BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Penderfyniadau, Dogfennau a Chyfarfodydd) a'r Pwyllgorau Safonau (Cymru) (Diwygio) 2007 Rhif 951 (Cy.82)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070951w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2007 Rhif 951 (Cy.82)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Penderfyniadau, Dogfennau a Chyfarfodydd) a'r Pwyllgorau Safonau (Cymru) (Diwygio) 2007

  Wedi'u gwneud 21 Mawrth 2007 
  Yn dod i rym 21 Ebrill 2007 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 22, 53(11) a (12), 56(5), 105 a 106 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000[1], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Penderfyniadau, Dogfennau a Chyfarfodydd) a'r Pwyllgorau Safonau (Cymru) (Diwygio) 2007 ac maent yn dod i rym ar 21 Ebrill 2007.

    (2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "Deddf 1972" ("the 1972 Act") yw Deddf Llywodraeth Leol 1972[
2].

    (3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Penderfyniadau, Dogfennau a Chyfarfodydd) (Cymru) 2001
     2. Yn rheoliad 10 o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Penderfyniadau, Dogfennau a Chyfarfodydd) (Cymru) 2001[3]—

Diwygio Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001
     3. Yn rheoliad 26 o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001[4]—

Cymhwyso Atodlen 12A i Ddeddf 1972 at Bwyllgorau Safonau
     4. Pan fydd cyfarfod o bwyllgor safonau, neu is-bwyllgor o bwyllgor safonau yn cael ei gynnull i ystyried mater a atgyfeirir iddo o dan ddarpariaethau adran 70(4) neu (5) neu 71(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, bydd darpariaethau Rhan 4 i 6 o Atodlen 12A i Ddeddf 1972 yn gymwys fel pe bai'r disgrifiadau canlynol o wybodaeth esempt yn cael eu mewnosod ar ôl paragraff 18 o'r Atodlen honno



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
5]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

21 Mawrth 2007



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)


Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran prif gynghorau yng Nghymru.

Mae Gorchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 yn diwygio Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac, o wneud hynny, yn newid Rhif au'r paragraffau yn Atodlen 12A. Caiff y cyfeiriadau at Atodlen 12A yn rheoliad 10 o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Penderfyniadau, Dogfennau a Chyfarfodydd) (Cymru) 2001 eu diwygio gan reoliad 2 o'r Rheoliadau hyn.

Mae rheoliad 26 o Reoliadau'r Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001 hefyd yn cyfeirio at Atodlen 12A a chaiff y cyfeiriadau hynny eu diwygio gan reoliad 3 o'r Rheoliadau hyn.

Mae rheoliad 4 yn gwneud darpariaeth sy'n addasu cymhwysiad Atodlen 12A pan fo pwyllgor safonau yn cyfarfod i ddelio â honiad o dorri cod ymddygiad.


Notes:

[1] 2000 p.22.back

[2] 1972 p.70.back

[3] O.S. 2001/2290.back

[4] O.S. 2001/2283.back

[5] 1998 p.38.back



English version



ISBN 978 0 11 091559 3


 © Crown copyright 2007

Prepared 4 April 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070951w.html