BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau Newid Amserau Sesiynau Ysgolion (Cymru) 2009 No. 572 (Cy. 54)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20090572_we_1.html

[New search] [Help]


 

Rheoliadau Newid Amserau Sesiynau Ysgolion (Cymru) 2009

Gwnaed

9 Mawrth 2009

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

10 Mawrth 2009

Yn dod i rym

1 Ebrill 2009

Drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 32 a 210 o Ddeddf Addysg 2002(1), mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Newid Amserau Sesiynau Ysgolion (Cymru) 2009 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2009.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dirymu

2. Dirymir Rheoliadau Newid Amserau Sesiynau Ysgolion (Cymru) 2000(2).

Y weithdrefn ar gyfer newid amserau sesiynau ysgolion gan awdurdod addysg lleol

3.–(1) Pan fo awdurdod addysg lleol yn bwriadu dyroddi hysbysiad o dan adran 32(6) o Ddeddf Addysg 2002 i gorff llywodraethu ysgol, rhaid iddo wneud y canlynol–

(a) cyn cymryd unrhyw un o'r camau a grybwyllir ym mharagraffau (b) i (dd), ymgynghori â'r corff llywodraethu, y pennaeth a holl staff arall yr ysgol;

(b) paratoi datganiad–

(i) yn dynodi ei fod yn bwriadu newid amserau sesiynau'r ysgol,

(ii) yn pennu'r newid arfaethedig a pha bryd y bwriedir iddo ddod i rym,

(iii) yn rhoi manylion dyddiad, amser a lle'r cyfarfod y mae'n ofynnol iddo ei gynnal yn rhinwedd paragraff (d) ac yn esbonio y caiff y sawl nad yw'n gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod gyflwyno sylwadau ysgrifenedig ar y newid arfaethedig cyn i'r cyfarfod ddigwydd;

(c) cynhyrchu'r datganiad hwnnw ac unrhyw atodiad mewn unrhyw iaith neu ieithoedd (yn ychwanegol at Gymraeg neu Saesneg), os oes y cyfryw, ag y mae'n ei ystyried yn briodol;

(ch) cymryd unrhyw gamau sy'n rhesymol ymarferol i sicrhau–

(i) bod rhieni pob disgybl sydd wedi'i gofrestru yn yr ysgol yn cael copi o'r datganiad (yn rhad ac am ddim) o leiaf bythefnos cyn y cyfarfod y mae'n ofynnol iddo'i gynnal yn rhinwedd paragraff (d), a

(ii) bod copïau o'r datganiad ar gael i'w weld (ar bob adeg resymol ac yn rhad ac am ddim) yn yr ysgol yn ystod y pythefnos yn union cyn y cyfarfod hwnnw;

(d) rhoi cyfle i drafod yr hyn a fwriedir mewn cyfarfod sy'n agored i–

(i) pob rhiant i bob disgybl cofrestredig yn yr ysgol,

(ii) y pennaeth a holl staff arall yr ysgol,

(iii) aelodau'r corff llywodraethu,

(iv) unrhyw bersonau eraill y caiff yr awdurdod addysg lleol eu gwahodd;

(dd) ystyried unrhyw sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd yn unol â pharagraff (b)(iii) ac unrhyw sylwadau a wnaed yn y cyfarfod ar yr hyn a fwriedir cyn penderfynu a ddylid newid yr amserau hynny o gwbl ac (os felly) a ddylid gweithredu'r bwriad gydag unrhyw addasiad neu heb ei addasu.

(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), os bydd yr awdurdod addysg lleol yn penderfynu gweithredu'r newid arfaethedig (naill ai gydag addasiad neu heb ei addasu), rhaid iddo, o leiaf dri mis cyn y bydd unrhyw newid yn dod i rym–

(i) hysbysu'r corff llywodraethu a'r pennaeth o'r newid a pha bryd y bydd yn dod i rym, a

(ii) cymryd unrhyw gamau sy'n rhesymol ymarferol i sicrhau bod rhieni pob disgybl a gofrestrwyd yn yr ysgol yn cael eu hysbysu o hynny.

(3) Rhaid gweithredu newid i amserau sesiwn ysgol fel mai ar ddechrau blwyddyn ysgol yn unig y bydd yn dod i rym.

(4) Mae dull gweithredu unrhyw gyfarfod a gynhelir yn rhinwedd paragraff (1)(d) i fod dan reolaeth yr awdurdod addysg lleol.

Y weithdrefn ar gyfer newid amserau sesiynau ysgolion gan gorff llywodraethu

4.–(1) Pan fo corff llywodraethu ysgol gymunedol, ysgol wirfoddol a reolir neu ysgol arbennig gymunedol neu ysgol feithrin a gynhelir yn bwriadu gwneud unrhyw newid i amserau sesiynau'r ysgol (neu os mai un yn unig sydd, i sesiwn ysgol), rhaid iddo wneud y canlynol –

(a) cyn cymryd unrhyw un o'r camau a grybwyllir ym mharagraff (b) i (e), ymgynghori â'r awdurdod addysg lleol, y pennaeth a holl staff arall yr ysgol;

(b) paratoi datganiad–

(i) yn dynodi ei fod yn bwriadu newid yr amserau hynny,

(ii) yn pennu'r newid arfaethedig a pha bryd y bwriedir iddo ddod i rym,

(iii) yn tynnu sylw at unrhyw sylwadau ar yr hyn a fwriedir fel y'i rhoddir yn yr atodiad i'r datganiad yn rhinwedd paragraff (c) a chynnwys unrhyw ymateb i'r sylwadau ag y mae'n ei ystyried yn briodol, a

(iv) yn rhoi manylion dyddiad, amser a lleoliad y cyfarfod y mae'n ofynnol iddo'i gynnal yn rhinwedd paragraff (dd) ac yn esbonio y caiff y sawl nad yw'n gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod gyflwyno sylwadau ysgrifenedig ar y newid arfaethedig cyn i'r cyfarfod ddigwydd;

(c) os yw'r awdurdod addysg lleol yn gwneud hynny'n ofynnol ganddo, cynnwys fel atodiad i'r datganiad hwnnw unrhyw sylw ysgrifenedig y caiff yr awdurdod ei ddarparu at y diben hwnnw;

(ch) cynhyrchu'r datganiad hwnnw ac unrhyw atodiad mewn unrhyw iaith neu ieithoedd (yn ychwanegol at Gymraeg neu Saesneg), os oes y cyfryw, ag y mae'n ei ystyried yn briodol neu yn ôl fel y caiff yr awdurdod addysg lleol gyfarwyddo;

(d) cymryd unrhyw gamau sy'n rhesymol ymarferol i sicrhau–

(i) bod rhieni pob disgybl sydd wedi'i gofrestru yn yr ysgol yn cael copi o'r datganiad ac unrhyw atodiad (yn rhad ac am ddim) o leiaf bythefnos cyn y cyfarfod y mae'n ofynnol iddo'i gynnal yn rhinwedd paragraff (dd), a

(ii) bod copïau o'r datganiad ac unrhyw atodiad ar gael i'w gweld (ar bob adeg resymol ac yn rhad ac am ddim) yn yr ysgol yn ystod y pythefnos yn union cyn y cyfarfod hwnnw;

(dd) rhoi cyfle i drafod yr hyn a fwriedir mewn cyfarfod sy'n agored i–

(i) pob rhiant i bob disgybl cofrestredig yn yr ysgol,

(ii) y pennaeth a holl staff arall yr ysgol, a

(iii) unrhyw bersonau eraill y caiff y corff llywodraethu eu gwahodd;

(e) ystyried unrhyw sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd yn unol â pharagraff (b)(iv) ac unrhyw sylwadau a wnaed yn y cyfarfod ar yr hyn a fwriedir cyn penderfynu a ddylid newid yr amserau hynny o gwbl ac (os felly) a ddylid gweithredu'r bwriad gydag unrhyw addasiad neu heb ei addasu.

(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), os bydd y corff llywodraethu yn penderfynu gweithredu'r newid arfaethedig (naill ai gydag addasiad neu heb ei addasu), rhaid iddo, o leiaf chwe wythnos cyn y bydd unrhyw newid yn yr amserau hynny yn dod i rym–

(i) hysbysu'r awdurdod lleol addysg o'r newid a pha bryd y bydd yn dod i rym, a

(ii) cymryd unrhyw gamau sy'n rhesymol ymarferol i sicrhau bod rhieni pob disgybl a gofrestrwyd yn yr ysgol yn cael eu hysbysu o hynny.

(3) Pan fo'r newid yn ymwneud â–

(a) yr amserau pan yw'r sesiwn ysgol gyntaf i ddechrau neu pan yw'r ail sesiwn ysgol i ddiweddu (neu'r ddau), neu

(b) os mae un sesiwn yn unig sydd, yr amser pan yw i ddechrau neu ddiweddu (neu'r ddau),

rhaid i'r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (2) beidio â bod yn llai na thri mis.

(4) Rhaid gweithredu newid i amserau sesiwn ysgol fel y bydd yn dod i rym–

(a) pan fo paragraff (3) yn gymwys, ar ddechrau blwyddyn ysgol; a

(b) ym mhob achos arall, ar ddechrau tymor ysgol.

(5) Mae dull gweithredu unrhyw gyfarfod a gynhelir yn rhinwedd paragraff (1)(dd) i fod dan reolaeth y corff llywodraethu.

Ieuan Wyn Jones

Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru.

9 Mawrth 2009

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae adran 32 o Ddeddf Addysg 2002, fel y'i diwygiwyd gan Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008, yn gosod pwy sydd â'r cyfrifoldeb dros benderfynu dyddiadau tymhorau ysgolion, gwyliau ysgolion ac amserau sesiynau ysgolion. I ysgolion sefydledig, ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion arbennig sefydledig, y corff llywodraethu sy'n penderfynu'r tri pheth hyn, ac i ysgolion cymunedol, ysgolion gwirfoddol a reolir, ysgolion arbennig cymunedol ac ysgolion meithrin a gynhelir, y corff llywodraethu sy'n penderfynu amserau sesiynau'r ysgol (gyda'r awdurdod addysg lleol yn penderfynu dyddiadau tymhorau'r ysgol a'r gwyliau). Pan fo awdurdod addysg lleol o'r farn, fodd bynnag, fod newid yn amserau sesiynau unrhyw ysgol a gynhelir yn angenrheidiol neu'n hwylus er mwyn hyrwyddo defnyddio dulliau cynaliadwy o deithio neu er mwyn gwneud ei drefniadau teithio yn fwy effeithiol neu effeithlon, caiff yr awdurdod hwnnw benderfynu amser dechrau sesiwn gyntaf yr ysgol ac amser diweddu ei hail sesiwn (neu, os nad oes ond un sesiwn, amser ei dechrau a'i diwedd).

Mae rheoliad 2 o'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Newid Amserau Sesiynau Ysgolion (Cymru) 2000 sy'n gosod y gweithdrefnau y mae cyrff llywodraethu ysgolion cymunedol, ysgolion gwirfoddol a reolir, ysgolion arbennig cymunedol ac ysgolion meithrin a gynhelir i'w dilyn cyn newid amserau sesiynau ysgolion.

Mae rheoliad 3 yn gosod y gweithdrefnau sydd i'w dilyn gan awdurdod addysg lleol pan fydd yr awdurdod hwnnw yn bwriadu newid amser sesiwn ysgol gymunedol, ysgol wirfoddol a reolir, ysgol arbennig gymunedol, ysgol feithrin a gynhelir, ysgol sefydledig, ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu ysgol arbennig sefydledig. Mae'r gweithdrefnau hyn yn cynnwys ymgynghori â'r corff llywodraethu, â phennaeth a staff arall yr ysgol, a chynnal cyfarfod â rhieni disgyblion yr ysgol. Rhaid i'r awdurdod roi o leiaf dri mis o hysbysiad o'r newid, a dim ond ar ddechrau'r flwyddyn ysgol y gellir dod â'r newid hwnnw i rym.

Mae rheoliad 4 yn ailddeddfu'r ddarpariaeth a wnaed gan Reoliadau 2000, sy'n ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu ysgol gymunedol, ysgol wirfoddol a reolir, ysgol arbennig gymunedol neu ysgol feithrin a gynhelir ymgynghori â'r awdurdod addysg lleol ac â staff yr ysgol ac i gynnal cyfarfod â rhieni disgyblion yr ysgol cyn gwneud newid. Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys i ysgolion sefydledig, ysgolion gwirfoddol a gynhelir ac ysgolion arbennig sefydledig. Os mai newid i'r amser y bydd sesiwn ysgol yn dechrau yn y bore neu'n diweddu yn y prynhawn yw'r newid, rhaid i'r corff llywodraethu roi o leiaf dri mis o hysbysiad o'r newid a dim ond ar ddechrau'r flwyddyn ysgol y gellir dod â'r newid i rym. Fel arall rhaid i'r corff llywodraethu roi o leiaf chwe wythnos o hysbysiad, a dim ond ar ddechrau tymor ysgol y gellir dod â'r newid i rym.

(1)

p.32. Diwygiwyd adrannau 32 a 210 gan adran 21 o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 (2008 mccc 2). Back [1]

(2)

O.S. 2000/2030 (Cy.143). Back [2]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20090572_we_1.html