BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"><HEAD><title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau Atal Dros Dro Ddarparwyr Gofal Dydd a Gwarchodwyr Plant (Cymru) (Diwygio) 2008 No. 2689 (Cy. 238) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2008/wsi_20082689_we_1.html |
[New search] [Help]
Gwnaed
8 Hydref 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
10 Hydref 2008
Yn dod i rym
3 Tachwedd 2008
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 79H(1) a (2) a (104)(4) o Ddeddf Plant 1989(1).
1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Atal Dros Dro Ddarparwyr Gofal Dydd a Gwarchodwyr Plant (Cymru) (Diwygio) 2008 a deuant i rym ar 3 Tachwedd 2008.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2.–(1) Diwygir Rheoliadau Atal Dros Dro Ddarparwyr Gofal Dydd a Gwarchodwyr Plant (Cymru) 2004(2) yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli) –
(a) hepgorer y diffiniad o "gorchymyn costau" ac "y Tribiwnlys";
(b) mewnosoder y diffiniad canlynol yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor–
""y mae i'r ymadrodd "Tribiwnlys Haen Gyntaf" yr un ystyr ag sydd i'r ymadrodd "First-tier Tribunal" yn Neddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodi 2007;".(3)
(3) Yn rheoliad 8 (hawliau i apelio) –
(a) ym mharagraffau (1) a (2) yn lle "Tribiwnlys", ym mhob man rhodder "Tribiwnlys Haen Gyntaf" a
(b) ym mharagraff (3) yn lle "Tribiwnlys:" ac yn is-baragraffau (a) a (b) rhodder "bydd y Tribiwnlys Haen Gyntaf yn diddymu'r apêl.".
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
8 Hydref 2008
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Atal Dros Dro Ddarparwyr Gofal Dydd a Gwarchodwyr Plant (Cymru) 2004 ("Rheoliadau 2004").
Mae Rheoliadau 2004 yn gosod dan ba amgylchiadau y dichon person sydd wedi cofrestru fel gwarchodwr plant neu ddarparydd gofal dydd gael atal ei gofrestriad ac mae'n caniatáu hawl i apelio yn erbyn ataliad.
O dan Reoliadau 2004 gwnaed apelau i'r Tribiwnlys sefydlwyd gan adran 9 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999 ("y Tribiwnlys"). Mae'r darpariaethau apelio wedi'i gosod yn erthygl 8 o Reoliadau 2004.
Yn unol â Deddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodi 2007 trosglwyddwyd swyddogaethau presennol y Tribiwnlys i'r Tribiwnlys Haen Gyntaf, a lywodraethir gan Reolau Gweithdrefnau'r Tribiwnlys newydd a wneir yn unol ag adran 22 o Ddeddf 2007.
Mae'r rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2004 gan gymryd ystyriaeth o'r newidiadau hyn. Maent yn darparu y bydd unrhyw gyfeiriad at y Tribiwnlys yn Rheoliadau 2004 yn cael ei ddisodli gan gyfeiriad at y Tribiwnlys Haen Gyntaf ac maent yn mewnosod diffiniad o'r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn rheoliad 2 o Reoliadau 2004.
Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio rheol 8(3) o Reoliadau 2004 oedd yn darparu y dichon y Tribiwnlys ddiddymu apêl a gwneud gorchymyn costau fel y'i diffinir yn Rheoliadau Amddiffyn Plant ac Oedolion Hawdd eu Niweidio a Thribiwnlys Safonau Gofal 2002.
Cafodd y ddarpariaeth hon ei chymryd ymaith oherwydd darperir ar gyfer pwer y Tribiwnlys Haen Gyntaf i ddyfarnu costau gan Ddeddf 2007 ei hun ac fe'i rheoleiddir ganddi a chan Reoliadau Gweithdrefnau'r Tribiwnlys a fydd yn cael eu gwneud o dan adran 22 o Ddeddf 2007.