BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"><HEAD><title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Diwygio) 2008 No. 2140 (Cy. 189) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2008/wsi_20082140_we_1.html |
[New search] [Help]
Gwnaed
5 Awst 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
8 Awst 2008
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1
1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Diwygio) 2008.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 29 Awst 2008 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
(3) Mae rheoliadau 17 a 23 yn dod i rym ar 27 Hydref 2008 ac yn gymwys o ran Cymru.
2. Mae Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2008(3) wedi'u diwygio'n unol â'r rheoliadau canlynol.
3.–(1) Yn rheoliad 2(1), yn y man priodol, mewnosoder–
"ystyr "grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion" ("part-time grants for dependants") yw'r grantiau a'r lwfans a restrir yn rheoliad 83B(1);
"ystyr "grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed" ("part-time adult dependants' grant") yw'r grant sy'n daladwy o dan reoliad 83C;
"ystyr "grant rhan-amser ar gyfer gofal plant" ("part-time childcare grant") yw'r grant sy'n daladwy o dan reoliad 83Ch;
"ystyr "lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni" ("part-time parents' learning allowance") yw'r lwfans sy'n daladwy o dan reoliad 83D;.
4.–(1) Yn rheoliad 3(8)(a), yn lle "o'r Ddeddf", rhodder "o Ddeddf Addysg Uwch 2004(4)".
(2) Yn rheoliad 3(8)(b), yn lle "o'r Ddeddf", rhodder "o Ddeddf Addysg Uwch 2004".
5. Yn nhestun Cymraeg rheoliad 4(7)–
(a) yn lle "mae", rhodder "os yw";
(b) yn lle "os nad", rhodder "nid"; ac
(c) yn lle "os yw'n" rhodder "mae'n".
6. Yn rheoliad 7(2), yn lle "baragraffau (4) a (5)" rhodder "baragraffau (3), (4) a (5)".
7. Yn rheoliad 21(1), hepgorer "Yn ddarostyngedig i baragraff (9),".
8. Yn rheoliad 23(12), yn lle "o ran blwyddyn academaidd y bydd yn ystod unrhyw ran ohoni yn", rhodder "os yw'n".
9. Yn rheoliad 27(6)(b), yn lle "mharagraff (4)", rhodder "mharagraff (5)".
10. Yn rheoliad 30(1)(f), hepgorer "(f)," ar ôl y geiriau "yn ddarostyngedig i is-baragraffau".
11. Yn nhestun Cymraeg rheoliad 38(7), yn lle "Mae paragraff (7)", rhodder "Mae paragraff (6)".
12. Yn rheoliad 38(9), yn lle "o ran blwyddyn academaidd y bydd yn ystod unrhyw ran ohoni yn", rhodder "os yw'n".
13. Yn rheoliad 40(4)(b), ar ôl "sy'n fwy na £1,255" mewnosoder ", £1,255".
14. Yn rheoliad 54–
(a) ar ôl paragraff (8)(b), mewnosoder–
"(ba) GFF yw swm y grant at ffioedd, os oes unrhyw swm o gwbl, y mae'r myfyriwr cymwys yn ymgymhwyso ar ei gyfer o dan Ran 4;"; a
(b) ym mharagraff (9) yn lle "rheoliad 54(1)(ch)" rhodder "rheoliad 54(1)(d)".
15. Yn rheoliad 56, ar ôl paragraff (6), mewnosoder–
"(6A) Yn ddarostyngedig i baragraff (6B), nid oes unrhyw gymorth o dan Ran 5 yn ddyledus mewn perthynas ag unrhyw ddiwrnod mewn blwyddyn academaidd pan fydd y myfyriwr cymwys yn garcharor, oni fyddai'n briodol ym marn Gweinidogion Cymru yn yr holl amgylchiadau i'r cymorth gael ei dalu mewn perthynas â'r diwrnod hwnnw.
(6B) Nid yw paragraff (6A) yn gymwys mewn perthynas â grantiau at gostau byw myfyrwyr anabl.
(6C) Wrth benderfynu a fyddai'n briodol i gymorth fod yn ddyledus o dan baragraff (6A), mae'r amgylchiadau y mae'n rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw iddynt yn cynnwys y caledi ariannol a fyddai'n cael ei achosi pe na bai'r cymorth yn cael ei dalu ac a fyddai'n effeithio ar allu'r myfyriwr i barhau â'r cwrs pe na bai'r cymorth yn cael ei dalu.".
16. Yn rheoliad 59, ar ôl paragraff (8), mewnosoder–
"(8A) Yn ddarostyngedig i baragraff (8B), nid oes unrhyw gymorth o dan Ran 6 yn ddyledus mewn perthynas ag unrhyw ddiwrnod mewn blwyddyn academaidd pan fydd y myfyriwr cymwys yn garcharor, oni fyddai'n briodol ym marn Gweinidogion Cymru yn yr holl amgylchiadau i'r cymorth gael ei dalu mewn perthynas â'r diwrnod hwnnw.
(8B) Wrth benderfynu a fyddai'n briodol i gymorth fod yn ddyledus o dan baragraff (8A), mae'r amgylchiadau y mae'n rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw iddynt yn cynnwys y caledi ariannol a fyddai'n cael ei achosi pe na bai'r cymorth yn cael ei dalu ac a fyddai'n effeithio ar allu'r myfyriwr i barhau â'r cwrs pe na bai'r cymorth yn cael ei dalu.".
17. Yn rheoliad 67(1)(a) –
(a) ar ôl is-is-baragraff (i) hepgorer "neu"; a
(b) ar ôl is-is-baragraff (ii) mewnosoder–
"neu
o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles2007(5) i lwfans cyflogaeth a chymorth sy'n gysylltiedig ag incwm,".
18. Yn rheoliad 79(13), yn lle "neu reoliad 83", rhodder ", rheoliad 83 neu reoliadau 83A i 83G".
19. Yn rheoliad 79(14)(b), yn lle "reoliad 82(1)(b) neu 83", rhodder "reoliadau 82(1)(b), 83 neu 83A i 83G".
20. Yn rheoliad 79(15), ar ôl "reoliad 82" mewnosoder "neu reoliadau 83A i 83G".
21. Yn rheoliad 79(17), ar ôl "reoliad 82" mewnosoder "neu reoliadau 83A i 83G".
22. Ar ôl rheoliad 79(19), mewnosoder–
"(19A) Os bydd un o'r digwyddiadau a restrir yn is-baragraffau (a), (b), (d), (dd), (e), (f) neu (ff) o baragraff (21) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd, caiff myfyriwr ymgymhwyso i gael grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion yn unol â'r Rhan hon mewn perthynas â'r cyfan neu ran o'r flwyddyn academaidd honno ond nid oes ganddo hawl i gael grant mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ynddi.".
23. Yn rheoliad 82(5)(a)–
(a) ar ôl is-is-baragraff (i), hepgorer "neu"; a
(b) ar ôl is-is-baragraff (ii), mewnosoder–
"; neu
o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2007 i gael lwfans cyflogaeth a chymorth sy'n gysylltiedig ag incwm;".
24. Ar ôl rheoliad 83, mewnosoder–
83A.–(1) Mae gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion ar yr amod–
(a) nad yw'r myfyriwr rhan-amser wedi'i hepgor rhag bod â hawl gan unrhyw un o'r paragraffau canlynol, rheoliad 79 neu reoliad 81; a
(b) bod y myfyriwr rhan-amser yn bodloni amodau'r hawl i gael y grant penodol y mae'n gwneud cais amdano.
(2) Nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion os yw'n garcharor.
83B.–(1) Mae'r grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion yn cynnwys yr elfennau canlynol–
(a) grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed;
(b) grant rhan-amser ar gyfer gofal plant;
(c) lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni.
(2) Mae amodau'r hawl ar gyfer pob elfen a'r symiau sy'n daladwy mewn perthynas â phob elfen wedi'u nodi, yn eu tro, yn rheoliadau 83C i 83G ac wedi'u penderfynu'n unol â'r rheoliadau hynny.
(3) Caniateir didynnu swm o unrhyw un o elfennau'r grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion yn unol â rheoliadau 83F ac 83Ff.
83C.–(1) Mae gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs rhan-amser dynodedig yn unol â'r rheoliad hwn.
(2) Mae'r grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed ar gael mewn perthynas ag un dibynnydd myfyriwr rhan-amser cymwys sydd naill ai –
(a) yn bartner y myfyriwr rhan-amser cymwys; neu
(b) yn ddibynnydd mewn oed i'r myfyriwr rhan-amser cymwys nad yw ei incwm net yn fwy na £3,705.
(3) Mae swm y grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael ei gyfrifo yn unol â rheoliadau 83Dd ac 83F i 83G, a'r swm sylfaenol yw–
(a) £2,580; neu
(b) os yw'r person y mae'r myfyriwr rhan-amser cymwys yn gwneud cais mewn perthynas ag ef am grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed yn preswylio fel arfer y tu allan i'r Deyrnas Unedig, unrhyw swm nad yw'n fwy na £2,580 ac sydd ym marn Gweinidogion Cymru yn rhesymol yn yr amgylchiadau.
83CH.–(1) Mae gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl, mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs rhan-amser dynodedig, i gael grant rhan-amser ar gyfer gofal plant yn unol â'r rheoliad hwn.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), mae'r grant rhan-amser ar gyfer gofal plant ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr yn tynnu costau gofal plant rhagnodedig ynddi ar gyfer –
(a) plentyn dibynnol sydd o dan 15 oed yn union cyn dechrau'r flwyddyn academaidd; neu
(b) plentyn dibynnol sydd ag anghenion addysgol arbennig o fewn ystyr adran 312 o Ddeddf Addysg 1996(6) ac sydd o dan 17 oed yn union cyn dechrau'r flwyddyn academaidd.
(3) Nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael grant o dan y rheoliad hwn os yw'r myfyriwr neu bartner y myfyriwr wedi dewis cael elfen gofal plant y credyd treth gweithio o dan Ran I o Ddeddf Credydau Treth 2002(7).
(4) Nid yw myfyriwr rhan-amser cymwys yn gymwys i gael grant o dan y rheoliad hwn os yw'r costau gofal plant rhagnodedig y mae'n eu tynnu'n cael eu talu neu os ydynt i'w talu gan y myfyriwr i'w bartner.
(5) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), rheoliad83Dd a rheoliadau 83F i 83G, swm sylfaenol y grant gofal plant am bob wythnos yw–
(a) ar gyfer un plentyn dibynnol, 85 y cant o'r costau gofal plant rhagnodedig, hyd at uchafswm o £157.25 yr wythnos; neu
(b) ar gyfer dau neu fwy o blant dibynnol, 85 y cant o'r costau gofal plant rhagnodedig, hyd at uchafswm o £267.67 yr wythnos,
ac eithrio nad oes gan y myfyriwr hawl i gael unrhyw grant o'r fath mewn perthynas â phob wythnos sy'n syrthio o fewn y cyfnod rhwng diwedd y cwrs a diwedd y flwyddyn academaidd y daw'r cwrs i ben ynddi.
(6) Er mwyn cyfrifo swm sylfaenol y grant rhan-amser ar gyfer gofal plant–
(a) mae wythnos yn rhedeg o ddydd Llun i ddydd Sul; a
(b) os yw wythnos y caiff costau gofal plant rhagnodedig eu tynnu mewn perthynas â hi yn syrthio'n rhannol o fewn y flwyddyn academaidd y mae grant rhan-amser ar gyfer gofal plant yn daladwy mewn perthynas â hi o dan y rheoliad hwn ac yn rhannol y tu allan iddi, mae uchafswm wythnosol y grant yn cael ei gyfrifo drwy luosi'r uchafswm wythnosol perthnasol ym mharagraff (5) â nifer y dyddiau yn yr wythnos honno sy'n syrthio o fewn y flwyddyn academaidd a rhannu'r canlyniad â saith.
(7) Yn y rheoliad hwn, ystyr "costau gofal plant rhagnodedig" ("prescribed childcare charges") yw costau gofal plant o ddisgrifiad a ragnodir at ddibenion adran 12 o Ddeddf Credydau Treth2002(8).
83D.–(1) Mae gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs rhan-amser dynodedig i gael y lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni os oes ganddo un neu fwy o ddibynyddion sy'n blant dibynnol.
(2) Mae swm y lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael ei gyfrifo'n unol â rheoliadau 83Dd ac 83F i 83G, a'r swm sylfaenol yw £1,470.
83Dd.–(1) Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol a rheoliadau 83F i 83G, y swm sy'n daladwy mewn perthynas ag elfen benodol o'r grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr rhan-amser cymwys hawl i'w cael yw'r swm hwnnw o'r elfen honno sy'n weddill ar ôl cymhwyso, hyd nes y daw i ben, swm sy'n hafal i (A − B) fel a ganlyn ac yn y drefn ganlynol–
(a) i ostwng swm sylfaenol y grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed os oes gan y myfyriwr cymwys hawl i gael yr elfen honno o dan reoliad 83C;
(b) i ostwng swm sylfaenol y grant rhan-amser ar gyfer gofal plant am y flwyddyn academaidd os oes gan y myfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael yr elfen honno o dan reoliad 83Ch; ac
(c) i ostwng swm sylfaenol y lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni os oes gan y myfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael yr elfen honno o dan reoliad 83D.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4), (5) a (13), os yw B yn fwy nag A neu'n hafal iddi, mae swm sylfaenol pob elfen o'r grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr rhan-amser cymwys hawl i'w chael yn daladwy.
(3) Os yw (A − B) yn hafal i gyfanswm symiau sylfaenol elfennau'r grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr rhan-amser cymwys hawl i'w cael neu os yw'n fwy na chyfanswm y symiau hynny, y swm sy'n daladwy mewn perthynas â phob elfen yw dim.
(4) Gostyngir swm y grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed a gyfrifir o dan baragraff (1) mewn perthynas â dibynnydd mewn oed gan hanner y swm–
(a) os yw partner y myfyriwr rhan-amser cymwys–
(i) yn fyfyriwr rhan-amser cymwys; neu
(ii) yn dal dyfarniad statudol; a
(b) os cymerir i ystyriaeth ddibynyddion y partner hwnnw wrth gyfrifo swm y cymorth y mae'r partner yn ymgymhwyso ar ei gyfer neu'r taliad y mae ganddo hawl iddo o dan y dyfarniad statudol.
(5) Gostyngir swm y grant rhan-amser ar gyfer gofal plant a gyfrifir o dan baragraff (1) gan hanner y swm–
(a) os yw partner y myfyriwr rhan-amser cymwys–
(i) yn fyfyriwr rhan-amser cymwys; neu
(ii) yn dal dyfarniad statudol; a
(a) os cymerir i ystyriaeth ddibynyddion y partner hwnnw wrth gyfrifo swm y cymorth y mae'r partner yn ymgymhwyso ar ei gyfer neu'r taliad y mae ganddo hawl iddo o dan y dyfarniad statudol.
(6) Os yw swm y lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni a gyfrifir o dan baragraff (1) yn £0.01 neu fwy ond yn llai na £50, swm y lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni sy'n daladwy yw £50.
(7) Yn y rheoliad hwn–
A yw cyfanswm incwm net pob un o ddibynyddion y myfyriwr rhan-amser cymwys; a
B yw–
£1,130 os nad oes gan y myfyriwr rhan-amser cymwys blentyn dibynnol;
£3,385 os nad yw'r myfyriwr rhan-amser cymwys yn rhiant unigol a bod ganddo un plentyn dibynnol;
£4,515 yn achos y myfyriwr rhan-amser cymwys–
os nad yw'n rhiant unigol a bod ganddo fwy nag un plentyn dibynnol; neu
os yw'n rhiant unigol a bod ganddo un plentyn dibynnol;
£5,650 os yw'r myfyriwr rhan-amser cymwys yn rhiant unigol a bod ganddo fwy nag un plentyn dibynnol.
(8) Mae paragraffau (9) i (12) yn gymwys os bydd unrhyw un o'r canlynol yn digwydd yn ystod y flwyddyn academaidd–
(a) bod nifer dibynyddion y myfyriwr rhan-amser cymwys yn newid;
(b) bod person yn dod yn ddibynnydd i'r myfyriwr rhan-amser cymwys neu'n peidioâ bod yn ddibynnydd iddo;
(c) bod y myfyriwr rhan-amser cymwys yn dod yn rhiant unigol neu'n peidio â bod yn rhiant unigol;
(ch) bod myfyriwr yn dod yn fyfyriwr rhan-amser cymwys o ganlyniad i ddigwyddiad y cyfeirir ato yn rheoliad 79(21)(a), (b), (d), (dd), (e), (f) neu (ff).
(9) Er mwyn penderfynu priod werthoedd A a B ac a oes grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed neu lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni yn daladwy, rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu ar y canlynol mewn perthynas â phob chwarter perthnasol drwy gyfeirio at amgylchiadau'r myfyriwr yn y chwarter perthnasol–
(a) faint o ddibynyddion y mae'r myfyriwr rhan-amser cymwys i gael ei drin fel pe baent ganddo;
(b) pwy yw'r dibynyddion hynny;
(c) a yw'r myfyriwr i gael ei drin fel rhiant unigol.
(10) Swm y grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion am y flwyddyn academaidd yw cyfanswm symiau'r grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed a'r lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni wedi'u cyfrifo mewn perthynas â phob chwarter perthnasol o dan baragraff (11) a swm unrhyw grant rhan-amser ar gyfer gofal plant am y flwyddyn academaidd.
(11) Mae swm y grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed a'r lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni mewn perthynas â chwarter perthnasol yn draean o'r hyn a fyddai'n swm y grant neu'r lwfans am y flwyddyn academaidd pe bai amgylchiadau'r myfyriwr yn y chwarter perthnasol fel y'u pennir o dan baragraff (9) yn gymwys drwy gydol y flwyddyn academaidd.
(12) Yn y rheoliad hwn, ystyr "chwarter perthnasol" ("relevant quarter") yw–
(a) yn achos person y cyfeirir ato ym mharagraff (8)(ch), chwarter sy'n dechrau ar ôl i'r digwyddiad perthnasol ddigwydd ac eithrio chwarter pryd y mae'r un hiraf o unrhyw wyliau yn digwydd, ym marn Gweinidogion Cymru;
(b) fel arall, chwarter ac eithrio'r chwarter pryd y mae'r un hiraf o unrhyw wyliau yn digwydd, ym marn Gweinidogion Cymru.
(13) Caniateir i ddidyniad gael ei wneud yn unol â rheoliadau 83F ac 83Ff o'r swm sy'n daladwy o ran elfen benodol o'r grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion a gyfrifir o dan y Rhan hon.
83E.–(1) Yn rheoliadau 83C i 83Dd–
(a) yn ddarostyngedig i is-baragraff (j), ystyr "dibynnydd mewn oed" ("adult dependant"), mewn perthynas â myfyriwr rhan-amser cymwys, yw person mewn oed sy'n dibynnu ar y myfyriwr ac eithrio plentyn y myfyriwr, partner y myfyriwr (gan gynnwys priod neu bartner sifil y mae Gweinidogion Cymru o'r farn bod y myfyriwr wedi gwahanu oddi wrtho) neu gyn bartner y myfyriwr;
(b) mae "plentyn" ("child") mewn perthynas â myfyriwr rhan-amser cymwys yn cynnwys unrhyw blentyn i bartner y myfyriwr sy'n ddibynnol arno ac unrhyw blentyn y mae gan y myfyriwr gyfrifoldeb rhiant drosto ac sy'n ddibynnol arno;
(c) ystyr "dibynnydd" ("dependant"), mewn perthynas â myfyriwr rhan-amser cymwys, yw partner y myfyriwr, plentyn dibynnol y myfyriwr neu ddibynnydd mewn oed, nad yw ym mhob achos yn fyfyriwr cymwys ac nad oes ganddo ddyfarniad statudol;
(ch) ystyr "dibynnol" ("dependent") yw ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu'n bennaf;
(d) ystyr "plentyn dibynnol" ("dependent child"), mewn perthynas â myfyriwr rhan-amser cymwys yw plentyn sy'n ddibynnol arno;
(dd) ystyr "rhiant unigol" ("lone parent") yw myfyriwr rhan-amser cymwys nad oes ganddo bartner ac sydd â phlentyn dibynnol neu blant dibynnol;
(e) mae i "incwm net" ("net income") yr ystyr a roddir ym mharagraff (2);
(f) yn ddarostyngedig i is-baragraffau (ff), (g), (ng), (h) ac (i), ystyr "partner" ("partner") yw unrhyw un o'r canlynol –
(i) priod myfyriwr rhan-amser cymwys;
(ii) partner sifil myfyriwr rhan-amser cymwys;
(iii) person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr rhan-amser cymwys fel petai'n briod iddo pan fo myfyriwr rhan-amser cymwys yn dod o dan baragraff 2(1)(a) o Atodlen 6 a'i fod wedi dechrau'r cwrs rhan-amser dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2000;
(iv) person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr rhan-amser cymwys fel petai'n bartner sifil iddo pan fo myfyriwr rhan-amser cymwys yn dod o dan baragraff 2(1)(a) o Atodlen 6 a'i fod wedi dechrau'r cwrs rhan-amser dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2005;
(ff) oni nodir fel arall, nid yw person a fyddai fel arall yn bartner o dan is-baragraff (f) yn cael ei drin fel partner–
(i) os yw'r person hwnnw a'r myfyriwr rhan-amser cymwys, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi gwahanu; neu
(ii) os yw'r person fel arfer yn byw y tu allan i'r Deyrnas Unedig ac nad yw'n cael ei gynnal gan y myfyriwr rhan-amser cymwys;
(g) at ddibenion y diffiniad o "dibynnydd mewn oed" ("adult dependant"), mae person i'w drin fel partner pe bai'r person yn bartner o dan is-baragraff (f) oni bai am y ffaith nad yw'r myfyriwr rhan-amser cymwys y mae'r person fel arfer yn byw gydag ef yn syrthio o fewn paragraff 2(1)(a) o Atodlen 6;
(ng) at ddibenion y diffiniadau o "plentyn" ("child") a "rhiant unigol" ("lone parent"), mae person i'w drin fel partner pe bai'r person yn bartner o dan is-baragraff (f) oni bai am y dyddiad y dechreuodd y myfyriwr rhan-amser cymwys ar ei gwrs dynodedig a bennir neu'r ffaith nad yw'r myfyriwr rhan-amser cymwys y mae'r person fel arfer yn byw gydag ef yn syrthio o fewn paragraff 2(1)(a) o Atodlen 6;
(h) at ddibenion rheoliad 83Ch –
(i) nid yw is-baragraff (ff) yn gymwys; a
(ii) mae person i'w drin fel pe bai'n bartner pe byddai'n bartner o dan is-baragraff (f) oni bai am y ffaith nad yw'r myfyriwr rhan-amser cymwys y mae fel arfer yn byw gydag ef yn syrthio o fewn paragraff (2)(1)(a) o Atodlen 6;
(i) at ddibenion penderfynu a yw rhywun yn gynbartner i bartner i fyfyriwr rhan-amser cymwys, ystyr "partner" ("partner"), o ran partner i fyfyriwr rhan-amser cymwys, yw–
(i) priod partner i fyfyriwr rhan-amser cymwys;
(ii) partner sifil i bartner myfyriwr rhan-amser cymwys;
(iii) pan fo myfyriwr rhan-amser cymwys wedi dechrau'r cwrs rhan-amser dynodedig a bennir ar neu ar ôl 1 Medi 2000, rhywun sydd fel arfer yn byw gyda phartner myfyriwr rhan-amser cymwys fel petai'n briod iddo;
(iv) pan fo myfyriwr rhan-amser cymwys wedi dechrau'r cwrs rhan-amser dynodedig a bennir ar neu ar ôl 1 Medi 2005, rhywun sydd fel arfer yn byw gyda phartner myfyriwr rhan-amser cymwys fel petai'n bartner sifil iddo;
(j) yn ddarostyngedig i is-baragraff (l), at ddibenion y diffiniadau o "dibynnydd mewn oed" ("adult dependant") a "plentyn dibynnol" ("dependent child"), caiff Gweinidogion Cymru ymdrin ag oedolyn neu blentyn fel un sy'n ddibynnol ar fyfyriwr rhan-amser cymwys os ydynt wedi'u bodloni nad yw'r oedolyn neu'r plentyn–
(i) yn ddibynnol ar–
(aa) y myfyriwr rhan-amser cymwys; neu
(bb) ei bartner; ond
(ii) yn ddibynnol ar y myfyriwr rhan-amser cymwys a'i bartner gyda'i gilydd;
(l) rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thrin oedolyn ("A") fel un sy'n ddibynnol ar fyfyriwr rhan-amser cymwys yn unol ag is-baragraff (j), os yw A–
(i) yn briod neu'n bartner sifil i bartner y myfyriwr rhan-amser cymwys (yn cynnwys priod neu bartner sifil yr ystyria Gweinidogion Cymru bod partner y myfyriwr rhan-amser cymwys wedi gwahanu oddi wrtho); neu
(ii) yn gynbartner partner y myfyriwr rhan-amser cymwys.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), incwm net dibynnydd yw incwm y dibynnydd o bob ffynhonnell am y flwyddyn academaidd o dan sylw wedi'i ostwng yn ôl swm y dreth incwm a'r cyfraniadau nawdd cymdeithasol sy'n daladwy mewn perthynas â hi ond gan anwybyddu–
(a) unrhyw bensiwn, lwfans neu fudd-dal arall a delir oherwydd anabledd neu analluedd sydd gan y dibynnydd;
(b) budd-dal plant sy'n daladwy o dan Ran IX o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(9);
(c) unrhyw gymorth ariannol sy'n daladwy i'r dibynnydd gan awdurdod lleol yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adrannau 2, 3 a 4 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002(10);
(ch) unrhyw lwfans gwarcheidwad y mae gan y dibynnydd hawlogaeth i'w gael o dan adran 77 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992;
(d) yn achos dibynnydd y mae plentyn sy'n derbyn gofal awdurdod lleol wedi'i fyrddio gydag ef, unrhyw daliad a wneir i'r dibynnydd hwnnw yn unol ag adran 23 o Ddeddf Plant 1989(11);
(dd) unrhyw daliadau a wneir i'r dibynnydd o dan adran 15 o Ddeddf Plant 1989 ac Atodlen 1 iddi mewn perthynas â pherson nad yw'n blentyn i'r dibynnydd neu unrhyw gymorth a roddir gan awdurdod lleol yn unol ag adran 24 o'r Ddeddf honno(12); ac
(e) unrhyw gredyd treth plant y mae gan y dibynnydd hawlogaeth i'w gael o dan Ran I o Ddeddf Credydau Treth 2002(13).
(3) Os yw myfyriwr rhan-amser cymwys neu bartner y myfyriwr yn gwneud unrhyw daliadau ailgylchol a oedd gynt yn cael eu gwneud gan y myfyriwr yn unol â rhwymedigaeth a ysgwyddwyd cyn blwyddyn academaidd gyntaf cwrs y myfyriwr, incwm net y partner yw'r incwm net wedi'i gyfrifo yn unol â pharagraff (2) ac wedi'i ostwng yn ôl–
(a) swm sy'n hafal i'r taliadau o dan sylw am y flwyddyn academaidd, os cafodd y rhwymedigaeth, ym marn Gweinidogion Cymru, ei hysgwyddo'n rhesymol; neu
(b) unrhyw swm llai, os bydd unrhyw swm o gwbl, sy'n briodol ym marn Gweinidogion Cymru, pe gallai rhwymedigaeth lai fod wedi'i hysgwyddo'n rhesymol yn eu barn hwy.
(4) At ddibenion paragraff (2), os yw'r dibynnydd yn blentyn dibynnol a bod taliadau'n cael eu gwneud i'r myfyriwr rhan-amser cymwys tuag at gynhaliaeth y plentyn, mae'r taliadau hynny i gael eu trin fel incwm y plentyn.
83F.–(1) Cyfraniadau myfyriwr rhan-amser cymwys mewn perthynas â blwyddyn academaidd a grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn perthynas â'r flwyddyn honno yw'r swm a gyfrifir o dan Atodlen 6, os oes unrhyw swm o gwbl.
(2) At ddibenion arfer swyddogaethau Gweinidogion Cymru o dan y Ddeddf a'r rheoliadau a wnaed odani, caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i fyfyriwr rhan-amser cymwys roi o bryd i'w gilydd unrhyw wybodaeth y mae Gweinidogion Cymru yn credu ei bod yn angenrheidiol am incwm unrhyw berson y mae ei foddion yn berthnasol ar gyfer asesu cyfraniad y myfyriwr.
83Ff.–(1) Mae swm sy'n hafal i'r cyfraniad neu i weddill y cyfraniad, yn ôl y digwydd, a gyfrifir o dan Atodlen 6 i'w gymhwyso nes ei ddihysbyddu yn erbyn swm yr elfen benodol o'r grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr rhan-amser cymwys hawl i'w cael fel a ganlyn–
(a) yn gyntaf, i ostwng PTADG;
(b) yn ail, i ostwng PTCCG;
(c) yn drydydd, i ostwng PTPLA.
(2) Yn y rheoliad hwn–
(a) PTADG yw swm y grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed, os oes unrhyw swm o gwbl, a gyfrifir yn unol â rheoliad 83Dd;
(b) PTCCG yw swm y grant rhan-amser ar gyfer gofal plant, os oes unrhyw swm o gwbl, a gyfrifir yn unol â rheoliad 83Dd;
(c) PTPLA yw swm y lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni, os oes unrhyw swm o gwbl, a gyfrifir yn unol â rheoliad 83Dd (ac eithrio £50 cyntaf y lwfans).
83G.–(1) Penderfynir y swm sy'n daladwy mewn perthynas ag elfen benodol o'r grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion yn unol â'r rheoliad hwn.
(2) Mae'r swm sy'n daladwy yn amrywio yn ôl pa mor ddwys yw'r astudio. Cyfrifir pa mor ddwys yw'r astudio fel a ganlyn a'i fynegi fel canran
ac mae i
PT ac FT yr ystyron a roddir iddynt gan reoliad 82(2) a (3).
(3) Yn achos grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed, os yw dwysedd yr astudio yn–
(a) 50 y cant neu fwy ond yn llai na 60 y cant, mae'r swm sy'n daladwy yn hafal i 50 y cant o'r swm sy'n deillio o hyn;
(b) 60 y cant neu fwy ond yn llai na 75 y cant, mae'r swm sy'n daladwy yn hafal i 60 y cant o'r swm sy'n deillio o hyn;
(c) 75 y cant neu fwy, mae'r swm sy'n daladwy yn hafal i 75 y cant o'r swm sy'n deillio o hyn.
(4) At ddibenion paragraff (3), ystyr "y swm sy'n deillio o hyn" ("the resulting amount") yw swm y grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed a benderfynir yn unol â rheoliad 83Dd a'r didyniadau (os oes rhai o gwbl) wedi'u cymhwyso'n unol â rheoliad 83Ff.
(5) Yn achos grant rhan-amser ar gyfer gofal plant, os yw dwysedd yr astudio yn–
(a) 50 y cant neu fwy ond yn llai na 60 y cant, mae'r swm sy'n daladwy yn hafal i 50 y cant o'r swm sy'n deillio o hyn;
(b) 60 y cant neu fwy ond yn llai na 75 y cant, mae'r swm sy'n daladwy yn hafal i 60 y cant o'r swm sy'n deillio o hyn;
(c) 75 y cant neu fwy, mae'r swm sy'n daladwy yn hafal i 75 y cant o'r swm sy'n deillio o hyn.
(6) At ddibenion paragraff (5), ystyr "y swm sy'n deillio o hyn" ("the resulting amount") yw swm y grant rhan-amser ar gyfer gofal plant a benderfynir yn unol â rheoliad 83Dd a'r didyniadau (os oes rhai o gwbl) wedi'u cymhwyso'n unol â rheoliad 83Ff.
(7) Yn achos lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni, os yw dwysedd yr astudio yn–
(a) 50 y cant neu fwy ond yn llai na 60 y cant, mae'r swm sy'n daladwy yn hafal i 50 y cant o'r swm sy'n deillio o hyn;
(b) 60 y cant neu fwy ond yn llai na 75 y cant, mae'r swm sy'n daladwy yn hafal i 60 y cant o'r swm sy'n deillio o hyn;
(c) 75 y cant neu fwy, mae'r swm sy'n daladwy yn hafal i 75 y cant o'r swm sy'n deillio o hyn.
(8) At ddibenion paragraff (7), ystyr "y swm sy'n deillio o hyn" ("the resulting amount") yw swm y lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni a benderfynir yn unol â rheoliad 83Dd a'r didyniadau (os oes rhai o gwbl) wedi'u cymhwyso'n unol â rheoliad 83Ff.".
25. Yn rheoliad 84(4)(a), yn lle "rheoliad (79)(3)" rhodder "rheoliad 79(21)".
26. Yn rheoliad 87(5), yn lle "reoliad 82(1)(b) neu reoliad 83", rhodder "reoliad 82(1)(b), rheoliad 83 neu reoliadau 83A i 83G".
27. Yn rheoliad 88–
(a) ar ddiwedd paragraff (3)(c) hepgorer "ac";
(b) ar ddiwedd paragraff (3)(ch), yn lle'r atalnod llawn, rhodder hanner colon;
(c) ar ôl paragraff (3)(ch), mewnosoder–
"(d) os yw Gweinidogion Cymru wedi penderfynu talu swm o grant i'r myfyriwr o dan reoliadau 26 i 29 mewn rhandaliadau rheolaidd, ni chaniateir talu taliad mewn perthynas â'r swm hwnnw o grant mewn perthynas â chyfnod unrhyw randaliad sy'n dechrau ar ôl y dyddiad y daeth y myfyriwr yn fyfyriwr rhan-amser cymwys;
(dd) mae uchafswm y grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion y byddai gan y myfyriwr hawlogaeth i'w gael, heblaw am y rheoliad hwn, yn unol â rheoliadau 83A i 83G mewn cysylltiad ag ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno yn cael ei ostwng o un traean os daeth y myfyriwr yn fyfyriwr rhan-amser cymwys yn ystod ail chwarter y flwyddyn academaidd ac o ddau draean os daeth yn fyfyriwr o'r fath mewn chwarter arall yn nes ymlaen yn y flwyddyn honno;
(e) os oes swm o grant wedi'i dalu i'r myfyriwr o dan reoliadau 26 i 29 mewn un rhandaliad, mae uchafswm y grant sy'n daladwy iddo yn unol â rheoliadau 83A i 83G yn cael ei ostwng (neu, os yw is-baragraff (dd) yn gymwys, ei ostwng ymhellach) yn ôl swm y grant a dalwyd iddo yn unol â rheoliadau 26 i 29, ac os yw'r swm sy'n deillio o hyn yn ddim neu'n swm negyddol, bydd y swm hwnnw yn ddim.";
(ch) ym mharagraff (9)(b), yn lle "reoliad 24" rhodder "reoliad 69";
(d) ar ôl paragraff (10), mewnosoder–
"(10A) Os yw myfyriwr yn trosglwyddo o dan baragraff (5), uchafswm y grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion y byddai gan y myfyriwr hawlogaeth i'w gael, heblaw am y rheoliad hwn, yn unol â rheoliadau 83A i 83G mewn cysylltiad ag ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno yn cael ei ostwng o un traean os daeth y myfyriwr yn fyfyriwr rhan-amser cymwys yn ystod ail chwarter y flwyddyn academaidd ac o ddau draean os daeth yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn chwarter arall yn nes ymlaen yn y flwyddyn honno.";
(dd) ar ddechrau paragraff (12)(b), mewnosoder "yn ddarostyngedig i is-baragraffau (ba) a (d),";
(e) ar ôl paragraff 12(b), mewnosoder–
"(ba) os yw Gweinidogion Cymru wedi penderfynu talu swm o unrhyw grant i'r myfyriwr yn unol â rheoliadau 83A i 83G mewn rhandaliadau rheolaidd, ni chaniateir i unrhyw daliad mewn perthynas â'r swm hwnnw gael ei wneud mewn perthynas â chyfnod unrhyw randaliad sy'n dechrau ar ôl y dyddiad y daeth y myfyriwr yn fyfyriwr cymwys";
(f) ar ddiwedd paragraff (12)(c), hepgorer " ac";
(ff) ar ddiwedd is-baragraff (12)(ch), yn lle'r atalnod llawn, rhodder "; a ";
(g) ar ôl paragraff 12(ch), mewnosoder–
"(d) os oes swm o grant wedi'i dalu i'r myfyriwr yn unol â rheoliadau 83A i 83G mewn un rhandaliad, mae uchafswm y grant hwnnw sy'n daladwy iddo yn unolâ rheoliadau 26 i 29 yn cael ei ostwng (neu, os yw is-baragraff (c) yn gymwys, ei ostwng ymhellach) yn ôl swm y grant a dalwyd iddo yn unol â rheoliadau 83A i 83G ac os yw'r swm sy'n deillio o hyn yn ddim neu'n swm negyddol, bydd y swm hwnnw yn ddim."; ac
(ng) ym mharagraff 16(b)–
(i) yn lle "reoliad 83", rhodder "reoliad 69"; a
(ii) yn lle "reoliad 24", rhodder "reoliad 83".
28. Ar ôl rheoliad 89, mewnosoder–
"89A.–(1) Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, caiff Gweinidogion Cymru dalu grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn unrhyw randaliadau (os bydd rhandaliadau) ac ar unrhyw adegau y maent yn barnu eu bod yn briodol.
(2) Mae'n ofynnol i sefydliad anfon cadarnhad o bresenoldeb at Weinidogion Cymru.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thalu'r rhandaliad cyntaf neu, os penderfynwyd peidio â thalu grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn rhandaliadau, wneud unrhyw daliad o'r grant hwnnw i fyfyriwr rhan-amser cymwys cyn iddynt gael cadarnhad o bresenoldeb oni bai bod yr eithriad ym mharagraff (4) yn gymwys.
(4) Mae'r eithriad yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru wedi penderfynu y byddai'n briodol, o achos amgylchiadau eithriadol, iddynt wneud taliad heb gael cadarnhad o bresenoldeb.
(5) Pan na ellir gwneud asesiad terfynol ar sail yr wybodaeth a ddarparwyd gan y myfyriwr, caiff Gweinidogion Cymru wneud asesiad a thaliad dros dro o grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion.
(6) Caniateir i daliadau o grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion gael eu gwneud mewn unrhyw fodd sy'n briodol ym marn Gweinidogion Cymru a chânt ei gwneud yn un o amodau hawlogaeth i gael taliad fod yn rhaid i'r myfyriwr rhan-amser cymwys roi iddynt fanylion cyfrif banc neu gyfrif cymdeithas adeiladu yn y Deyrnas Unedig y gall taliadau gael eu talu iddo drwy eu trosglwyddo'n electronig.
(7) Yn ddarostyngedig i baragraff (8), nid oes unrhyw gymorth ar ffurf grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion yn ddyledus mewn perthynas ag unrhyw ddiwrnod mewn blwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr rhan-amser cymwys yn garcharor arno, oni fyddai'n briodol ym marn Gweinidogion Cymru yn yr holl amgylchiadau i'r cymorth gael ei dalu mewn perthynas â'r diwrnod hwnnw.
(8) Wrth benderfynu a fyddai'n briodol i gymorth fod yn ddyledus o dan baragraff (7), mae'r amgylchiadau y mae'n rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw iddynt yn cynnwys y caledi ariannol a fyddai'n cael ei achosi pe na bai'r cymorth yn cael ei dalu ac a fyddai'n effeithio ar allu'r myfyriwr i barhau â'r cwrs pe na bai'r cymorth yn cael ei dalu.
(9) Nid oes unrhyw gymorth ar ffurf grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion yn ddyledus mewn perthynas ag unrhyw gyfnod talu sy'n dechrau ar ôl i gyfnod cymhwystra myfyriwr rhan-amser cymwys ddod i ben.
(10) Pan fo cyfnod cymhwystra myfyriwr rhan-amser cymwys yn dod i ben ar neu ar ôl y dyddiad perthnasol, rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu–
(a) swm pob grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr hawl i'w gael ac a fyddai'n daladwy mewn perthynas â'r cyfnod talu perthnasol os nad oedd cyfnod cymhwystra'r myfyriwr rhan-amser cymwys wedi dod i ben (y "swm llawn"); a
(b) faint o'r cyfanswm sy'n ddyledus mewn perthynas â'r cyfnod sy'n ymestyn o ddiwrnod cyntaf y cyfnod talu perthnasol hyd at a chan gynnwys y diwrnod y daeth cyfnod cymhwystra'r myfyriwr rhan-amser cymwys i ben (y "swm rhannol").
(11) Yn y rheoliad hwn "y dyddiad perthnasol" ("the relevant date") yw'r dyddiad y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd o dan sylw yn dechrau mewn gwirionedd.
(12) Os yw Gweinidogion Cymru wedi gwneud taliad o grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn perthynas â'r cyfnod talu perthnasol cyn y pwynt yn y cyfnod hwnnw pryd y daeth cyfnod cymhwystra'r myfyriwr rhan-amser cymwys i ben a bod y taliad hwnnw'n fwy na swm rhannol y grant hwnnw–
(a) cânt drin y tôl dros ben fel gordaliad o'r grant hwnnw; neu
(b) os ydynt o'r farn ei bod yn briodol iddynt wneud hynny, cânt estyn cyfnod cymhwystra'r myfyriwr mewn perthynasâ'r grant rhan-amser hwnnw ar gyfer dibynyddion hyd ddiwedd y cyfnod talu perthnasol a chânt benderfynu bod cyfanswm y grant yn ddyledus mewn perthynas â'r cyfnod talu hwnnw.
(13) Os yw taliad grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn perthynas â'r cyfnod talu perthnasol i'w dalu ar ôl i gyfnod cymhwystra'r myfyriwr rhan-amser cymwys ddod i ben neu os dyna pryd y caiff ei dalu, swm y grant rhan-amser hwnnw ar gyfer dibynyddion sy'n ddyledus yw'r swm rhannol onid yw Gweinidogion Cymru o'r farn ei bod yn briodol i estyn y cyfnod cymhwystra mewn perthynas â'r grant hwnnw hyd ddiwedd y cyfnod talu perthnasol ac i benderfynu bod cyfanswm y grant hwnnw'n ddyledus mewn perthynas â'r cyfnod talu hwnnw.
(14) Nid oes unrhyw gymorth ar ffurf grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion yn ddyledus mewn perthynas â chyfnod talu y mae myfyriwr rhan-amser cymwys yn absennol o'i gwrs yn ystod unrhyw ran ohono, oni fyddai'n briodol ym marn Gweinidogion Cymru yn yr holl amgylchiadau i'r cymorth gael ei dalu mewn perthynas â'r cyfnod o absenoldeb.
(15) Wrth benderfynu a fyddai'n briodol i gymorth fod yn ddyledus o dan baragraff (14), mae'r amgylchiadau y mae'n rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw iddynt yn cynnwys y rheswm dros absenoldeb y myfyriwr, hyd y cyfnod o absenoldeb a'r caledi ariannol a fyddai'n cael ei achosi pe na fyddai'r cymorth yn cael ei dalu.
(16) Ni ddylid ystyried bod myfyriwr rhan-amser cymwys yn absennol o'i gwrs os yw'n methu ei fynychu oherwydd salwch ac os nad yw wedi bod yn absennol am fwy na 60 o ddiwrnodau.
(17) Os yw Gweinidogion Cymru, ar ôl iddynt wneud unrhyw daliad o gymorth ar ffurf grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion, yn penderfynu swm y grant hwnnw y mae gan y myfyriwr hawl i'w gael naill ai am y tro cyntaf neu ar ffurf adolygiad o benderfyniad dros dro neu benderfyniad arall ynghylch y swm hwnnw–
(a) os yw'r penderfyniad yn cynyddu swm y grant hwnnw y mae gan y myfyriwr hawl i'w gael, rhaid iddynt dalu'r swm ychwanegol mewn unrhyw randaliadau (os bydd rhandaliadau) ac ar unrhyw adegau y maent yn barnu eu bod yn briodol;
(b) os yw'r penderfyniad yn gostwng swm y grant hwnnw y mae gan y myfyriwr hawl i'w gael, rhaid iddynt dynnu i ffwrdd swm y gostyngiad o swm y grant hwnnw sydd ar ôl i'w dalu;
(c) os yw swm y gostyngiad yn fwy na swm y grant hwnnw sydd ar ôl i'w dalu, gostyngir y swm diwethaf hwn i ddim a chaiff y balans ei dynnu i ffwrdd o unrhyw elfen arall o grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr hawl i'w chael mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd;
(ch) gellir adennill unrhyw ordaliad sy'n weddill yn unol â rheoliad 91.".
29. Yn rheoliad 91–
(a) ym mharagraff (3), yn lle "a'r grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl", rhodder ", y grant rhan-amser at gostau byw myfyrwyr anabl a grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion"; a
(b) ym mharagraff (5), ar ôl "anabl" mewnosoder "neu grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion".
30. Ym mharagraff 8 o Ran 2 o Atodlen 1–
(a) yn lle is-baragraff (b), rhodder "a oedd yn preswylio fel arfer yng Nghymru ac wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn union cyn ymadael â'r Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio"; a
(b) yn is-baragraff (c), yn lle "yng Nghymru", rhodder "yn y Deyrnas Unedig".
31. Ar ôl Atodlen 5, mewnosoder–
Rheoliad 83F
1. Yn yr Atodlen hon–
(a) mae i "myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu" ("contributing eligible part-time student") yr ystyr a roddir ym mharagraff 2;
(b) ystyr "blwyddyn ariannol" ("financial year") yw'r cyfnod o ddeuddeng mis y mae incwm person, y mae ei incwm gweddilliol yn cael ei gyfrifo o dan ddarpariaethau'r Atodlen hon, yn cael ei gyfrifo mewn perthynas â hi at ddibenion y ddeddfwriaeth ar dreth incwm sy'n gymwys iddo;
(c) mae i "incwm aelwyd", "incwm yr aelwyd" ac "incwm sydd gan yr aelwyd" ("household income") yr ystyr a roddir ym mharagraff 3;
(ch) ystyr "Aelod-wladwriaeth" ("Member State") yw un o Aelod-wladwriaethau'r Undeb Ewropeaidd;
(d) "ystyr "rhiant" ("parent") yw rhiant naturiol neu fabwysiadol a dehonglir "plentyn" ("child") yn unol â hynny;
(dd) ystyr "myfyriwr sy'n rhiant" ("parent student") yw myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu ac sy'n rhiant i fyfyriwr cymwys;
(e) ystyr "partner" ("partner") mewn perthynas â myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu yw unrhyw un o'r canlynol–
(i) priod myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu;
(ii) partner sifil myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu;
(iii) person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu fel pe bai'n briod iddo os yw'r myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu yn syrthio o fewn paragraff 2(1)(a) ac os yw'n dechrau'r cwrs rhan-amser dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2000;
(iv) person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu fel pe bai'n bartner sifil iddo os yw'r myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu yn syrthio o fewn paragraff 2(1)(a) ac os yw'n dechrau'r cwrs rhan-amser dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2005;
(f) ystyr "blwyddyn ariannol flaenorol" ("preceding financial year") yw'r flwyddyn ariannol yn union cyn y flwyddyn berthnasol;
(ff) ystyr "blwyddyn berthnasol" ("relevant year") yw'r flwyddyn academaidd y mae incwm yr aelwyd i'w asesu mewn perthynas â hi;
(g) ystyr "incwm gweddilliol" ("residual income") yw incwm trethadwy ar ôl cymhwyso paragraff 4 (yn achos myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu) neu baragraff 5 (yn achos partner myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu); a
(ng) ystyr "incwm trethadwy" ("taxable income"), o ran paragraff 4, mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd y mae cais wedi'i wneud ar ei chyfer o dan reoliad 84 ac, o ran paragraff 5, mewn perthynas (yn ddarostyngedig i is-baragraffau (3), (4) a (5) o baragraff 5) â'r flwyddyn ariannol flaenorol, yw incwm trethadwy person o bob ffynhonnell fel petai wedi'i gyfrifo at ddibenion–
(i) y Deddfau Treth Incwm;
(ii) deddfwriaeth treth incwm Aelodwladwriaeth arall sy'n gymwys i incwm y person; neu
(iii) os yw deddfwriaeth mwy nag un Aelodwladwriaeth yn gymwys i'r cyfnod, y ddeddfwriaeth y mae Gweinidogion Cymru yn credu y bydd y person yn talu'r swm mwyaf o dreth oddi tani yn y cyfnod hwnnw (ac eithrio fel y darperir fel arall ym mharagraff 5).
2.–(1) At ddibenion yr Atodlen hon, mae myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu yn fyfyriwr rhan-amser cymwys ym mhob achos–
(a) lle mae'n 25 oed neu drosodd ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn berthnasol;
(b) lle mae'n briod neu lle mae mewn partneriaeth sifil cyn dechrau'r flwyddyn berthnasol, p'un a yw'r briodas neu'r bartneriaeth sifil yn dal yn bod neu beidio;
(c) lle nad oes ganddo riant yn fyw;
(ch) lle mae Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni na ellir dod o hyd i'r naill na'r llall o'i rieni neu lle nad yw'n rhesymol ymarferol cysylltu â'r naill na'r llall ohonynt;
(d) lle nad yw wedi cyfathrebu â'r naill na'r llall o'i rieni am gyfnod o flwyddyn cyn dechrau'r flwyddyn berthnasol neu lle mae, ym marn Gweinidogion Cymru, yn gallu dangos ar seiliau eraill ei fod wedi ymddieithrio oddi wrth ei rieni mewn ffordd nad oes modd cymodi;
(dd) lle'r oedd yn derbyn gofal gan awdurdod lleol o fewn ystyr adran 22 o Ddeddf Plant 1989(14) drwy gydol unrhyw gyfnod o dri mis yn gorffen ar neu ar ôl y dyddiad y cyrhaeddodd 16 oed a chyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs ("y cyfnod perthnasol") ar yr amod nad yw wedi bod mewn gwirionedd ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod perthnasol o dan ofal neu reolaeth ei rieni;
(e) lle mae ei rieni'n preswylio y tu allan i'r Gymuned Ewropeaidd a bod Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni naill ai–
(i) y byddai asesu incwm yr aelwyd drwy gyfeirio at eu hincwm gweddilliol yn gosod y rhieni hynny mewn perygl; neu
(ii) na fyddai'n rhesymol ymarferol i'r rhieni hynny anfon unrhyw arian perthnasol i'r Deyrnas Unedig;
(f) lle mae'n aelod o urdd grefyddol ac yn preswylio yn un o dai'r urdd honno;
(ff) lle mae'n gofalu am berson o dan 18 oed ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn berthnasol; neu
(g) lle mae wedi'i gynnal ei hun o'i enillion am unrhyw gyfnod neu gyfnodau sy'n diweddu cyn blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs a bod cyfanswm y cyfnodau hynny gyda'i gilydd heb fod yn llai na thair blynedd, ac at ddibenion yr is-baragraff hwn mae i'w drin fel pe bai'n ei gynnal ei hun o'i enillion yn ystod unrhyw gyfnod–
(i) pan oedd yn cymryd rhan mewn trefniadau ar gyfer hyfforddi'r di-waith o dan unrhyw gynllun a oedd yn cael ei weithredu, ei noddi neu ei ariannu gan unrhyw un o awdurdodau neu asiantaethau'r wladwriaeth, boed cenedlaethol, rhanbarthol neu leol ("awdurdod perthnasol");
(ii) pan oedd yn cael budd-dal sy'n daladwy gan unrhyw awdurdod perthnasol mewn perthynas â pherson sydd ar gael i'w gyflogi ond sy'n ddi-waith;
(iii) pan oedd ar gael i'w gyflogi a'i fod wedi cydymffurfio ag unrhyw ofyniad ynglân â chofrestru a osodwyd gan awdurdod perthnasol fel un o amodau'r hawlogaeth i gymryd rhan mewn trefniadau ar gyfer hyfforddi neu ar gyfer derbyn budd-dal ;
(iv) pan oedd ganddo efrydiaeth y wladwriaeth(15) neu ddyfarniad cyffelyb; neu
(v) pan oedd yn cael unrhyw bensiwn, lwfans neu fudd-dal arall a oedd yn cael ei dalu gan unrhyw berson oherwydd anabledd sydd ganddo, neu oherwydd cyfyngder, anaf neu salwch.
(2) Mae myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cymhwyso fel myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu o dan baragraff 2(1)(ff) mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig yn cadw'r statws hwnnw tra pery'r cyfnod cymhwystra.
3.–(1) Mae swm cyfraniad myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu yn dibynnu ar incwm yr aelwyd.
(2) Incwm yr aelwyd yw'r canlynol–
(a) yn achos myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu ac y mae ganddo bartner, yr incwm gweddilliol y myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu wedi'i agregu gydag incwm gweddilliol partner y myfyriwr hwnnw (yn ddarostyngedig i is-baragraff (4)); neu
(b) yn achos myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu ond nad oes ganddo bartner, incwm gweddilliol y myfyriwr hwnnw.
(3) Wrth bennu incwm yr aelwyd o dan is-baragraff (2), mae'r swm o £1,100 yn cael ei ddidynnu am bob plentyn sy'n ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu'n bennaf ar y myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu neu bartner y myfyriwr hwnnw.
(4) Er mwyn cyfrifo'r cyfraniad sy'n daladwy mewn perthynas â myfyriwr sy'n rhiant, rhaid i incwm gweddilliol partner y myfyriwr sy'n rhiant beidio â chael ei agregu o dan baragraff (b) o is-baragraff (2) yn achos myfyriwr sy'n rhiant ac y mae gan ei blentyn ef neu blentyn ei bartner ddyfarniad y mae incwm yr aelwyd yn cael ei gyfrifo mewn perthynas ag ef gan gyfeirio at incwm gweddilliol y myfyriwr sy'n rhiant neu bartner y myfyriwr sy'n rhiant neu'r ddau.
4.–(1) Er mwyn pennu incwm gweddilliol myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu, didynnir o'i incwm trethadwy (oni bai ei fod wedi'i ddidynnu eisoes wrth bennu'r incwm trethadwy) gyfanswm unrhyw symiau sy'n syrthio o fewn unrhyw un o'r is-baragraffau canlynol –
(a) unrhyw dôl am waith a wnaed yn ystod unrhyw flwyddyn academaidd ar gwrs y myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu, ar yr amod nad yw'r tôl hwnnw'n cynnwys unrhyw symiau a dalwyd mewn perthynas ag unrhyw gyfnod pan oedd ganddo ganiatâd i fod yn absennol neu pan oedd wedi'i ryddhau o'i ddyletswyddau arferol er mwyn bod yn bresennol ar y cwrs hwnnw;
(b) swm gros unrhyw bremiwm neu swm arall a dalwyd gan y myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu mewn perthynas â phensiwn(nad yw'n bensiwn sy'n daladwy o dan bolisi yswiriant bywyd) y mae rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef o dan adran 273 o Ddeddf Treth Incwm a Threth Gorfforaeth 1988(16) neu o dan adran 188 o Ddeddf Cyllid2004(17), neu pan fo incwm y myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu yn cael ei gyfrifo at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelodwladwriaeth arall, cyfanswm gros unrhyw bremiwm neu swm o'r fath y byddai rhyddhad drosto yn cael ei roi petai'r ddeddfwriaeth honno yn gwneud darpariaeth gyfatebol i ddarpariaeth y Deddfau Treth Incwm.
(2) Os paragraff 9 yw'r unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y mae myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu yn syrthio odano a bod ei incwm yn codi o ffynonellau neu o dan ddeddfwriaeth sy'n wahanol i'r ffynonellau neu'r ddeddfwriaeth sydd fel rheol yn berthnasol i berson y cyfeirir ato ym mharagraff 9 o Ran 2 o Atodlen 1, nid yw ei incwm yn cael ei ddiystyru yn unol ag is-baragraff (1) ond yn hytrach mae'n cael ei ddiystyru i'r graddau sy'n angenrheidiol er mwyn sicrhau nad yw'n cael ei drin yn llai ffafriol nag y câi person y cyfeirir ato yn unrhyw un o baragraffau Rhan 2 o Atodlen 1 ei drin o dan amgylchiadau tebyg pe bai ganddo incwm tebyg.
(3) Pan fo'r myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu yn cael incwm mewn arian cyfredol heblaw sterling, gwerth yr incwm hwnnw at ddibenion y paragraff hwn yw–
(a) os yw'r myfyriwr yn prynu sterling â'r incwm, swm y sterling a gaiff y myfyriwr fel hyn;
(b) fel arall, gwerth y sterling y byddai'r incwm yn ei brynu gan ddefnyddio'r gyfradd a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer y mis y ceir yr incwm yndd(18).
5.–(1) Er mwyn pennu incwm trethadwy partner myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu, rhaid i unrhyw ddidyniadau sydd i'w gwneud neu unrhyw esemptiadau a ganiateir–
(a) ar ffurf y rhyddhad personol y darperir ar ei gyfer ym Mhennod 1 o Ran VII o Ddeddf Treth Incwm a Threth Gorfforaeth 1988 neu, os yw'r incwm yn cael ei gyfrifo at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, unrhyw ryddhad personol cyffelyb;
(b) yn unol ag unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol nad yw taliadau a fyddai fel arall yn cael eu trin o dan gyfraith y Deyrnas Unedig fel rhan o incwm y person yn cael eu trin felly yn unol â hwy; neu
(c) o dan is-baragraff (2)
beidio â chael eu gwneud na'u caniatâu.
(2) Er mwyn pennu incwm gweddilliol partner myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu, didynnir o'r incwm trethadwy a bennir o dan is-baragraff (1) gyfanswm unrhyw symiau sy'n syrthio o fewn unrhyw rai o'r is-baragraffau canlynol –
(a) swm gros unrhyw bremiwm neu swm sy'n ymwneud â phensiwn (nad yw'n bremiwm sy'n daladwy o dan bolisi yswiriant bywyd) y mae rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef o dan adran 273 o Ddeddf Treth Incwm a Threth Gorfforaeth 1998, neu o dan adran 188 o Ddeddf Cyllid 2004, neu os yw'r incwm yn cael ei gyfrifo at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, swm gros unrhyw bremiwm o'r fath y byddai rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef os oedd y ddeddfwriaeth honno'n gwneud darpariaeth sy'n gyfatebol i'r Deddfau Treth Incwm;
(b) mewn unrhyw achos lle mae incwm yn cael ei gyfrifo at ddibenion y Deddfau Treth Incwm yn rhinwedd is-baragraff (6) unrhyw symiau sy'n cyfateb i'r didyniad a grybwyllwyd yn is-baragraff (a) o'r is-baragraff hwn, ar yr amod nad yw unrhyw symiau a ddidynnir fel hyn yn fwy na'r didyniadau a fyddai'n cael eu gwneud pe bai'r cyfan o incwm partner y myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu mewn gwirionedd yn incwm at ddibenion y Deddfau Treth Incwm.
(3) Os yw Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni bod incwm gweddilliol y partner yn y flwyddyn ariannol sy'n dechrau yn union cyn y flwyddyn berthnasol ("y flwyddyn ariannol gyfredol") yn debyg o beidio â bod yn fwy na 85 y cant o werth sterling ei incwm gweddilliol yn y flwyddyn ariannol flaenorol, fe gaiff Gweinidogion Cymru, er mwyn galluogi'r myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu i fod yn bresennol ar y cwrs heb galedi, ddarganfod incwm gweddilliol y partner am y flwyddyn ariannol gyfredol.
(4) Os yw Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni bod incwm gweddilliol y partner mewn unrhyw flwyddyn ariannol, o ganlyniad i unrhyw ddigwyddiad, yn debyg o beidio â bod ac o barhau ar ôl y flwyddyn honno i beidio â bod yn fwy na 85 y cant o werth sterling ei incwm gweddilliol yn y flwyddyn ariannol flaenorol, fe gaiff Gweinidogion Cymru, er mwyn galluogi'r myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu i fod yn bresennol ar y cwrs heb galedi, ddarganfod incwm yr aelwyd am flwyddyn academaidd ei gwrs y digwyddodd y digwyddiad hwnnw ynddi drwy gymryd cyfartaledd incwm gweddilliol y partner am bob un o'r blynyddoedd ariannol y mae'r flwyddyn academaidd honno'n syrthio ynddynt fel ei incwm gweddilliol.
(5) Os yw partner y myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu yn bodloni Gweinidogion Cymru fod ei incwm yn deillio'n gyfan gwbl neu'n bennaf o elw busnes neu broffesiwn y mae'n ei gynnal, yna mae unrhyw gyfeiriad yn yr Atodlen hon at flwyddyn ariannol flaenorol yn golygu'r cyfnod cynharaf o ddeuddeng mis sy'n diweddu ar ôl dechrau'r flwyddyn ariannol flaenorol ac y mae cyfrifon yn cael eu cadw mewn perthynas ag ef sy'n ymwneud â'r busnes neu'r proffesiwn hwnnw.
(6) Os yw partner myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu yn derbyn unrhyw incwm nad yw'n ffurfio rhan o'i incwm at ddibenion y Deddfau Treth Incwm neu ddeddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall dim ond am y rheswm–
(a) nad yw'n preswylio, yn preswylio fel arfer neu wedi ymgartrefu yn y Deyrnas Unedig, neu, os yw ei incwm yn cael ei gyfrifo fel petai at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelodwladwriaeth arall, nad yw'n preswylio, yn preswylio fel arfer neu wedi ymgartrefu felly yn yr Aelod-wladwriaeth honno;
(b) nad yw'r incwm yn codi yn y Deyrnas Unedig, neu, os yw incwm y partner yn cael ei gyfrifo at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelodwladwriaeth arall, nad yw'n codi yn yr Aelodwladwriaeth honno; neu
(c) bod yr incwm yn codi o swydd, gwasanaeth neu gyflogaeth y mae'r incwm ohonynt yn esempt rhag treth yn unol ag unrhyw ddeddfwriaeth,
mae ei incwm trethadwy at ddibenion yr Atodlen hon yn cael ei gyfrifo fel pe bai'r incwm o dan yr is-baragraff hwn yn rhan o'i incwm at ddibenion y Deddfau Treth Incwm neu ddeddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, yn ôl y digwydd.
(7) Os yw incwm partner y myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu yn cael ei gyfrifo fel petai at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelodwladwriaeth arall, mae'n cael ei gyfrifo o dan ddarpariaethau'r Atodlen hon yn arian cyfredol yr Aelod-wladwriaeth honno, ac incwm partner y myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu at ddibenion yr Atodlen hon yw gwerth sterling yr incwm hwnnw wedi'i bennu yn unol â'r gyfradd ar gyfer y mis y mae diwrnod olaf y flwyddyn ariannol o dan sylw yn syrthio ynddo, fel y'i cyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
(8) Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod y myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu a'i bartner wedi gwahanu drwy gydol y flwyddyn berthnasol, nid yw incwm y partner yn cael ei gymryd i ystyriaeth wrth bennu incwm yr aelwyd.
(9) Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod y myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu a'i bartner wedi gwahanu yn ystod y flwyddyn berthnasol, mae incwm y partner yn cael ei bennu drwy gyfeirio at ei incwm o dan is-baragraff (1) wedi'i rannu â hanner cant a dau ac wedi'i luosi â'r nifer o wythnosau cyflawn yn y flwyddyn berthnasol y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod y myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu a'i bartner heb wahanu.
(10) Os oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu fwy nag un partner mewn unrhyw un flwyddyn academaidd, mae darpariaethau'r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â phob un.
6.–(1) Mae'r cyfraniad sy'n daladwy mewn perthynas â myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu fel a ganlyn–
(a) mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd dros £39,780, £1 am bob swm cyflawn o £9.50 sy'n codi incwm yr aelwyd uwchlaw £39,780; a
(b) mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd yn £39,780 neu lai, dim.
(2) Rhaid i swm y cyfraniad mewn unrhyw achos beidio â bod yn fwy na £6,060.
(3) Caniateir addasu'r cyfraniad yn unol â pharagraff 7.
(4) Pan fo is-baragraff (5) yn gymwys, rhaid i gyfanswm y cyfraniadau beidio â bod yn fwy na £6,060.
(5) Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys os incwm gweddilliol myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu a'i bartner yw incwm yr aelwyd a bod gan y ddau ddyfarniad statudol.
7.–(1) Os oes cyfraniad yn daladwy o dan baragraff6 mewn perthynas â myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu a hwnnw'n fyfyriwr a chanddo bartner, mae'r cyfraniad yn daladwy yn unol â'r is-baragraffau canlynol–
(a) am unrhyw flwyddyn y mae dyfarniad statudol ac eithrio dyfarniad y cyfeirir ato ym mharagraff (b) o'r is-baragraff hwn ac sydd gan bartner y myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu, y cyfraniad sy'n daladwy mewn perthynas â'r myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu yw'r gyfran honno o unrhyw gyfraniad a gyfrifir o dan baragraff 7 y mae Gweinidogion Cymru, ar ôl ymgynghori ag unrhyw awdurdod arall sy'n ymwneud â'r mater, o'r farn ei fod yn gyfiawn;
(b) yn ddarostyngedig i'r is-baragraffau canlynol, am unrhyw flwyddyn y delir y dyfarniad sy'n daladwy o dan y Rheoliadau hyn, Rheoliadau Addysg (Dyfarniadau Gorfodol) 2003 neu adran 63 o Ddeddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd y Cyhoedd 1968 (a dim unrhyw ddyfarniad statudol arall) gan bartner i'r myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu, mae'r cyfraniad sy'n daladwy mewn perthynasâ'r myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu yn swm sy'n hafal i hanner y cyfraniad a gyfrifir o dan baragraff 7;
(c) pe na bai'r cyfraniad a gyfrifir, o ganlyniad i'r dyraniad o dan baragraff (b) o'r is-baragraff hwn, yn cael ei ddileu drwy ei gymhwyso mewn perthynas â dyfarniad statudol y myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu, mae gweddill y cyfraniad yn cael ei gymhwyso yn hytrach at ddyfarniad statudol perthnasol ei bartner os ydynt ill dau yn fyfyrwyr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu.
(2) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), at ddiben cyfrifo'r cyfraniad at ei ddyfarniad statudol, ychwanegir at incwm gweddilliol myfyriwr sy'n rhiant, unrhyw swm sy'n weddill–
(a) os yw'r myfyriwr sy'n rhiant yn rhiant i un myfyriwr cymwys yn unig a bod y cyfraniad sy'n daladwy mewn perthynas â'r myfyriwr cymwys hwnnw yn fwy na'r dyfarniad statudol mewn perthynas â'r myfyriwr cymwys hwnnw, y gwahaniaeth rhwng y cyfraniad hwnnw a'r dyfarniad statudol hwnnw; neu
(b) os yw myfyriwr sy'n rhiant yn rhiant i fwy nag un myfyriwr cymwys, unrhyw swm sy'n weddill ar ôl dyrannu'r cyfraniad i'w blant o dan yr Atodlen hon.
(3) Os oes gan fyfyriwr sy'n rhiant bartner sydd hefyd yn fyfyriwr cymwys ac y cymerir incwm y partner hwnnw i ystyriaeth wrth asesu'r cyfraniad mewn perthynas â'r plant yn is-baragraff (2), ychwanegir hanner y swm a gyfrifir o dan is-baragraff (2) at incwm gweddilliol y myfyriwr sy'n rhiant.".
John Griffiths
O dan awdurdod y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
5 Awst 2008
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2008 (O.S. 2008/1273) (Cy.130) ("Rheoliadau 2008") yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ac sy'n dilyn cyrsiau addysg uwch dynodedig mewn perthynas â blynyddoedd academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2008.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2008.
Mae Rheoliadau 4 i 7, 9 i 11, 13, 14, 25 a 27(ch) ac (ng) yn ymdrin â gwallau teipograffyddol yn Rheoliadau 2008.
Mae rheoliadau 8, 12, 15 ac 16 yn diwygio rheoliadau 23, 38, 56 a 59 o Reoliadau 2008. Mae'r darpariaethau hynny yn Rheoliadau 2008 yn darparu ar gyfer grantiau a benthyciadau at gostau byw i fyfyrwyr amser-llawn cymwys, ynghyd â thalu'r cyfryw grantiau a benthyciadau. Mae rheoliadau 23 a 38 o Reoliadau 2008 wedi'u diwygio gan reoliadau 8 a 12 o'r Rheoliadau hyn fel y bydd myfyriwr, pan fo'n treulio rhan o flwyddyn academaidd yn y carchar, bydd ganddo hawl i gael grantiau a benthyciadau, sydd wedi'u dosrannu pro rata ar sail ddyddiol, at gostau byw ar gyfer y diwrnodau pan na fydd yn y carchar. Mae rheoliadau 56 a 59 o Reoliadau 2008 wedi'u diwygio gan reoliadau 15 ac 16 o'r Rheoliadau hyn fel bod Gweinidogion Cymru yn cael talu grant neu fenthyciad at gostau byw mewn perthynas ag un o ddiwrnodau blwyddyn academaidd pan yw'r myfyriwr yn garcharor, ar yr amod bod Gweinidogion Cymru o'r farn y byddai'n briodol yn yr holl amgylchiadau. Wrth benderfynu a fyddai'n briodol, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i'r caledi ariannol y byddai peidio â thalu'r cymorth yn ei achosi ac a fyddai peidio â thalu'r cymorth yn effeithio ar allu'r myfyriwr i barhau â'r cwrs.
Mae rheoliadau 17 a 23 yn diwygio rheoliadau 67 a 82 o Reoliadau 2008 fel bod y lwfans cyflogaeth a chymorth sy'n gysylltiedig ag incwm ac a gyflwynwyd gan Ddeddf Diwygio Lles 2007 yn cael ei ychwanegu at y rhestr o fudd-daliadau sy'n destun prawf moddion ar gyfer myfyrwyr amser-llawn sy'n dysgu o bell a myfyrwyr rhan-amser. Mae'r diwygiadau hyn yn dod i rym ar 27 Hydref 2008 i gyd-fynd â dyfodiad i rym Rhan 1 o'r Ddeddf 2007 honno.
Mae rheoliadau 18 i 22 a 24 i 29 yn diwygio Rhan 12 o Reoliadau 2008, sy'n darparu ar gyfer cymorth i fyfyrwyr rhan-amser cymwys. Mae rheoliad 24 o'r Rheoliadau hyn yn mewnosod rheoliadau newydd, sef rheoliadau 83A i 83G, yn Rhan 12 o Reoliadau 2008.
Mae'r rheoliadau newydd hynny'n darparu y caiff myfyrwyr rhan-amser cymwys ymgymhwyso i gael cymorth ar ffurf grantiau ar gyfer dibynyddion, sef grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed, grant rhan-amser ar gyfer gofal plant a lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni ("grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion"). Mae meini prawf yr hawl i gael y grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion yn debyg i'r meini prawf i gael y cymorth cyfatebol ar gyfer myfyrwyr amser-llawn cymwys, sy'n daladwy o dan reoliadau 26 i 29 o Reoliadau 2008. Mae rheoliad 83Dd newydd yn darparu ar gyfer ymgymryd â chyfrifiadau cychwynnol mewn perthynas â'r grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion ac mae rheoliad 83Ff newydd yn darparu bod caniatâd i wneud didyniadau o'r grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion. Cyfrifir didyniadau o'r fath yn unol â'r Atodlen 6 newydd i Reoliadau 2008, a fewnosodir gan reoliad 31 o'r Rheoliadau hyn. Gwneir unrhyw ddidyniadau o'r fath yn unol â rheoliad 83I newydd. Penderfynir y swm sy'n daladwy mewn perthynas ag un elfen benodol o'r grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion yn ôl dwysedd yr astudiaeth ranamser, ar sail pro rata, fel y'i penderfynir drwy reoliad 83G newydd.
Mae rheoliadau 25 i 29 hefyd yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Ran 12 o Reoliadau 2008 o ganlyniad i fewnosod rheoliadau 83A i 83G newydd.
Mae rheoliad 30 yn estyn cymhwystra i gael cymorth i fyfyrwyr sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ond a ymadawodd â Chymru ac a arferodd hawl i breswylio yn yr AEE neu'r Swistir ac a ddychwelodd wedi hynny i'r Deyrnas Unedig i astudio mewn sefydliad addysg uwch.
1998 p.30; diwygiwyd adran 22 gan Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21), adrannau 146, 153 ac Atodlen 11, Deddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p.1), adran 722 ac Atodlen 6, Deddf Cyllid 2003 (p.14), adran 147, a Deddf Addysg Uwch 2004 (p.8), adrannau 42 a 43 ac Atodlen 7. Back [1]
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (ac eithrio i'r graddau y maent yn ymwneud â gwneud unrhyw ddarpariaeth a awdurdodir gan is-adran (2)(a), (c) (j) neu (k), (3)(e) neu (f) neu (5) o adran 22) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 44 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 ac mae Gorchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1833 (Cy.149) (C.79)) fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) (Diwygio) 2006 (O.S. 2006/1660 (Cy.159) (C.56)), yn cyfeirio at hyn. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraffau 30(1) a 30(2)(a) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Back [2]
O.S. 2008/1273 (Cy. 130). Back [3]
2004 p.8. Back [4]
1996 p. 56; diwygiwyd adran 312 gan Ddeddf Addysg 1997 (p. 44), Atodlen 7, paragraff 23, Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31), adran 140, Atodlen 30, paragraff 71 ac Atodlen 31 a Deddf Dysgu a Medrau 2000 (p. 21), Atodlen 9, paragraff 56 a Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p.40), Atodlen 1, paragraff 3. Back [6]
2002 (p. 21) y mae diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn. Back [7]
Mae rheoliad 14 o Reoliadau Credyd Treth Gwaith (Hawlogaeth a'r Gyfradd Uchaf) 2002 (O.S. 2002/2005) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2003/701, O.S. 2003/2815, O.S. 2004/762, O.S. 2004/1276, O.S. 2004/2663, O.S. 2005/769, O.S. 2005/2919, O.S. 2006/766, O.S. 2007/824, O.S. 2007/2479 ac O.S. 2008/604 yn nodi'r costau a ragnodir, ac felly costau gofal plant perthnasol, at ddibenion adran 12 o Ddeddf Credydau Treth 2002. Back [8]
1992 p. 4 y mae diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn. Back [9]
2002 p. 38. Back [10]
1989 p. 41. Diwygiwyd adran 23 gan Ddeddf y Llysoedd a Gwasanaethau Cyfreithiol 1990 (p. 41), Atodlen 16, paragraff 12, Deddf Safonau Gofal 2000 (p.14), Atodlen 4, paragraff 14 a Deddf Plant 2004 (p.31), adran 49(3). Back [11]
Mae diwygiadau i adrannau 15 a 24 ac Atodlen 1 nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn. Back [12]
2002 p. 21 y mae diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn. Back [13]
1989 p.41. Mae adran 22 wedi'i diwygio gan Ddeddf Plant (Ymadael â Gofal) 2000 (p. 35), adran 2, Deddf Llywodraeth Leol 2000 (p. 41), Atodlen 5, paragraff 19, Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (p. 38), adran 116(2) a Deddf Plant 2004 (p. 31), adran 52. Back [14]
Darperir cyllid gan y Cynghorau Ymchwil mewn perthynas ag astudio ôl-radd amser-llawn. Back [15]
1988 p. 1; diwygiwyd adran 273 gan Ddeddf Cyllid 1988 (p. 39), Atodlen 3, paragraff 10, Deddf Cyllid 2004 (p.12), adran 281, Atodlen 35, Deddf Treth Incwm (Masnachu ac Incwm Arall) 2005 (p.5), Atodlen 1, a Deddf Treth Incwm 2007, Atodlen1. Back [16]
2004 p.12; diwygiwyd adran 188 gan Ddeddf Cyllid 2007, adrannau 68, 69 a 114 ac Atodlenni 18, 19 a 27. Back [17]
"Financial Statistics" (ISSN 0015-203X). Back [18]