BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"><HEAD><title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) 2008 No. 660 (Cy. 70) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2008/wsi_20080660_we_1.html |
[New search] [Help]
Gwnaed
10 Mawrth 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
11 Mawrth 2008
Yn dod i rym
1 Ebrill 2008
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 129 a 203 (9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1).
1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) 2008 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2008.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "y Rheoliadau Optegol" ("the Optical Regulations") yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 (2).
2. Diwygir rheoliad 19 o'r Rheoliadau Optegol (gwerth adbrynu taleb ar gyfer ailosod neu drwsio) fel a ganlyn –
(a) ym mharagraff (1)(b), yn lle "£50.50" rhodder "£51.90"; a
(b) ym mharagraff (3), yn lle "£13.00" rhodder "£13.40".
3.–(1) Diwygir Atodlenni 1 i 3 o'r Rheoliadau Optegol yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Yn Atodlen 1 (codau llythrennau talebau a gwerth taleb ar yr wyneb – cyflenwi ac ailosod) yng ngholofn (3) o'r tabl (gwerth taleb ar yr wyneb), yn lle pob swm a bennir yng ngholofn (1) o'r tabl isod rhodder y swm a bennir mewn perthynas ag ef yng ngholofn (2) o'r tabl isod:
(1) | (2) |
---|---|
Swm blaenorol | Swm newydd |
£34.60 | £35.50 |
£52.60 | £54.00 |
£76.90 | £79.00 |
£173.70 | £178.40 |
£59.80 | £61.40 |
£76.00 | £78.10 |
£98.50 | £101.20 |
£190.90 | £196.10 |
£177.90 | £182.70. |
£50.50 | £51.90 |
(3) Yn Atodlen 2 (prismau, arlliwiau, lensys ffotocromaidd, sbectolau bychain ac arbennig, a theclynnau cymhleth)–
(a) ym mharagraff 1(1)(a), yn lle "£11.30" rhodder "£11.60";
(b) ym mharagraff 1(1)(b) yn lle "£13.50" rhodder "£13.90";
(c) ym mharagraff 1(1)(c), yn lle "£3.80" rhodder "£3.90";
(ch) ym mharagraff 1(1)(d), yn lle "£4.30" rhodder "£4.40";
(d) ym mharagraff 1(1)(e), yn lle "£57.00", "£50.50" a "£27.30" rhodder "£58.50", "£51.90" a "£28.00" yn eu trefn;
(dd) ym mharagraff 1(1)(g), yn lle "£57.00" rhodder "£58.50";
(e) ym mharagraff 2(a), yn lle "£13.00" rhodder "£13.40"; a
(f) ym mharagraff 2(b), yn lle "£33.00" rhodder "£33.90".
(4) Yn lle Atodlen 3 (gwerthoedd talebau – trwsio), rhodder yr Atodlen 3 a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
4. Nid yw'r symiau a amnewidir gan reoliadau 2 a 3 yn gymwys ond mewn perthynas â thaleb a dderbynnir neu a ddefnyddir yn unol â rheoliad 12 neu reoliad 17 o'r Rheoliadau Optegol ar neu ar ôl 1 Ebrill 2008.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
10 Mawrth 2008
Rheoliad 3(4)
Regulation 19(2) and (3)
(1) | (2) | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Nature of Repair | Letter of Codes –Values | ||||||||
A | B | C | D | E | F | G | H | I | |
£ | £ | £ | £ | £ | £ | £ | £ | £ | |
Repair or replacement of one lens | 11.05 | 20.30 | 32.80 | 82.50 | 24.00 | 32.35 | 43.90 | 91.35 | 84.65 |
Repair or replacement of two lenses | 22.10 | 40.60 | 65.60 | 165.00 | 48.00 | 64.70 | 87.80 | 182.70 | 169.30 |
Repair or replacement of: | |||||||||
The front of a frame | 11.35 | 11.35 | 11.35 | 11.35 | 11.35 | 11.35 | 11.35 | 11.35 | 11.35 |
A side of a frame | 6.75 | 6.75 | 6.75 | 6.75 | 6.75 | 6.75 | 6.75 | 6.75 | 6.75 |
The whole frame | 13.40 | 13.40 | 13.40 | 13.40 | 13.40 | 13.40 | 13.40 | 13.40 | 13.40." |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 ("y Rheoliadau Optegol") , sy'n darparu bod taliadau i'w gwneud drwy system dalebau o ran y costau a dynnwyd gan gategorïau penodol o bobl mewn cysylltiad â chyflenwi, ailosod a thrwsio teclynnau optegol.
Mae rheoliad 2 yn diwygio rheoliad 19 er mwyn cynyddu gwerth adbrynu taleb a ddyroddir tuag at y gost o ailosod un lens gyffwrdd, a chynyddu mwyafswm y cyfraniad drwy daleb at gost trwsio ffrâm sbectol.
Mae rheoliad 3 a'r Atodlen yn diwygio'r Atodlenni i'r Rheoliadau Optegol i gynyddu gwerth talebau a ddyroddir tuag at gostau cyflenwi ac ailosod sbectolau a lensys cyffwrdd, i gynyddu gwerthoedd ychwanegol y talebau ar gyfer prismau, arlliwiau, lensys ffotocromaidd a chategorïau arbennig o declynnau ac i gynyddu gwerth y talebau a ddyroddir tuag at y gost o drwsio ac ailosod teclynnau optegol. Tua 2.7% yw graddfa'r cynnydd yng ngwerth y talebau yn y Rheoliadau hyn.