BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"><HEAD><title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Eiddo Heb ei Feddiannu) (Diwygio) (Cymru) 2007 No. 3354 (Cy. 296) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/wsi_20073354_we_1.html |
[New search] [Help]
Gwnaed
23 Tachwedd 2007
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
27 Tachwedd 2007
Yn dod i rym
27 Rhagfyr 2007
1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Eiddo Heb ei Feddiannu) (Diwygio) (Cymru) 2007 a deuant i rym ar 27 Rhagfyr 2007.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn effeithiol mewn perthynas â'r flwyddyn 2008-2009 a blynyddoedd ariannol dilynol.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Diwygir rheoliad 2 o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Eiddo Heb ei Feddiannu) 1989(3) fel a ganlyn–
(a) ym mharagraff (2)(f) mewnosoder "and the whole hereditament has, subject to paragraph (3), been unoccupied for a continuous period not exceeding six months" ar ôl "industrial hereditament";
(b) ym mharagraff (2)(g) yn lle "£1500" rhodder "£2200";
(c) ym mharagraff (3) mewnosoder "and (f)" ar ôl "paragraph (2)(a)"; ac
(ch) ym mharagraff (4) mewnosoder "and (f)" ar ôl "paragraph (2)(a)".
Brian Gibbons
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
23 Tachwedd 2007
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
O dan adran 45 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 ('Deddf 1988') mae ardrethi annomestig yn daladwy ar hereditament heb ei feddiannu os yw'r hereditament yn bodloni'r amodau a geir yn adran 45(1). Mae'r amodau hynny'n cynnwys amod bod yr hereditament yn dod o fewn dosbarth rhagnodedig.
Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Eiddo Heb ei Feddiannu) 1989 ('Rheoliadau 1989') yn rhagnodi dosbarth o hereditamentau heb eu meddiannu y mae ardrethi yn daladwy arnynt. Cynnwys y dosbarth yw'r holl hereditamentau heb eu meddiannu nad oes yr un o'r amodau yn rheoliad 2(2) yn gymwys iddynt.
Mae rheoliad 2(2)(f) yn eithrio'r holl hereditamentau a geir mewn rhestr ardrethu annomestig ac sy'n hereditamentau diwydiannol cymwys o rwymedigaeth i dalu arnynt ardrethi annomestig o dan adran 45 o Ddeddf 1988.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1989 fel mai dim ond hereditamentau diwydiannol cymwys sydd wedi bod heb eu meddiannu am gyfnod di-dor nad yw'n fwy na chwe mis a gaiff eu heithrio, o 1 Ebrill 2008 ymlaen, o rwymedigaeth i dalu arnynt ardrethi annomestig o dan adran 45 o Ddeddf 1988.
Mae rheoliad 2(2)(g) yn eithrio'r holl hereditamentau a geir mewn rhestr ardrethu annomestig ac y mae eu gwerth ardrethol yn llai na swm penodedig, sef £1500 ar hyn o bryd, o rwymedigaeth i dalu arnynt ardrethi annomestig o dan adran 45 o Ddeddf 1988. At ddiben hereditament a geir mewn rhestr a lunnir ar neu ar ôl 1 Ebrill 2008, mae'r Rheoliadau hyn yn codi'r ffigur hwnnw i £2200.
Mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi'i baratoi mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi yn http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/buslegislation/bus-legislation-sub.
1988 p.41. Back [1]
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol a geir yn Neddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 o ran Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau ) 1999 (O.S. 1999/672, erthygl 2, Atodlen 1). Breiniwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yng Ngweinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi. Back [2]
O.S. 1989/2261. Back [3]