BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"><HEAD><title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau Tramgwyddau Amgylcheddol (Cosbau Penodedig) (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2008 No. 663 (Cy. 71)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2008/wsi_20080663_we_1.html

[New search] [Help]


 

Rheoliadau Tramgwyddau Amgylcheddol (Cosbau Penodedig) (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2008

Gwnaed

9 Mawrth 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

10 Mawrth 2008

Yn dod i rym

7 Ebrill 2008

Gweinidogion Cymru, o ran Cymru, yw'r person priodol fel y'i diffinnir yn(1)–

(a) adran 11(1) o Ddeddf Gwaredu Sbwriel (Amwynder) 1978(2), at ddibenion arfer y pwerau a roddir gan adran 2A(11) o'r Ddeddf honno;

(b) adran 9(1) o Ddeddf Rheoli Llygredd (Diwygio) 1989(3), at ddibenion arfer y pwerau a roddir gan adran 5B(12) o'r Ddeddf honno;

(c) adran 29(1A)(b) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990(4), at ddibenion arfer y pwerau a roddir gan adrannau 34A(12) a 47ZB(4) a (5) o'r Ddeddf honno;

(ch) adran 98(1A)(b) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990(5), at ddibenion arfer y pwerau a roddir gan adrannau 88(11) a 97A(1), (2) a (4) o'r Ddeddf honno;

(d) adran 11(2A)(b) o Ddeddf Sŵn 1996(6), at ddibenion arfer y pwerau a roddir gan adran 8A(4) a (5) o'r Ddeddf honno;

(dd) adran 47(1) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003(7), at ddibenion arfer y pwerau a roddir gan adrannau 43A(4) a (5) a 47(4) o'r Ddeddf honno;

(e) adran 9(2) o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005(8), at ddibenion arfer y pwerau a roddir gan adran 6(11) o'r Ddeddf honno;

(f) adran 66(b) o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005, at ddibenion arfer y pwerau a roddir gan adrannnau 59(12) a 60(4) a (5) o'r Ddeddf honno; ac

(ff) adran 81(1) o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005, at ddibenion arfer y pwerau a roddir gan adran 74(4) a (5) o'r Ddeddf honno.

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 67(1) o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005, a'r pwerau a enwir yn is-baragraffau (a) i (ff) uchod yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tramgwyddau Amgylcheddol (Cosbau Penodedig) (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2008.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 7 Ebrill 2008.

(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Ystodau rhagnodedig o gosbau penodedig

2.–(1) Rhaid i swm cosb benodedig y gellir ei bennu gan–

(a) prif awdurdod sbwriel yng Nghymru o dan adran 88(6A)(a) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990(9);

(b) prif awdurdod sbwriel yng Nghymru o dan baragraff 7(4)(a) o Atodlen 3A i Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990(10);

(c) awdurdod lleol perthnasol yng Nghymru o dan adran 43A(1)(a) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003;

(ch) prif awdurdod neu awdurdod eilaidd yng Nghymru o dan adran 60(1)(a) o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 o ran unrhyw orchymyn rheoli cwn a gafodd ei wneud gan yr awdurdod hwnnw;

(d) awdurdod lleol yng Nghymru o dan adran 74(2)(a) o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005

beidio â bod yn llai na £75 a dim mwy na £150.

(2) Rhaid i swm cosb benodedig gellir ei bennu gan–

(a) awdurdod casglu gwastraff yng Nghymru o dan adran 47ZB(2)(a) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990;

(b) prif awdurdod sbwriel yng Nghymru o dan adran 94A(4)(a) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990(11);

(c) awdurdod lleol yng Nghymru o dan adran 8A(2)(a) o Ddeddf Sŵn 1996

beidio â bod yn llai na £100 a dim mwy na £150.

(3) Caiff awdurdod sy'n gweithredu o dan fwy nag un o'r darpariaethau a enwir ym mharagraff (1) neu (2) bennu swm gwahanol o dan bob un o'r cyfryw ddarpariaethau.

Symiau llai o gosbau penodedig

3.–(1) Os bydd–

(a) awdurdod sbwriel yng Nghymru sy'n gweithredu o dan adran 88(7) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990(12);

(b) prif awdurdod sbwriel yng Nghymru sy'n gweithredu o dan baragraff 7(5) o Atodlen 3A i Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990;

(c) awdurdod lleol yng Nghymru sy'n gweithredu o dan adran 43A(3) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003;

(ch) prif awdurdod neu awdurdod eilaidd yng Nghymru sy'n gweithredu o dan adran 60(3) o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005;

(d) awdurdod lleol yng Nghymru sy'n gweithredu o dan adran 74(3) o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005,

yn gwneud darpariaeth i drin cosb benodedig yn un a gafodd ei thalu os caiff swm llai ei dalu cyn diwedd cyfnod a bennir gan yr awdurdod hwnnw, rhaid i'r swm llai hwnnw beidio â bod yn llai na £50.

(2) Os bydd–

(a) awdurdod casglu gwastraff yng Nghymru sy'n gweithredu o dan adran 47ZB(3) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990;

(b) prif awdurdod sbwriel yng Nghymru sy'n gweithredu o dan adran 94A(5) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990;

(c) awdurdod lleol yng Nghymru sy'n gweithredu o dan adran 8A(3) o Ddeddf Sŵn 1996;

(ch) awdurdod lleol sy'n gweithredu o dan adran 6(10) o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005,

yn gwneud darpariaeth i drin cosb benodedig yn un a gafodd ei thalu os caiff swm llai ei dalu cyn diwedd cyfnod a bennir gan yr awdurdod hwnnw, rhaid i'r swm llai hwnnw beidio â bod yn llai na £60.

(3) Os bydd awdurdod lleol sy'n gweithredu o dan adran 2A(10) o Ddeddf Gwaredu Sbwriel (Amwynder) 1978(13) yn gwneud darpariaeth i drin cosb benodedig yn un a gafodd ei thalu os caiff swm llai ei dalu cyn diwedd cyfnod a bennir gan yr awdurdod hwnnw, rhaid i'r swm llai hwnnw beidio â bod yn llai na £120.

(4) Os bydd–

(a) awdurdod rheoleiddio sy'n gweithredu o dan adran 5B(11) o Ddeddf Rheoli Llygredd (Diwygio) 1989(14);

(b) awdurdod gorfodi sy'n gweithredu o dan adran 34A(11) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990(15),

yn gwneud darpariaeth i drin cosb benodedig yn un a gafodd ei thalu os caiff swm llai ei dalu cyn diwedd cyfnod a bennir gan yr awdurdod hwnnw, rhaid i'r swm llai hwnnw beidio â bod yn llai na £180.

Amod sydd i'w fodloni gan berson cyn y caiff awdurdod eilaidd awdurdodi'r person hwnnw at ddibenion rhoi hysbysiadau o gosbau penodedig

4. Yr amod sydd i'w fodloni gan berson cyn y caiff awdurdod eilaidd awdurdodi'r person hwnnw yn ysgrifenedig at ddibenion rhoi hysbysiadau o dan–

(a) adran 88 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990;

(b) adran 43(1) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003;

(c) adran 59 o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005,

yw fod yn rhaid i'r person gwblhau'n llwyddiannus gwrs hyfforddi mewn cosbau penodedig.

Dirymu

5. Dirymir rheoliadau 1 i 4 o Reoliadau Tramgwyddau Amgylcheddol (Cosbau Penodedig) (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007(16).

Diwygio teitl Rheoliadau Tramgwyddau Amgylcheddol (Cosbau Penodedig) (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007

6. Yn nheitl Rheoliadau Tramgwyddau Amgylcheddol (Cosbau Penodedig) (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007 yn lle "(Cosbau Penodedig) (Darpariaethau Amrywiol)" rhodder "(Defnyddio Derbynebau Cosbau Penodedig)".

Jane Davidson

Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru.

9 Mawrth 2008

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn ailwneud rheoliadau 1 i 4 o Reoliadau Tramgwyddau Amgylcheddol (Cosbau Penodedig) (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/739) (Cy.67). Gwneir hyn oherwydd bod paragraff 15 o Atodlen 4 i Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (p.16) wedi'i gychwyn gan Orchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/3371) (C.141) a thrwy rinwedd y rhain Gweinidogion Cymru bellach yw'r person priodol o ran adrannau 43(A)(4) a (5) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (p.38).

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi'r ystodau y mae'n ofynnol i symiau o gosbau penodedig arbennig y gellir eu pennu (yn lle'r swm a ragnodwyd yn y ddeddfwriaeth berthnasol) gan awdurdod lleol (yn ôl disgrifiadau amrywiol yn y ddeddfwriaeth berthnasol) ddod o fewn eu cwmpas (rheoliad 2).

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn rhagnodi lleiafswm y gosb benodedig y caiff awdurdod lleol (os yw'n dewis gwneud hynny) ei drin fel taliad llawn o gosb benodedig pan fydd swm llai na'r swm llawn a ragnodwyd (p'un a yw hwn yn swm a bennir yn lleol gan yr awdurdod, neu'r swm a ragnodir yn y ddeddfwriaeth berthnasol) yn cael ei dalu o fewn y cyfryw gyfnod (rhaid i'r cyfnod hwnnw fod yn llai nag 14 o ddiwrnodau) y caiff yr awdurdod lleol ei bennu yn yr hysbysiad (rheoliad 3).

Yn unol â hynny, o ran hysbysiad o gosb benodedig y gellir ei ddyroddi am dramgwyddau penodol y swm a ragnodir yn y ddeddfwriaeth berthnasol ar eu cyfer yw £75, mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi y bydd yr ystod y caiff awdurdod lleol ddewis pennu ei swm ei hun y gellir ei gymhwyso'n lleol o fewn ei chwmpas rhwng £75 a £150 (rheoliad 2(1)). Os bydd awdurdod lleol yn penderfynu trin swm llai a gaiff ei dalu o fewn cyfnod penodedig fel taliad llawn o'r gosb benodedig, mae'r Rheoliadau hyn yn darparu na fydd y swm llai hwnnw yn llai na £50 (rheoliad 3(1)).

O ran tramgwyddau penodol eraill, swm y gosb benodedig a ragnodir yn y ddeddfwriaeth berthnasol ar eu cyfer yw £100, mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi y bydd yr ystod y caiff awdurdod lleol ddewis pennu ei swm ei hun y gellir ei gymhwyso'n lleol o fewn ei chwmpas rhwng £100 a £150 (rheoliad 2(2)). O ran unrhyw o'r tramgwyddau hynny, os bydd awdurdod lleol yn penderfynu trin swm llai a gaiff ei dalu o fewn cyfnod penodedig fel taliad llawn o'r gosb benodedig, mae'r Rheoliadau hyn yn darparu bod yn rhaid i'r swm llai hwnnw beidio â bod yn llai na £60 (rheoliad 3(2)(a), (b) ac (c)).

O ran tramgwyddau eraill, symiau y gosb benodedig a ragnodir yn y ddeddfwriaeth berthnasol ar eu cyfer yw £100, £200 a £300 yn eu trefn (ond ym mhob achos heb gyfleusterau i awdurdod bennu swm gwahanol y gellir ei gymhwyso'n lleol), caiff awdurdod barhau i drin swm llai a gaiff ei dalu o fewn cyfnod penodedig fel taliad llawn o'r gosb benodedig. Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu na fydd y symiau llai hynny yn llai na £60 (rheoliad 3(2)(ch), £120 (rheoliad 3(3) neu £180 (rheoliad 3(4)) yn eu trefn.

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn rhagnodi'r amod y mae'n rhaid ei fodloni cyn y caiff person ei awdurdodi gan gyngor cymuned at ddibenion rhoi hysbysiad o gosb benodedig o dan naill ai adran 88 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (p.43), adran 43(1) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003, neu adran 59 o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005. Yr amod yw bod yn rhaid i berson gwblhau cwrs hyfforddi mewn cosbau penodedig (rheoliad 4).

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio enw Rheoliadau Tramgwyddau Amgylcheddol (Cosbau Penodedig) (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007. Enw diwygiedig y Rheoliadau hynny yw Rheoliadau Tramgwyddau Amgylcheddol (Defnyddio Derbynebau Cosbau Penodedig) (Cymru) 2007 (rheoliad 6).

(1)

Dylid darllen y cyfeiriadau at y deddfiadau a grybwyllir ym mharagraffau (a) i (ff) a oedd, cyn i ddarpariaethau perthnasol Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.38) ddod i rym, yn gyfeiriadau at swyddogaethau a oedd yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o ran Cymru, bellach fel cyfeiriadau at Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf 2006 a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi. Back [1]

(2)

1978 p.3; mewnosodwyd y diffiniad o "appropriate person" yn adran 11(1) gan adran 14(3) o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (p.16), a mewnosodwyd adran 2A gan adran 10 o Ddeddf 2005. Back [2]

(3)

1989 p.14; mewnosodwyd y diffiniad o "appropriate person" yn adran 9(1) gan adran 39(2) o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005, a mewnosodwyd adran 5B gan adran 38 o Ddeddf 2005. Back [3]

(4)

1990 p.43; mewnosodwyd adran 29(1A) gan adran 51 o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005, mewnosodwyd adran 34A gan adran 45 o Ddeddf 2005 a mewnosodwyd adran 47ZB gan adran 48 o Ddeddf 2005. Back [4]

(5)

1990 p.43; mewnosodwyd adran 98(1A) gan adran 26 o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005, mewnosodwyd adran 88(11) gan adran 19(6) o Ddeddf 2005 a mewnosodwyd adran 97A gan adran 24 o Ddeddf 2005. Back [5]

(6)

1996 p.37; mewnosodwyd adran 11(2A) gan adran 85(2) o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 a mewnosodwyd adran 8A gan adran 82(2) o Ddeddf 2005. Back [6]

(7)

2003 p.38; mewnosodwyd adran 47(4) gan adran 30(2) o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 a mewnosodwyd adran 43A gan adran 28 o Ddeddf 2005. Back [7]

(8)

2005 p.16. Back [8]

(9)

Mewnosodwyd adran 88(6)(A) gan adran 19(2) o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005. Back [9]

(10)

Mewnosodwyd Atodlen 3A, ac adran 94B sy'n rhoi effaith iddi, gan adran 23 o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005. Back [10]

(11)

Mewnosodwyd adran 94(A) gan adran 22 o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005. Back [11]

(12)

Mewnosodwyd adran 88(7) gan adran 19(2) o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005. Back [12]

(13)

1978 p.3; mewnosodwyd adran 2(A) gan adran 10 o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005. Back [13]

(14)

1989 p.14; mewnosodwyd adran 5B gan adran 38 o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005. Back [14]

(15)

Mewnosodwyd adran 34A gan adran 45 o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005. Back [15]

(16)

O.S. 2007/739 (Cy. 67). Back [16]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2008/wsi_20080663_we_1.html