BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"><head profile="http://www.w3.org/2003/g/data-view"><title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau Llaeth Cyddwys a Llaeth Sych (Cymru) (Diwygio) 2008 No. 137 (Cy. 19) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2008/wsi_20080137_we_1.html |
[New search] [Help]
Gwnaed
22 Ionawr 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
24 Ionawr 2008
Yn dod i rym
22 Chwefror 2008
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(e), 17(1) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1).
Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, maent wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd iddynt gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(2),cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Llaeth Cyddwys a Llaeth Sych (Cymru) (Diwygio) 2008, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 22 Chwefror 2008.
2. Diwygir Rheoliadau Llaeth Cyddwys a Llaeth Sych (Cymru) 2003(3) yn unol â rheoliadau 3 a 4.
3. Yn rheoliad 2 (dehongli), hepgorer y geiriau "yn uniongyrchol" o'r diffiniadau o "llaeth wedi'i ddadhydradu'n rhannol" a "llaeth wedi'i ddadhydradu'n llwyr".
4. Yn y Nodiadau i Atodlen 1 (cynhyrchion llaeth sydd wedi'u dadhydradu a'u preserfio yn rhannol neu'n llwyr a'u disgrifiadau neilltuedig) –
(a) Yn lle Nodyn 1, rhodder y canlynol–
"1. Ychwanegiadau a awdurdodir a deunyddiau crai:
(a) Caiff unrhyw gynnyrch dynodedig gynnwys unrhyw sylwedd a ganiateir yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 89/107/EEC ar gyd-ddynesiad cyfreithiau Aelod-wladwriaethau ynghylch ychwanegion bwyd yr awdurdodir eu defnyddio mewn bwydydd y bwriedir iddynt gael eu bwyta gan bobl(4) a fitaminau a mwynau yn unol â gofynion Rheoliad (EC) Rhif 1925/2006 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ychwanegu fitaminau a mwynau a sylweddau eraill penodol at fwydydd(5).
(b) Dyma'r deunyddiau crai a awdurdodir at ddibenion addasu protein y cyfeirir ato yn Nodyn 4:
(i) Anathreiddiad llaeth, sef y cynnyrch a geir wrth grynodi protein llaeth drwy drahidlo llaeth, llaeth rhannol sgim neu laeth llwyr sgim;
(ii) Athreiddiad llaeth, sef y cynnyrch a geir drwy dynnu proteinau llaeth a braster llaeth allan o laeth, llaeth rhannol sgim neu laeth llwyr sgim drwy ei drahidlo; a
(iii) Lactos, sydd yn ansoddyn naturiol mewn llaeth a geir fel arfer o faidd â'i gynnwys lactos anhydrus nad yw'n llai na 99.0% m/m ar sail sych. Gall fod yn anhydrus neu gynnwys un moleciwl o ddwr o grisialiad neu fod yn gymysgedd o'r ddwy ffurf.".
(b) Yn Nodyn 3, yn lle'r indent cyntaf rhodder y canlynol –
"3. Heb ragfarn i Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n pennu rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid(6), llwyddir i breserfio'r cynnyrch dynodedig–".
(c) Yn lle Nodyn 4, rhodder y canlynol–
"4. Heb ragfarnu'r gofynion cyfansoddiadol a osodir yn y tabl uchod, caniateir addasu cynnwys y protein mewn llaeth i gynnwys isafswm o 34% yn ôl pwysau (wedi'i fynegi ar fater sych sy'n rhydd o fraster) drwy ychwanegu a/neu dynnu ansoddau llaeth yn y fath fodd fel na newidir y gymhareb o brotein maidd i'r casein yn y llaeth sy'n cael ei addasu.".
(ch) Fel Nodyn 5 ychwaneger y canlynol –
"5. Penderfynir y lefelau o fater sych, cynnwys lleithder, braster, swcros, asid lactig a lactadau a gweithgaredd ffosffatas yn y cynnyrch dynodedig yn unol â'r dulliau a osodir yng Nghyfarwyddeb 79/1067.".
5. Yn Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd 1995(7), i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru, ym mharagraff 6 o Atodlen 2, ar ôl yr ymadrodd "Directive 2001/114/EC" ychwaneger y geiriau "as amended by Directive 2007/61/EC(8)".
6. Yn Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995(9), i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru, yng ngholofn 1 o Atodlen 7, ar ôl yr ymadrodd "Partially dehydrated and totally dehydrated milk as defined in Directive 2001/114/EC" ychwaneger y geiriau "as amended by Directive 2007/61/EC(10)".
Gwenda Thomas
O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.
22 Ionawr 2008
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1. Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn diwygio Rheoliadau Llaeth Cyddwys a Llaeth Sych (Cymru) 2003 (O.S. 2003/3053, Cy.291) ("Rheoliadau 2003"). Maent yn gwneud darpariaeth ar gyfer gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 2007/61/EC sy'n diwygio Cyfarwyddeb 2001/114/EC ynghylch llaeth penodol wedi'i breserfio a'i ddadhydradu yn llwyr neu'n rhannol i'w fwyta neu i'w yfed gan bobl (OJ Rhif L258, 4.10.2007, t.27).
2. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r diffiniadau o laeth wedi'i ddadhydradu'n rhannol a llaeth wedi'i ddadhydradu'n llwyr yn Rheoliadau 2003 (rheoliad 3).
3. Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud diwygiadau penodol i'r Nodiadau i Atodlen 1 o Reoliadau 2003, ac yn benodol maent yn diwygio Nodyn 1 a 3, yn cyflwyno Nodyn 4 newydd ac yn ailrifo'r Nodyn 4 blaenorol yn Nodyn 5 (rheoliad 4).
4. Mae'r Rheoliadau'n gwneud diwygiad canlyniadol i Reoliadau Lliwiau mewn Bwyd 1995 (O.S. 1995/3124) (rheoliad 5) ac i Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995(O.S. 1995/3187) (rheoliad 6).
5. Mae asesiad effaith rheoleiddiol llawn o'r effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei gael ar gostau busnes a'r sector gwirfoddol ar gael gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.
1990 p. 16. Amnewidiwyd adran 1(1) a (2) (diffiniad o "food") gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adrannau 17 a 48 gan baragraffau 12 a 21 yn eu trefn o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28), "Deddf 1999". Diwygiwyd adran 48 hefyd gan O.S. 2004/2990. Trosglwyddwyd swyddogaethau i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999) fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf 1999. Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraffau 28 a 30 o Atodlen 11 iddi, mae swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn arferadwy gan Weinidogion Cymru. Back [1]
OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 575/2006 (OJ Rhif L100, 8.4.2006, t.3). Back [2]
O.S. 2003/3053 (Cy.291). Back [3]
OJ Rhif L40, 11.2.1989, t.27. Diwgiwyd y Gyfarwyddeb hon ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1882/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L284, 31.10.2003, t.1). Back [4]
OJ Rhif L404, 30.12.2006, t.26. Back [5]
OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.55. Nodwyd y fersiwn a gywirwyd mewn corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.22). Diwygiwyd y Rheoliad ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1791/2006 (OJ Rhif L363, 20.12.2006, t.1). Back [6]
O.S. 1995/3124, diwygiwyd gan O.S 2003/3053 (C.291) Back [7]
OJ Rhif L258, 4.10.2007, t.27. Back [8]
O.S. 1995/3187, diwygiwyd gan O.S 2003/3053 (C.291) Back [9]
OJ Rhif L258, 4.10.2007, t.27. Back [10]