BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"><HEAD><title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau Cartrefi Symudol (Datganiad Ysgrifenedig) (Cymru) 2007 No. 3164 (Cy. 275)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/wsi_20073164_we_1.html

[New search] [Help]


 

Rheoliadau Cartrefi Symudol (Datganiad Ysgrifenedig) (Cymru) 2007

Gwnaed

5 Tachwedd 2007

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

7 Tachwedd 2007

Yn dod i rym

30 Tachwedd 2007

O ran Cymru, Gweinidogion Cymru(1) yw'r awdurdod cenedlaethol priodol at ddibenion arfer y pwerau a roddwyd gan adran 1(2)(e) o Ddeddf Cartrefi Symudol 1983(2), a thrwy arfer y pwerau hynny maent yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cartrefi Symudol (Datganiad Ysgrifenedig) (Cymru) 2007 a deuant i rym ar 30 Tachwedd 2007.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran pob datganiad ysgrifenedig a roddir ar ôl 30 Tachwedd 2007 ynghylch cytundeb–

(a) i osod cartref symudol(3) ar safle gwarchodedig(4), a

(b) y bydd Deddf Cartrefi Symudol 1983 yn gymwys iddo.

Dehongli

2. Yn y Rheoliadau hyn–

ystyr "Deddf 1983" ("the 1983 Act") yw Deddf Cartrefi Symudol 1983;

ystyr "datganiad ysgrifenedig" ("written statement") yw'r datganiad ysgrifenedig y mae'n ofynnol gan adran 1(2) o Ddeddf 1983 i berchennog safle gwarchodedig ei roi i'r darpar feddiannydd.

Datganiad ysgrifenedig: gofynion rhagnodedig

3. Y gofynion y mae'n rhaid i ddatganiad ysgrifenedig gydymffurfio â hwy at ddibenion adran 1(2) o Ddeddf 1983 (yn ychwanegol at ofynion adran 1(2)(a) i (d) o Ddeddf 1983); yw–

(a) bod rhaid iddo gynnwys–

(i) y nodyn sy'n rhagflaenu Rhan 1 o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn, a

(ii) y manylion a grybwyllir yn Rhan 1 o'r Atodlen honno (i'r graddau nad ydynt yn ofynnol gan adran 1(2)(a) i (d) o Ddeddf 1983) a Rhannau 2 a 4 o'r Atodlen honno; a

(b) y bydd yn y ffurf a geir yn yr Atodlen honno neu mewn ffurf sylweddol debyg ei heffaith.

Dirymu

4. Dirymir Rheoliadau Cartrefi Symudol (Datganiad Ysgrifenedig) 1983(5) o ran Cymru.

Jocelyn Davies

O dan awdurdod y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru

5 Tachwedd 2007

Rheoliad 3

YR ATODLEN DATGANIAD YSGRIFENEDIG O DAN DDEDDF CARTREFI SYMUDOL 1983

PWYSIG – DARLLENWCH Y DATGANIAD HWN YN OFALUS A'I GADW MEWN MAN DIOGEL. MAE'N GOSOD Y TELERAU Y BYDD GENNYCH YR HAWL I GADW'CH CARTREFI SYMUDOL AR Y SAFLE ARNYNT AC YN DWEUD WRTHYCH AM YR HAWLIAU A RODDIR I CHI YN ÔL Y GYFRAITH. OS OES UNRHYW BETH NAD YDYCH YN EI DDEALL DYLECH GEISIO CYNGOR (ER ENGHRAIFFT GAN GYFREITHIWR NEU O GANOLFAN CYNGOR AR BOPETH)

RHAN 1 Darpariaethau Rhagarweiniol a Thelerau Datganedig (ac eithrio'r rhai hynny a bennir yn Rhan 5)

2006 (c. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi. Back [1]

(2)

1983 p.34. Amnewidiwyd adran 1 gan adran 206(1) o Ddeddf Tai 2004 (p.34). O ran Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw'r awdurdod gwladol priodol; gweler y diffiniad o "the appropriate national authority" yn adran 5(1) o Ddeddf 1983, fel y'i diwygiwyd gan adran 206(3) o Ddeddf 2004. Back [2]

(3)

Am y diffiniad o "mobile home" gweler adran 5(1) o Ddeddf Cartrefi Symudol 1983. Back [3]

(4)

Am y diffiniad o "protected site" gweler adran 5(1) o Ddeddf Cartrefi Symudol 1983. Back [4]

(5)

O.S. 1983/749. Back [5]

(6)

O.S. 1999/2083. Back [6]

(7)

Am y diffiniad o "qualifying body" gweler O.S. 1999/2083. Back [7]

(8)

O.S. 2007/3151 (Cy.268). Back [8]

(9)

I gael ystyr "the court", gweler adran 5(1) o Ddeddf Cartrefi Symudol 1983. Back [9]

Amended by correction slip on 01 January 2008



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/wsi_20073164_we_1.html