BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2008 No. 3114 (Cy. 276)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2008/wsi_20083114_we_1.html

[New search] [Help]


 

Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2008

Gwnaed

5 Rhagfyr 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

8 Rhagfyr 2008

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 22, 42(6) a 43(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(1), ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(2) yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2008.

(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Rhagfyr 2008.

(3) Mae Rheoliadau 7 ac 8 yn dod i rym ar 1 Medi 2009.

(4) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

2. Yn y Rheoliadau hyn ystyr "y Prif Reoliadau" ("the Principal Regulations") yw Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) 2008(3).

Diwygio'r Prif Reoliadau

3. Mae'r Prif Reoliadau wedi'u diwygio'n unol â'r Rheoliadau hyn.

4.–(1) Mae Rheoliad 3 wedi'i ddiwygio fel a ganlyn.

(2) Yn y diffiniad o "dyddiad perthnasol" ("relevant date"), yn lle "1 Chwefror 2008", rhodder "12 Ionawr 2009".

5.–(1) Mae Rheoliad 9 wedi'i ddiwygio fel a ganlyn.

(2) Ym mharagraff (3)–

(a) yn lle "1 Medi 2008", rhodder "1 Medi 2009"; a

(b) yn lle "28 Chwefror 2008", ym mhob man y mae'n ymddangos, rhodder "1 Chwefror 2009".

6.–(1) Mae Rheoliad 10 wedi'i ddiwygio fel a ganlyn.

(2) Yn lle paragraff (17) rhodder–

"(17) Y dyddiad cau i wybodaeth ariannol ddod i law o ran blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2009 yw 1 Chwefror 2009 neu, yn achos grantiau sy'n daladwy o dan reoliadau 20(7) a 22(6), 1 Chwefror 2010.".

7.–(1) Mae Rheoliad 22 wedi'i ddiwygio fel a ganlyn.

(2) Yn lle paragraff (3), rhodder–

"(3) Mae myfyriwr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd yn cymhwyso i gael grant at gostau byw o 17,640 ewro o ran blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2009.".

8. Effaith yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn yw rhoi'r ffigurau yn nhrydedd golofn y tabl yn lle'r ffigurau yn ail golofn y tabl lle maent yn ymddangos yn narpariaethau'r Prif Reoliadau sydd wedi'u gosod yn y golofn gyntaf.

Diwygio Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) (Diwygio) 2008

9. Mae Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) (Diwygio) 2008(4) wedi'u diwygio'n unol â rheoliad 10.

10. Yn nhestun Cymraeg rheoliad 3, hepgorer y geiriau "a Benthyciadau".

Jane Hutt

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

5 Rhagfyr 2008

Rheoliad 8

YR ATODLEN CYFRADDAU TALU NEWYDD A THROTHWYON INCWM NEWYDD

Y ddarpariaeth yn y Prif Reoliadau Y ffigur presennol Y ffigur newydd
Rheoliad 25
25(2) £10,000 £10,260
Rheoliad 27
27(2) £3,705 £3,801
Rheoliad 28
28(a) £2,580 £2,647
28(b) £2,580 £2,647
Rheoliad 29
29(3) £1,470 £1,508
Rheoliad 30
30(6)(a) £1,130 £1,159
30(6)(b) £3,385 £3,473
30(6)(c) £4,515 £4,632
30(6)(ch) £4,515 £4,632
30(6)(d) £5,650 £5,797
Atodlen 3 Rhan 2
Paragraff 2(3) £1,100 £1,130
Paragraff 4(2)(c) £1,075 £1,130
Paragraff 7(2)(a) £9.50 £9.27
Paragraff 7(3)(a) £9.50 £9.27
Paragraff 7(4) £7,800 £7,997
Paragraff 7(5)(i) £7,800 £7,997

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) 2008 ("y Prif Reoliadau").

Mae'r Prif Reoliadau yn darparu ar gyfer cymorth i fyfyrwyr cymwys sy'n dilyn cyrsiau dynodedig ym maes addysg uwch yng Nghanolfan Bologna, Coleg Ewrop neu'r Athrofa Brifysgol Ewropeaidd mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2008.

Mae'r Prif Reoliadau yn darparu bod grant at ffioedd ar gael ar gyfer un myfyriwr cymwys yng Nghanolfan Bologna. Mae grant at ffioedd, grantiau at gostau byw a chostau eraill, lwfans myfyrwyr anabl a grant ar gyfer dibynyddion ar gael ar gyfer hyd at ddau fyfyriwr cymwys yng Ngholeg Ewrop. Mae grantiau at gostau byw a chostau eraill, lwfans myfyrwyr anabl a grant ar gyfer dibynyddion ar gael ar gyfer un myfyriwr cymwys yn yr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r Prif Reoliadau er mwyn iddynt fod yn gymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2009.

Mae rheoliadau 5 a 6 yn diwygio'r dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau am gymorth ac i wybodaeth ariannol ddod i law mewn perthynas â blwyddyn academaidd, sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2009, ddod i law.

Mae rheoliadau 7 ac 8 a'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn yn cynyddu symiau'r cymorth sy'n daladwy i fyfyrwyr cymwys a throthwyon incwm cysylltiedig am flwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2009.

Yn ychwanegol, mae rheoliadau 9 a 10 yn cywiro gwall teipograffyddol yn nhestun Cymraeg Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Diwygio) 2008.

(1)

1998 p.30; diwygiwyd adran 22 gan Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p. 21), adran 146 ac Atodlen 11, Deddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p. 1), Atodlen 6, Deddf Cyllid 2003 (p. 14), adran 147 a Deddf Addysg Uwch 2004 (p. 8), adrannau 42 a 43 ac Atodlen 7. Back [1]

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (ac eithrio i'r graddau y maent yn ymwneud â gwneud unrhyw ddarpariaeth a awdurdodir gan is-adran (2)(a), (c) (j) neu (k), (3)(e) neu (f) neu (5) o adran 22) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 44 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 ac mae Gorchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1833 (Cy.149) (C.79)), fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) (Diwygio) 2006 (O.S. 2006/1660 (Cy.159) (C.56)), yn cyfeirio at hyn. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraffau 30(1) a 30(2)(a) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32). Back [2]

(3)

O.S. 2008/18 (Cy.7), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2008/1324 (Cy.137). Back [3]

(4)

O.S. 2008/1324 (Cy.137). Back [4]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2008/wsi_20083114_we_1.html