BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"><HEAD><title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hereditamentau Cyfathrebu) (Prisio, Newid Rhestri ac Apelau a Diwrnod Perthnasol) (Cymru) 2008 No. 2671 (Cy. 235) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2008/wsi_20082671_we_1.html |
[New search] [Help]
Gwnaed
6 Hydref 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
8 Hydref 2008
Yn dod i rym
31 Hydref 2008
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 55(2), (4) a (6), 143(1) a (2) a 146(6), o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 a pharagraffau 2(6A) ac (8) o Atodlen 6 i'r Ddeddf honno(1) ac a freinir bellach yng Ngweinidogion Cymru(2).
1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hereditamentau Cyfathrebu) (Prisio, Newid Rhestri ac Apelau a Diwrnod Perthnasol) (Cymru) 2008.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Hydref 2008.
2. Yn y Rheoliadau hyn–
ystyr "BT" yw British Telecommunications plc;
ystyr "Deddf 1988" ("1988 Act") yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988;
ystyr "dolen leol a ddadfwndelwyd yn llawn" ("fully unbundled local loop") yw dolen leol a ddadfwndelwyd sydd wedi ei gosod ar rent neu ei thrwyddedu gan BT i unrhyw berson ar gyfer pob defnydd sy'n gynwysedig mewn monitro, prosesu neu drosglwyddo cyfathrebiadau neu signalau ar gyfer darparu gwasanaethau cyfathrebu electronig;
mae i "ddolen leol a ddadfwndelwyd" yr ystyr a roddir i ("unbundled local loop") gan reoliad 8(5) o'r Rheoliadau Rhestr Ganolog;
"yr hereditament" ("the hereditament") yw'r hereditament a ddisgrifir yn rheoliad 8(1) o'r Rheoliadau Rhestr Ganolog
ystyr "Rheoliadau NRhA" ("ALA Regulations") yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestri ac Apelau) (Cymru) 2005(3); ac
ystyr "Rheoliadau Rhestr Ganolog" ("Central List Regulations") yw Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) 2005(4).
3. Rhaid rhagdybio bod gosod ar rent neu drwyddedu dolen leol a ddadfwndelwyd yn llawn gan BT i unrhyw berson yn fater sy'n effeithio ar gyflwr ffisegol yr hereditament neu fwynhad ffisegol ohono at y diben o brisio'r hereditament yn unol â pharagraff 2(5) neu (6) o Atodlen 6 i Ddeddf 1988 (ardrethu annomestig: prisio).
4.–(1) Ceir gwneud cynnig i newid y gwerth ardrethol a ddangosir ar gyfer yr hereditament mewn rhestr ardrethu canolog a luniwyd ar 1 Ebrill 2005 neu ar ôl hynny, o dan reoliad 4(1)(b) (amgylchiadau pan ganiateir gwneud cynigion) a Rhan 3 (newid rhestri ardrethu canolog) o'r Rheoliadau NRhA, o ganlyniad i osod ar rent neu drwyddedu dolen leol a ddadfwndelwyd yn llawn gan BT i unrhyw berson.
(2) Mewn perthynas â chynnig o'r fath, mae rheoliad 4(1)(b) o'r Rheoliadau NRhA i gael effaith fel pe bai "material change of circumstances" yn cynnwys y mater y rhagdybir gan reoliad 3 yn y Rheoliadau hyn fel ei fod yn effeithio ar gyflwr ffisegol yr hereditament neu fwynhad ffisegol ohono at y diben o'i brisio yn unol â pharagraff 2(5) neu (6) o Atodlen 6 i Ddeddf 1988.
5. Pan wneir cynnig yn unol â rheoliad 4(1), mae rheoliad 6(1)(e)(ii) o'r Rheoliadau NRhA i gael effaith fel pe bai hefyd yn mynnu bod datganiad yn cael ei gynnwys sy'n nodi nifer y dolennau lleol a ddadfwndelwyd yn llawn sy'n gynwysedig yn yr hereditament ar y dyddiad effeithiol a gynigir yn y cynnig hwnnw.
6. Mae rheoliad 3(7)(b)(i) o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Y Diwrnod Perthnasol ar gyfer Newid Rhestri) 1992(5) i gael effaith, mewn perthynas a chynnig a wneir yn unol â rheoliad 4(1) o'r Rheoliadau hyn fel pe bai'r diwrnod perthnasol ar gyfer unrhyw ddolen leol benodol a ddadfwndelwyd yn llawn yw'r diwrnod y'i gosodwyd ar rent neu y'i trwyddedwyd gan BT.
Brian Gibbons
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
6 Hydref 2008
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Llywodraethir y modd y prisir hereditamentau annomestig gan Atodlen 6 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 ("Deddf 1988"). Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestri ac Apelau) (Cymru) 2005 yn rhoi'r hawl i drethdalwyr mewn rhai amgylchiadau wneud cynnig i swyddog prisio y dylid newid y gwerth ardrethol a ddangosir ar gyfer eu hereditament mewn rhestr ardrethu. Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Y Diwrnod Perthnasol ar gyfer Newid Rhestri) 1992 sy'n llywodraethu'r diwrnod y dylid cyfeirio ato wrth ystyried materion penodol mewn perthynas â'r hereditament at ddibenion prisio.
Mae'r Rheoliadau hyn yn caniatáu i British Telecommunications ("BT") gynnig newid yng ngwerth ardrethol ei hereditament o ganlyniad i ddadfwndelu dolennau lleol yn llawn. Y dolennau lleol a ddadfwndelwyd yn llawn yw'r parau sengl o wifrau copr, sy'n cysylltu mangreoedd cwsmeriaid â'r gyfnewidfa teleffon leol ac y mae'r cwsmeriaid yn derbyn gwasanaethau teleffon a band eang trwyddynt. Mae'r dolennau yn rhan o hereditament BT yn rhinwedd rheoliad 8 o Reoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) 2005
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â chofnod BT yn y rhestr ardrethu canolog a ddaeth i rym ar y 1 Ebrill 2005 a rhestrau ardrethu dilynol, a'u heffaith yw y ceir gwneud cynnig mewn perthynas â chofnodion o'r 1 Ebrill 2005 ymlaen. Mae'r pwer i wneud rheoliadau sy'n cynnwys darparu o ba ddiwrnod y bydd newid mewn rhestr yn cael effaith, gan gynnwys darparu bod y newid i gael effaith ôl-weithredol, yn adran 55(6) o Ddeddf 1988.
Pan wneir cynnig o ganlyniad i'r Rheoliadau hyn, mater i'r swyddog prisio fydd asesu a yw dadfwndelu dolennau lleol yn gyflawn wedi effeithio o gwbl ar werth ardrethol hereditament BT.
1988 p. 41. Diwygiwyd adran 55(4) a pharagraff 2(8) o Atodlen 6, a mewnosodwyd paragraff 2(6A) o Atodlen 6, gan baragraffau 30(2), 38(8) a 38(6), yn eu trefn, o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p. 42). Back [1]
Trosglwyddwyd pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol o ran Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), gweler y cyfeiriad at Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 yn Atodlen 1. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru o dan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraff 30 o Atodlen 11 i'r Ddeddf honno. Back [2]
O.S. 2005/758(Cy.63), y gwnaed diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn. Back [3]
O.S. 2005/422(W40), a ddiwygiwyd gan O.S. 2008/2671 (Cy.235); diwygiwyd hefyd gan offerynnau eraill, ond nid oes yr un yn berthnasol. Back [4]
O.S. 1992/556, a ddiwygiwyd gan O.S. 2005/758(Cy.63); diwygiwyd hefyd gan offerynnau eraill, ond nid oes yr un yn berthnasol. Back [5]