BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Lwfansau Cynhaliaeth Addysg (Cymru) 2007 Rhif 2311 (Cy.182)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20072311w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU


2007 Rhif 2311 (Cy.182)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Lwfansau Cynhaliaeth Addysg (Cymru) 2007

  Wedi'u gwneud 4 Awst 2007 
  Wedi'u gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 7 Awst 2007 
  Yn dod i rym 31 Awst 2007 

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 181 o Ddeddf Addysg 2002[1], ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt[2], yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:—

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Lwfansau Cynhaliaeth Addysg (Cymru) 2007.

    (2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Awst 2007 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli
    
2. —(1) Yn y Rheoliadau hyn —

Personau Cymwys
     3. —(1) Mae person cymwys yn cymhwyso i gael lwfans cynhaliaeth addysg mewn cysylltiad â chwrs addysg cymwys yn ddarostyngedig i'r Rheoliadau hyn ac yn unol â hwy.

    (2) Mae person yn berson cymwys sy'n cymhwyso i gael lwfans cynhaliaeth addysg—

    (3) Yr amodau yw—

    (4) Nid yw person cymwys yn cymhwyso i gael lwfans cynhaliaeth addysg os paragraff 9 yw'r unig baragraff o baragraffau 1 i 11 o Ran 2 o'r Atodlen y mae'r person yn gweddu iddo.

    (5) Ni thelir lwfans cynhaliaeth addysg oni fydd person cymwys yn bodloni'r amodau yn rheoliad 7 neu reoliad 8.

    (6) Mae person cymwys yn cymhwyso i gael lwfans cynhaliaeth addysg o ran y cyfnod cymhwyso y cyfeirir ato ym mharagraff (7).

    (7) Yn ddarostyngedig i baragraff (8) ystyr "y cyfnod cymhwyso" yw'r cyfnod o dair blynedd academaidd olynol sy'n dechrau yn y flwyddyn academaidd pan fydd y person cymwys yn peidio â bod mewn oedran ysgol gorfodol ynddi.

    (8) Caiff person cymwys dderbyn taliad yn y flwyddyn academaidd pan fydd yn dathlu ei ben blwydd yn ugain oed neu os bydd wedi derbyn lwfans cynhaliaeth addysg mewn dim mwy na dwy flynedd o'r tair blynedd academaidd flaenorol a bod y sefydliad addysgol cydnabyddedig yn penderfynu ar ôl ymgynghori ag unrhyw gorff addysg arall neu gorff arall y gwêl yn dda, y dylai'r person cymwys dderbyn lwfans cynhaliaeth addysg ar gyfer y flwyddyn academaidd o dan sylw.

    (9) Rhaid i berson wneud cais am lwfans cynhaliaeth addysg mewn cysylltiad â phob blwyddyn academaidd o gwrs addysg cymwys y mae'n cymhwyso i gael cymorth ar ei gyfer.

Cwrs addysg cymwys
    
4. —(1) Mae cwrs yn gwrs addysg cymwys at ddibenion rheoliad 3—

Strwythur a lefel y taliadau, ac asesu
    
5. —(1) Llunnir y lwfans cynhaliaeth addysg o :

    (2) Mae'r dyfarndal wythnosol y mae person cymwys yn ei gael yn 2006/07 i'w benderfynu yn unol â'r tabl a ganlyn:

Incwm aelwyd Dyfarndal wythnosol
Hyd at £20,270 £30
£20,271 ond yn llai na £24,850 neu'n hafal iddo £20
£24,851 ond yn llai na £30,000 neu'n hafal iddo £10

    (3) Mae'r dyfarndal wythnosol y mae person cymwys yn ei gael yn 2007/08 i'w benderfynu yn unol â'r tabl a ganlyn:

Incwm aelwyd Dyfarndal wythnosol
Hyd at £20,817 £30
£20,818 ond yn llai na £25,521 neu'n hafal iddo £20
£25,522 ond yn llai na £30,810 neu'n hafal iddo £10

    (4) Swm y taliad bonws ysbeidiol a ddyfernir yn unol â rheoliad 8 yw £100.

    (5) Yn ddarostyngedig i baragraffau (6) i (8), bydd yr asesiad o gymhwystra ariannol person cymwys am lwfans cynhaliaeth addysg a wneir o dan y rheoliad hwn yn ddilys am y flwyddyn academaidd gyfan y gwneir yr asesiad ar ei chyfer.

    (6) Os aseswyd bod yr incwm yn fwy na £20,270 yn 2006/07 neu'n fwy na £20,817 yn 2007/08, caiff person cymwys wneud cais i gael ei ailasesu os bodlonir un neu fwy o'r amodau canlynol:

    (7) Os bydd Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni bod un neu fwy o'r amodau ym mharagraff (6) yn gymwys a bod y person cymwys wedi gwneud cais i gael ei ailasesu, caniateir iddynt benderfynu bod gan berson cymwys yr hawl i gael lwfans cynhaliaeth addysg neu lefel uwch o lwfans cynhaliaeth addysg sy'n daladwy o dan reoliad 7.

    (8) Os bydd Gweinidogion Cymru yn gwneud penderfyniad o dan baragraff (7) rhaid iddynt hysbysu'r person cymwys am y penderfyniad.

    (9) Os bydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu o dan baragraff (7) bod hawl gan berson cymwys i gael lwfans cynhaliaeth addysg neu lefel uwch o ddyfarndal wythnosol o dan reoliad 7, caniateir iddynt-

     6. Wrth asesu cymhwystra ar gyfer lwfans cynhaliaeth addysg, gan gynnwys ailasesiad o dan reoliad 5(6) i (8), caiff Gweinidogion Cymru gymryd y camau hynny a gwneud yr ymholiadau hynny y maent yn ystyried sy'n angenrheidiol i benderfynu a yw'r ceisydd yn berson cymwys, a yw'r ceisydd yn cymhwyso i gael cymorth a swm y cymorth sy'n daladwy, os oes un.

Cytundeb Dysgu'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg a'r dyfarndal wythnosol
    
7. Mae person cymwys yn cymhwyso i gael dyfarndal o lwfans cynhaliaeth addysg wythnosol a asesir o dan reoliad 5(2) neu (3) os yw wedi llofnodi Cytundeb Dysgu Rhan 1 ac—

Cytundeb Dysgu'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg a'r taliadau bonws ysbeidiol
    
8. —(1) Mae person cymwys yn cymhwyso i gael taliad bonws ysbeidiol mis Ionawr, mis Gorffennaf neu fis Medi o lwfans cynhaliaeth addysg os yw'n bodloni'r amodau ym mharagraff (2).

    (2) Yr amodau yw—

    (3) At ddibenion paragraff (2)(c)(ii) dylid ystyried unrhyw wythnos sy'n cychwyn ar ddydd Llun ym mis calendr mis Medi fel wythnos gymwys at ddibenion talu lwfans cynhaliaeth addysg;

    (4) Rhaid i berson cymwys beidio â derbyn taliad bonws mis Ionawr neu daliad bonws mis Gorffennaf onid yw wedi llofnodi Cytundeb Dysgu Rhan 2 ar gyfer y flwyddyn academaidd honno.

Rôl sefydliadau addysgol cydnabyddedig
    
9. Rhaid i sefydliadau addysgol cydnabyddedig sy'n darparu cyrsiau addysg cymwys i bersonau cymwys o dan y Rheoliadau hyn wneud y canlynol:

Ôl-daliad o lwfans cynhaliaeth addysg
    
10. —(1) Rhaid cyflwyno cais am lwfans cynhaliaeth addysg i Weinidogion Cymru erbyn 31 Mawrth.

    (2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys —

ac yn yr achos hwnnw ceir ôl-ddyddio'r taliad i ddechrau'r flwyddyn academaidd.

    (3) Nid yw paragraff (1) yn gymwys —

ac yn yr achos hwnnw ceir ôl-ddyddio'r taliad i'r dyddiad pan ddaeth y ffurflen gais i law Gweinidogion Cymru, neu i ddyddiad dechrau'r cwrs, p'un bynnag yw'r diweddaraf.

    (4) Mae unrhyw ôl-daliad a gaiff ei wneud o dan y rheoliad hwn yn ddarostyngedig i'r rheolau ynghylch dyfarndaliadau wythnosol o lwfans cynhaliaeth yn rheoliad 7.

Gwahardd cyllido deuol
    
11. Ni chaniateir i berson cymwys gael lwfans cynhaliaeth addysg am unrhyw gyfnod o amser pan fydd yn cael tâl lleoliad gwaith neu'n cael lwfans hyfforddi.

Gordalu
    
12. Rhaid i berson cymwys, os yw hynny'n ofynnol gan Weinidogion Cymru, ad-dalu unrhyw swm a dalwyd i'r person cymwys o dan y Rheoliadau sydd am ba reswm bynnag—


Jane E Hart
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

4 Awst 2007



YR ATODLEN
Rheoliad 3


Personau Cymwys




RHAN 1

Dehongli

     1. —(1) At ddibenion yr Atodlen hon —

    (2) At ddibenion yr Atodlen hon, mae "rhiant" ("parent") yn cynnwys gwarcheidwad, unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn ac unrhyw berson a chanddo ofal plentyn a rhaid dehongli "plentyn" ("child") yn unol â hynny.

    (3) At ddibenion yr Atodlen hon, mae person i gael ei drin fel petai'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd neu yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir pe byddai wedi bod yn preswylio felly oni bai—

mewn cyflogaeth dros dro y tu allan i'r Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd neu wedi bod mewn cyflogaeth felly, neu, yn ôl y digwydd, y tu allan i'r diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir.

    (4) At ddibenion is-baragraff (4), mae cyflogaeth dros dro y tu allan i'r Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd neu'r diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir yn cynnwys —

    (5) At ddibenion yr Atodlen hon mae ardal —



RHAN 2

Categorïau

Personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig
     2. —(1) Person sydd, ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs —

    (2) Nid yw Paragraff (ch) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson a drinnir fel petai'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd yn unol â pharagraff 1(4).

     3. Person —

Ffoaduriaid a phersonau sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu aros
     4. —(1) Person

    (2) Person—

    (3) Person—

Personau sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu aros ac aelodau o'u teulu
     5. —(1) Person—

    (2) Person—

    (3) Person—

Gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o'u teulu
     6. —(1) Person—

    (2) Nid yw paragraff (b) o is-baragraff (1) yn gymwys pan fo'r person sy'n gwneud cais am gymorth yn dod o fewn paragraff (a)(iv), (v) neu (vi) o is-baragraph (1).

     7. Person—

Personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio mewn man arall
     8. —(1) Person—

    (2) At ddibenion y paragraff hwn, mae person wedi arfer hawl i breswylio os yw'n wladolyn o'r Deyrnas Unedig, yn aelod o deulu gwladolyn o'r Deyrnas Unedig at ddibenion Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 (neu ddibenion cyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir) neu'n berson a chanddo hawl i breswylio'n barhaol sydd ymhob achos wedi arfer hawl o dan Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 nseu unrhyw hawl gyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir mewn gwladwriaeth ac eithrio'r Deyrnas Unedig neu, yn achos person sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd â hawl i breswylio'n barhaol, os yw'n mynd i'r wladwriaeth o fewn y diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir y mae'n wladolyn ohoni neu y mae'r person y mae ef yn aelod o'i deulu yn wladolyn ohoni.

Gwladolion o'r GE
     9. —(1) Person sydd —

    (2) Nid yw paragraff (ch) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson a drinnir fel un sy'n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir yn unol â pharagraff 1(4).

    (3) Pan fo gwladwriaeth yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd ar ôl diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs a phan fo person yn wladolyn o'r wladwriaeth honno neu'n aelod o deulu gwladolyn o'r wladwriaeth honno, trinnir y gofyniad ym mharagraff (a) o is-baragraff (1) bod y person yn wladolyn y GE ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs fel gofyniad sydd wedi'i fodloni.

     10. —(1) Person sydd—

    (2) Pan fo gwladwriaeth yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs a phan fo person yn wladolyn o'r wladwriaeth honno, trinnir y gofyniad ym mharagraff (a) o is-baragraff (1) bod y person yn wladolyn o'r GE nad yw'n wladolyn o'r Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs fel gofyniad sydd wedi'i fodloni.

Plant Gwladolion o'r Swistir
     11. Person —

Plant gweithwyr o Dwrci
     12. Person —



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)


Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i bobl ifanc i'w galluogi i gael addysg ar ôl iddynt gyrraedd oedran gorfodol ymadael â'r ysgol. Mae lwfans cynhaliaeth addysg hyd at £30 yr wythnos ar gael i bersonau cymwys sy'n dilyn cyrsiau cymwys. Yn ychwanegol, telir taliadau bonws o £100 hyd at dair gwaith y flwyddyn os bydd person cymwys yn bodloni amcanion ei gwrs a'r amodau a osodir yn y Rheoliadau hyn.

Mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 31 Awst 2007.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi paratoi canllawiau manwl ar weithrediad y Rheoliadau. Gellir cael copïau oddi wrth. Lywodraeth Cynulliad Cymru, Yr Is-adran Cyllid Myfyrwyr, Adeiladau'r Goron, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ. Gellir dod o hyd i gopïau ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru hefyd.
www.cymru.gov.uk.


Notes:

[1] Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraffau 30(1) a 30(2)(d) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).back

[2] p.32.back

[3] O.S. 2002/2006.back

[4] OJ L158, 30.04.2004, tt.77-123.back

[5] Cm. 4904.back

[6] ystyr "Cytundeb yr AEE" yw'r Cytundeb ar yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a lofnodwyd yn Oporto ar 2 Mai 1992 — Cm 2073, fel y'i haddaswyd gan y Protocol a lofnodwyd ym Mrwsel ar 17 Mawrth 1993, Cm. 2183.back

[7] 1971 p.77; mewnosodwyd adran 33(2A) gan baragraff 7 o Atodlen 4 i Ddeddf Cenedligrwydd Prydeinig 1981 (p.61).back

[8] OJ Rhif L257, 19.10.1968, t2 (OJ/SE 1968 (II) t475).back



English version



ISBN 978 0 11 091611 8


 © Crown copyright 2007

Prepared 12 September 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20072311w.html