BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Anffurfio (Triniaethau a Ganiateir) (Cymru) 2007 Rhif 1029 (Cy.96)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20071029w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2007 Rhif 1029 (Cy.96)

ANIFEILIAID, CYMRU

LLES ANIFEILIAID

Rheoliadau Anffurfio (Triniaethau a Ganiateir) (Cymru) 2007

  Wedi'u gwneud 27 Mawrth 2007 
  Yn dod i rym 28 Mawrth 2007 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, sef o ran Cymru, yr awdurdod cenedlaethol priodol at ddibenion arfer y pwerau a roddwyd gan 5(4) o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006[1], yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau hynny.

     Yn unol ag adran 5(5) o'r Ddeddf honno, mae'r Cynulliad wedi ymgynghori â'r personau hynny sydd yn ei farn ef yn briodol am eu bod yn cynrychioli buddiannnau y mae a wnelo'r Rheoliadau hyn â hwy.

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Anffurfio (Triniaethau a Ganiateir) (Cymru) 2007. Maent yn gymwys i Gymru a deuant i rym ar 28 Mawrth 2007.

Dehongli
    
2. Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr "a ffermir" ("farmed") yw, o ran anifail, a fegir neu a gedwir at gynhyrchu bwyd, gwlân neu groen neu at ddibenion ffermio eraill;

Eithriadau i'r gwaharddiad ar anffurfio
    
3. Nid yw adran 5(1) a (2) o'r Ddeddf yn gymwys i driniaeth a restrir yn Atodlen 1, ar yr amod y rhoddir y driniaeth—

Cyfalwni triniaethau gwaharddedig mewn argyfwng
    
4. —(1) Nid yw adran 5(1) a (2) o'r Ddeddf yn gymwys pan fo triniaeth waharddedig yn cael ei rhoi mewn argyfwng er mwyn arbed bywyd yr anifail a warchodir[2] neu er mwyn lledfu ei boen.

    (2) Rhaid i unrhyw driniaeth a roddir o dan baragraff (1) gael ei rhoi yn unol â rheoliad 3, i'r graddau y mae'n ymarferol o dan yr holl amgylchiadau.

Personau sy'n cael rhoi triniaethau a ganiateir
     5. —(1) Nid oes caniatâd i unrhyw driniaeth a ganiateir o dan reoliad 3 gael ei rhoi ond gan filfeddyg neu gan unrhyw berson arall y mae caniatâd iddo roi'r driniaeth honno o dan Ddeddf Milfeddygon 1996[3] neu Orchymyn Milfeddygon (Esemptiadau) 1962[4].

    (2) Nid yw'r cyfyngiad ym mharagraff (1) yn gymwys i—

moch nad ydynt yn hyn na 7 niwrnod oed.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

27 Mawrth 2007



ATODLEN 1
Rheoliad 3


TRINIAETHAU A GANIATEIR


Gwartheg
Triniaethau Adnabod:

Triniaethau ar gyfer Rheoli Atgenhedlu.

Triniaethau Rheoli Eraill:

Moch
Triniaethau Adnabod:

Triniaethau ar gyfer Rheoli Atgenhedlu.

Triniaethau Rheoli Eraill:

Adar
Triniaethau Adnabod:

Triniaethau ar gyfer Rheoli Atgenhedlu.

Triniaethau Rheoli Eraill:

Defaid
Triniaethau Adnabod:

Triniaethau ar gyfer Rheoli Atgenhedlu.

Triniaethau Rheoli Eraill:

Geifr
Triniaethau Adnabod:

Triniaethau ar gyfer Rheoli Atgenhedlu.

Triniaethau Rheoli Eraill:

Ceffylau
Triniaethau Adnabod:

Triniaethau ar gyfer Rheoli Atgenhedlu.

Ceirw
Triniaethau Adnabod:

Triniaethau ar gyfer Rheoli Atgenhedlu.

Triniaethau Rheoli Eraill:

Rhywogaethau eraill
Triniaethau Adnabod:

Triniaethau ar gyfer Rheoli Atgenhedlu.

Triniaethau Rheoli Eraill:

Tynnu cen pysgod.



ATODLEN 2
Rheoliad 3


GWARTHEG: GOFYNION WRTH ROI TRINIAETHAU PENODOL A GANIATEIR


Pan roddir triniaeth i wartheg, a honno'n driniaeth sydd yn y rhestr isod, rhaid iddi gael ei rhoi yn unol â'r amod neu'r amodau a bennir ar gyfer y driniaeth honno.

     1. Ysbaddu
Os y dull a ddefnyddir yw defnyddio modrwy rwber i gyfyngu ar rediad y gwaed i'r ceillgwd, ni ellir rhoi'r driniaeth ond i anifail nad yw'n hŷn na 7 niwrnod oed.

Pan ddefnyddir dull arall, rhaid rhoi anesthetig pan fo'r anifail yn 2 fis oed neu'n hyn na hynny.

     2. Caglu embryonau neu'u trosglwyddo drwy ddull llawfeddygol
Rhaid rhoi anesthetig.

     3. Gosod dyfais atal cenhedlu o dan y croen
Ni chaniateir rhoi'r driniaeth i anifail a ffermir.

Ni chaniateir rhoi'r driniaeth ond fel rhan o raglen fridio at ddibenion cadwraeth.

     4. Trosglwyddo ofa, gan gynnwys casglu ofa drwy ddull llawfeddygol
Rhaid rhoi anesthetig.

     5. Fasdoriad
Rhaid rhoi anesthetig.

     6. Digornio
Rhaid rhoi anesthetig.

     7. Dadimpio
Ni chaniateir rhoi'r driniaeth ond i anifail nad yw'n hŷn na 6 mis oed.

Os serio cemegol yw'r dull a ddefnyddir, ni chaniateir rhoi'r driniaeth ond i anifail nad yw'n hŷn na 7 niwrnod oed.

Pan ddefnyddir dull arall rhaid rhoi anesthetig.

     8. Tynnu tethi ychwanegol.
Rhaid rhoi anesthetig pan fo'r anifail yn 3 fis oed neu'n hyn na hynny.



ATODLEN 3
Rheoliad 3


MOCH: GOFYNION WRTH ROI TRINIAETHAU PENODOL A GANIATEIR


Pan roddir triniaeth i fochyn, a honno'n driniaeth sydd yn y rhestr isod, rhaid iddi gael ei rhoi yn unol â'r amod neu'r amodau a bennir ar gyfer y driniaeth honno.

     1. Ysbaddu
Rhaid i'r dull a ddefnyddir beidio â chynnwys rhwygo meinweoedd.

Rhaid rhoi anesthetig ac analgesia estynedig ychwanegol pan fo'r anifail yn 7 niwrnod oed neu'n hŷn na hynny.

     2. Gosod dyfais atal cenhedlu o dan y croen
Ni chaniateir rhoi'r driniaeth i anifail a ffermir.

Ni chaniateir rhoi'r driniaeth ond fel rhan o raglen fridio at ddibenion cadwraeth.

     3. Fasdoriad
Rhaid rhoi anesthetig.

     4. Modrwyo trwynau (cwirso)
Ni chaniateir rhoi'r driniaeth ond i anifal nas cedwir yn barhaus mewn system hwsmona dan do.

     5. Tocio cynffonnau
Ni chaniateir rhoi'r driniaeth ond os cymerwyd camau yn gyntaf i wella amgylchiadau amgylcheddol neu systemau rheoli er mwyn atal brathu cynffonnau, ond y mae tystiolaeth o hyd i ddangos bod y moch wedi'u hanafu gan frathu cynffonnau.

Rhaid i'r dull a ddefnyddir gynnwys torri'r gynffon yn gyflym ac yn llwyr.

Rhaid rhoi anesthetig ac analgesia estynedig ychwanegol pan fo'r anifail yn 7 niwrnod oed neu'n hŷn na hynny.

     6. Lleihau dannedd
Ni chaniateir rhoi'r driniaeth ond i anifail nad yw'n hŷn na 7 niwrnod oed.

Rhaid i'r driniaeth gynnwys y canlynol yn unig, sef lleihau'r dannedd cornel drwy naill ai eu rhygnu neu eu clipio gan adael arwyneb llyfn cyfan.

Ni chaniateir rhoi'r driniaeth ond os cymerwyd camau yn gyntaf i wella amgylchiadau amgylcheddol neu systemau rheoli er mwyn atal brathu cynffonnau ac arferion drwg eraill, ond y mae tystiolaeth o hyd i ddangos bod tethi hychod neu glustiau neu gynffonnau moch eraill wedi'u hanafu drwy frathu.

     7. Tocio ysgithrau
Ni chaniateir rhoi'r driniaeth hon ond pan fo tystiolaeth i ddangos ei bod yn angenrheidiol er mwyn atal anifeiliaid eraill rhag cael eu hanafu neu am resymau diogelwch.



ATODLEN 4
Rheoliad 3


ADAR: GOFYNION WRTH ROI TRINIAETHAU PENODOL A GANIATEIR


Pan roddir triniaeth i aderyn, a honno'n driniaeth sydd yn y rhestr isod, rhaid iddi gael ei rhoi yn unol â'r amod neu'r amodau a bennir ar gyfer y driniaeth honno.

     1. Ysbaddu
Ni chaniateir rhoi'r driniaeth i adar a ffermir.

Ni chaniateir rhoi'r driniaeth ond fel rhan o raglen fridio at ddibenion cadwraeth.

Rhaid rhoi anesthetig.

     2. Gosod dyfais atal cenhedlu o dan y croen
Ni chaniateir rhoi'r driniaeth i adar a ffermir.

Ni chaniateir rhoi'r driniaeth ond fel rhan o raglen fridio at ddibenion cadwraeth.

     3. Ofidectomi.
Ni chaniateir rhoi'r driniaeth i adar a ffermir.

Ni chaniateir rhoi'r driniaeth ond fel rhan o raglen fridio at ddibenion cadwraeth.

Rhaid rhoi anesthetig.

     4. Fasdoriad
Ni chaniateir rhoi'r driniaeth i adar a ffermir.

Ni chaniateir rhoi'r driniaeth ond fel rhan o raglen fridio at ddibenion cadwraeth.

Rhaid rhoi anesthetig.

     5. Tocio pig dofednod
Rhaid rhoi'r driniaeth gan ddefnyddio offeryn addas, ac ar—

Rhaid atal unrhyw waedlif sy'n dod o'r big yn sgil hynny drwy ei serio.

Ar ddofednod y bwriedir iddynt fod yn ieir dodwy ac a gedwir mewn sefydliadau gyda 350 neu ragor o ieir dodwy, ni chaniateir i'r driniaeth—

     6. Torri crogrib
Pan na fo'r twrci yn hŷn na 21 o ddiwrnodau oed, caniateir rhoi'r driniaeth naill ai drwy ei phinsio allan â llaw neu drwy ddefnyddio offeryn addas.

     7. Tynnu bysedd traed ffowls domestig a thyrcwn
Ni chaniateir rhoi'r driniaeth i aderyn sy'n 3 diwrnod oed neu'n hyn onibai bod llawfeddyg yn barnu ei bod yn angenrheidiol ei rhoi.

Rhaid rhoi anesthetig pan fo'r anifail yn 3 diwrnod oed neu'n hyn na hynny.

     8. Torri crib
Ni chaniateir rhoi'r driniaeth i aderyn sy'n 3 diwrnod oed neu'n hŷn onibai bod llawfeddyg yn barnu ei bod yn angenrheidiol ei rhoi.

Rhaid rhoi anesthetig pan fo'r anifail yn 3 diwrrnod oed neu'n hŷn na hynny.

     9. Laparosgopi
Rhaid rhoi anesthetig.

     10. Tocio blaenau adennydd
Ni chaniateir rhoi'r driniaeth i adar a ffermir.

Rhaid rhoi anesthetig pan fo'r anifail yn 10 niwrrnod oed neu'n hŷn na hynny.



ATODLEN 5
Rheoliad 3


DEFAID: GOFYNION WRTH ROI TRINIAETHAU PENODOL A GANIATEIR


Pan roddir triniaeth i ddafad, a honno'n driniaeth sydd yn y rhestr isod, rhaid iddi gael ei rhoi yn unol â'r amod neu'r amodau a bennir ar gyfer y driniaeth honno.

     1. Ysbaddu
Os y dull a ddefnyddir yw defnyddio modrwy rwber i gyfyngu ar rediad y gwaed i'r ceillgwd, ni ellir rhoi'r driniaeth ond i anifail nad yw'n hŷn na 7 niwrnod oed.

Pan ddefnyddir dull arall, rhaid rhoi anesthetig pan fo'r anifail yn 3 mis oed neu'n hŷn na hynny.

     2. Gosod dyfais atal cenhedlu o dan y croen
Ni chaniateir rhoi'r driniaeth i anifail a ffermir.

Ni chaniateir rhoi'r driniaeth ond fel rhan o raglen fridio at ddibenion cadwraeth.

     3. Fasdoriad
Rhaid rhoi anesthetig.

     4. Digornio
Rhaid rhoi anesthetig.

     5. Tocio cynffonnau
Ym mhob achos, rhaid cadw digon o'r gynffon i guddio llawes goch dafad fenyw neu anws dafad wryw.

Os y dull a ddefnyddir yw defnyddio modrwy rwber neu ddyfais arall i gyfyngu ar rediad y gwaed i'r gynffon, ni ellir rhoi'r driniaeth ond i anifail nad yw'n hŷn na 7 niwrnod oed.

Pan ddefnyddir dull arall rhaid rhoi anesthetig.



ATODLEN 6
Rheoliad 3


GEIFR: GOFYNION WRTH ROI TRINIAETHAU PENODOL A GANIATEIR


Pan roddir triniaeth i afr, a honno'n driniaeth sydd yn y rhestr isod, rhaid iddi gael ei rhoi yn unol â'r amod neu'r amodau a bennir ar gyfer y driniaeth honno.

     1. Ysbaddu
Os y dull a ddefnyddir yw defnyddio modrwy rwber i gyfyngu ar rediad y gwaed i'r ceillgwd, ni ellir rhoi'r driniaeth ond i anifail nad yw'n hŷn na 7 niwrnod oed.

Pan ddefnyddir dull arall, rhaid rhoi anesthetig pan fo'r anifail yn 2 fis oed neu'n hŷn na hynny.

     2. Gosod dyfais atal cenhedlu o dan y croen
Ni chaniateir rhoi'r driniaeth i anifail a ffermir.

Ni chaniateir rhoi'r driniaeth ond fel rhan o raglen fridio at ddibenion cadwraeth.

     3. Fasdoriad
Rhaid rhoi anesthetig.

     4. Digornio
Rhaid rhoi anesthetig.



ATODLEN 7
Rheoliad 3


CEFFYLAU: GOFYNION WRTH ROI TRINIAETHAU PENODOL A GANIATEIR


Pan roddir triniaeth i geffyl, a honno'n driniaeth sydd yn y rhestr isod, rhaid iddi gael ei rhoi yn unol â'r amod neu'r amodau a bennir ar gyfer y driniaeth honno.

     1. Ysbaddu
Rhaid rhoi anesthetig.

     2. Fasdoriad
Rhaid rhoi anesthetig.



ATODLEN 8
Rheoliad 3


CEIRW: GOFYNION WRTH ROI TRINIAETHAU PENODOL A GANIATEIR


Pan roddir triniaeth i garw, a honno'n driniaeth sydd yn y rhestr isod, rhaid iddi gael ei rhoi yn unol â'r amod neu'r amodau a bennir ar gyfer y driniaeth honno.

     1. Ysbaddu
Rhaid rhoi anesthetig.

     2. Gosod dyfais atal cenhedlu o dan y croen
Ni chaniateir rhoi'r driniaeth i geirw a ffermir.

Ni chaniateir rhoi'r driniaeth ond fel rhan o raglen fridio at ddibenion cadwraeth.

     3. Fasdoriad
Rhaid rhoi anesthetig.

     4. Tynnu cyrn pan na fydd ceirw yn bwrw eu melfed
Ni chaniateir rhoi'r driniaeth ond i geirw a ffermir neu ar geirw a gedwir ar dir yn yr un dull ag fel petaent yn geirw a ffermir.

Ni chaniateir tynnu ond y rhan ansensitif o'r cyrn.



ATODLEN 9
Rheoliad 3


RHYWOGAETHAU ERAILL: GOFYNION WRTH ROI TRINIAETHAU PENODOL A GANIATEIR


Pan roddir triniaeth i anifail heblaw un yr ymdrinnir ag ef yn unrhyw un o Atodlenni 2 i 8, a honno'n driniaeth sydd yn y rhestr isod, rhaid iddi gael ei rhoi yn unol â'r amod neu'r amodau a bennir ar gyfer y driniaeth honno.

     1. Torri blaen clust chwith cathod lledwyllt
Rhaid rhoi anesthetig.

     2. Ysbaddu
Rhaid rhoi anesthetig.

     3. Caglu embryonau neu'u trosglwyddo drwy ddull llawfeddygol
Ni chaniateir rhoi'r driniaeth ond fel rhan o raglen fridio at ddibenion cadwraeth.

Rhaid rhoi anesthetig.

     4. Gosod dyfais atal cenhedlu o dan y croen
Ni chaniateir rhoi'r driniaeth i anifail a ffermir.

Ni chaniateir rhoi'r driniaeth ond fel rhan o raglen fridio at ddibenion cadwraeth.

     5. Trosglwyddo ofa, gan gynnwys casglu ofa drwy ddull llawfeddygol
Ni chaniateir rhoi'r driniaeth ond fel rhan o raglen fridio at ddibenion cadwraeth.

Rhaid rhoi anesthetig.

     6. Disbaddu
Rhaid rhoi anesthetig.

     7. Fasdoriad
Rhaid rhoi anesthetig.

     8. Laparosgopi
Pan na fo'r anifail y mae'r driniaeth i'w rhoi iddo yn ymlusgiad, ni chaniateir rhoi'r driniaeth ond fel rhan o raglen fridio at ddibenion cadwraeth.

Yn y naill achos neu'r llall, rhaid rhoi anesthetig.

     9. Tynnu corewinedd cŵn
Rhaid rhoi anesthetig ac eithrio pan fo'r ci yn gi bach nad yw ei lygaid wedi agor eto.

     10. Tynnu cen pysgod
Ni chaniateir rhoi'r driniaeth ond at ddibenion canfod oed.



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Yn ôl adrannau 5 (1) a (2) o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 (p.45) ("y Ddeddf") tramgwydd yw gwneud y canlynol i anfeiliaid sy'n cael eu gwarchod o dan y Ddeddf honno:

Ystyr "rhoi triniaeth waharddedig" yw gwneud rhywbeth sy'n cynnwys ymyrryd â meinweoedd sensitif (e.e. croen) neu strwythur esgyrn yr anifail heblaw at ei drin yn feddygol (gweler adran 5(3) o'r Ddeddf).

Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu'r triniaethau nad ydynt yn dramgwyddau yn ôl adran 5(1) a 5(2). Gan ddibynnu ar yr anifeiliaid y mae'r triniaethau i'w rhoi iddynt, caiff y triniaethau hynny gynnwys triniaethau at:

Am rai o'r triniaethau hyn, ac unwaith eto gan ddibynnu ar yr anifeiliaid y mae caniatâd i'w rhoi iddynt, mae Atodlenni 2 i 9 yn gosod cyfyngiadau ar roi'r driniaeth (fel pennu oedran y mae'n rhaid i'r anifail fod ynddo, neu bennu bod rhaid rhoi anesthetig).

O ran triniaethau penodol y caniateir eu rhoi i foch, mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu paragraff 8 o Bennod I o'r Atodiad i Gyfarwyddeb y Cyngor 91/630/EEC sy'n gosod y safonau gofynnol ar gyfer gwarchod moch (OJ Rhif L340, 11.12.1991, t.33), fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2001/88/EC, OJ Rhif L316, 1.12.2001, t.1), Cyfarwyddeb y Comisiwn 2001/93/EC (OJ Rhif L316, 1.12.2001, t.36) a Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 806/2003 (OJ Rhif L122, 16.5.2003, t.1). O ran tocio pig ieir dodwy, mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu paragraff 8 o'r Atodiad i Gyfarwyddeb y Cyngor 1999/74/EC sy'n gosod y safonau gofynnol ar gyfer gwarchod ieir dodwy (OJ Rhif L203, 3.8.1999, p.53, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 806/2003 (OJ Rhif L122, 16.5.2003, t.1).

Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi. Gellir cael copïau ohono oddi wrth Swyddfa'r Prif Swyddog Milfeddygol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.


Notes:

[1] 2006 p.45. Diffinnir yr awdurdod cenedlaethol priodol yn adran 62(1) o'r Ddeddf.back

[2] 2006 p.45 Mae i "anifail a warchodir" yr ystyr a rhoddir I "protected animal" yn adran 2 o'r Ddeddfback

[3] 1966 p.36; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1988/526, 1991/1412, 2002/1479.back

[4] O.S. 1962/2557; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1982/1627, 2002/1646.back

[5] 1998 p.38.back



English version



ISBN 978 0 11 091576 0


 © Crown copyright 2007

Prepared 25 April 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20071029w.html