BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Deddf Galluedd Meddyliol 2005 (Corff Priodol) (Cymru) 2007 Rhif 833 (Cy.71)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070833w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2007 Rhif 833 (Cy.71)

GALLUEDD MEDDYLIOL, CYMRU

Rheoliadau Deddf Galluedd Meddyliol 2005 (Corff Priodol) (Cymru) 2007

  Wedi'u gwneud 13 Mawrth 2007 
  Yn dod i rym
  At y diben a grybwyllir yn
  Rheoliad 1(1)(a) 1 Gorffennaf 2007 
  At bob diben arall 1 Hydref 2007 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 30(4), 30(6) a 65(1) o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005[1].

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Galluedd Meddyliol 2005 (Corff Priodol) (Cymru) 2007 a deuant i rym—

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Cyrff Priodol
    
2. At ddibenion adrannau 30, 31 a 32 o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005, y corff priodol o ran prosiect ymchwil yw pwyllgor—



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
2].


D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

13 Mawrth 2007



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)


Caiff y Rheoliadau hyn eu gwneud o dan adrannau 30 a 65 o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 ("y Ddeddf")(p.9) ac maent yn diffinio 'corff priodol' at ddibenion adrannau 30 i 32 o'r Ddeddf honno. Mae adran 30(1) o'r Ddeddf honno'n darparu bod ymchwil penodol a gaiff ei wneud i berson neu mewn perthynas â pherson sydd heb alluedd yn anghyfreithlon oni chaiff ei wneud yn rhan o brosiect a gymeradwywyd gan gorff priodol a'i fod yn bodloni gofynion pellach a bennir yn y Ddeddf.

Mae rheoliad 1 yn darparu byd y Rheoliadau hyn yn gymwys o ran gwneud ymchwil yng Nghymru. Mae'n ychwanegol yn darparu i'r Rheoliadau ddod i rym ar 1 Gorffennaf 2007 at ddibenion galluogi ceisiadau am gymeradwyaeth i ymchwil gael ei wneud a phenderfynu arno o dan y Ddeddf ac i ddod i rym ar 1 Hydref 2007 at bob diben arall.

Mae rheoliad 2 yn diffinio corff priodol fel pwyllgor a sefydlwyd i gynghori ar foeseg ymchwil ymwthiol, neu ar faterion sy'n cynnwys moeseg ymchwil ymwthiol, mewn perthynas â phobl nad yw'r galluedd ganddynt i gydsynio iddo ac a gydnabyddir i'r diben hwnnw gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae Arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer Deddf Galluedd Meddyliol 2005 a gosodwyd copi ohono yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru.


Notes:

[1] 2005 p.9.back

[2] 1998 p.38.back



English version



ISBN 978 0 11091543 2


 © Crown copyright 2007

Prepared 23 March 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070833w.html