BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Diwygio) 2009 No. 823 (Cy. 73) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20090823_we_1.html |
[New search] [Help]
Gwnaed
31 Mawrth 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
1 Ebrill 2009
Yn dod i rym
22 Ebrill 2009
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 94(5A), 95(3A) a 138(7) ac (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2), ac ar ôl ymgynghori â'r Cyngor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd yn unol ag Atodlen 7 i Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodi 2007(3), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Diwygio) 2009, a deuant i rym ar 22 Ebrill 2009.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2.–(1) Mae Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) 2005(4) wedi'u diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 6(2)(a), yn lle "yn ei wneud", rhodder "wedi ei wneud".
(3) Yn lle Atodlen 2, rhodder y canlynol –
Rheoliad 5
1.–(1) Yn y paragraff hwn–
ystyr "apêl" yw apêl a wneir o dan y trefniadau a bennir yn rheoliad 3(a) i (ch); ac ystyr "penderfyniad ynghylch addysg chweched dosbarth" yw penderfyniad–
a wneir mewn perthynas â hoff ddewis sydd wedi'i fynegi yn unol â'r trefniadau a wneir o dan adran 86A(1) ynghylch lle dylid darparu addysg i blentyn; neu
sy'n gwrthod caniatâd i blentyn i fynd i chweched dosbarth yr ysgol y mae'r plentyn wedi'i dderbyn iddi.
(2) Rhaid i fanylion y trefniadau ar gyfer gwneud apêl, gan gynnwys yr wybodaeth sy'n cynnwys y manylion cyswllt ar gyfer pa gorff neu gyrff bynnag sy'n gyfrifol am y trefniadau hynny, gael eu rhoi mewn unrhyw ddogfen sy'n cynnwys hysbysiad i rieni am–
(a) penderfyniad y cyfeirir ato yn adran 94(1)(za), (b) a (2) ac sy'n gwrthod derbyn eu plentyn i ysgol y mae'r rhieni wedi mynegi mai hi yw eu hoff ddewis yn unol â'r trefniadau a wneir o dan adran 86(1); neu
(b) penderfyniad y cyfeirir ato yn adran 94(1)(a) o ran yr ysgol y mae addysg i'w darparu ynddi i'w plentyn.
(3) Yn achos penderfyniad ynghylch addysg chweched dosbarth, rhaid anfon at y plentyn a rhieni'r plentyn hysbysiadau sy'n cynnwys y canlynol–
(a) hysbysiad o–
(i) penderfyniad y cyfeirir ato yn adran 94(1)(za), (b) a (2) ac sy'n gwrthod derbyn y plentyn i ysgol y mae'r plentyn neu unrhyw un o rieni'r plentyn wedi mynegi mai hi yw eu hoff ddewis yn unol â'r trefniadau a wneir o dan adran 86A(1);
(ii) penderfyniad y cyfeirir ato yn adran 94(1)(a) o ran yr ysgol y mae addysg i'w darparu ynddi i'r plentyn; neu
(iii) penderfyniad y cyfeirir ato yn adran 94(1A) neu (2A) ac sy'n gwrthod caniatâd i blentyn sydd eisoes wedi'i dderbyn i ysgol i fynd i chweched dosbarth yr ysgol honno;
(b) manylion y trefniadau ar gyfer gwneud apêl, gan gynnwys gwybodaeth sy'n cynnwys y manylion cyswllt ar gyfer yr awdurdod priodol; ac
(c) pan fo plentyn ac unrhyw un o rieni'r plentyn yn gwneud apelau ar wahân mewn cysylltiad â'r un ysgol, datganiad sy'n esbonio bod rhaid i'r apelau gael eu gwrando gyda'i gilydd.
(4) Pan fo plentyn ac unrhyw un o rieni'r plentyn yn gwneud apelau ar wahân mewn cysylltiad â'r un ysgol, rhaid i'r apelau gael eu gwrando gyda'i gilydd.
(5) Rhaid i apêl fod drwy hysbysiad ysgrifenedig sy'n nodi'r sail dros ei gwneud.
(6) Rhaid i banel apêl roi cyfle i'r apelydd ymddangos a gwneud sylwadau llafar, a chaniatáu iddo gael ei hebrwng gan gyfaill neu gael ei gynrychioli.
(7) Rhaid i apêl gael ei gwrando'n breifat ac eithrio pan fydd y corff neu'r cyrff sydd wedi gwneud y trefniadau o dan adran 94 yn cyfarwyddo fel arall; ond–
(a) os yw'r panel yn cyfarwyddo hynny, caiff un aelod o'r awdurdod lleol fod yn bresennol, fel sylwedydd, mewn unrhyw wrandawiad apêl gan banel apêl a gyfansoddir yn unol â pharagraff 1 o Atodlen 1;
(b) os yw'r panel yn cyfarwyddo hynny, caiff un aelod o gorff llywodraethu'r ysgol o dan sylw fod yn bresennol, fel sylwedydd, mewn unrhyw wrandawiad apêl gan banel apêl a gyfansoddir yn unol â pharagraff 1 neu 2 o Atodlen 1 (neu yn unol â pharagraff 2 fel y mae'n gymwys yn rhinwedd paragraff 3 o'r Atodlen honno); ac
(c) os yw'r panel yn cyfarwyddo hynny, caiff unrhyw berson fod yn bresennol mewn gwrandawiad o apêl at y dibenion canlynol–
(i) hyfforddiant; neu
(ii) arfarnu perfformiad y clercod neu aelodau o'r panel apêl.
(8) At ddibenion is-baragraff (7), mae apêl at banel apêl a gyfansoddir yn unol â pharagraff 1 o Atodlen 1, fel y mae'n gymwys yn rhinwedd paragraff 4 o'r Atodlen honno, i'w thrin–
(a) yn apêl at banel apêl a gyfansoddir yn unol â pharagraff 1 o'r Atodlen honno os yw'n ymwneud ag ysgol gymunedol neu ysgol wirfoddol a reolir; a
(b) yn apêl at banel apêl a gyfansoddir yn unol â pharagraff 2 o'r Atodlen honno, os yw'n ymwneud ag ysgol sylfaen neu ysgol wirfoddol a gynorthwyir.
(9) Os bydd aelodau panel apêl yn anghytuno â'i gilydd, bydd yr apêl sy'n cael ei hystyried i'w phenderfynu gan fwyafrif syml o'r pleidleisiau a fwriwyd ac, os bydd nifer y pleidleisiau yn gyfartal, bydd gan gadeirydd y panel ail bleidlais neu bleidlais fwrw.
(10) Rhaid rhoi gwybod am benderfyniad panel apêl a'r sail dros ei gwneud yn ysgrifenedig i'r canlynol–
(a) yr apelydd a'r awdurdod lleol;
(b) yn achos apêl sy'n cael ei gwrando ar y cyd ag apêl arall yn unol â pharagraff 1(4), yr apelydd yn yr apêl arall; ac
(c) yn achos apêl i banel apêl a gyfansoddir yn unol â pharagraff 2 o Atodlen 1, (neu yn unol â'r paragraff hwnnw fel y mae'n gymwys yn rhinwedd paragraff 3 o'r Atodlen honno), i'r corff llywodraethu a wnaeth y penderfyniad yr apeliwyd yn ei erbyn neu'r corff llywodraethu yr apeliwyd yn erbyn y penderfyniad a wnaed ar ei ran.
(11) At ddibenion is-baragraff (10), bydd apêl i banel apêl a gyfansoddir yn unol â pharagraff 1 o Atodlen 1, fel y mae'n gymwys yn rhinwedd paragraff 4 o'r Atodlen honno, i'w thrin fel apêl i banel apêl a gyfansoddir yn unol â pharagraff 2 o'r Atodlen honno, os bydd yn ymwneud ag ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol a gynorthwyir.
(12) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) i (11), bydd pob mater sy'n ymwneud â'r weithdrefn apelio, gan gynnwys y cyfnod y maent i'w dwyn o'i fewn, i'w penderfynu gan yr awdurdod priodol.
2.–(1) Yn y paragraff hwn ystyr "apêl" yw apêl a wneir o dan y trefniadau a bennir yn rheoliad 3(e).
(2) Pan fydd unrhyw benderfyniad o'r math a grybwyllir yn adran 95(2) wedi'i wneud gan yr awdurdod lleol neu ar ei ran, rhaid i'r awdurdod hysbysu corff llywodraethu'r ysgol yn ysgrifenedig am–
(a) y penderfyniad hwnnw; a
(b) hawl y corff llywodraethu i apelio yn erbyn y penderfyniad yn unol ag is-baragraff (3).
(3) Rhaid i unrhyw apêl gan y corff llywodraethu yn erbyn unrhyw benderfyniad o'r fath beidio â chael ei gwneud ar ôl y pymthegfed diwrnod ysgol ar ôl y diwrnod pan hysbysir ef o dan is-baragraff (2)
(4) Rhaid i apêl fod drwy hysbysiad ysgrifenedig sy'n nodi'r sail dros ei gwneud.
(5) Rhaid i'r panel apêl gyfarfod i ystyried apêl ar unrhyw ddyddiad y bydd yr awdurdod addysg lleol yn penderfynu arno ond rhaid i'r dyddiad y penderfynir arno felly beidio â bod ar ôl y pymthegfed diwrnod ysgol ar ôl y diwrnod y daw'r hysbysiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (4) i law'r awdurdod hwnnw.
(6) Ar apêl rhaid i'r panel ganiatáu–
(a) i'r awdurdod lleol a'r corff llywodraethu wneud sylwadau ysgrifenedig;
(b) i un o swyddogion yr awdurdod a enwebir gan yr awdurdod, a llywodraethwr a enwebir gan y corff llywodraethu, ymddangos a gwneud sylwadau llafar; ac
(c) i'r corff llywodraethu gael ei gynrychioli.
(7) Rhaid i apelau gael eu gwrando'n breifat ac eithrio pan fydd yr awdurdod lleol yn cyfarwyddo fel arall; ond–
(a) os yw'r panel yn cyfarwyddo hynny, caiff un aelod o'r awdurdod lleol fod yn bresennol, fel sylwedydd, mewn gwrandawiad o apêl gan banel apêl;
(b) os yw'r panel yn cyfarwyddo hynny, caiff unrhyw berson fod yn bresennol mewn unrhyw wrandawiad o apêl at y dibenion a ganlyn–
(i) hyfforddiant; neu
(ii) arfarnu perfformiad y clercod neu aelodau o'r panel apêl.
(8) Caniateir cyfuno dwy neu ragor o apelau ac ymdrin â hwy yn yr un achos os yw'r panel apêl yn ystyried bod hynny'n hwylus oherwydd mai'r un rhai yw'r materion a godir gan yr apelau neu oherwydd eu bod yn gysylltiedig.
(9) Os bydd aelodau panel apêl yn anghytuno â'i gilydd, bydd yr apêl sy'n cael ei hystyried i'w phenderfynu gan fwyafrif syml o'r pleidleisiau a fwriwyd ac, os bydd nifer y pleidleisiau yn gyfartal, bydd gan gadeirydd y panel ail bleidlais neu bleidlais fwrw.
(10) Rhaid i'r panel roi gwybod am benderfyniad panel apêl a'r sail dros ei wneud–
(a) yn ysgrifenedig i'r awdurdod lleol a'r corff llywodraethu; a
(b) erbyn diwedd yr ail ddiwrnod ar ôl i wrandawiad yr apêl ddod i ben.
(11) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) i (10), mae pob mater sy'n ymwneud â'r weithdrefn apelio i'w benderfynu gan yr awdurdod addysg lleol."
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
31 Mawrth 2009
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) 2005, ac yn dod i rym ar 22 Ebrill 2009.
Mae'r diwygiad yn Rheoliad 2(2) yn ei gwneud yn ofynnol i Banelau Apêl sy'n gwrando apelau sy'n ymwneud â maint dosbarth babanod ystyried a oedd y penderfyniad gwreiddiol yn un y byddai awdurdod derbyn rhesymol wedi'i wneud o dan amgylchiadau'r achos.
Mae rheoliad 2 yn rhoi Atodlen 2(3) newydd yn lle'r hen un yn Rheoliadau 2005. Mae'r Atodlen newydd yn gwneud darpariaeth ar gyfer apelau mewn achosion lle mae penderfyniadau yn cael eu gwneud am blant sy'n mynd i'r chweched dosbarth, neu sy'n cael addysg ar ôl iddynt beidio â bod yn blant o oedran ysgol gorfodol. Mewn achosion lle mae'r plentyn ac unrhyw un o rieni'r plentyn yn gwneud apelau mewn cysylltiad â'r un ysgol, rhaid i'r apelau gael eu gwrando gyda'i gilydd. Mae'r Atodlen newydd yn dileu cyfeiriadau at y Cyngor Tribiwnlysoedd. Mae gan y Cyngor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd, sydd wedi disodli'r Cyngor Tribiwnlysoedd, hawl awtomatig i fod yn bresennol mewn gwrandawiadau y mae ganddo awdurdodaeth drostynt, ac felly nid oes angen mwyach am y darpariaethau a hepgorwyd. Ar ben hynny, caniateir i sylwedyddion fod yn bresennol mewn gwrandawiadau panelau apêl at ddibenion arfarnu a hyfforddi.
1998 p.31. Cafodd is-adran 94(5A) ei mewnosod gan adran 50, ac is-adran 95(3A) gan adran 51, Atodlen 4, paragraff 9 o Ddeddf Addysg 2002 (p.32). Back [1]
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adrannau hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac yna i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Back [2]
2007 p.15. Mae paragraff 24(1) o Atodlen 7 i Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodi 2007 yn cyfarwyddo nad yw p?er Gweinidogion Cymru i wneud, cymeradwyo neu gadarnhau rheolau gweithdrefnol ar gyfer unrhyw dribiwnlys rhestredig neu gydsynio â'r rheolau hynny yn arferadwy ond ar ôl iddynt ymgynghori â'r Cyngor. Back [3]
O.S. 2005/1398 (Cy.112). Back [4]