BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"><HEAD><title lang="cy" xml:lang="cy">Gorchymyn yr Awdurdodau Tân ac Achub (Cynlluniau Gwella) (Cymru) 2008 No. 199 (Cy. 25)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2008/wsi_20080199_we_1.html

[New search] [Help]


 

Gorchymyn yr Awdurdodau Tân ac Achub (Cynlluniau Gwella) (Cymru) 2008

Gwnaed

30 Ionawr 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

1 Chwefror 2008

Yn dod i rym

29 Chwefror 2008

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 6(3), 7(6) a 29(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, dod i rym, dehongli a chymhwyso

1.–(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn yr Awdurdodau Tân ac Achub (Cynlluniau Gwella) (Cymru) 2008 a daw i rym ar 29 Chwefror 2008.

(2) Yn y Gorchymyn hwn–

ystyr "cynllun gwella" ("improvement plan") yw cynllun perfformiad gwerth gorau o fewn ystyr "best value performance plan" yn adran 6(1) o'r Ddeddf; ac

ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Llywodraeth Leol 1999.

(3) Nid yw'r Gorchymyn hwn yn gymwys ond i awdurdodau gwerth gorau yng Nghymru sydd yn awdurdod tân ac achub a gyfansoddir drwy gynllun y mae adran 4 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004(3) yn gymwys iddo ac yn cael effaith mewn perthynas â'r flwyddyn 2008-2009 a blynyddoedd ariannol dilynol.

Y dyddiad ar gyfer cyhoeddi cynllun gwella

2. Rhaid i awdurdodau gwerth gorau gyhoeddi eu cynllun gwella am flwyddyn ariannol erbyn 31 Hydref o'r flwyddyn y mae'r cynllun yn berthnasol iddi.

Y dyddiad ar gyfer anfon copïau o adroddiadau archwilwyr

3. Rhaid i gopïau o adroddiad archwilydd ynghylch cynllun gwella gael ei anfon yn unol ag adran 7(5) o'r Ddeddf erbyn 30 Tachwedd o'r flwyddyn y mae'r cynllun yn berthnasol iddi.

Brian Gibbons

Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

30 Ionawr 2008

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae Rhan I o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 yn gosod dyletswyddau ar awdurdodau lleol ac awdurdodau eraill i baratoi cynllun perfformiad gwerth gorau (a elwir "cynllun gwella" yn y Gorchymyn hwn) ar gyfer pob blwyddyn ariannol.

Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu erbyn pa ddyddiad y mae'n rhaid cyhoeddi cynllun gwella awdurdod tân ac achub ar gyfer blwyddyn ariannol ac erbyn pa ddyddiad y mae copïau o adroddiad archwilydd ynglŷn â'r cynllun i gael eu hanfon at yr awdurdod, at Archwilydd Cyffredinol Cymru, ac os yw hynny'n ofynnol, at Weinidogion Cymru.

Mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi'i baratoi mewn cysylltiad â'r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi gan y Gangen Gwasanaethau Tân ac Achub, Yr Is-adran Diogelwch Cymuned, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Rhydycar, Merthyr Tydfil, CF48 1UZ (ffôn 01685 729221).

(1)

1999 p.27. Back [1]

(2)

Roedd pwer yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 6(3) a 7(6), o ran Cymru, yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd adran 29(1). Mae'r pwer hwnnw bellach wedi'i freinio yng Ngweinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Back [2]

(3)

2004 p.21. Back [3]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2008/wsi_20080199_we_1.html