BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"><head profile="http://www.w3.org/2003/g/data-view"><title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau Gwaith Stryd (Cosbau Penodedig) (Cymru) 2008 No. 102 (Cy. 15)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2008/wsi_20080102_we_1.html

[New search] [Help]


 

Rheoliadau Gwaith Stryd (Cosbau Penodedig) (Cymru) 2008

Gwnaed

17 Ionawr 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

18 Ionawr 2008

Yn dod i rym

12 Mai 2008

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 48(2), 95A(5), 97 a 104(1) o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 a pharagraffau 2, 4(1), 5(2), 8(a) a 9(b) o Atodlen 4B iddi(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt(2), yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwaith Stryd (Cosbau Penodedig) (Cymru) 2008. Deuant i rym ar 12 Mai 2008 ac maent yn gymwys o ran Cymru .

Dehongli

2. Yn y Rheoliadau hyn–

ystyr "cyfeiriad" ("address"), o ran dull penodol o drosglwyddo cyfathrebiad electronig, yw unrhyw rif neu gyfeiriad a ddefnyddir at ddibenion dull trosglwyddo o'r fath;

mae i "cyfathrebu electronig" yr ystyr a roddir i "electronic communication" yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebu Electronig 2000(3);

ystyr "Deddf 1991" ("the 1991 Act") yw Deddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991; ac

ystyr "tramgwydd" ("offence") yw tramgwydd cosb benodedig.

Eithriadau

3. Nid yw adran 95A(1) o Ddeddf 1991 ac Atodlen 4A iddi (tramgwyddau cosbau penodedig o dan Ran 3) yn gymwys i stryd nad yw'n briffordd a gynhelir.

Ffurf ar hysbysiad o gosb benodedig

4. Rhaid i hysbysiad o gosb benodedig fod yn y ffurf a osodir yn Atodlen 1.

Dull cyflwyno hysbysiad o gosb benodedig neu gyflwyno hysbysiad sy'n tynnu'n ôl hysbysiad o gosb benodedig

5.–(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (7), os bydd person–

(a) wedi rhoi i awdurdod stryd gyfeiriad ar gyfer cyflwyno unrhyw hysbysiad o dan Atodlen 4B i Ddeddf 1991 iddo (cosbau penodedig ar gyfer tramgwyddau penodol o dan Ran 3) drwy ddefnyddio dull penodol ar gyfer trosglwyddo cyfathrebiad electronig; a

(b) heb hysbysu'r awdurdod bod y cyfeiriad wedi'i dynnu'n ôl at y diben hwnnw,

rhaid rhoi'r cyfryw hysbysiad drwy ei anfon ato yn y cyfeiriad hwnnw drwy'r dull hwnnw, yn unol â'r amod a osodir ym mharagraff (3).

(2) Yn unrhyw arall achos, rhaid rhoi hysbysiad o dan yr Atodlen honno–

(a) drwy ei anfon drwy'r post dosbarth cyntaf at y person y mae i'w roi iddo yn ei gyfeiriad priodol;

(b) drwy ei draddodi iddo;

(c) drwy ei adael yn ei gyfeiriad priodol; neu

(ch) drwy unrhyw ddull arall y cytunir arno gydag ef.

(3) Yr amod y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yw bod yn rhaid i'r hysbysiad–

(a) allu cael ei gyrchu gan y person yr anfonir ef ato;

(b) bod yn ddarllenadwy ym mhob manylyn o bwys; ac

(c) ar ffurf sy'n caniatáu y gellir cadw'r hysbysiad er mwyn cyfeirio ato yn nes ymlaen,

ac i'r diben hwn ystyr "yn ddarllenadwy ym mhob manylyn o bwys" yw bod yr wybodaeth a geir yn yr hysbysiad ar gael i'r person hwnnw o leiaf i'r un graddau â phe bai wedi ei roi iddo drwy gyfrwng hysbysiad ar ffurf brintiadwy.

(4) Yn ddarostyngedig i adran 98(2) o Ddeddf 1991 (cyfrifo cyfnodau), os defnyddir cyfathrebu electronig at ddibenion cyflwyno hysbysiad o dan Atodlen 4B i'r Ddeddf honno, yna, oni phrofir i'r gwrthwyneb, bernir bod yr hysbysiad wedi'i roi ar y diwrnod ac ar yr amser a gofnodir gan y cyfarpar trosglwyddo fel y diwrnod a'r amser pan gwblhawyd y trosglwyddiad yn foddhaol.

(5) Os, ar ôl tri chais (a gofnodwyd yn briodol gan y person sy'n cyflwyno'r hysbysiad) i wneud y cyflwyno'n effeithiol drwy ddefnyddio un dull penodol i drosglwyddo cyfathrebiad electronig, na ellir cyflwyno'r hysbysiad, gellir rhoi'r hysbysiad drwy ei gyflwyno i'r person y dylid ei roi iddo drwy unrhyw ddull arall y mae cyfeiriad ar gael iddo yn rhinwedd paragraff (1) neu drwy unrhyw ddull arall y cyfeirir ato ym mharagraff (2).

(6) Yn ddarostyngedig i baragraff (7), at ddibenion y rheoliad hwn, cyfeiriad priodol unrhyw berson y mae hysbysiad o dan Atodlen 4B i Ddeddf 1991 i'w roi iddo, yw–

(a) os yw'r cyfryw berson wedi rhoi i'r awdurdod stryd sy'n rhoi'r hysbysiad gyfeiriad ar gyfer gwasanaeth post o hysbysiadau o'r fath, y cyfeiriad hwnnw; a

(b) fel arall

(i) yn achos corfforaeth, swyddfa gofrestru neu brif swyddfa'r gorfforaeth; a

(ii) mewn unrhyw achos arall, cyfeiriad hysbys diwethaf y cyfryw berson.

(7) Caiff person roi cyfeiriadau gwahanol ar gyfer gwahanol hysbysiadau neu wahanol ddosbarthiadau o hysbysiad.

Terfyn amser ar gyfer rhoi hysbysiad o gosb benodedig

6. Ni chaniateir rhoi hysbysiad o gosb benodedig am dramgwydd mwy na 91 o ddiwrnodau ar ôl cyflawni'r tramgwydd sy'n dechrau gyda'r diwrnod y cyflawnir ef.

Swm y gosb

7.–(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), os bydd hysbysiad o gosb benodedig wedi'i rhoi ynglyn â thramgwydd a nodir yng ngholofn 2 o'r Tabl yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn, ac a ddisgrifir yn gryno yng ngholofn 3 o'r Tabl hwnnw, y gosb ar gyfer y tramgwydd hwnnw fydd y swm a nodir ynglŷn ag ef yng ngholofn 4.

(2) Os, ynglyn â thramgwydd o'r fath, caiff taliad ei wneud cyn diwedd y cyfnod a bennir ym mharagraff 5(1) o Atodlen 4B i Ddeddf 1991, neu os na fydd diwrnod olaf y cyfnod yn digwydd ar ddiwrnod gwaith, cyn diwedd y diwrnod gwaith canlynol yn unol â pharagraff 5(3) o'r Atodlen honno, y gosb ar gyfer y tramgwydd hwnnw fydd yn hytrach y swm a nodir, ynglyn ag ef, yng ngholofn 5.

Addasu Atodlen 4B

8.–(1) Addesir Atodlen 4B i Ddeddf 1991 (wrth ei chymhwyso o ran Cymru) fel a ganlyn.

(2) Ym mharagraff 4(2) yn lle "29" rhodder "36".

(3) Ym mharagraff 5(1) yn lle "15" rhodder "29".

Cymhwyso cosbau

9. Caniateir i awdurdod stryd ddidynnu o'r cosbau penodedig a dderbynnir o dan Atodlen 4B i Ddeddf 1991, y costau rhesymol am weithredu'r cynllun y telir hwy oddi tano, a rhaid iddo ddefnyddio'r enillion net at ddibenion datblygu neu roi ar waith bolisïau ar gyfer hybu ac annog cyfleusterau a gwasanaethau trafnidiaeth sy'n ddiogel, yn integredig, yn effeithiol ac yn economaidd i'w ardal, o'i ardal ac yn ei ardal.

Ffurf o hysbysiad sy'n tynnu'n ôl hysbysiad o gosb benodedig

10. Os rhoddir hysbysiad sy'n tynnu'n ôl hysbysiad o gosb benodedig yn unol â pharagraff 7(1) o Atodlen 4B i Ddeddf 1991, rhaid iddo fod ar y ffurf a osodir yn Atodlen 3.

Ieuan Wyn Jones

Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru.

17 Ionawr 2008

Rheoliad 4

ATODLEN 1 FFURF AR HYSBYSIAD O GOSB BENODEDIG

Rheoliad 7

ATODLEN 2 SWM Y GOSB

Y TABL

(1) (2) (3) (4) (5)
Eitem Rhif Tramgwydd o dan Ddeddf 1991 Disgrifiad cryno Swm y gosb Swm disgownt
1. Tramgwydd o dan adran 54(5). Methiant i gydymffurfio â dyletswyddau o dan a.54 (hysbysiad ymlaen llaw o waith penodol, etc.). £120. £80.
2. Tramgwydd o dan adran 55(5). Dechrau ar y gwaith yn groes i a.55 (hysbysiad o ddyddiad dechrau). £120. £80.
3. Tramgwydd o dan adran 55(9)(4). Methiant i roi hysbysiad yn unol ag a.55(8) (hysbysiad i'w roi pan fydd hysbysiad a.55 yn peidio â bod yn effeithiol). £120. £80.
4. Tramgwydd o dan adran 57(4). Methiant i roi hysbysiad yn unol ag a.57 (hysbysiad o waith brys). £120. £80.
5. Tramgwydd o dan adran 70(6) sy'n golygu methiant i gydymffurfio ag is-adran (3) neu (4A)(5). Methiant i gydymffurfio â gofynion i roi hysbysiad o gwblhau gwaith adfer. £120. £80.
6. Tramgwydd a grëwyd gan reoliadau a wnaed o dan adran 74(7B). Methiant i roi hysbysiad sy'n ofynnol gan reoliadau o dan a.74 (tâl am feddiannu priffordd pan fu oedi afresymol yn y gwaith). £120. £80.

Rheoliad 10

ATODLEN 3 FFURF O HYSBYSIAD SY'N TYNNU'N ÔL HYSBYSIAD O GOSB BENODEDIG

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

Mae adran 41 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004 ac Atodlenni 2 a 3 iddi, yn mewnosod adran 95A ac Atodlenni 4A a 4B yn Neddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 ("Deddf 1991"). Mae hyn yn darparu bod tramgwyddau penodol o dan Ran 3 o Ddeddf 1991 yn dod yn dramgwyddau cosbau penodedig ac yn galluogi i reoliadau gael eu gwneud ynglŷn â hwy.

Mae Rheoliadau Gwaith Stryd (Cosbau Penodedig) (Cymru) 2008 yn gwneud darpariaeth gyffredinol o ran Cymru ynghylch cosbau penodedig am dramgwyddau penodol o dan Ran 3 o Ddeddf 1991.

Mae rheoliad 2 yn diffinio termau a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn.

Mae rheoliad 3 yn rhwystro rheolwyr stryd (yr awdurdod stryd dros stryd nad yw'n briffordd a gynhelir) rhag rhoi hysbysiadau cosbau penodedig ynglŷn â stryd o'r fath.

Mae rheoliad 4 ac Atodlen 1 yn rhagnodi'r ffurf o hysbysiad o gosb benodedig.

Mae rheoliad 5 yn gosod y dull o gyflwyno hysbysiad o gosb benodedig a hysbysiad sy'n tynnu'n ôl hysbysiad o gosb benodedig, ac mae'n cynnwys darpariaeth ar gyfer cyflwyno hysbysiad drwy gyfathrebu electronig.

Mae rheoliad 6 yn pennu na chaniateir rhoi hysbysiad o gosb benodedig mwy na 91 o ddiwrnodau ar ôl cyflawni'r tramgwydd, sy'n dechrau ar y diwrnod y cyflawnir ef.

Mae rheoliad 7 ac Atodlen 2 yn gosod manylion y tramgwyddau cosbau penodedig ac yn rhagnodi ynglŷn â phob tramgwydd, y bydd y gosb yn £120 oni thelir y swm o £80 cyn diwedd y cyfnod ar gyfer talu'r swm disgownt.

Mae rheoliad 8 yn addasu Atodlen 4B i Ddeddf 1991 (yn ei chymhwysiad o ran Cymru) drwy roi cyfnod o 36 o ddiwrnodau yn lle'r cyfnod o 29 o ddiwrnodau, sef y cyfnod ar gyfer talu cosb benodedig, a thrwy roi cyfnod o 29 o ddiwrnodau yn lle'r cyfnod o 15 o ddiwrnodau, sef y cyfnod ar gyfer talu swm disgownt yn hytrach na'r gosb lawn.

Mae rheoliad 9 yn galluogi awdurdod stryd i ddidynnu'r costau am ddyroddi a gweinyddu hysbysiadau cosbau penodedig o'r cosbau a dderbynnir ac mae'n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw enillion net gael eu cymhwyso i roi polisïau trafnidiaeth penodol ar waith o ran eu hardal.

Mae rheoliad 10 ac Atodlen 3 yn rhagnodi'r ffurf o hysbysiad sy'n tynnu'n ôl hysbysiad o gosb benodedig.

Gellir cael Asesiad Effaith Rheoleiddiol llawn a Memorandwm Esboniadol gan Is-adran Rheoli Rhwydwaith Ffyrdd, Trafnidiaeth Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Swyddfeydd y Goron, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ neu ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru yn http://www.assemblywales.org/bus-home/buslegislation/bus/bus-legislation-sub/bus-legislation-sub-annulment.htm

(1)

1991 p.22. Mewnosodir adran 95A ac Atodlenni 4A a 4B gan Ddeddf Rheoli Traffig 2004 (p.18) ("Deddf 2004"), adran 41 ac Atodlenni 2 a 3. Diwygir adran 97 yn rhagolygol gan adran 64(4) o'r Ddeddf honno. Yn rhinwedd paragraff 26 o Atodlen 11 a pharagraff 7 o Atodlen 3 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), nid yw'n ofynnol i Weinidogion Cymru gael cydsyniad y Trysorlys i arfer swyddogaethau o dan baragraff 8(a) o Atodlen 4B i Ddeddf 1991. Back [1]

(2)

Trosgwlyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol (ac eithrio'r swyddogaethau o dan a.167(3)) o dan y Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan Ddeddf 1991 i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Back [2]

(3)

2000 p.7. Diwygiwyd adran 15(1) gan Ddeddf Cyfathrebu 2003 (p.21), adran 406(1) ac Atodlen 17, paragraff 158. Back [3]

(4)

Mewnosodir is-adrannau (8) a (9) o adran 55 gan Ddeddf Rheoli Traffig 2004 (p.18), adran 49(2). Back [4]

(5)

Amnewidir adran 70(3) a mewnosodir adran 70(4A) gan Ddeddf Rheoli Traffig 2004 (p.18), adran 54(3). Back [5]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2008/wsi_20080102_we_1.html