BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2008 No. 3143 (Cy. 278) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2008/wsi_20083143_we_1.html |
[New search] [Help]
Gwnaed
6 Rhagfyr 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
9 Rhagfyr 2008
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 3
14. Cynllunio'r modd y mae gwrtaith nitrogen yn cael ei daenu
15. Yr wybodaeth ychwanegol sydd i'w chofnodi yn ystod y flwyddyn
16. Cyfanswm y nitrogen sydd i'w daenu ar ddaliad
17. Cyfrifo faint o nitrogen sydd ar gael i'r cnwd ei amsugno o dail da byw
Cyfnodau gwaharddedig ar gyfer taenu gwrtaith nitrogen
24. Ystyr "tail organig gyda chyfraddau uchel o nitrogen sydd ar gael yn rhwydd"
25. Cyfnodau gwaharddedig ar gyfer taenu tail organig gyda chyfraddau uchel o nitrogen sydd ar gael yn rhwydd
26. Esemptiadau: cnydau a heuir cyn 15 Medi
27. Esemptiadau ar gyfer daliadau organig
28. Cyfyngiadau ar ôl y cyfnod gwaharddedig
29. Amserau pryd y gwaherddir taenu gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd
30. Amddiffyniad
Mae Gweinidogion Cymru wedi'u dynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (2) mewn perthynas â materion sy'n ymwneud â diogelu dyfroedd rhag y llygredd a achosir gan nitradau o ffynonellau amaethyddol. Drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan yr adran honno, a pharagraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Mae'r rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer diben y cyfeirir ato yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac y mae'n ymddangos yn hwylus i Weinidogion Cymru ddehongli cyfeiriadau at offerynnau'r Gymuned Ewropeaidd yn y Rheoliadau hyn fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y'u diwygir o bryd i'w gilydd.
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2008.
2.–(1) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru mewn perthynas ag unrhyw ddaliad mewn parth perygl nitradau sydd wedi'i ddynodi felly yn y Rheoliadau hyn.
(2) Yn achos daliad sy'n rhannol o fewn parth perygl nitradau, dim ond yn y rhan o'r daliad sydd y tu mewn i'r parth y mae'r Rheoliadau'n gymwys, ac mae cyfeiriad at ddaliad yn gyfeiriad at y rhan honno.
3.–(1) Daw'r Rheoliadau hyn (ac eithrio rheoliad 22(1) a Rhan 7) i rym ar 1 Ionawr 2009.
(2) Daw rheoliad 22(1) a Rhan 7 i rym ar 1 Ionawr 2012.
4. Mewn daliad neu ran o ddaliad nad yw'n rhan o barth perygl nitradau o dan Reoliadau Diogelu Dŵr rhag Llygredd Nitradau Amaethyddol (Cymru a Lloegr) 1996(3) neu Reoliadau Diogelu Dŵr rhag Llygredd Nitradau Amaethyddol (Diwygio) (Cymru) 2002(4)–
(a) ni fydd Rhannau 3 a 4, rheoliadau 19 i 21, 22(2), 23, Rhan 6 a Rhan 8 yn gymwys tan 1 Ionawr 2010, a
(b) ni fydd y gofynion yn rheoliadau 35(1) a 36(1) i gofnodi maint y daliad a'r lle storio yn gymwys tan 30 Ebrill 2010.
5. Mae dŵr wedi'i lygru–
(a) os yw'n ddŵr croyw ac yn cynnwys crynodiad nitradau sy'n uwch na 50 mg/l, neu y gallai ei gynnwys pe na bai'r Rheoliadau hyn yn gymwys yno, neu
(b) os yw'n ewtroffig neu y gallai ddod yn ewtroffig yn y dyfodol agos pe na bai'r Rheoliadau hyn yn gymwys yno.
6.–(1) Yn y Rheoliadau hyn–
ystyr "da byw" ("livestock") yw unrhyw anifail (gan gynnwys dofednod) a bennir yn Atodlen 1;
ystyr "dofednod" ("poultry") yw dofednod a bennir yn Atodlen 1;
ystyr "ewtroffig" ("eutrophic") yw dwr sydd wedi'i gyfoethogi gan gyfansoddion nitrogen, sy'n peri i algâu a ffurfiau uwch ar fywyd planhigol dyfu'n gyflymach, gan darfu mewn modd annymunol ar gydbwysedd yr organeddau sy'n bresennol yn y dŵr ac ar ansawdd y dŵr o dan sylw;
ystyr "gwrtaith nitrogen" ("nitrogen fertiliser") yw unrhyw sylwedd sy'n cynnwys un neu fwy o gyfansoddion nitrogen a ddefnyddir ar dir i wella twf y llystyfiant ac mae'n cynnwys tail organig;
ystyr "gwrtaith a weithgynhyrchwyd" ("manufactured fertiliser") yw unrhyw wrtaith nitrogen (ac eithrio tail organig) sydd wedi'i weithgynhyrchu drwy broses ddiwydiannol;
ystyr "person penodedig" ("appointed person") yw'r person a benodwyd gan Weinidogion Cymru o dan Reoliad 8(1);
mae "pridd tenau" ("shallow soil") yn bridd y mae ei ddyfnder yn llai na 40 cm;
ystyr "pridd tywodlyd" ("sandy soil") yw unrhyw bridd sy'n gorwedd ar dywodfaen, neu unrhyw bridd arall–
pan fo, yn yr haen hyd at ddyfnder o 40 cm–
mwy na 50 y cant yn ôl pwysau o ronynnau y mae eu diamedr o 0.06 i 2 mm,
llai na 18 y cant yn ôl pwysau o ronynnau y mae eu diamedr yn llai na 0.02 mm, a
llai na 5 y cant yn ôl pwysau o garbon organig, a
pan fo, yn yr haen o ddyfnder 40 i 80 cm–
mwy na 70 y cant yn ôl pwysau o ronynnau y mae eu diamedr o 0.06 i 2 mm;
llai na 15 y cant yn ôl pwysau o ronynnau y mae eu diamedr yn llai na 0.02 mm;
llai na 5 y cant yn ôl pwysau o garbon organig;
ystyr "slyri" ("slurry") yw carthion a gynhyrchir gan dda byw (ac eithrio dofednod) tra bônt mewn buarth neu adeilad (gan gynnwys unrhyw sarn, dwr glaw neu olchiadau a gymysgwyd gyda'r carthion hynny) ac y mae eu tewdra yn caniatáu iddynt gael eu pwmpio neu eu gollwng drwy ddisgyrchiant (yn achos carthion sydd wedi'u gwahanu i'w ffracsiynau hylifol a'u rhai solet, y ffracsiwn hylifol yw'r slyri);
mae "taenu" ("spreading") yn cynnwys dodi ar wyneb y tir, chwistrellu i mewn i'r tir neu gymysgu â haenau arwyneb y tir ond nid yw'n cynnwys dyddodi carthion yn uniongyrchol ar y tir gan anifeiliaid.
ystyr "tail organig" ("organic manure") yw unrhyw wrtaith nitrogen sy'n deillio o anifeiliaid, planhigion neu fodau dynol ac mae'n cynnwys tail da byw;
ystyr "tir y mae'r risg o oferu drosto yn isel" ("land that has a low run-off risk" yw tir y mae ei lethr cyfartalog yn llai na 3° (3 gradd), a hwnnw'n dir nad oes ganddo draeniau tir (ac eithrio pibell anhydraidd sydd wedi'i selio), ac sydd o leiaf 50 metr o gwrs dwr neu ddyfrffos sy'n arwain at gwrs dŵr.
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at offeryn Cymunedol yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y'i diwygiwyd o bryd i'w gilydd.
7.–(1) Mae'r ardaloedd sydd wedi'u marcio'n barthau perygl nitradau ar y mapiau sydd wedi'u marcio â'r geiriau "Parthau Perygl Nitradau Map Mynegai 2008" ("Nitrate Vulnerable Zones Index Map 2008") a'u hadneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ, wedi'u dynodi'n barthau perygl nitradau at ddibenion y Rheoliadau hyn.
(2) Darnau o dir yw'r rhain sy'n draenio i ddyfroedd llygredig ac sy'n cyfrannu at lygru'r dyfroedd hynny.
8.–(1) Caiff perchennog neu feddiannydd unrhyw ddaliad mewn parth perygl nitradau wneud cais i berson a benodwyd gan Weinidogion Cymru at ddibenion y Rheoliadau hyn am ganfyddiad ynglŷn â'r daliad neu ran ohono i'r perwyl–
(a) nad yw'n draenio i ddŵr y mae Gweinidogion Cymru wedi nodi ei fod yn llygredig, neu
(b) ei fod neu ei bod yn draenio i ddŵr na ddylai Gweinidogion Cymru fod wedi nodi mai dŵr llygredig ydoedd,
ac felly ni ddylid dynodi'r tir yn barth perygl nitradau.
(2) Rhaid i gais fod wedi'i seilio naill ai ar–
(a) data a ddarperir gan y ceisydd, neu
(b) tystiolaeth a ddarperir gan y ceisydd a honno'n dystiolaeth bod y data a ddefnyddiwyd gan Weinidogion Cymru'n anghywir.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi ym mha fodd ac ar ba ffurf y mae'n rhaid gwneud y cais.
(4) Rhaid i gais gael ei wneud mewn ysgrifen ar 31 Mawrth 2009 neu cyn hynny, rhaid iddo gael ei wneud yn y modd ac ar y ffurf sy'n ofynnol gan Weinidogion Cymru a rhaid iddo gynnwys yr holl ddogfennaeth y mae'r ceisydd yn dibynnu arni.
9.–(1) Rhaid i'r person penodedig ystyried y cais a chanfod a yw'r ceisydd wedi dangos, yn ôl pwysau tebygolrwydd, ynglŷn â'r daliad neu ran o'r daliad–
(a) nad yw'n draenio i ddŵr y mae Gweinidogion Cymru wedi nodi ei fod yn llygredig; neu
(b) ei fod neu ei bod yn draenio i ddŵr na ddylai Gweinidogion Cymru fod wedi nodi mai dwr llygredig ydoedd,
(2) Rhaid i'r person penodedig ddod i'w benderfyniad ar sail y ddogfennaeth a gyflwynwyd iddo onid yw'n penderfynu bod arno angen gwybodaeth ychwanegol i ffurfio barn, ac os felly, caiff ofyn i geisydd, neu i Weinidogion Cymru, ddarparu deunydd ychwanegol, ac o dan amgylchiadau eithriadol, caiff gynnal gwrandawiad llafar.
(3) Mewn gwrandawiad llafar mae gan y ceisydd a Gweinidogion Cymru hawl i ymddangos, ac fe gaiff y person penodedig ganiatáu i unrhyw barti arall ymddangos.
(4) Rhaid i bob parti ddwyn ei gostau ei hun.
10.–(1) Os bydd y person penodedig yn penderfynu o blaid y ceisydd, ni fydd y daliad y mae'r cais yn gymwys iddo yn cael ei drin mwyach, at ddibenion y Rheoliadau hyn, fel un sydd mewn parth perygl nitradau.
(2) Os bydd y person penodedig yn canfod na ddylai unrhyw grynofa ddŵr fod wedi'i nodi fel un llygredig, ni fydd unrhyw ddaliad sy'n draenio i'r grynofa ddŵr honno yn cael ei drin mwyach, at ddibenion y Rheoliadau hyn, fel un sydd mewn parth perygl nitradau, ac mae'n rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu meddiannydd y cyfryw ddaliad ar unwaith.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi pob canfyddiad gan y person penodedig ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.
11.–(1) Rhaid i Weinidogion Cymru gadw golwg cyson ar natur ewtroffig dyfroedd wyneb croyw, dyfroedd aberol a dyfroedd arfordirol.
(2) Cyn 1 Ionawr 2013, ac o leiaf bob pedair blynedd ar ôl hynny, rhaid i Weinidogion Cymru fonitro'r crynodiad nitradau mewn dyfroedd croyw dros gyfnod o flwyddyn–
(a) ar safleoedd samplu lle mae'r dŵr yn nodweddiadol o ddŵr wyneb, o leiaf bob mis ac yn amlach yn ystod cyfnodau llifogydd, a
(b) ar safleoedd samplu lle mae'r dŵr yn nodweddiadol o ddŵr daear, bob hyn a hyn yn rheolaidd a chan gymryd i ystyriaeth ddarpariaethau Cyfarwyddeb y Cyngor 98/83/EC ar ansawdd dwr sydd wedi'i fwriadu i bobl ei yfed(5),
ac eithrio yn achos y safleoedd samplu hynny lle mae'r crynodiad nitradau yn yr holl samplau blaenorol a gymerwyd at y diben hwn wedi bod islaw 25 mg/l ac nad oes unrhyw ffactor newydd sy'n debyg o gynyddu faint o nitrogen sydd yn y samplau hynny wedi ymddangos, ac os dyna'r sefyllfa, dim ond bob wyth mlynedd y mae angen ailgynnal y rhaglen fonitro.
(3) Ar ddiwedd pob cyfnod o bedair neu wyth mlynedd fan bellaf rhaid i Weinidogion Cymru–
(a) nodi dŵr y mae llygredd yn effeithio arno neu ddŵr y gallai effeithio arno os na chaiff y rheolyddion yn y Rheoliadau hyn eu cymhwyso yn yr ardal honno, gan ddefnyddio'r meini prawf yn Atodiad I i Gyfarwyddeb y Cyngor 91/676/EEC ynghylch diogelu dyfroedd rhag llygredd a achosir gan nitradau o ffynonellau amaethyddol(6);
(b) nodi tir sy'n draenio i'r dyfroedd hynny, neu ddwr sydd wedi'i nodi mewn ffordd debyg yn Lloegr, ac sy'n cyfrannu at lygru'r dyfroedd hynny;
(c) cymryd i ystyriaeth newidiadau a ffactorau nad oeddent wedi'u rhag–weld adeg y dynodiad blaenorol; ac
(ch) os yw'n angenrheidiol, adolygu rhestr y parthau perygl nitradau sydd wedi'u dynodi neu ychwanegu ati.
12.–(1) Rhaid i feddiannydd daliad sicrhau, mewn unrhyw flwyddyn sy'n dechrau ar 1 Ionawr, na fydd cyfanswm y nitrogen mewn tail da byw a ddodwyd ar y daliad, p'un ai'n uniongyrchol gan anifail neu drwy daenu, yn fwy na 170 kg wedi'i luosi ag arwynebedd y daliad mewn hectarau.
(2) Rhaid cyfrifo faint o nitrogen a gynhyrchwyd gan dda byw yn unol ag Atodlen 1.
(3) Wrth gyfrifo arwynebedd y daliad at ddibenion canfod faint o nitrogen y caniateir ei daenu ar y daliad, diystyrir dyfroedd wyneb, unrhyw lawr caled, adeiladau, ffyrdd neu unrhyw goetir onid yw'r coetir hwnnw'n cael ei ddefnyddio ar gyfer pori.
13. Rhaid i feddiannydd daliad sicrhau, mewn unrhyw gyfnod o ddeuddeng mis, na fydd cyfanswm y nitrogen mewn tail organig a daenir ar unrhyw hectar penodol ar y daliad, yn fwy na 250 kg.
14.–(1) Rhaid i feddiannydd daliad sy'n bwriadu taenu gwrtaith nitrogen–
(a) cyfrifo faint o nitrogen yn y pridd sy'n debyg o fod ar gael i'w amsugno gan y cnwd yn ystod y tymor tyfu ("y cyflenwad nitrogen yn y pridd");
(b) cyfrifo'r maint gorau posibl o nitrogen y dylid ei daenu ar y cnwd, gan gymryd i ystyriaeth faint o nitrogen sydd ar gael o'r cyflenwad nitrogen yn y pridd; ac
(c) llunio cynllun ar gyfer taenu gwrtaith nitrogen ar gyfer y tymor tyfu hwnnw.
(2) Yn achos unrhyw gnwd nad yw'n laswelltir parhaol, rhaid i'r meddiannydd wneud hyn cyn taenu unrhyw wrtaith nitrogen am y tro cyntaf er mwyn ffrwythlonni cnwd sydd wedi'i blannu neu y bwriedir ei blannu.
(3) Yn achos glaswelltir parhaol, rhaid i'r meddiannydd wneud hyn bob blwyddyn gan ddechrau ar 1 Ionawr cyn taenu gwrtaith nitrogen am y tro cyntaf.
(4) Rhaid i'r cynllun fod ar ffurf barhaol.
(5) Rhaid i'r cynllun gofnodi–
(a) cyfeirnod neu enw'r cae perthnasol;
(b) y rhan o'r cae a blannwyd neu y bwriedir ei phlannu; ac
(c) y math o gnwd.
(6) Yn achos y rhan a blannwyd neu y bwriedir ei phlannu, rhaid i'r cynllun gofnodi–
(a) y math o bridd;
(b) y cnwd blaenorol (os glaswellt oedd y cnwd blaenorol, a oedd yn cael ei reoli drwy ei dorri neu ei bori);
(c) y cyflenwad nitrogen yn y pridd wedi'i gyfrifo'n unol â pharagraff (1) a'r dull a ddefnyddiwyd i gadarnhau'r ffigur hwn;
(ch) y mis y rhagwelir y caiff y cnwd ei blannu;
(d) y cynnyrch a ragwelir (os yw'n gnwd âr); ac
(dd) y maint gorau posibl o nitrogen y dylid ei daenu ar y cnwd, gan gymryd i ystyriaeth faint o nitrogen sydd ar gael o'r cyflenwad nitrogen yn y pridd.
15.–(1) Cyn taenu tail organig, rhaid i'r meddiannydd gyfrifo bob tro faint o nitrogen o'r tail hwnnw sy'n debyg o fod ar gael i'r cnwd ei amsugno yn y tymor tyfu y caiff ei daenu ynddo.
(2) Rhaid i'r meddiannydd, cyn taenu'r tail organig, gofnodi–
(a) y rhan y taenir y tail organig arni;
(b) faint o dail organig sydd i'w daenu;
(c) y dyddiad arfaethedig ar gyfer taenu (y mis);
(ch) y math o dail organig;
(d) cyfanswm y nitrogen sydd yn y tail organig; ac
(dd) cyfanswm y nitrogen sy'n debyg o fod ar gael o'r tail y bwriedir ei daenu i'r cnwd ei amsugno yn y tymor tyfu y caiff ei daenu.
(3) Yn achos gwrtaith a weithgynhyrchwyd, rhaid i'r meddiannydd gofnodi–
(a) y maint y mae ei angen (hynny yw, y maint gorau posibl o nitrogen y mae ei angen ar y cnwd gan ddidynnu faint o nitrogen a fydd ar gael i'r cnwd ei amsugno o unrhyw dail organig a daenir); a
(b) y dyddiad arfaethedig ar gyfer taenu (y mis);
16. Ni waeth beth fo'r ffigur yn y cynllun, rhaid i feddiannydd sicrhau na fydd cyfanswm–
(a) y nitrogen o wrtaith a weithgynhyrchwyd, a
(b) y nitrogen sydd ar gael i'r cnwd ei amsugno o dail da byw yn y tymor tyfu y caiff ei daenu ynddo,
a daenir ar y cnydau canlynol, wedi'i gyfrifo'n unol â rheoliad 17, yn fwy na'r terfynau canlynol mewn unrhyw gyfnod o ddeuddeng mis (y ffigur yn yr ail golofn, wedi'i addasu'n unol â'r nodiadau i'r tabl a'i luosi â'r arwynebedd cyfan mewn hectarau o'r cnwd hwnnw a heuir ar y daliad, yw cyfanswm y nitrogen y caniateir ei daenu ar unrhyw gnwd penodol).
Y cnwd | Faint o nitrogen a ganiateir (kg)a | Cynnyrch safonol(tunnell/ha) |
---|---|---|
|
||
a
Caniateir 80 kg ychwanegol yr hectar ar gyfer pob cnwd a heuir mewn caeau os yw slwtsh gwellt neu slwtsh papur wedi'i ddodi ar y cnwd presennol neu'r cnwd blaenorol. |
||
b
Caniateir 20 kg ychwanegol yr hectar ar gaeau â phridd tenau (ac eithrio priddoedd tenau sy'n gorwedd ar dywodfaen). |
||
c
Caniateir 20 kg ychwanegol yr hectar am bob tunnell y mae'r cynnyrch a ddisgwyliwyd yn uwch na'r cynnyrch safonol. |
||
d
Caniateir 40 kg ychwanegol yr hectar ar gyfer amrywogaethau gwenith melino. |
||
e
Mae hyn yn cynnwys uchafswm o 30 kg yr hectar yn yr hydref (caniateir hyn fel esemptiad i'r cyfnod gwaharddedig ar gyfer gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd) ac uchafswm o 220 kg yr hectar yn y gwanwyn. Caniateir i'r maint ar gyfer y gwanwyn gael ei gynyddu hyd at 30 kg yr hectar am bob hanner tunnell y bydd y cynnyrch a ddisgwylir yn fwy na'r cynnyrch safonol. |
||
f
Caniateir 40 kg ychwanegol yr hectar ar gyfer glaswellt a dorrir o leiaf deirgwaith y flwyddyn. O 1 Ionawr 2012 bydd maint y nitrogen a ganiateir yn gostwng i 300 kg yr hectar. |
||
Gwenith a heuir yn yr hydref neu'n gynnar yn y gaeaf | 220b c d | 8.0 |
Gwenith a heuir yn y gwanwyn | 180c d | 7.0 |
Haidd y gaeaf | 180b c | 6.5 |
Haidd y gwanwyn | 150c | 5.5 |
Rêp had olew y gaeaf | 250e | 3.5 |
Betys siwgr | 120 | dd/g |
Tatws | 270 | dd/g |
Indrawn porthi | 150 | dd/g |
Ffa maes | 0 | dd/g |
Pys | 0 | dd/g |
Glaswellt | 330f | dd/g |
17.–(1) At ddibenion rheoliad 16, rhaid i'r meddiannydd gadarnhau'n gyntaf gyfanswm y nitrogen yn y tail, naill drwy ddefnyddio'r tabl yn Atodlen 2 neu drwy samplu a dadansoddi'n unol â'r Atodlen honno.
(2) Pan fo cyfanswm y nitrogen yn y tail wedi'i gadarnhau, rhagdybir bod y canrannau a ganlyn yn cadarnhau faint o nitrogen yn y tail sydd ar gael i'r cnwd ei amsugno yn y tymor tyfu y caiff ei daenu ynddo.
Y math o dail da byw | Faint o nitrogen sydd ar gael i'r cnwd ei amsugno yn y tymor tyfu y caiff ei daenu ynddo | |
---|---|---|
Tan 1 Ionawr 2012 | O 1 Ionawr 2012 | |
Slyri gwartheg | 20% | 35% |
Slyri moch | 25% | 45% |
Tail dofednod | 20% | 30% |
Tail da byw eraill | 10% | 10% |
18.–(1) Cyn 1 Ionawr 2010 rhaid i feddiannydd daliad sy'n taenu tail organig ar y daliad hwnnw lunio map o'r daliad ("map risg") yn unol â'r rheoliad hwn.
(2) Os bydd amgylchiadau'n newid, rhaid i'r meddiannydd ddiweddaru'r map risg o fewn tri mis i'r newid.
(3) Rhaid i'r map risg ddangos–
(a) pob cae, gyda'i arwynebedd mewn hectarau;
(b) yr holl ddyfroedd wyneb;
(c) unrhyw dyllau turio, ffynhonnau neu bydewau sydd ar y daliad neu sydd o fewn 50 metr i ffin y daliad;
(ch) y rhannau â phriddoedd tywodlyd neu denau;
(d) tir â llethr sy'n fwy na 12°;
(dd) tir sydd o fewn10 metr i ddyfroedd wyneb;
(e) tir sydd o fewn 50 metr i dwll turio, ffynnon neu bydew;
(f) traeniau tir (ac eithrio pibell anhydraidd sydd wedi'i selio);
(ff) safleoedd sy'n addas ar gyfer tomenni dros dro mewn caeau os bwriedir defnyddio'r dull hwn o storio tail;
(g) tir y mae'r risg o oferu drosto yn isel (mater o ddewis yw hyn i feddiannydd nad yw'n bwriadu taenu tail ar dir y mae'r risg o oferu drosto yn isel yn ystod y cyfnod storio yn unol â rheoliad 34).
(4) Rhaid i'r meddiannydd gadw copi.
19.–(1) Rhaid i feddiannydd sy'n bwriadu taenu gwrtaith nitrogen ymgymryd yn gyntaf ag arolygiad o'r caeau i ystyried y risg y byddai nitrogen yn mynd i mewn i ddŵr wyneb.
(2) Ni chaiff neb daenu gwrtaith nitrogen ar y tir hwnnw os oes risg sylweddol y byddai nitrogen yn mynd i mewn i ddŵr wyneb, gan gymryd i ystyriaeth yn benodol–
(a) llethr y tir, yn enwedig os yw'r llethr yn fwy na 12°;
(b) unrhyw orchudd tir;
(c) pa mor agos yw'r tir at ddŵr wyneb;
(ch) amodau tywydd;
(d) y math o bridd; ac
(dd) presenoldeb traeniau tir.
(3) Ni chaiff neb daenu gwrtaith nitrogen os yw'r pridd yn llawn dwr, dan ddwr neu wedi'i orchuddio ag eira, neu os yw wedi rhewi drosto am fwy na 12 awr yn ystod y 24 awr flaenorol.
20. Ni chaiff neb daenu gwrtaith a weithgynhyrchwyd o fewn 2 fetr i ddŵr wyneb.
21.–(1) Ni chaiff neb daenu tail organig o fewn 10 metr i ddŵr wyneb.
(2) Ond caniateir i dail da byw (ac eithrio slyri a thail dofednod) gael ei daenu yno–
(a) os caiff ei daenu ar dir sy'n cael ei reoli ar gyfer rhydyddion bridio neu fel glaswelltir lled-naturiol sy'n gyfoethog ei rywogaethau a bod y tir–
(i) yn dir yr hysbyswyd ei fod yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981(7); neu
(ii) yn ddarostyngedig i ymrwymiad amaeth-amgylcheddol a wnaed o dan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1257/1999 (ynglŷn â chymorth ar gyfer datblygu gwledig o Gronfa Cyfarwyddo a Gwarantu Amaethyddiaeth Ewrop (EAGGF)(8)) neu o dan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1698/2005 (ynglyn â chymorth ar gyfer datblygu gwledig o Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD) (9));
(b) os caiff ei daenu rhwng 1 Mehefin a 31 Hydref yn gynhwysol;
(c) os nad yw'n cael ei daenu'n uniongyrchol ar ddwr wyneb; ac
(ch) os nad yw'r cyfanswm blynyddol yn fwy na 12.5 tunnell yr hectar.
(3) Ni chaiff neb daenu tail organig o fewn 50 metr i dwll turio, ffynnon neu bydew.
22.–(1) Rhaid i unrhyw berson sy'n taenu slyri ddefnyddio cyfarpar taenu a chanddo lwybr taenu isel, hynny yw, o dan 4 metr o'r ddaear.
(2) Rhaid i unrhyw berson sy'n taenu gwrtaith nitrogen wneud hynny mor gywir â phosibl.
23.–(1) Rhaid i unrhyw berson sy'n dodi tail organig ar wyneb pridd moel neu sofl (ac eithrio pridd sydd wedi'i hau) sicrhau ei fod wedi'i gorffori yn y pridd yn unol â'r rheoliad hwn.
(2) Rhaid i dail dofednod gael ei gorffori cyn gynted ag y bo'n ymarferol, ac o fewn 24 awr fan bellaf.
(3) Rhaid i slyri a hylif slwtsh carthion sydd wedi'i dreulio (hynny yw, hylif sy'n dod o drin slwtsh carthion drwy dreulio anerobig) gael eu corffori cyn gynted ag y bo'n ymarferol, ac o fewn 24 awr fan bellaf, oni chawsant eu dodi mewn bandiau gwahanedig.
(4) Rhaid i unrhyw dail organig arall (ac eithrio tail organig a daenir fel gwellt ar bridd tywodlyd) gael ei gorffori yn y pridd cyn gynted ag y bo'n ymarferol, ac o fewn 24 awr fan bellaf, os yw'r tir o fewn 50 metr i ddwr wyneb ac yn raddol ddisgyn yn y fath fodd ag y gellid goferu i'r dwr hwnnw.
24. Yn y Rhan hon ystyr "tail organig gyda chyfraddau uchel o nitrogen sydd ar gael yn rhwydd" ("organic manure with high readily available nitrogen") yw tail organig y mae mwy na 30 y cant o gyfanswm y nitrogen sydd ynddo ar gael i'r cnwd adeg y taenu.
25. Ni chaiff neb daenu tail organig gyda chyfraddau uchel o nitrogen sydd ar gael yn rhwydd ar dir ar y dyddiadau canlynol, a phob un ohonynt yn ddyddiad cynhwysol ("y cyfnod gwaharddedig")–
Y math o bridd | Glaswelltir | Tir tro |
---|---|---|
Pridd tywodlyd neu bridd tenau | 1 Medi to 31 Rhagfyr | 1 Awst i 31 Rhagfyr |
Pob pridd arall | 15 Hydref i 1 Hydref i 15 Ionawr | 15 Ionawr |
26. Caniateir i dail organig gyda chyfraddau uchel o nitrogen sydd ar gael yn rhwydd gael ei daenu ar dir tro gyda phridd tywodlyd neu bridd tenau rhwng 1 Awst a 15 Medi yn gynhwysol ar yr amod bod y cnwd yn cael ei hau ar neu cyn 15 Medi.
27. Caiff meddiannydd daliad sydd wedi'i gofrestru'n gynhyrchydd organig gyda chorff a gofrestrwyd gan y Pwyllgor Cynghori ar Safonau Organig(10) daenu tail organig gyda chyfraddau uchel o nitrogen sydd ar gael yn rhwydd ar unrhyw adeg–
(a) ar gnydau a restrir yn y tabl yn Atodlen 3 (cnydau a ganiateir am y cyfnod gwaharddedig), neu
(b) ar gnydau eraill yn unol â chyngor ysgrifenedig gan berson sy'n aelod o'r Cynllun Ardystio a Hyfforddi Cynghorwyr am Wrteithiau (11),
ar yr amod na fydd pob hectar y mae tail organig yn cael ei daenu arno yn cael mwy na chyfanswm o 150 kg o nitrogen rhwng dechrau'r cyfnod gwaharddedig a diwedd Chwefror.
28. O ddiwedd y cyfnod gwaharddedig tan ddiwedd Chwefror–
(a) 50 metr ciwbig yr hectar yw uchafswm y slyri y caniateir ei daenu ar unrhyw un adeg ac 8 tunnell yr hectar yw uchafswm y tail dofednod y caniateir ei daenu ar unrhyw un adeg; a
(b) rhaid bod o leiaf dair wythnos rhwng pob taeniad.
29.–(1) Ni chaiff neb daenu gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd ar dir yn ystod y cyfnodau canlynol (mae pob dyddiad yn gynhwysol)–
(a) yn achos glaswelltir, o 15 Medi i 15 Ionawr, neu
(b) yn achos tir tro, o 1 Medi i 15 Ionawr.
(2) Caniateir i wrtaith gael ei daenu yn ystod y cyfnodau hyn ar y cnydau a bennir yn y Tabl yn Atodlen 3, ar yr amod nad eir dros y gyfradd uchaf yng ngholofn 2.
(3) Caniateir taenu yn ystod y cyfnodau hynny ar gnydau nad ydynt yn Atodlen 3 ar sail cyngor ysgrifenedig gan berson sy'n aelod o'r Cynllun Ardystio a Hyfforddi Cynghorwyr am Wrteithiau.
30. Mewn unrhyw achos cyfreithiol am dorri darpariaeth yn y Rhan hon sy'n ymwneud â thail organig, mae'n amddiffyniad i'r diffynnydd brofi–
(a) bod y torcyfraith wedi digwydd cyn 1 Ionawr 2012, a
(b) nad oedd gan y daliad y cyfleusterau storio ar gyfer tail organig sy'n ofynnol o dan Ran 7 adeg y torcyfraith.
31. Rhaid i feddiannydd daliad sy'n storio unrhyw dail organig (nad yw'n slyri), neu unrhyw sarn sydd wedi'i halogi ag unrhyw dail organig, ei storio–
(a) mewn llestr;
(b) mewn adeilad gorchuddiedig;
(c) ar wyneb anhydraidd; neu
(ch) yn achos tail solet y gellir ei bentyrru'n domen ar ei thraed ei hun ac nad yw'n draenio hylif o'r deunydd, ar safle dros dro mewn cae.
32.–(1) Rhaid i safle dros dro mewn cae beidio â bod–
(a) mewn cae sy'n agored i lifogydd neu i ddod yn llawn dŵr;
(b) o fewn 50m i ffynnon, pydew neu dwll turio neu o fewn 10m i ddwr wyneb neu draen tir (ac eithrio pibell anhydraidd sydd wedi'i selio);
(c) mewn unrhyw leoliad unigol am fwy na 12 mis yn olynol;
(ch) yn yr un lle ag un cynharach a adeiladwyd o fewn y ddwy flynedd diwethaf.
(2) Rhaid i dail dofednod solet nad oes sarn wedi'i gymysgu ag ef ac sydd wedi'i storio ar safle dros dro mewn cae gael ei orchuddio â deunydd anhydraidd.
33. Rhaid i'r broses o wahanu slyri i'w ffracsiynau solet a hylifol gael ei chyflawni'n fecanyddol neu ar wyneb anhydraidd lle mae'r ffracsiwn hylifol yn draenio i mewn i gynhwysydd addas.
34.–(1) Rhaid i feddiannydd daliad sy'n cadw unrhyw un o'r anifeiliaid a bennir yn Atodlen 1 ddarparu digon o le i storio'r holl slyri a gynhyrchir ar y daliad yn ystod y cyfnod storio, a'r holl dail dofednod a gynhyrchir mewn buarth neu adeilad ar y daliad yn ystod y cyfnod storio.
(2) Rhaid cyfrifo cyfaint y tail a gynhyrchir gan yr anifeiliaid ar y daliad yn unol ag Atodlen 1.
(3) Rhaid bod gan storfa slyri le i storio, yn ychwanegol at y tail, unrhyw law, golchiadau neu hylif arall sy'n dod i mewn i'r llestr (naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol) yn ystod y cyfnod storio.
(4) Nid yw cyfleusterau storio'n angenrheidiol ar gyfer slyri na thail dofednod–
(a) a anfonir oddi ar y daliad; neu
(b) a daenir ar dir y mae'r risg o oferu drosto yn isel (ar yr amod bod hyn yn cael ei wneud yn unol â'r cyfyngiadau ar daenu yn y Rheoliadau hyn); ond yn yr achos hwn rhaid darparu cyfleusterau storio ar gyfer tail wythnos ychwanegol fel mesur wrth gefn pe na bai'n bosibl taenu ar rai dyddiadau.
(5) At ddibenion y rheoliad hwn, y "cyfnod storio" (mae pob dyddiad yn gynhwysol) yw–
(a) y cyfnod rhwng 1 Hydref ac 1 Ebrill ar gyfer moch a dofednod;
(b) y cyfnod rhwng 1 Hydref ac 1 Mawrth mewn unrhyw achos arall.
35.–(1) Erbyn 30 Ebrill 2009 rhaid i feddiannydd daliad gofnodi maint cyfan y daliad wedi'i gyfrifo'n unol â rheoliad 12(3).
(2) Os bydd maint y daliad yn newid, rhaid diweddaru'r cofnod hwn o fewn mis.
36.–(1) Erbyn 30 Ebrill 2009 rhaid i feddiannydd daliad sydd â da byw gyfrifo a chofnodi–
(a) faint o dail a gynhyrchir gan y nifer disgwyliedig o anifeiliaid a gedwir mewn adeilad neu ar lawr caled yn ystod y cyfnod storio y cyfeiriwyd ato yn rheoliad 34, gan ddefnyddio'r ffigurau yn Atodlen 1;
(b) faint o le storio (cynwysyddion slyri a lloriau caled) y mae ei angen i'w gwneud yn bosibl i gydymffurfio â rheoliad 34 (lle i storio), gan gymryd i ystyriaeth–
(i) faint o dail y bwriedir ei allforio o'r daliad;
(ii) faint o dail y bwriedir ei daenu ar dir y mae'r risg o oferu drosto yn isel; a
(iii) yn achos llestr dal slyri, faint o hylif ac eithrio slyri sy'n debyg o fynd i mewn i'r llestr;
(c) maint cyfredol y lle storio ar y daliad.
(2) Rhaid i feddiannydd sy'n dod ag anifeiliaid i ddaliad am y tro cyntaf gydymffurfio â pharagraff (1) o fewn mis iddo ddod â'r anifeiliaid yno.
(3) Os bydd maint y lle storio yn newid, rhaid i'r meddiannydd gofnodi'r newid o fewn wythnos.
37.–(1) Cyn 30 Ebrill bob blwyddyn rhaid i feddiannydd daliad sydd â da byw gofnodi, am y cyfnod storio blaenorol y cyfeiriwyd ato yn rheoliad 34, nifer a chategori'r anifeiliaid mewn adeilad neu ar lawr caled yn ystod y cyfnod storio.
(2) Rhaid i'r meddiannydd gofnodi hefyd y safleoedd a ddefnyddiwyd ar gyfer tomenni mewn cae a dyddiadau eu defnyddio.
38.–(1) Cyn 30 Ebrill bob blwyddyn rhaid i'r meddiannydd wneud cofnod o'r canlynol–
(a) nifer a chategori (yn unol â'r categorïau yn Atodlen 1) yr anifeiliaid ar y daliad yn ystod y flwyddyn galendr flaenorol, a
(b) nifer y diwrnodau y treuliodd pob anifail ar y daliad.
(2) Rhaid i'r meddiannydd gyfrifo wedyn faint y nitrogen sydd yn y tail a gynhyrchwyd gan yr anifeiliaid ar y daliad yn ystod y flwyddyn honno gan ddefnyddio'r Tabl yn Atodlen 1.
(3) Fel arall, yn achos moch neu ddofednod sydd wedi'u lletya'n barhaol, caiff y meddiannydd ddefnyddio–
(a) meddalwedd a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru; neu
(b) yn achos system cadw da byw sy'n cynhyrchu tail solet yn unig, dulliau samplu a dadansoddi yn unol â Rhan 2 o Atodlen 2.
(4) Rhaid i'r meddiannydd wneud cofnod o'r cyfrifiadau a'r ffordd y daethpwyd at y ffigurau terfynol.
(5) Rhaid i feddiannydd a ddefnyddiodd feddalwedd a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru gadw allbrint o'r canlyniad.
39.–(1) Rhaid i feddiannydd sy'n dod â thail da byw ar ddaliad gofnodi, a hynny o fewn wythnos–
(a) math a maint y tail da byw;
(b) y dyddiad y daethpwyd ag ef ar y daliad;
(c) faint o nitrogen sydd ynddo, os yw'n hysbys; a
(ch) enw a chyfeiriad y cyflenwr.
(2) Rhaid i feddiannydd sy'n anfon tail da byw o ddaliad gofnodi o fewn wythnos–
(a) math a maint y tail da byw;
(b) dyddiad ei anfon o'r daliad;
(c) faint o nitrogen sydd ynddo;
(ch) enw a chyfeiriad y derbynnydd; a
(d) manylion cynllun wrth gefn i'w ddefnyddio pe bai cytundeb i berson dderbyn y tail da byw yn methu.
(3) Os nad yw'n hysbys faint o nitrogen sydd yn y tail da byw y daethpwyd ag ef ar y daliad, rhaid i'r meddiannydd ganfod faint sydd yn y tail hwnnw, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl iddo gyrraedd, a'i gofnodi o fewn wythnos.
(4) Rhaid canfod pob maint nitrogen mewn tail da byw drwy ddefnyddio naill ai'r ffigurau safonol yn Rhan 1 o Atodlen 2 neu drwy samplu a dadansoddi yn y modd a nodir yn Rhan 2 o'r Atodlen honno.
40.–(1) Rhaid i unrhyw berson sy'n defnyddio samplu a dadansoddi i benderfynu faint o nitrogen sydd mewn tail organig gadw'r adroddiad gwreiddiol gan y labordy.
41. Rhaid i feddiannydd sy'n bwriadu taenu gwrtaith nitrogen gofnodi o fewn wythnos i hau cnwd–
(a) y cnwd a heuwyd; a
(b) dyddiad ei hau.
42.–(1) O fewn wythnos i daenu tail organig rhaid i'r meddiannydd gofnodi–
(a) y rhan y taenwyd y tail hwnnw arni;
(b) faint o dail organig a daenwyd;
(c) y dyddiad neu'r dyddiadau;
(ch) y dulliau o'i daenu;
(d) y math o dail organig;
(dd) cyfanswm y nitrogen yn y tail hwnnw;
(e) faint o'r nitrogen oedd ar gael i'r cnwd.
(2) O fewn wythnos i daenu gwrtaith a weithgynhyrchwyd rhaid i'r meddiannydd gofnodi–
(a) dyddiad ei daenu; a
(b) faint o nitrogen a daenwyd.
43.–(1) Rhaid i feddiannydd sydd wedi defnyddio gwrtaith nitrogen gofnodi'r cynnyrch a gafwyd o gnwd âr o fewn wythnos i ganfod y cynnyrch hwnnw.
(2) Cyn 30 Ebrill bob blwyddyn rhaid i feddiannydd gofnodi sut y cafodd unrhyw laswelltir ei reoli yn y flwyddyn galendr flaenorol.
44. Rhaid i feddiannydd gadw copi o unrhyw gyngor gan berson sy'n aelod o'r Cynllun Ardystio a Hyfforddi Cynghorwyr am Wrteithiau ac y dibynnwyd arno at unrhyw ddiben o dan y Rheoliadau hyn.
45. Rhaid i unrhyw berson y mae'n ofynnol iddo wneud cofnod o dan y Rheoliadau hyn ei gadw am bum mlynedd.
46.–(1) O leiaf bob pedair blynedd rhaid i Weinidogion Cymru adolygu effeithiolrwydd y cyfyngiadau mewn parthau perygl nitradau a osodwyd gan y Rheoliadau hyn fel modd i leihau neu atal llygredd dwr a achosir gan nitradau o ffynonellau amaethyddol ac, os yw'n angenrheidiol, eu diwygio.
(2) Er mwyn gwneud hyn rhaid i Weinidogion Cymru sefydlu rhaglen fonitro i asesu effeithiolrwydd y cyfyngiadau yn y Rheoliadau hyn.
(3) Wrth gynnal yr adolygiad hwn, rhaid i Weinidogion Cymru ystyried–
(a) y data gwyddonol a thechnegol sydd ar gael, gan gyfeirio'n benodol at y priod gyfraniadau nitrogen sy'n dod o ffynonellau amaethyddol a ffynonellau eraill; a
(b) amodau amgylcheddol rhanbarthol.
47.–(1) Wrth gynnal yr adolygiad hwn rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod y cyhoedd yn cael cyfleoedd cynnar ac effeithiol i gyfranogi.
(2) Rhaid i Weinidogion Cymru wneud trefniadau digonol i'r cyhoedd gyfranogi er mwyn eu galluogi i baratoi ac i gyfranogi'n effeithiol.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau–
(a) y bydd ymgynghori â'r cyhoedd ynghylch unrhyw gynigion a bod gwybodaeth berthnasol am y cynigion hynny'n cael ei rhoi ar gael i'r cyhoedd, gan gynnwys gwybodaeth am yr hawl i gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau ac am y corff y caniateir i sylwadau neu gwestiynau gael eu cyflwyno iddo; a
(b) bod hawlogaeth gan y cyhoedd i roi sylwadau a mynegi barn ar adeg pan fo'r holl opsiynau ar agor a chyn bod penderfyniadau ar y cynlluniau neu'r rhaglenni yn cael eu gwneud.
(4) Rhaid i Weinidogion Cymru nodi'r aelodau o'r cyhoedd y mae hawlogaeth ganddynt i Weinidogion Cymru ymgynghori â hwy, gan gynnwys cyrff anllywodraethol sy'n hyrwyddo gwaith diogelu'r amgylchedd.
(5) Rhaid caniatáu amser rhesymol ar gyfer ymgynghori.
(6) Rhaid cymryd yr ymgynghori i ystyriaeth wrth ddod i benderfyniad.
(7) Ar ôl yr ymgynghori, rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu'r cyhoedd o'r penderfyniadau a wnaed a'r rhesymau a'r ystyriaethau y seiliwyd y penderfyniadau hynny arnynt, gan gynnwys gwybodaeth am y broses o gyfranogi gan y cyhoedd.
48.–(1) Mae unrhyw berson sy'n torri unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn yn euog o dramgwydd ac yn agored –
(a) o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol, neu
(b) o'i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy.
(2) Os yw corff corfforaethol yn euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, ac os profir bod y tramgwydd wedi'i wneud drwy gydsyniad neu ymoddefiad, neu wedi'i briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran–
(a) unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu berson arall tebyg yn y corff corfforaethol, neu
(b) unrhyw berson oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swyddogaeth o'r fath,
bydd y person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o dramgwydd a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.
(3) At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr "cyfarwyddwr" ("director"), mewn perthynas â chorff corfforaethol y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol.
49. Mae'r Rheoliadau hyn i'w gorfodi gan yr Asiantaeth yr Amgylchedd.
50. Mae'r Rheoliadau canlynol wedi'u dirymu i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru–
(a) Rheoliadau Diogelu Dŵr rhag Llygredd Nitradau Amaethyddol (Cymru a Lloegr) 1996(12);
(b) Rheoliadau'r Rhaglen Weithredu ar gyfer Parthau Perygl Nitradau (Cymru a Lloegr) 1998(13);
(c) Rheoliadau Diogelu Dŵr rhag Llygredd Nitradau Amaethyddol (Diwygio) (Cymru) 2002(14); ac
(ch) Rheoliadau Diogelu Dŵr rhag Llygredd Nitradau Amaethyddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2006(15).
Jane Davidson
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru
6 Rhagfyr 2008
Rheoliadau 6,12, 34, 36 a 38
Pwysau | Y tail a gynhyrchir bob dydd gan bob anifail (litrau) | Y nitrogen a gynhyrchir bob dydd gan bob anifail (gramau) |
---|---|---|
O 7 kg a llai na 13 kg: | 1.3 | 4.1 |
O 13 kg a llai nag 31 kg: | 2 | 14.2 |
O 31 kg a llai na 66 kg– | ||
sydd wedi'u porthi â bwyd sych: | 3.7 | 24 |
sydd wedi'u porthi â hylifau: | 7.1 | 24 |
O 66 kg ac– | ||
a fwriadwyd i'w cigydda ac– | ||
sydd wedi'u porthi â bwyd sych: | 5.1 | 33 |
sydd wedi'u porthi â hylifau: | 10 | 33 |
hychod a fwriadwyd ar gyfer bridio ond nad ydynt wedi cael eu torraid cyntaf: | 5.6 | 38 |
hychod (gan gynnwys toreidiau hyd at 7 kg) a borthwyd ar ddeiet wedi'i atchwanegu ag asidau amino synthetig: | 10.9 | 44 |
hychod (gan gynnwys toreidiau hyd at 7 kg) a borthwyd ar ddeiet heb asidau amino synthetig: | 10.9 | 49 |
baeddod bridio o 66 kg hyd at 150 kg: | 5.1 | 33 |
baeddod bridio, o 150 kg: | 8.7 | 48 |
Categori | Y tail a gynhyrchir bob dydd gan bob anifail (litrau) | Y nitrogen a gynhyrchir bob dydd gan bob anifail (gramau) |
---|---|---|
a
Gwartheg gwryw wedi'u sbaddu |
||
Lloi (pob categori) hyd at 3 mis: | 7 | 23 |
Buchod godro– | ||
O 3 mis a llai na 13 mis: | 20 | 95 |
O 13 mis tan eu llo cyntaf: | 40 | 167 |
Ar ôl ei llo cyntaf ac y mae– | ||
eu cynnyrch llaeth blynyddol yn fwy na 9000 o litrau: | 64 | 315 |
eu cynnyrch llaeth blynyddol rhwng 6,000 a 9000 o litrau: | 53 | 276 |
eu cynnyrch llaeth blynyddol yn llai na 6000 o litrau: | 42 | 211 |
Buchod neu fustych eidiona – | ||
O 3 mis a llai na 13 mis: | 20 | 91 |
O 13 mis a llai na 25 mis: | 26 | 137 |
O 25 mis– | ||
gwartheg benyw neu fustych i'w cigydda: | 32 | 137 |
gwartheg benyw ar gyfer bridio– | ||
sy'n pwyso 500 kg neu lai: | 32 | 167 |
sy'n pwyso'n fwy na 500 kg: | 45 | 227 |
Teirw | ||
nad ydynt yn bridio, ac sy'n 3 mis a throsodd: | 26 | 148 |
Bridio– | ||
o 3 mis a llai na 25 mis: | 26 | 137 |
o 25 mis: | 26 | 132 |
Categori | Y tail a gynhyrchir bob dydd gan bob anifail (litrau) | Y nitrogen a gynhyrchir bob dydd gan bob anifail (gramau) |
---|---|---|
a
Yn achos mamog, mae'r ffigur hwn yn cynnwys un neu fwy o ŵyn y mae'n rhoi sugn iddynt hyd nes y bydd yr ŵyn yn chwe mis oed. |
||
O 6 mis hyd at 9 mis oed: | 1.8 | 5.5 |
O 9 mis oed hyd at ŵyna am y tro cyntaf, hwrdda am y tro cyntaf, neu gigydda: | 1.8 | 3.9 |
Ar ôl ŵyna neu hwrddaa – | ||
yn pwyso llai na 60 kg: | 3.3 | 21 |
yn pwyso dros 60 kg: | 5 | 33 |
Categori | Y tail a gynhyrchir bob dydd gan bob anifail (litrau) | Y nitrogen a gynhyrchir bob dydd gan bob anifail (gramau) |
---|---|---|
Geifr | 3.5 | 41 |
Ceirw– | ||
bridio: | 5.0 | 42 |
arall: | 3.5 | 33 |
Ceffylau | 24 | 58 |
Categori | Y tail a gynhyrchir bob dydd gan bob anifail (cilogramau) | Y nitrogen a gynhyrchir bob dydd gan bob anifail (gramau) |
---|---|---|
|
||
Ieir a ddefnyddir i gynhyrchu wyau i bobl eu bwyta– | ||
llai na 17 wythnos: | 0.04 | 0.64 |
o 17 wythnos (mewn caets): | 0.12 | 1.13 |
o 17 wythnos (heb fod mewn caets): | 0.12 | 1.5 |
Ieir a fegir am eu cig: | 0.06 | 1.06 |
Ieir a fegir ar gyfer bridio– | ||
llai na 25 wythnos: | 0.04 | 0.86 |
o 25 wythnos: | 0.12 | 2.02 |
Tyrcwn– | ||
gwryw: | 0.16 | 3.74 |
benyw: | 0.12 | 2.83 |
Hwyaid: | 0.10 | 2.48 |
Estrysiaid: | 1.6 | 3.83 |
Rheoliadau 17, 38 a 39
Tail ac eithrio slyri | Cyfanswm y nitrogen ym mhob tunnell (kg) |
---|---|
Tail ac eithrio slyri o'r anifeiliaid a ganlyn– | |
gwartheg: | 6 |
moch: | 7 |
defaid: | 6 |
hwyaid: | 6.5 |
Tail o ieir dodwy: | 16 |
Tail o dyrcwn neu ieir brwylio: | 30 |
Slyri | Cyfanswm y nitrogen ym mhob metr ciwbig (kg) |
---|---|
Gwartheg godro: | 3 |
Gwartheg eidion: | 2 |
Moch: | 4.0 |
Slyri gwartheg wedi'i wahanu (ffracsiwn hylifol)– | |
blwch hidlo: | 1.5 |
wal hidlo: | 2.0 |
hidl fecanyddol: | 3.0 |
Slyri gwartheg wedi'i wahanu (ffracsiwn solet): | 4 |
Slyri moch wedi'i wahanu (ffracsiwn hylifol): | 3.6 |
Slyri moch wedi'i wahanu (ffracsiwn solet): | 5 |
1.–(1) Rhaid cymryd o leiaf bum sampl, a phob un ohonynt yn 2 litr.
(2) Rhaid i'r sampl gael ei chymryd o lestr dal slyri, ac–
(a) os yw'n rhesymol ymarferol, rhaid i'r slyri fod wedi'i gymysgu'n drylwyr cyn i'r samplau gael eu cymryd, a
(b) rhaid i bob sampl gael ei chymryd o le gwahanol.
(3) Ond os oes falf addas wedi'i gosod ar dancer sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer taenu, caniateir i'r samplau gael eu cymryd wrth daenu, a rhaid i bob sampl gael ei chymryd bob hyn a hyn yn ystod y broses daenu.
(4) Rhaid i'r samplau gael eu harllwys i gynhwysydd mwy ei faint, eu troi'n drylwyr a rhaid i sampl 2 litr gael ei chymryd o'r cynhwysydd hwnnw a'i harllwys i gynhwysydd glân llai.
(5) Rhaid i'r sampl honno gael ei hanfon wedyn i gael ei dadansoddi.
2.–(1) Rhaid cymryd y samplau o domen dail.
(2) Rhaid cymryd o leiaf deg is-sampl 1 kg yr un, a phob un ohonynt o fan gwahanol mewn tomen.
(3) Rhaid i bob is-sampl gael ei chymryd o leiaf 0.5 metr o wyneb y domen.
(4) Os yw samplau yn cael eu casglu i gyfrifo i ba raddau y cydymffurfiwyd â'r terfyn fferm gyfan ar gyfer moch a dofednod, rhaid cymryd pedair sampl i'w dadansoddi mewn blwyddyn galendr (gan gymryd un ym mhob chwarter) o domenni tail nad ydynt yn fwy na 12 mis oed.
(5) Rhaid dodi'r is-samplau ar hambwrdd neu ddalen sy'n lân a sych.
(6) Rhaid i unrhyw dalpiau gael eu torri a rhaid cymysgu'r is-samplau â'i gilydd yn drylwyr.
(7) Rhaid i sampl nodweddiadol, sy'n pwyso o leiaf 2 kg, gael ei hanfon wedyn i gael ei dadansoddi.
Rheoliadau 27 a 29
Y cnwd | Y gyfradd uchaf o nitrogen (kg/hectar) |
---|---|
a
Rhaid peidio â thaenu nitrogen ar y cnydau hyn ar ôl 31 Hydref. |
|
b
Caniateir i 50 kg ychwanegol o nitrogen yr hectar gael ei daenu bob pedair wythnos yn ystod y cyfnod gwaharddedig hyd at ddyddiad y cynhaeaf. |
|
c
Caniateir i uchafswm o 40 kg o nitrogen yr hectar gael ei daenu ar unrhyw un adeg. |
|
Rêp had olew, gaeafa | 30 |
Merllys | 50 |
Bresychb | 100 |
Glaswellta c | 80 |
Sgaliwns wedi'u gaeafu | 40 |
Perllys | 40 |
Winwns | 40 |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli, i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru, y darpariaethau (fel y'u nodir yn rheoliad 50) a oedd yn rheoli'r broses o ddodi gwrtaith nitrogen mewn ardaloedd sy'n agored i niwed gan nitradau.
O ran Cymru, mae'r Rheoliadau hyn yn parhau i weithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 91/676/EEC ynghylch diogelu dyfroedd rhag llygredd gan nitradau o ffynonellau amaethyddol (OJ Rhif L375, 31.12.91, t.1).
Mae'r prif newidiadau fel a ganlyn.
Mae'r Rheoliadau hyn yn ychwanegu at yr ardaloedd sydd wedi'u dynodi'n barthau perygl nitradau.
Mae'r lefel flynyddol a ganiateir ar gyfer dodi nitradau ar ffurf tail da byw ar laswelltir mewn parth perygl nitradau wedi'i lleihau o 250 kg/ha i 170 kg/ha (o'r blaen yr oedd y terfyn is yn gymwys i dir nad oedd yn laswelltir).
Mae'r Rheoliadau hyn yn newid y cyfnod pan na chaniateir i dail organig gael ei daenu mewn parth perygl nitradau, ac yn cynyddu faint o le y mae'n ofynnol ei gael ar gyfer storio tail organig.
Mae Rhan 2 o'r Rheoliadau hyn yn dynodi parthau perygl nitradau, ac yn sefydlu gweithdrefn ar gyfer apelio yn erbyn y dynodiad.
Mae Rhan 3 yn gosod terfynau blynyddol ar faint o nitrogen o dail organig y caniateir ei ddodi neu ei daenu ar ddaliad mewn parth perygl nitradau.
Mae Rhan 4 yn sefydlu gofynion ynghylch faint o nitrogen sydd i'w daenu ar gnwd, ac yn ei gwneud yn ofynnol i feddiannydd gynllunio ymlaen llaw faint o wrtaith nitrogen a gaiff ei daenu.
Mae Rhan 5 yn ei gwneud yn ofynnol i feddiannydd ddarparu map risg o'r daliad (rheoliad 18), ac yn gosod amodau ar sut, ble a phryd y dylid taenu gwrtaith nitrogen.
Mae Rhan 6 yn sefydlu cyfnodau gwaharddedig pryd y gwaherddir taenu gwrtaith nitrogen.
Mae Rhan 7 yn gwneud darpariaeth ar gyfer sut mae'n rhaid storio gwrtaith nitrogen, ac yn ei gwneud yn ofynnol bod lle ar gael i storio'r tail a gynhyrchir ar y daliad yn ystod y cyfnod a bennir yn y Rhan honno.
Mae Rhan 8 yn pennu pa gofnodion y mae'n rhaid eu cadw.
Mae Rhan 9 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru adolygu'r Rheoliadau o fewn amserlenni gosodedig.
Mae'r Rheoliadau hyn i'w gorfodi gan Asiantaeth yr Amgylchedd.
Mae torri'r Rheoliadau hyn yn dramgwydd sy'n dwyn cosb–
(a) ar gollfarn ddiannod, o ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol, neu
(b) ar gollfarn ar dditiad, o ddirwy.
Mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi'i baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn ac mae copi ar gael oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
Gweler O.S. 2001/2555 am y dynodiad a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Yn rhinwedd adran 59 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a pharagraff 28(1) o Atodlen 11 iddi, mae'r dynodiad hwnnw wedi'i freinio bellach yng Ngweinidogion Cymru. Back [1]
1972 p. 68. Back [2]
O.S. 1996/888. Back [3]
O. S. 2002/2297 (Cy. 226). Back [4]
OJ Rhif L330, 5.12.1998, t. 32. Back [5]
OJ Rhif L375, 31.12. 991, t. 1, fel y'i diwygiwyd gan Reoliad (EC) 1882/2003 (OJ Rhif L284, 31.10.2003, t. 1). Back [6]
1981 p. 69. Back [7]
OJ Rhif L160, 26.6.1999, t. 80. Back [8]
OJ Rhif L277, 21.10.2005, t. 1. Back [9]
Mae'r Pwyllgor Cynghori ar Safonau Organig yn gorff cyhoeddus anweithredol ac anadrannol sy'n cymeradwyo cyrff arolygu organig. Back [10]
Mae'r cynllun yn cael ei weinyddu gan Basis Registration Ltd, a gellir cael rhestr o bersonau cymwysedig oddi wrth y cwmni drwy wneud cais neu ar ei wefan www.basis-reg.com. Back [11]
O. S. 1996/888. Back [12]
O.S. 1998/1202. Back [13]
O.S. 2002/2297 (Cy. 226). Back [14]
O.S. 2006/1289. Back [15]