BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Milheintiau (Monitro) (Cymru) 2007 Rhif 2459 (Cy.207) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20072459w.html |
[New search] [Help]
Wedi'u gwneud | 20 Awst 2007 | ||
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru | 22 Awst 2007 | ||
Yn dod i rym | 1 Hydref 2007 |
(2) Mae i ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac y defnyddir yr ymadroddion Saesneg sy'n cyfateb iddynt yn y Gyfarwyddeb yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag ystyr yr ymadroddion Saesneg hynny yn y Gyfarwyddeb honno.
Yr awdurdod cymwys
3.
Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod cymwys at ddibenion Erthyglau 3(2), 6(1) ac 8(2) o'r Gyfarwyddeb i'r graddau y mae'r Gyfarwyddeb honno'n ymwneud ag anifeiliaid.
Pwerau mynediad
4.
—(1) Mae gan arolygydd, ar ôl dangos, os yw'n ofynnol iddo wneud hynny, ryw ddogfen sydd wedi'i dilysu'n briodol ac sy'n dangos ei awdurdod, hawl ar bob adeg resymol, i fynd i mewn i unrhyw fangre lle mae, neu lle'r oedd, unrhyw anifail neu unrhyw fwyd anifeiliaid yn bresennol er mwyn—
(ch) gorfodi'r Rheoliadau hyn.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i gael mynediad i unrhyw fangre sy'n cael ei defnyddio fel tŷ annedd preifat yn unig oni bai bod hysbysiad, sy'n rhoi 24 awr o rybudd o'r mynediad arfaethedig, wedi'i roi i'r meddiannydd, neu fod y mynediad yn unol â gwarant a roddir o dan y rheoliad hwn.
(3) Os yw Ynad Heddwch, ar ôl cael gwybodaeth ysgrifenedig ar lw, wedi'i fodloni bod sail resymol dros fynd i mewn i unrhyw fangre er mwyn gorfodi'r Rheoliadau hyn, a naill ai —
caiff yr Ynad drwy warant a lofnodir ganddo awdurdodi'r arolygydd i fynd i mewn i'r fangre, gan ddefnyddio grym rhesymol os bydd angen.
(4) Bydd gwarant o dan yr adran hon yn parhau mewn grym am un mis.
(5) Os bydd arolygydd yn mynd i mewn i unrhyw fangre nad yw wedi'i meddiannu, rhaid iddo ei gadael wedi'i diogelu yr un mor effeithiol rhag mynediad diawdurdod ag ydoedd pan aeth yno gyntaf.
(6) Yn y rheoliad hwn:
Pwerau arolygwyr
5.
Caiff arolygydd sy'n mynd i mewn i fangre o dan reoliad 4 —
Archwilio arunigion
6.
—(1) Rhaid i weithredydd busnes bwyd sy'n gyfrifol am gynhyrchu sylfaenol ac sy'n archwilio arunigyn, neu sy'n peri bod archwiliad o arunigyn yn cael ei gynnal, er mwyn canfod a oes unrhyw filhaint neu gyfrwng milheintiol yn bresennol—
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw sampl a gymerir at ddibenion Gorchymyn Heidiau Bridio a Deorfeydd Dofednod (Cymru) 2007[5].
Monitro anifeiliaid gwyllt
7.
Os bydd Gweinidogion Cymru yn paratoi rhaglen ar gyfer monitro milheintiau neu gyfryngau milheintiol mewn anifeiliaid gwyllt sy'n cynnwys cymryd unrhyw sampl oddi wrth anifail gwyllt byw neu oddi wrth unrhyw ŵy neu samplau o unrhyw fannau gorffwyso dros dro neu barhaol neu nyth anifail gwyllt, rhaid iddynt ymgynghori â Chyngor Cefn Gwlad Cymru cyn cychwyn monitro.
Tramgwyddau a chosbau
8.
—(1) Mae person yn euog o dramgwydd os yw—
ar gyfer cyflawni swyddogaethau'r person hwnnw o dan y Rheoliadau hyn.
(2) Mae person sy'n euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.
Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol
9.
—(1) Os dangosir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol—
bydd y swyddog, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o'r tramgwydd a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.
(2) Pan fo materion corff corfforaethol yn cael eu rheoli gan ei aelodau, bydd paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â gweithredoedd a diffygion aelod mewn cysylltiad â'i swyddogaethau rheoli fel pe bai'r aelod hwnnw'n un o gyfarwyddwyr y corff.
(3) Ystyr "swyddog" ("officer"), mewn perthynas â chorff corfforaethol yw cyfarwyddwr, aelod o bwyllgor rheoli, prif weithredwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall i'r corff, neu berson sy'n honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o'r fath.
Gorfodi
10.
—(1) Mae'r Rheoliadau hyn i'w gorfodi gan yr awdurdod lleol.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo, mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol neu mewn perthynas ag achos penodol, y byddant hwy, yn hytrach na'r awdurdod lleol, yn gorfodi'r Rheoliadau hyn.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
20 Awst 2007
[3] Mae'r swyddogaethau a roddwyd o dan Orchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 2) Gorchymyn 2003 (OS 2003/1246) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).back
[4] OJ Rhif L 325, 12.12.2003, t.31.back
[5] O.S. 2007/1708 (W.147).back