BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"><HEAD><title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2008 No. 2929 (Cy. 258) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2008/wsi_20082929_we_1.html |
[New search] [Help]
Gwnaed
10 Tachwedd 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
12 Tachwedd 2008
Yn dod i rym
31 Rhagfyr 2008
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 60, 140(4) a 143(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 a pharagraffau 4 a 6 o Atodlen 8 iddi(1).
1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2008 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2008.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Dirymir Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2008(2).
3.–(1) Diwygir Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992(3) fel a ganlyn parthed blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2009.
(2) Yn lle atodlen 4, rhoddir yr atodlen a osodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
Brian Gibbons
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
10 Tachwedd 2008
Rheoliad 3
Billing authority area | Prescribed figure |
---|---|
Blaenau Gwent | 54,000 |
Bridgend | 104,800 |
Caerphilly | 132,600 |
Carmarthenshire | 141,700 |
Cardiff | 253,600 |
Ceredigion | 64,000 |
Conwy | 89,200 |
Denbighshire | 76,800 |
Flintshire | 117,800 |
Gwynedd | 94,000 |
Isle of Anglesey | 54,700 |
Merthyr Tydfil | 43,100 |
Monmouthshire | 69,100 |
Neath Port Talbot | 108,400 |
Newport | 107,400 |
Pembrokeshire | 92,200 |
Powys | 104,600 |
Rhondda Cynon Taf | 182,400 |
Swansea | 182,200 |
Torfaen | 70,800 |
Vale of Glamorgan (The) | 95,900 |
Wrexham | 103,700" |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn diwygio Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992 ("Rheoliadau 1992"). Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2008.
O dan Ran II o Atodlen 8 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 mae'n ofynnol i awdurdodau bilio (yng Nghymru, cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol) dalu symiau (a elwir yn gyfraniadau ardrethu annomestig) i Weinidogion Cymru. Mae Rheoliadau 1992 yn cynnwys rheolau ar gyfer cyfrifo'r cyfraniadau hynny ar gyfer awdurdodau bilio Cymru.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1992 drwy roi Atodlen 4 newydd yn lle'r un bresennol (Ffigurau Poblogaeth Oedolion).
1988 p.41. Cafodd y pwerau hyn eu datganoli, o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), gweler y cyfeiriad at Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 yn Atodlen 1. Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi, mae'r swyddogaethau hynny'n arferadwy gan Weinidogion Cymru. Back [1]
O.S. 2008/2838 (Cy. 252). Back [2]
O.S. 1992/3238, a ddiwygiwyd gan O.S. 1993/1505, 1993/3077, 1994/547, 1994/1742, 1994/3125, 1995/3235, 1996/619, 1996/3018, 1997/3003, 1998/2962, 1999/3439 (W.47), 2000/3382 (W.220), 2001/3910 (W.322), 2002/3054 (W.289), 2003/3211 (W.304), 2004/3232 (W.280), 2005/3345 (W.259), 2006/3347 (W.307) a 2007/3343 (W.295). Back [3]