn rhagnodi'r gofynion ar gyfer cynnwys ac arddangos arwyddion dim ysmygu mewn mangreoedd a cherbydau. Maent hefyd yn gosod dyletswydd i arddangos arwyddion mewn cerbydau perthnasol ar weithredwyr, gyrwyr a phersonau sy'n gyfrifol am drefn neu ddiogelwch ar y cyfryw gerbydau.

Mae rheoliad 7 yn gosod dyletswydd ar y cyfryw weithredwyr, gyrwyr a phersonau sy'n gyfrifol am ddiogelwch neu drefn i beri bod personau sy'n ysmygu mewn cerbydau di-fwg yn stopio ysmygu.

Mae rheoliad 8 yn dynodi cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol yng Nghymru yn awdurdodau gorfodi ac yn darparu ar gyfer trosglwyddo cyfrifoldeb rhwng awdurdodau gorfodi.

Mae rheoliad 9 yn cyflwyno'r Atodlen i'r Rheoliadau sy'n cynnwys ffurfiau hysbysiadau o gosb sydd i'w defnyddio gan awdurdodau gorfodi.

Hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd o ddrafft o'r Rheoliadau yn unol ag Erthygl 8 o'r Gyfarwyddeb Senedd Ewrop a'r Cyngor 98/34/EC sy'n gosod gweithdrefn ar gyfer darparu gwybodaeth ym maes safonau a rheoliadau technegol a rheolau gwasanaethau y Gymdeithas Wybodaeth (OJ Rhif L204, 21.7.1998, t.37), fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb Senedd Ewrop a'r Cyngor 98/48/EC (OJ Rhif L217, 5.8.1998, t.18).


Notes:

[1] 2006 p.28.back

[2] 1993 p.38.back

[3] 2000 p.14.back

[4] 1983 p.20.back

[5] 1998 p.38.back



English version


[a] Amended by Correction Slip. Tudalen 3, fersiwn Saesneg, dylai'r dyddiad gwneud darllen, "9 March 2007"; a

Tudalen 3, fersiwn Cymraeg: dyla'r dyddiad gwneud darllen "9 Mawrth 2007".
back



ISBN 978 0 11 091534 0


 © Crown copyright 2007

Prepared 22 March 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070787w.html