BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Glwten Ŷd a Grawn Bragu) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Dirymu) 2007 Rhif 3173 (Cy.278)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20073173w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU


2007 Rhif 3173 (Cy.278)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Glwten Ŷd a Grawn Bragu) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Dirymu) 2007

  Gwnaed 7 Tachwedd 2007 
  Wedi'u gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 8 Tachwedd 2007 
  Yn dod i rym 30 Tachwedd 2007 

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[1].

     Mae Gweinidogion Cymru wedi'u dynodi at ddibenion yr adran honno o ran rheoli a rheoleiddio'r broses o ryddhau'n fwriadol organeddau a addaswyd yn enetig, eu rhoi ar y farchnad a rheoli a rheoleiddio'u symudiadau trawsffiniol[2], o ran mesurau sy'n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diod), gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol o ran bwyd a mesurau sy'n ymwneud â bwyd anifeiliaid sy'n cael ei gynhyrchu neu ei fwydo i anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd[3], o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd[4] a mesurau ym maes milfeddygaeth i ddiogelu iechyd y cyhoedd[5].

     Bu ymgynghori agored a thryloyw yn ystod gwaith paratoi'r Rheoliadau hyn yn unol â gofynion Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor[6] sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd.

Enwi a chychwyn
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Glwten Ŷd a Grawn Bragu) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Dirymu) 2007, deuant i rym ar 30 Tachwedd 2007 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Dirymu
    
2. Mae Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Glwten Ŷd a Grawn Bragu) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2005[7] wedi'u dirymu.

Diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Bwyd Anifeiliaid a Addaswyd yn Enetig (Cymru) 2004
     3. —(1) Mae'r testun Saesneg o Reoliad 8 (arolygu, atafaelu a dal gafael ar fwyd anifeiliaid a amheuir) o Reoliadau Bwyd Anifeiliaid a Addaswyd yn Enetig (Cymru) 2004[8] wedi'i ddiwygio yn unol â pharagraffau (2) a (3).

    (2) Ym mharagraff (5), yn lle'r ymadrodd "Subject to paragraphs (5A), (5B) and (6)" rhodder yr ymadrodd "Subject to paragraph (6)".

    (3) Mae paragraffau (5A) a (5B) wedi'u hepgor.

Diwygiad canlyniadol i Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2006
     4. Yn Atodlen 2 (diffiniad o gyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol) i Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2006[9], mae paragraff (dd) wedi'i hepgor.


G. Thomas
O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

7 Tachwedd 2007



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


    
1. Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Glwten Ŷd a Grawn Bragu) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (O.S. 2005/1323 (Cy.97)), ac yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Bwyd Anifeiliaid a Addaswyd yn Enetig (Cymru) 2004 (O.S. 2004/3221 (Cy.277)) a Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2006 (O.S. 2006/590 (Cy.66)).

    
2. Mae'r Rheoliadau yn gweithredu Penderfyniad y Comisiwn 2007/157/EC sy'n diddymu Penderfyniad 2005/317/EC ar fesurau brys ynglyn â'r organedd a addaswyd yn enetig anawdurdodedig Bt 10 mewn cynhyrchion indrawn. (OJ Rhif L68, 8.3.2007, t.8).

    
3. Ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol llawn ar gyfer y Rheoliadau hyn, gan na ragwelir y byddant yn effeithiol o gwbl ar y sector breifat na'r sector wirfoddol.


Notes:

[1] 1972 p.68.back

[2] O.S. 2003/2901. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan y dynodiad hwn a'r tri dynodiad arall y cyfeiriwyd atynt i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraffau 28 a 30 o Atodlen 11 iddi.back

[3] O.S. 2005/1971.back

[4] O.S. 2005/2766.back

[5] O.S. 2003/1246.back

[6] OJ RhifL31, 1.2.2002, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf ar y dyddiad y gwnaed yr offeryn hwn gan Reoliad (EC) Rhif575/2006 (OJ Rhif L100, 8.4.2006, t.3).back

[7] O.S. 2005/1323 (Cy.97).back

[8] O.S. 2004/3221 (Cy.277). Cafodd y testun Saesneg o'r offeryn hwnnw ei ddiwygio gan O.S. 2005/1323 (Cy.97), ac mae'r Rheoliadau hyn yn awr yn dirymu'r diwygiadau hynny.back

[9] O.S. 2006/590 (Cy.66).back



English version



ISBN 978 0 11 091661 3


 © Crown copyright 2007

Prepared 19 November 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20073173w.html