BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) (Diwygio) 2007 Rhif 1710 (Cy.148)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20071710w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU


2007 Rhif 1710 (Cy.148)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) (Diwygio) 2007

  Wedi'u gwneud 2007 
  Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 13 Mehefin 2007 
  Yn dod i rym 14 Mehefin 2007 

Mae Gweinidogion Cymru wedi'u dynodi [1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd.

     Gan arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan yr adran honno, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi, cymhwyso a chychwyn
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) (Diwygio) 2007.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 14 Mehefin 2007.

Diwygio
    
2. —(1) Diwygir Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru)2007[3] fel a ganlyn.

    (2) Yn rheoliad 2 (Dehongli), yn y man priodol, mewnosoder—

    (3) Yn rheoliad 2 (Dehongli), yn lle'r diffiniad o "cynnyrch" rhodder—

    (4) Yn lle paragraff (8) o reoliad 4 (Esemptiad ar gyfer cynhyrchion a awdurdodwyd a mewnforion personol) rhodder—

    (5) Yn Atodlen 1 (Amodau Mewnforio), Rhan VIII (Cynhyrchion Amrywiol), ar ôl paragraff 19 mewnosoder —


Jane Davidson
Y Gweinidog dros Gynaliadwyedd a Datblygu Gwledig

12 Mehefin 2007



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynhyrchion sy'n dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) (Diwygio) 2007(O.S. 2007/376 (Cy.36) ("y prif Reoliadau"). Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi effaith i Benderfyniad y Comisiwn 2007/275 (ynghylch rhestrau o anifeiliaid a chynhyrchion fydd yn ddarostyngedig i reolaethau mewn safleoedd arolygu ar y ffin o dan Gyfarwyddeb y Cyngor 91/496 a 97/78/EC) (OJ Rhif L166, 4.5.2007, t. 9).

Mae Penderfyniad y Comisiwn 2007/275/EC yn pennu'r cynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid o drydydd gwledydd y bydd y prif Reoliadau a Chyfarwyddeb y Cyngor 97/78/EC (sy'n gosod yr egwyddorion sy'n llywodraethu trefniadaeth gwiriadau milfeddygol ar gynhyrchion sy'n dod i mewn i'r Gymuned o drydydd gwledydd) (OJ Rhif L24, 30.1.98, t. 9) yn gymwys iddynt. Y cynhyrchion yw cig, pysgod (gan gynnwys pysgod cregyn), llaeth, a chynhyrchion sydd wedi'u gwneud o'r rhain, ynghyd â chynhyrchion wy, mêl a chynhyrchion mêl, cynhyrchion bwyd cyfansawdd a nifer fawr o sgil-gynhyrchion anifeiliaid, gan gynnwys casinau, crwyn, esgyrn a gwaed.

Mae Rheoliad 2(2) a (3) yn ymestyn rhychwant y prif Reoliadau i gwmpasu cynhyrchion cyfansawdd.

Ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol llawn ar gyfer yr offeryn hwn, gan na ragwelir y bydd yr offeryn yn effeithio o gwbl ar y sector breifat na'r sector wirfoddol.


Notes:

[1] O.S. 2005/2766. Yn rhinwedd adrannau 59(1) a 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraffau 28 a 30 o Atodlen 11 iddi, mae swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan y dynodiad hwn i'w harfer gan Weinidogion Cymru.back

[2] 1972 p. 68.back

[3] O.S. 2007/376 (Cy.36).back

[4] OJ Rhif L116, 4.5.2007, t.9.back



English version



ISBN 978 0 11 091583 8


 © Crown copyright 2007

Prepared 22 June 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20071710w.html