BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Deddf Galluedd Meddyliol 2005 (Eiriolwyr Annibynnol o ran Galluedd Meddyliol) (Cymru) 2007 Rhif 852 (Cy.77)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070852w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2007 Rhif 852 (Cy.77)

GALLUEDD MEDDYLIOL, CYMRU

Rheoliadau Deddf Galluedd Meddyliol 2005 (Eiriolwyr Annibynnol o ran Galluedd Meddyliol) (Cymru) 2007

  Wedi'u gwneud 13 Mawrth 2007 
  Yn dod i rym 1 Hydref 2007 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 35(2) a (3), 36, 37(6) a (7), 38(8), 41, 64(1) a 65(1) o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005[1] a chan adran 12 a 204 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006[2].

Enwi, cychwyn a rhychwantu
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Galluedd Meddyliol 2005 (Eiriolwyr Annibynnol o ran Galluedd Meddyliol) (Cymru) 2007.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 1 Hydref 2007 ac maent yn gymwys i Gymru.

Dehongli
    
2. —(1) Yn y Rheoliadau hyn—

    (2) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriadau at roi cyfarwyddyd i berson weithredu fel EAGM yn gyfeiriadau at gyfarwyddyd a roddir yn unol ag adrannau 37, 38 a 39 o'r Ddeddf neu'n unol â'r Rheoliadau hyn.

Ystyr Corff GIG
    
3. At ddibenion adrannau 37 a 38 o'r Ddeddf, ac ar gyfer y Rheoliadau hyn ystyr "corff GIG" yw—

Diffiniad o driniaeth feddygol sylweddol
    
4. —(1) Mae'r rheoliad hwn yn diffinio triniaeth feddygol sylweddol at ddibenion adran 37 o'r Ddeddf.

    (2) Triniaeth feddygol sylweddol yw triniaeth sy'n golygu darparu triniaeth neu ei thynnu'n ôl neu omedd triniaeth yn yr amgylchiadau a ganlyn—

Penodi eiriolwyr annibynnol o ran galluedd meddyliol
    
5. —(1) Yn ddarostyngedig i gyfarwyddiadau a gaiff eu rhoi gan y Cynulliad, rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol wneud y fath drefniadau ag y mae'n eu hystyried sy'n rhesymol er mwyn galluogi EAGMau i fod ar gael i weithredu ar ran personau sy'n preswylio fel arfer yn yr ardal y sefydlwyd y Bwrdd Iechyd Lleol drosti, sef y Bwrdd y mae'r gweithredoedd neu'r penderfyniadau a argymhellir o dan adrannau 37, 38 neu 39 o'r Ddeddf neu o dan y Rheoliadau hyn yn berthnasol iddo.

    (2) Wrth wneud trefniadau o dan baragraff (1) caiff Bwrdd Iechyd Lleol wneud trefniadau gyda darparydd gwasanaethau eirioli.

    (3) Ni cheir cyfarwyddo unrhyw berson i weithredu fel EAGM onid yw'r person hwnnw wedi cael ei gymeradwyo gan y Bwrdd Iechyd Lleol neu onid yw yn gyflogedig gan ddarparydd gwasanaethau eirioli i weithredu fel EAGM.

    (4) Cyn cymeradwyo unrhyw berson o dan baragraff (3), rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol fod wedi ei fodloni bod y person yn bodloni'r gofynion penodi ym mharagraff (6).

    (5) Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol sicrhau ei bod yn ofynnol i unrhyw ddarparydd gwasanaethau eirioli y mae'n gwneud trefniadau ag ef o dan baragraff (2), yn unol â thelerau'r trefniadau hynny, sicrhau bod unrhyw berson a gyflogir gan y darparydd gwasanaethau hwnnw ac sydd ar gael i dderbyn cyfarwyddyd i weithredu fel EAGM yn bodloni'r gofynion penodi ym mharagraff (6).

    (6) Y gofynion penodi ym mharagraff (4) a (5) yw—

    (7) Wrth benderfynu a yw person yn bodloni'r gofyniad penodi ym mharagraff (6)(a) rhoddir ystyriaeth i safonau mewn canllawiau y caiff y Cynulliad eu dyroddi.

    (8) Cyn gwneud penderfyniad at ddibenion paragraff (6)(b) mewn perthynas ag unrhyw berson rhaid bod wedi cael—

    (9) Yn y rheoliad hwn mae person yn gyflogedig gan ddarparydd gwasanaethau eirioli os yw'r person hwnnw—

Swyddogaethau eiriolwr annibynnol galluedd meddyliol
     6. —(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo corff GIG neu awdurdod lleol yn rhoi cyfarwyddyd i berson weithredu fel EAGM o ran cynrychioli person (P).

    (2) Rhaid i'r EAGM benderfynu yng nghyflawnder yr amgylchiadau sut orau i gynrychioli P a sut i roi'r gefnogaeth orau iddo a rhaid i'r EAGM weithredu'n unol â'r gofynion ym mharagraff (3).

    (3) Rhaid i'r EAGM—

    (4) Rhaid i'r EAGM gloriannu'r holl wybodaeth a gafodd er mwyn—

    (5) Rhaid i'r EAGM baratoi adroddiad ar gyfer y corff GIG neu'r awdurdod lleol a roddodd gyfarwyddyd iddo.

    (6) Caiff yr EAGM gynnwys yn yr adroddiad unrhyw gyflwyniadau y mae'n eu hystyried sy'n briodol mewn perthynas â P ac â'r gweithredoedd neu'r penderfyniadau sy'n cael eu hargymell mewn perthynas â P.

Herio penderfyniadau sy'n effeithio ar bersonau sydd â diffyg galluedd
    
7. —(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo EAGM wedi cael cyfarwyddyd i weithredu a phan fo penderfyniad (gan gynnwys penderfyniad parthed galluedd P) yn cael ei wneud mewn perthynas â pherson (P).

    (2) Mae gan yr EAGM yr un hawliau i herio'r penderfyniad â phetai yn berson (ac eithrio EAGM)—

Adolygu trefniadau parthed llety
    
8. —(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys—

    (2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (5), caiff unrhyw gorff GIG neu awdurdod lleol—

roi cyfarwyddyd i berson weithredu fel EAGM mewn perthynas â P.

    (3) Pan fo corff GIG neu awdurdod lleol yn rhoi cyfarwyddyd i EAGM o dan y rheoliad hwn rhaid i'r corff neu'r awdurdod hwnnw, wrth wneud unrhyw benderfyniad sy'n codi o adolygiad o drefniadau ar gyfer llety P, ystyried unrhyw wybodaeth a roddwyd gan yr EAGM neu unrhyw gyflwyniadau a wnaed ganddo.

    (4) Ni cheir rhoi cyfarwyddyd i EAGM o dan y rheoliad hwn pan fo EAGM wedi cael cyfarwyddyd yn unol ag adrannau 37, 38 neu 39 o'r Ddeddf neu â rheoliad 9.

    (5) Ni cheir rhoi cyfarwyddyd i EAGM o dan y rheoliad hwn yn yr amgylchiadau a ganlyn—

Achosion gwarchod oedolion
    
9. —(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo corff GIG neu awdurdod lleol yn bwriadu cymryd camau gwarchodol, neu yn bwriadu trefnu iddynt gael eu cymryd, mewn perthynas â pherson (P) sydd â diffyg galluedd i gytuno i un neu fwy o'r camau hynny.

    (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), pan fo corff GIG neu awdurdod lleol yn cael hysbysiad o honiad neu yn cael tystiolaeth—

caiff roi cyfarwyddyd i EAGM os yw wedi ei fodloni y byddai'n fuddiol i P gael ei gynrychioli a'i gefnogi.

    (3) Pan fo corff GIG neu awdurdod lleol yn rhoi cyfarwyddyd i EAGM o dan y rheoliad hwn rhaid i'r corff neu'r awdurdod hwnnw, wrth wneud unrhyw benderfyniad ynglyn â chamau gwarchodol sydd i'w cymryd mewn perthynas â P, ystyried unrhyw wybodaeth a roddwyd gan yr EAGM neu unrhyw gyflwyniadau a wnaed ganddo.

    (4) Ni cheir rhoi cyfarwyddyd i EAGM o dan y rheoliad hwn pan fo EAGM wedi cael cyfarwyddyd yn unol ag adrannau 37, 38 neu 39 o'r Ddeddf neu â rheoliad 8.

    (5) Mae "Camau Gwarchodol" ("Protective Measures") yn cynnwys camau i leihau'r risg y bydd unrhyw gam-drin neu esgeulustod o P, neu gam-drin gan P, yn parhau a chamau a gymerir yn unol â chanllawiau a ddyroddir dan adran 7 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970[
4].



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

13 Mawrth 2007



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


    
1. Mae'r Rheoliadau hyn yn diffinio "corff GIG" a "triniaeth feddygol sylweddol" at ddibenion darpariaethau penodol yn Neddf Galluedd Meddyliol 2005 ("y Ddeddf") sy'n ymdrin ag Eiriolwyr Annibynnol o ran Galluedd Meddyliol ("EAGMau"). Mae'r Rheoliadau yn cynnwys darpariaeth hefyd ynghylch pwy y gellir ei benodi i weithredu fel EAGM ac ynghylch swyddogaethau EAGM pan fo wedi'i gyfarwyddo i gynrychioli person mewn achos penodol. Mae'r darpariaethau ynglyn â phenodiad a swyddogaethau EAGM yn gymwys pan fo'r EAGM wedi'i gyfarwyddo o dan adrannau 37 i 39 o'r Ddeddf neu o dan reoliadau a wnaed yn rhinwedd adran 41 o'r Ddeddf.

    
2. Mae rheoliad 3 yn diffinio "corff GIG". Defnyddir y term hwn yn adrannau 37 a 38 o'r Ddeddf. Mae'r adrannau hynny yn gosod rhwymedigaeth ar gyrff GIG i gyfarwyddo EAGM o dan amgylchiadau penodol sy'n cynnwys gweithredoedd neu benderfyniadau sy'n ymwneud â thriniaeth feddygol sylweddol neu â llety.

    
3. Mae rheoliad 4 yn diffinio "triniaeth feddygol sylweddol". O dan adran 37 o'r Ddeddf, rhaid i gorff GIG gyfarwyddo EAGM pan fo'r corff GIG yn bwriadu darparu triniaeth o'r fath, neu'n sicrhau bod triniaeth o'r fath yn cael ei darparu.

    
4. Mae rheoliad 5 yn darparu—

     5. Mae rheoliad 6 yn nodi'r camau y mae'n rhaid i EAGM eu cymryd pan fo wedi'i gyfarwyddo i weithredu mewn achos penodol. Rhaid i'r EAGM gael gafael ar wybodaeth am y person y mae wedi'i gyfarwyddo i'w gynrychioli ("P") ac am ddymuniadau, teimladau, credoau neu werthoedd P a chloriannu'r wybodaeth honno. Rhaid i'r EAGM roi adroddiad wedyn i'r sawl a'i gyfarwyddodd.

    
6. Mae rheoliad 7 yn darparu y caiff EAGM, sydd wedi'i gyfarwyddo i gynrychioli P ynglyn ag unrhyw fater, herio penderfyniad a wneir ar y mater hwnnw ynghylch P, gan gynnwys unrhyw benderfyniad o ran a yw P yn berson sydd â diffyg galluedd. At ddibenion herio, ymdrinnir â'r EAGM yn yr un modd ag unrhyw berson arall sy'n gofalu am P neu sy'n ymddiddori yn ei les.

    
7. Mae rheoliad 8 yn darparu y caiff corff GIG neu awdurdod lleol, pan fo'r naill neu'r llall wedi gwneud trefniadau ynglyn â llety P ac wedyn yn bwriadu adolygu'r trefniadau hynny, gyfarwyddo EAGM. Dim ond pan nad yw P yn meddu ar y galluedd i gymryd rhan yn yr adolygiad, neu pan nad oes neb arall y gellir ymgynghori ag ef ynghylch materion sy'n effeithio ar beth fyddai orau er lles P, y caniateir i EAGM gael ei gyfarwyddo o dan reoliad 8.

    
8. Mae rheoliad 9 yn darparu, pan honnir bod P yn cael neu wedi cael ei gam-drin neu ei esgeuluso gan berson arall neu fod P yn cam-drin neu wedi cam-drin person arall ac y mae mesurau amddiffyn i'w cymryd gan gorff GIG neu awdurdod lleol, neu y bwriedir i'r mesurau hynny gael eu cymryd gan y naill neu'r llall, y caiff corff GIG neu awdurdod lleol gyfarwyddo EAGM i gynrychioli P. "Camau Gwarchodol" yw'r mesurau hynny a gymerir yn unol â chanllawiau a ddyroddir o dan adran 7 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970. "Mewn Dwylo Diogel" oedd enw'r canllawiau a oedd yn gyfredol adeg gwneud y Rheoliadau hyn.


Notes:

[1] 2005 p.9. Mae adran 64(1) yn rhoi ystyr "prescribed".back

[2] 2006 p.42.back

[3] 1997 p.50. Mewnosodir adrannau 113A i 113D gan adran 163 o Ddeddf Troseddu Cyfundrefnol Difrifol a'r Heddlu 2005 (p.14).back

[4] 1970 p.42back

[5] 1998 p.38.back



English version



ISBN 978 0 11 091536 4


 © Crown copyright 2007

Prepared 21 March 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070852w.html