BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) (Diwygio) 2009 No. 54 (Cy. 18)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20090054_we_1.html

[New search] [Help]


 

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) (Diwygio) 2009

Gwnaed

19 Ionawr 2009

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

20 Ionawr 2009

Yn dod i rym

10 Chwefror 2009

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 130, 131, 132 a 203 (9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1) drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) (Diwygio) 2009.

(2) Daw'r rheoliadau hyn i rym ar 10 Chwefror 2009.

(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(4) Yn y Rheoliadau hyn ystyr "y prif Reoliadau"("the principal Regulations") yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) 2007(2).

Diwygio rheoliad 14 o'r Prif Reoliadau

2. Ar ddiwedd rheoliad 14 o'r prif Reoliadau ychwaneger y paragraff a ganlyn–

"(6) Pan fo ceisydd yn aelod o briodas amlgymar, rhaid cyfrifo adnoddau a gofynion aelodau'r briodas honno yn yr un dull â rhai'r ceisydd a rhaid iddynt gael eu hystyried fel petaent yn adnoddau a gofynion y ceisydd, ac eithrio y caiff y swm cymwysadwy ei gyfrifo yn unol â rheoliad 18 o'r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm.".

Diwygio Atodlen 1 i'r prif Reoliadau, Tabl A

3. Yn Atodlen 1 i'r prif Reoliadau (Addasu Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987 (3)), Tabl A–

(a) yng ngholofn (2) o'r cofnod sy'n ymwneud â rheoliad 40 (cyfrifo incwm heblaw enillion), mewnosoder ar y diwedd–

(b) yng ngholofn (2) o'r cofnod sy'n ymwneud ag Atodlen 8 (symiau i'w diystyru wrth gyfrifo enillion), ar ôl yr ail gofnod ar gyfer paragraff 4 mewnosoder–

Diwygio Atodlen 1 i'r prif Reoliadau, Tabl B

4. Yn Atodlen 1 i'r prif Reoliadau (Addasu Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987, yn Nhabl B–

(a) yng ngholofn (2) ar ôl y cofnod cyntaf sy'n ymwneud â rheoliad 18(1) , mewnosoder y cofnod a ganlyn–

(b) yng ngholofn (2) o'r cofnod sy'n ymwneud ag Atodlen 2–

(i) ar ôl yr ail gofnod rhodder–

(ii) yn lle'r cofnod sy'n ymwneud â pharagraff 11 (premiwm anabledd), rhodder–

Ar ôl paragraff 11 mewnosoder–

"11A.–(1) The additional conditions referred to in paragraph 11(1)(b) are–

(a) the claimant is a member of a couple and a member of that couple has been awarded employment and support allowance which includes an ESA component; or

(b) the claimant is a member of a couple and a member of that couple has been in receipt of employment and support allowance for 28 weeks, or is incapable of work and has been incapable of work for a continuous period of not less than 28 weeks which starts no earlier than 27 October 2008.

(2) The additional conditions referred to in paragraph 11(1)(c) are–

(a) the claimant is a single claimant or a lone parent who is in receipt of an employment and support allowance which includes a support component;

(b) the claimant is a single claimant or lone parent who is in receipt of an employment and support allowance which includes a work-related activity component;

(c) the claimant is a single claimant or lone parent who has been in receipt of employment and support allowance for a period of 28 weeks, or is incapable of work and has been incapable of work for a continuous period of not less than 28 weeks which starts no earlier than 27 October 2008;

(d) the claimant is a–

(i) single claimant or lone parent;

(ii) severely disabled person within the meaning of paragraph 13(2)(a)(i); and

(iii) person who has been in receipt of employment and support allowance for a period of not less than 28 weeks, or is incapable of work and has been incapable of work for a continuous period of not less than 28 weeks which starts no earlier than 27 October 2008.

(3) In this paragraph–

"employment and support allowance" means an employment and support allowance under Part 1 of the Welfare Reform Act;

"ESA component" means either a support component or a work-related activity component; and

"support component" and "work-related activity component" have the same meanings as in section 4 of that Act.""; a

(iii) ar ôl y cofnod sy'n ymwneud â pharagraff 13 (2)(a)(ii) a (b)(iii) mewnosoder–

Ar ôl 13A(2) rhodder–

"(3) In this paragraph "employment and support allowance" means an employment and support allowance under Part 1 of the Welfare Reform Act and "support component" has the same meaning as in section 4 of that Act.".

Ym mharagraff 15(4)(a) (swm wythnosol o bremiwm anabledd) yn lle'r cofnod yn y golofn chwith rhodder–

"(a) where the condition in paragraph 11(1)(a) is satisfied or the condition in paragraph 11(1)(c) and an additional condition in paragraph 11(2)(b) or (c) are satisfied;"

Ar ôl paragraff 15(4)(a) rhodder y cofnod a ganlyn–

"(aa) where the (aa) an amount condition in equal to the paragraph 11(1)(c) component in and an additional paragraph 13 of condition in Schedule 4 to the paragraph 11A(2) Employment and

(a) or (d) are Support Allowance satisfied; Regulations."

Ym mharagraff 15(4)(b) (swm wythnosol o bremiwm anabledd) yn lle'r cofnod yn y golofn chwith rhodder –

"(b) where the condition in paragraph 11(1)(b) and an additional condition in paragraph 11A(1) or paragraph 12 are satisfied.".

Edwina Hart

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

19 Ionawr 2009

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) 2007 ("y prif Reoliadau").

Mae'r prif Reoliadau yn gwneud darpariaeth fel bod pobl sydd naill ai'n cael budd-daliadau penodol oddi wrth y wladwriaeth neu sydd ar incwm isel yn cael peidio â thalu taliadau penodol neu gael ad-daliad ohonynt, a'r taliadau hynny fel arall yn daladwy o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 ("taliadau GIG") a chael taliad am dreuliau teithio a dynnwyd wrth gael gwasanaeth GIG penodol ("treuliau teithio GIG").

Wrth gyfrifo adnoddau a gofynion person o dan y prif Reoliadau er mwyn canfod a oes gan berson hawl i beidio â thalu taliadau GIG a chael taliad am dreuliau teithio GIG, defnyddir fersiwn addasedig o Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987 ("y Rheoliadau Cymhorthdal Incwm").

Mae rheoliad 2 yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyfrifo adnoddau a gofynion aelodau o briodasau amlgymar.

Mae rheoliad 3 yn darparu, pan fo person sy'n cael lwfans cyflogaeth a chymorth a bod sancsiwn yn ei erbyn o dan reoliad 63 o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008, bod hawl y person hwnnw i beidio â thalu taliadau GIG ac i gael taliad am dreuliau GIG yn cael ei chyfrifo fel na bai'r sancsiwn yn ei erbyn. Mae rheoliad 3 hefyd yn darparu ar gyfer diystyriadau penodol i bobl sy'n ymgymryd â gwaith esempt o dan reoliad 45 o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008.

Mae rheoliad 4 yn darparu ar gyfer pobl o dan 25 oed gael eu cynnwys wrth gyfrifo eu hawl i beidio â thalu taliadau GIG a chael taliad am dreuliau teithio GIG a lwfans personol o swm sydd gymaint â'r swm ar gyfer person sy'n 25 oed neu'n hyn. Bydd hyn yn gymwys i bobl sydd naill ai yn cael lwfans cyflogaeth a chymorth ac y dyfarnwyd cydran lwfans cyflogaeth a chymorth iddynt, neu sy'n analluog i weithio am gyfnod parhaus o 28 wythnos ers 27 Hydref 2008. Mae rheoliad 3 hefyd yn darparu ar gyfer cynnwys amryw o bremiymau wrth gyfrifo ar gyfer hawl i gael peidio â thalu taliadau GIG ac i gael taliad am dreuliau teithio GIG ac i'r bobl hynny sy'n cael lwfans cyflogaeth a chymorth.

(1)

2006 p.42. Back [1]

(2)

O.S. 2007/1104 (Cy.116). Back [2]

(3)

O.S. 1987/1967; gwnaed diwygiadau perthnasol gan O.S. 2008/1554 a 2586 (Cy.226). Back [3]

(4)

Gweler y diffiniad o "Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn rheoliad 2(1) o O.S. 1987/1967 fel y'i mewnosodwyd gan O.S. 2008/1554. Back [4]

(5)

Mewnosodwyd paragraff 13A i Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) gan O.S. 2000/2629. Back [5]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20090054_we_1.html