BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau Gwaith Stryd (Taliadau am Feddiannaeth a Ymestynnir yn Afresymol ar y Briffordd) (Cymru) 2009 No. 1268 (Cy. 115) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20091268_we_1.html |
[New search] [Help]
Gwnaed
19 Mai 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
22 Ebrill 2009
Yn dod i rym
1 Mehefin 2009
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 74, 97 a 104(1) a (3) o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991(1), ac a drosglwyddwyd ar ôl hynny i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy(2), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwaith Stryd (Taliadau am Feddiannaeth a Ymestynnir yn Afresymol ar y Briffordd) (Cymru) 2009. Deuant i rym ar 1 Mehefin 2009 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn y Rheoliadau hyn–
ystyr "adeg sydd yn sensitif i draffig" ("traffic-sensitive time"), o ran stryd sydd yn sensitif i draffig, yw–
yr amseroedd neu'r dyddiadau sydd wedi eu pennu yn achos dynodiad cyfyngedig; a
unrhyw adeg mewn unrhyw achos arall;
ystyr "Awdurdod Trwyddedau" ("Permit Authority") yw–
awdurdod priffyrdd lleol y gwnaed gorchymyn mewn perthynas ag ef o dan adran 34(4) o Ddeddf 2004; neu
Gweinidogion Cymru, fel awdurdod priffyrdd, y gwnaed gorchymyn mewn perthynas â hwy o dan adran 35(2) o'r Ddeddf honno,
sydd yn gweithredu cynllun trwyddedau;
ystyr "categori ffordd" ("road category") yw un o'r categorïau ffordd a bennir ym mharagraff 1.3.1 o Bennod S1 o'r cod ymarfer sy'n dwyn y teitl "Manyleb ar gyfer Adfer Agorfeydd mewn Priffyrdd", sy'n ddyddiedig Tachwedd 2006(3) ac a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru ar 7 Tachwedd 2006, fel y mae wedi ei ddiwygio neu ei ailgyhoeddi o bryd i'w gilydd;
mae i "cyfathrebiad electronig" yr ystyr a roddir i "electronic communication" yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebu Electronig 2000(4);
ystyr "cyfeiriad" ("address"), mewn perthynas â dull penodol o drosglwyddo cyfathrebiad electronig, yw unrhyw rif neu gyfeiriad a ddefnyddir at ddibenion dull trosglwyddo o'r fath;
ystyr "cyfnod rhagnodedig" ("prescribed period") yw'r cyfnod a ragnodir gan reoliad 6;
ystyr "Deddf 1984" ("the 1984 Act") yw Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984(5);
ystyr "Deddf 1991" ("the 1991 Act") yw Deddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991;
ystyr "Deddf 2004" ("the 2004 Act") yw Deddf Rheoli Traffig 2004(6);
ystyr "diwrnod" ("day") yw diwrnod gwaith;
ystyr "dynodiad cyfyngedig" ("limited designation") yw dynodiad yn unol â rheoliad 16(3) o Reoliadau Gwaith Stryd (Cofrestrau, Hysbysiadau, Cyfarwyddiadau a Dynodiadau) (Cymru) (Rhif 2) 2008(7), ar gyfer amseroedd penodol neu ar ddyddiadau penodol;
ystyr "echel safonol" ("standard axle") yw echel sy'n rhoi grym o 80 cilo Newton;
ystyr "y Fanyleb Dechnegol" ("the Technical Specification") yw'r Fanyleb Dechnegol ar gyfer Trosglwyddiad Electronig o Hysbysiadau a gynhyrchwyd gan yr Adran Drafnidiaeth ac sy'n ddyddiedig Rhagfyr 2008, fel y caiff ei diwygio neu ei hailgyhoeddi o bryd i'w gilydd;(8)
ystyr "gorchymyn cynllunio ar gyfer cerddwyr" ("pedestrian planning order") yw gorchymyn a wnaed o dan adran 249(2) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(9);
ystyr "gorchymyn traffig" ("traffic order") yw gorchymyn a wnaed o dan adran 1 neu 9 o Ddeddf 1984;
mae "gwaith adfer" ("remedial works") yn waith a gyflawnir o dan adran 72(3) o Ddeddf 1991;
mae "gwaith brys" ("urgent works")–
yn golygu gwaith stryd, ar wahân i waith argyfwng, y mae gofyn ei gyflawni ar yr adeg y caiff ei gyflawni (neu y mae'r sawl sy'n gyfrifol am y gwaith yn credu ar sail resymol fod gofyn hynny)–
er mwyn atal neu roi terfyn ar doriad anghynlluniedig ar unrhyw gyflenwad neu wasanaeth sy'n cael ei ddarparu gan ymgymerydd;
er mwyn osgoi colled sylweddol i ymgymerydd mewn perthynas â gwasanaeth presennol; neu
er mwyn ailgysylltu cyflenwadau neu wasanaethau pan fyddai gan ymgymerydd atebolrwydd sifil neu droseddol pe bai'r ailgysylltu'n cael ei ohirio tan ar ôl i'r cyfnod hysbysiad priodol ddod i ben; a
yn cynnwys gwaith na ellir ei wahanu'n rhesymol oddi wrth waith o'r fath.
ystyr "gwaith di-oed" ("immediate works") yw gwaith brys neu waith argyfwng(10);
ystyr "gwaith mawr" ("major works") yw–
gwaith stryd sydd wedi ei nodi yn rhaglen weithredu flynyddol ymgymerydd, neu a fuasai fel rheol yn gynlluniedig ac yn hysbys o leiaf chwe mis cyn dyddiad arfaethedig y gwaith, er nad oedd wedi ei nodi'n benodol mewn rhaglen o'r fath;
gwaith stryd, ar wahân i waith di-oed–
pan fo'r awdurdod strydoedd wedi dangos i ymgymerydd, neu
pan fo'r ymgymerydd o'r farn,
fod gorchymyn o dan adran 14 o Ddeddf 1984 (gwaharddiad dros dro neu gyfyngiad ar ffyrdd) yn angenrheidiol; neu
gwaith stryd, ar wahân i waith di-oed, y mae ei hyd arfaethedig yn fwy na deng niwrnod;
ystyr "gwaith safonol" ("standard works"), ac eithrio fel y darperir yn rheoliad 8(8), yw gwaith stryd, ar wahân i waith di-oed neu waith mawr, y mae ei hyd arfaethedig yn fwy na thri diwrnod ond yn ddim mwy na deng niwrnod;
mae i "llwybr ceffylau", "llwybr troed" a "troedffordd" yr ystyron a roddir i "bridleway", "footpath" a "footway" yn adran 329(1) o Ddeddf Priffyrdd 1980(11);
ystyr "mân waith" ("minor works"), ac eithrio fel y darperir yn rheoliad 8(8), yw gwaith stryd, ar wahân i waith di-oed neu waith mawr, y mae ei hyd arfaethedig yn ddim mwy na thri diwrnod;
ystyr "Rheoliadau 1992" ("the 1992 Regulations") yw Rheoliadau Gwaith Stryd (Cofrestrau, Hysbysiadau, Cyfarwyddiadau a Dynodiadau) 1992(12);
ystyr "stryd sydd yn sensitif i draffig" ("traffic-sensitive street") yw stryd sydd wedi ei dynodi'n un sensitif i draffig o dan adran 64 o Ddeddf 1991;
mae "trwydded" ("permit") a "cynllun trwyddedau" ("permit scheme") i gael eu dehongli yn unol ag adran 32 o Ddeddf 2004; ac
ystyr "ymgymerydd statudol" ("statutory undertaker") yw person sydd â'r hawl, yn rhinwedd hawl statudol, i gyflawni gwaith stryd.
3. Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i waith stryd yng Nghymru pan fo ymgymerydd wedi cyflwyno hysbysiad mewn perthynas ag ef o dan adran 54(1), 55(1) neu 57 o Ddeddf 1991 cyn y dyddiad y deuant i rym(13).
4. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i bob priffordd y gellir ei chynnal, ar wahân i lwybr troed, llwybr ceffylau, priffordd y mae gorchymyn cynllunio ar gyfer cerddwyr mewn grym mewn perthynas â hi, a phriffordd y mae gorchymyn traffig yn gwahardd defnydd ohoni gan draffig cerbydol, oni bai bod y gwaharddiad mewn grym ar adegau penodol yn unig.
5.–(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i ymgymerydd sy'n cyflawni gwaith stryd ar briffordd y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddi gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig o gychwyniad y gwaith hwnnw i'r awdurdod priffyrdd ar gyfer y briffordd honno, gan nodi'r stryd y mae'r gwaith i'w gyflawni ynddi ("hysbysiad o gychwyniad gwirioneddol ar waith"), ddim hwyrach na diwedd y diwrnod sy'n dilyn y dyddiad y cychwynnir y gwaith.
(2) Pan fo gwaith yn cael ei gyflawni o dan drwydded sydd wedi ei chaniatáu gan Awdurdod Trwyddedau mewn stryd sydd yn sensitif i draffig neu mewn stryd yng nghategori ffordd 0, 1 neu 2 nad yw'n stryd sydd yn sensitif i draffig, y cyfnod y mae'n rhaid i'r hysbysiad o gychwyniad gwirioneddol ar waith gael ei gyflwyno oddi mewn iddo yn unol â pharagraff (1) fydd y cyfnod sy'n gymwys yn rhinwedd paragraff 16.7 o'r Cod Ymarfer ar gyfer Trwyddedau dyddiedig Mehefin 2009.(14), fel y caiff ei ddiwygio neu ei ailgyhoeddi o bryd i'w gilydd.
(3) Pan fydd ymgymerydd–
(a) wedi cwblhau adferiad dros dro o briffordd;
(b) wedi symud ymaith–
(i) pob arwydd, golau ac eitem warchod, a
(ii) pob rwbel, defnyddiau nas defnyddiwyd ac offer arall sydd ar ôl; ac
(c) wedi adfer y briffordd yn llawn i ddefnydd cyhoeddus,
rhaid i'r ymgymerydd hwnnw hysbysu'r awdurdod priffyrdd fod hyn wedi ei wneud ("hysbysiad o fod yn glir o waith") ddim hwyrach na diwedd y diwrnod sy'n dilyn y dyddiad y cafodd y briffordd ei hadfer yn llawn i ddefnydd cyhoeddus.
(4) Pan fydd ymgymerydd–
(a) wedi cwblhau adferiad parhaol o briffordd;
(b) wedi symud ymaith–
(i) pob arwydd, golau ac eitem warchod, a
(ii) pob rwbel, defnyddiau nas defnyddiwyd ac offer arall sydd ar ôl; ac
(c) wedi adfer y briffordd yn llawn i ddefnydd cyhoeddus,
rhaid i'r ymgymerydd hwnnw hysbysu'r awdurdod priffyrdd fod hyn wedi ei wneud ("hysbysiad o gwblhau gwaith") ddim hwyrach na diwedd y diwrnod sy'n dilyn y dyddiad y cafodd y briffordd ei dychwelyd yn llawn i ddefnydd cyhoeddus.
6. Mewn perthynas ag ymgymerydd sy'n cyflawni gwaith stryd ar briffordd y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddi, bydd y cyfnod rhagnodedig o dan adran 74(1)(a) o Ddeddf 1991 yn ddau ddiwrnod, gan gychwyn ar y dyddiad y bydd y gwaith yn cychwyn.
7. At ddibenion y Rheoliadau hyn, ni fydd hyd gwaith stryd ond yn dod i ben pan fydd yr ymgymerydd–
(a) wedi cwblhau adferiad dros dro, neu adferiad parhaol yn ôl y digwydd, o briffordd;
(b) wedi symud ymaith–
(i) pob arwydd, golau ac eitem warchod, a
(ii) pob rwbel, defnyddiau nas defnyddiwyd ac offer arall sydd ar ôl; ac
(c) wedi adfer y briffordd yn llawn i ddefnydd cyhoeddus.
8.–(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2), (12) a (13), rhaid i ymgymerydd sy'n cyflawni gwaith stryd ar briffordd y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddi dalu i'r awdurdod priffyrdd swm sydd i'w bennu yn unol â pharagraffau (3) i (11).
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i–
(a) gwaith–
(i) mewn stryd nad yw'n sensitif i draffig,
(ii) ar droedffordd stryd sydd yn sensitif i draffig ar adeg sydd yn sensitif i draffig, neu
(iii) mewn stryd sydd yn sensitif i draffig, ac eithrio ar adeg sydd yn sensitif i draffig,
os nad yw'r gwaith yn golygu dryllio'r stryd neu dwnelu neu dyllu oddi tani;
(b) gwaith sy'n cynnwys dim ond creu tyllau sy'n llai na 3 centimetr ar eu traws, at ddibenion ymchwiliol;
(c) ailosod polion, colofnau lamp neu arwyddion yn yr un lleoliad; neu
(ch) rhoi prawf ar bolion.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (9), bydd y taliad yn swm sydd wedi ei gyfrifo yn unol â pharagraff (4), a bydd yn daladwy am bob diwrnod, neu ran o ddiwrnod, y mae hyd y gwaith yn mynd yn fwy na'r hwyaf o–
(a) y cyfnod rhagnodedig, neu
(b) cyfnod rhesymol(15).
(4) O ran gwaith stryd sydd mewn categori a restrir yng ngholofn 3 o Dabl 1, ac sy'n cael ei gyflawni mewn stryd o fath a ddisgrifir yng ngholofn 2 o ran y categori hwnnw, swm y taliad fydd y swm sydd wedi ei nodi yng ngholofn 4.
1. | 2. | 3. | 4. |
---|---|---|---|
Rhif yr Eitem | Disgrifiad o stryd. | Categori o waith stryd. | Swm y taliad (£). |
1. | Stryd nad yw'n stryd yng nghategori ffordd 2, 3 neu 4. | Gwaith mawr | 2,500 |
Gwaith safonol | 2,500 | ||
Mân waith | 500 | ||
Gwaith di-oed | 500 | ||
2. | Stryd yng nghategori ffordd 2. | Gwaith mawr | 2,000 |
Gwaith safonol | 2,000 | ||
Mân waith | 500 | ||
Gwaith di-oed | 500 | ||
3. | Stryd yng nghategori ffordd 3 neu 4 sydd yn stryd sy'n sensitif i draffig. | Gwaith mawr | 750 |
Gwaith safonol | 750 | ||
Mân waith | 250 | ||
Gwaith di-oed | 250 | ||
4. | Stryd yng nghategori ffordd 3 neu 4 sydd ddim yn stryd sy'n sensitif i draffig. | Gwaith mawr | 250 |
Gwaith safonol | 250 | ||
Mân waith | 100 | ||
Gwaith di-oed | 100 |
(5) Yn ddarostyngedig i baragraff (9), bydd y taliad o ran gwaith adfer yn daladwy yn unol â pharagraff (3), ond bydd yn cael ei gyfrifo yn unol â pharagraff (4) fel pe bai'r gwaith hwnnw, yn ddarostyngedig i baragraff (7), yn waith stryd o'r un categori â'r gwaith sydd wedi ei nodi ym mharagraff (6).
(6) Y gwaith y cyfeirir ato ym mharagraff (5) yw'r gwaith hwnnw mewn perthynas â'r hwn–
(a) y methwyd â chydymffurfio â dyletswyddau'r ymgymerydd mewn perthynas ag adferiad; a
(b) y mae'r awdurdod strydoedd wedi ei gwneud yn ofynnol ar yr ymgymerydd i gyflawni'r gwaith adfer.
(7) Pan fo'r gwaith y cyfeirir ato ym mharagraff (6) yn waith a oedd, adeg cyflwyno hysbysiad mewn perthynas ag ef o dan adran 54(1), 55(1) neu 57 o Ddeddf 1991, yn waith a oedd yn syrthio i un o'r categorïau sydd wedi eu rhestru yng ngholofn 2 o Dabl 2 at ddibenion Rheoliadau 1992, bydd y gwaith hwn yn cael ei drin, at ddibenion paragraff (5), fel pe bai yn y categori cyfwerth sydd wedi ei restru yng ngholofn 3 o ran y categori hwnnw.
1. | 2. | 3. |
---|---|---|
Rhif yr Eitem | Categori o waith stryd at ddibenion Rheoliadau 1992. | Categori cyfwerth o waith stryd. |
1. | Prosiectau mawr | Gwaith mawr |
2. | Gwaith safonol | Gwaith safonol |
3. | Mân waith | Mân waith |
4. | Gwaith brys | Gwaith di-oed |
5. | Gwaith argyfwng | Gwaith di-oed |
(8) Ym mharagraff (7), mae i'r ymadroddion a ddefnyddir yn eitemau 1 i 4 yng ngholofn 2 o Dabl 2 yr ystyr a roddir iddynt yn rheoliad 2 o Reoliadau 1992.
(9) Bydd y taliad yn daliad sengl o £100 mewn perthynas ag unrhyw waith dan yr amgylchiadau a restrir ym mharagraff (10), os bodlonir gofynion paragraff (11).
(10) Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (9) yw–
(a) bod yr ymgymerydd, yn ddarostyngedig i is-baragraff (c)–
(i) wedi cwblhau adferiad dros dro, neu adferiad parhaol yn ôl y digwydd, o briffordd,
(ii) wedi gwneud ymdrech i symud pob arwydd, golau ac eitem warchod ymaith, a
(iii) wedi symud ymaith pob rwbel, defnyddiau nas defnyddiwyd ac offer arall sydd ar ôl;
(b) na fuasai hyd y gwaith wedi mynd yn fwy na'r hwyaf o'r cyfnod rhagnodedig neu gyfnod rhesymol, oni bai am baragraff (c); ac
(c) bod eitem sengl o arwyddo, goleuo neu warchod yn aros ar y briffordd.
(11) Y gofynion y cyfeirir atynt ym mharagraff (9) yw–
(a) bod yr awdurdod priffyrdd–
(i) wedi hysbysu'r ymgymerydd o natur a lleoliad yr eitem sengl y cyfeirir ati ym mharagraff (10)(c); a
(ii) wedi gofyn i'r ymgymerydd ei symud ymaith; a
(b) bod yr ymgymerydd wedi cydymffurfio â'r cais erbyn diwedd y diwrnod a oedd yn dilyn y dyddiad y derbyniwyd y cais.
(12) Caiff awdurdod priffyrdd ostwng swm taliad, neu hepgor y taliad–
(a) mewn unrhyw achos neilltuol,
(b) ym mha bynnag ddosbarthau o achos y byddant yn penderfynu arnynt,
(c) ym mhob achos,
(ch) ym mhob achos ar wahân i achos penodol, neu
(d) ym mhob achos ar wahân i ba bynnag ddosbarth o achos y byddant yn penderfynu arni.
(13) Nid yw taliadau ond yn daladwy mewn perthynas â gwaith stryd pan fo'r awdurdod priffyrdd wedi cyflwyno i'r ymgymerydd, ddim mwy na thri mis ar ôl derbyn hysbysiad o fod yn glir o waith neu hysbysiad o gwblhau gwaith, gyfrif ysgrifenedig sy'n nodi'r taliadau sy'n daladwy.
9.–(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), os oes gan ymgymerydd le i gredu y bydd hyd y gwaith yn fwy na'r cyfnod rhagnodedig, rhaid i'r ymgymerydd hwnnw gyflwyno i'r awdurdod priffyrdd hysbysiad sy'n cynnwys amcangyfrif o hyd tebygol y gwaith–
(a) yn achos gwaith mewn cysylltiad â gosodiad dechreuol cyfarpar yn y stryd yn unol â thrwydded gwaith stryd, ynghyd â'r cais am y drwydded;
(b) yn achos gwaith (nad yw'n waith argyfwng) ynghyd ag–
(i) yr hysbysiad o dan adran 55 o Ddeddf 1991 (hysbysiad o ddyddiad cychwyn), neu
(ii) yr hysbysiad o dan baragraff 2(1)(d) o Atodlen 3A i'r Ddeddf honno (hysbysiad o waith arfaethedig)(16); neu
(c) yn achos gwaith argyfwng, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol wedi i'r gwaith gychwyn.
(2) Cymerir bod yr awdurdod wedi cytuno bod cyfnod yr hyd a gynhwysir mewn hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (1) yn un rhesymol oni bai eu bod yn cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r ymgymerydd, o fewn y cyfnod perthnasol a nodir ym mharagraff (3), i'r perwyl eu bod yn gwrthwynebu'r amcangyfrif.
(3) Y cyfnod perthnasol y cyfeirir ato ym mharagraff (2) yw–
(a) 5 niwrnod, yn achos gwaith mawr neu waith safonol, a
(b) 2 ddiwrnod, yn achos mân waith neu waith di-oed,
gan gychwyn ar y dyddiad y mae'r awdurdod yn derbyn yr hysbysiad sy'n cynnwys yr amcangyfrif.
(4) Rhaid i hysbysiad o wrthwynebiad a gyflwynir gan awdurdod o dan baragraff (2) gynnwys eu hamcangyfrif eu hunain o gyfnod rhesymol ar gyfer hyd y gwaith.
(5) Ni fydd y rheoliad hwn yn gymwys pan fo ymgymerydd yn bwriadu cyflawni gwaith stryd y mae'n rhaid sicrhau trwydded gan Awdurdod Trwyddedau mewn perthynas ag ef.
10.–(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), os ymddengys i ymgymerydd fod hyd y gwaith, oherwydd materion nas rhagwelwyd yn flaenorol neu nad oedd modd eu rhagweld yn rhesymol, yn debygol o fynd yn fwy nag–
(a) y cyfnod rhagnodedig,
(b) y cyfnod a ddatganwyd yn amcangyfrif blaenorol yr ymgymerydd, neu
(c) y cyfnod y cytunwyd neu a benderfynwyd o dan adran 74(2) o Ddeddf 1991 ei fod yn gyfnod rhesymol,
rhaid i'r ymgymerydd gyflwyno i'r awdurdod priffyrdd hysbysiad ysgrifenedig sy'n cynnwys amcangyfrif neu amcangyfrif diwygiedig.
(2) Pan fo hysbysiad yn cael ei gyflwyno o dan baragraff (1), bydd unrhyw amcangyfrif, cytundeb neu benderfyniad blaenorol yn peidio â bod yn effeithiol, a chymerir bod yr awdurdod priffyrdd yn cytuno bod y cyfnod sydd wedi ei ddatgan yn yr amcangyfrif newydd yn un rhesymol, oni bai eu bod yn cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r ymgymerydd, o fewn y cyfnod a nodir ym mharagraff (3), eu bod yn gwrthwynebu'r amcangyfrif.
(3) Bydd y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (2) yn 2 ddiwrnod, gan gychwyn ar y dyddiad y derbyniodd yr awdurdod yr hysbysiad a oedd yn cynnwys yr amcangyfrif neu amcangyfrif diwygiedig.
(4) Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo trwydded i gyflawni gwaith stryd arfaethedig wedi ei ganiatáu gan Awdurdod Trwyddedau.
11.–(1) Caiff awdurdod priffyrdd lleol ddidynnu, o daliadau rhagnodedig a dderbynnir oddi wrth ymgymerydd, gostau rhesymol gweithredu'r cynllun y telir iddynt oddi tano, a rhaid iddynt gymhwyso'r enillion net at ddiben datblygu neu weithredu polisïau ar gyfer hyrwyddo a hybu cyfleusterau a gwasanaethau cludiant diogel, integredig, effeithlon a darbodus i mewn i'w hardal, allan ohoni ac oddi mewn iddi.
(2) Rhaid i awdurdod priffyrdd lleol gadw cyfrifon o'r symiau a delir o ran taliadau.
12. Mae unrhyw ymgymerydd sydd, heb achos rhesymol, yn methu â chyflwyno unrhyw hysbysiad sy'n ofynnol gan y Rheoliadau hyn yn cyflawni trosedd, a bydd yn agored, yn dilyn collfarn ddiannod, i ddirwy o ddim mwy na lefel 4 ar y raddfa safonol.
13.–(1) Rhaid i unrhyw hysbysiad sy'n ofynnol gan y Rheoliadau hyn fod ar y ffurflen sydd wedi ei chynnwys yn y Fanyleb Dechnegol, neu fod â'r un effaith â'r ffurflen honno.
(2) Rhaid i hysbysiad gynnwys yn ogystal ba bynnag wybodaeth arall sy'n ofynnol gan y Fanyleb Dechnegol ar gyfer cwblhau'r rhannau o'r ffurflen y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) ac sydd wedi eu nodi yn y ffurflen honno fel rhai sy'n berthnasol i'r hysbysiad.
14.–(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2), (5) a (7), pan fo'n ofynnol ar ymgymerydd i gyflwyno hysbysiad i awdurdod priffyrdd yn unol â rheoliad 5, rhaid cyflwyno'r hysbysiad hwnnw drwy–
(a) ei anfon i'r awdurdod priffyrdd yn ei gyfeiriad priodol drwy ddefnyddio cyfathrebiad electronig yn unol â'r amod sydd wedi ei nodi ym mharagraff (4);
(b) ei ddanfon i'r awdurdod hwnnw yn y cyfeiriad hwnnw; neu
(c) unrhyw ddull arall y cytunir arno rhwng yr ymgymerydd a'r awdurdod.
(2) Pan nad oes gan awdurdod priffyrdd y mae ymgymerydd dan rwymedigaeth i gyflwyno hysbysiad o'r fath iddynt drefniadau ar gyfer derbyn ac ymateb i hysbysiadau yn ystod unrhyw gyfnod rhwng 4.30 pm ac 8.00 am ar y diwrnod dilynol, bydd yr ymgymerydd wedi cydymffurfio â'r rhwymedigaeth honno os bydd hysbysiad wedi ei gyflwyno erbyn 10.00 y bore ar y diwrnod dilynol hwnnw.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (7), mewn unrhyw achos arall pan fo'n ofynnol ar berson i gyflwyno hysbysiad o dan y Rheoliadau hyn, rhaid cyflwyno hysbysiad o'r fath drwy–
(a) ei anfon at y person y mae i gael ei gyflwyno iddo yng nghyfeiriad priodol y person drwy ddefnyddio cyfathrebiad electronig yn unol â'r amod a nodir ym mharagraff (4);
(b) ei anfon drwy bost dosbarth cyntaf at y person hwnnw yn y cyfeiriad hwnnw;
(c) ei ddanfon i'r person hwnnw;
(ch) ei adael yng nghyfeiriad priodol y person hwnnw; neu
(d) unrhyw ddull arall y cytunir arno rhwng y person sy'n ei gyflwyno a'r person y mae i gael ei gyflwyno iddo.
(4) Yr amod y cyfeirir ato ym mharagraffau (1)(a) a (3)(a) yw bod yn rhaid i'r hysbysiad–
(a) gallu cael ei dderbyn gan y person y'i hanfonir ato;
(b) bod yn ddarllenadwy ym mhob modd perthnasol; ac
(c) bod ar ffurf sy'n caniatáu i'r hysbysiad gael ei gadw er mwyn cyfeirio ato wedi hynny,
ac at y diben hwn, ystyr "bod yn ddarllenadwy ym mhob modd perthnasol" yw bod yr wybodaeth a gynhwysir yn yr hysbysiad ar gael i'r person i raddau dim llai nag y buasai pe bai'n cael ei chyflwyno drwy hysbysiad ar ffurf brintiedig.
(5) Yn ddarostyngedig i baragraff (7), o 1 Medi 2009 ymlaen a chan gynnwys y dyddiad hwnnw, rhaid i bob hysbysiad y mae'n ofynnol iddo gael ei gyflwyno o dan y Rheoliadau hyn gan awdurdod priffyrdd neu ymgymerydd statudol gael ei gyfnewid rhwng un awdurdod priffyrdd ac un arall, rhwng un ymgymerydd statudol ac un arall, a rhwng awdurdod priffyrdd ac ymgymerydd statudol, drwy ddefnyddio cyfathrebiadau electronig yn unol â'r amod sydd wedi ei nodi ym mharagraff (4).
(6) Yn ddarostyngedig i adran 98(2) o Ddeddf 1991 (cyfrifo cyfnodau), pan fo cyfathrebiad electronig yn cael ei ddefnyddio at ddiben cyflwyno hysbysiad, yna, oni phrofir i'r gwrthwyneb, ystyrir bod yr hysbysiad yn cael ei gyflwyno ar y diwrnod ac ar yr amser a gofnodir gan yr offer trosglwyddo fel diwrnod ac amser cwblhau'r trosglwyddiad yn foddhaol.
(7) Pan nad oes modd cyflawni cyflwyniad, ar ôl tri ymgais (sydd wedi eu cofnodi'n briodol gan y person sy'n cyflwyno'r hysbysiad) i wneud hynny drwy ddefnyddio un dull penodol o drosglwyddo cyfathrebiad electronig, gellir cyflwyno'r hysbysiad drwy ei gyflwyno i'r person y mae i gael ei gyflwyno iddo drwy unrhyw ddull arall y mae cyfeiriad priodol ar ei gyfer, neu drwy unrhyw un o'r dulliau eraill y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) neu, yn ôl y digwydd, baragraff (3).
(8) Yn ddarostyngedig i baragraff (9), at ddibenion y rheoliad hwn, cyfeiriad priodol unrhyw berson y mae hysbysiad i gael ei gyflwyno iddo fydd–
(a) pan fo'r cyfryw berson–
(i) wedi rhoi i'r person sy'n cyflwyno'r hysbysiad gyfeiriad ar gyfer cyflwyno hysbysiadau o dan y Rheoliadau hyn drwy ddefnyddio dull penodol o drosglwyddo cyfathrebiad electronig; a
(ii) heb hysbysu'r ail berson fod y cyfeiriad wedi ei dynnu'n ôl at y diben hwnnw,
y cyfeiriad hwnnw mewn perthynas â'r dull trosglwyddo hwnnw;
(b) pan fo'r cyfryw berson wedi rhoi i berson sy'n cyflwyno'r hysbysiad gyfeiriad ar gyfer cyflwyno hysbysiadau o'r fath drwy'r post, y cyfeiriad hwnnw mewn perthynas â gwasanaeth post;
(c) pan fo'r cyfryw berson wedi rhoi i'r person sy'n cyflwyno'r hysbysiad gyfeiriad ar gyfer cyflwyno hysbysiadau o'r fath drwy unrhyw ddull arall, y cyfeiriad hwnnw mewn perthynas â'r dull arall hwnnw; ac
(ch) fel arall–
(i) yn achos corff corfforaethol, swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa'r corff corfforaethol hwnnw; a
(ii) mewn unrhyw achos arall, cyfeiriad hysbys diwethaf y cyfryw berson.
(9) Caiff person ddarparu gwahanol gyfeiriadau ar gyfer gwahanol hysbysiadau neu wahanol ddosbarthau o hysbysiad.
Ieuan Wyn Jones
Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru
19 Mai 2009
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gwneud taliadau i awdurdodau priffyrdd pan fydd rhai mathau o waith stryd, a gyflawnir gan ymgymerwyr ar briffyrdd y gellir eu cynnal, yn cael eu hymestyn yn afresymol.
Mae Rheoliadau 5(1) a 5(2) yn ei gwneud yn ofynnol ar ymgymerydd, wrth iddo gyflawni gwaith stryd ar briffordd y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddi yn rhinwedd Rheoliad 4, i gyflwyno "hysbysiad o gychwyniad gwirioneddol ar waith" o fewn y cyfnodau a nodwyd. Mae Rheoliad 5(3) a (4) yn pennu'r cyfnod oddi mewn i'r hwn y mae'n rhaid cyflwyno "hysbysiad o fod yn glir o waith" yn dilyn cwblhau adferiad dros dro o'r briffordd, a'r cyfnod oddi mewn i'r hwn y mae'n rhaid cyflwyno "hysbysiad o gwblhau gwaith" yn dilyn adferiad parhaol.
Mae Rheoliad 6 yn sefydlu'r "cyfnod rhagnodedig" at ddibenion adran 74(1)(a) o Ddeddf 1991, ac mae Rheoliad 7 yn pennu pa bryd y mae gwaith yn dod i ben at ddiben cyfrifo unrhyw daliadau am or-redeg.
Mae Rheoliad 8 yn pennu'r taliadau sy'n daladwy pan fo hyd gwaith stryd yn fwy na naill ai'r cyfnod rhagnodedig neu gyfnod rhesymol, pa un bynnag fo'r hwyaf, yn ddarostyngedig i rai esemptiadau. Bydd gwahanol gyfraddau dyddiol yn weithredol, gan ddibynnu ar gategori'r gwaith stryd a'r math o stryd y mae'n cael ei gyflawni arni. Pan fo gwaith adfer yn cael ei gyflawni, codir tâl am unrhyw or-redeg fel pe bai'r gwaith hwnnw yn yr un categori â'r gwaith sy'n cael ei gywiro. At y diben hwn, darperir ar gyfer trin gwaith hŷn fel gwaith sydd oddi mewn i gategorïau cyfoes gwaith stryd. Pan na fuasai hyd y gwaith wedi gor-redeg oni bai am bresenoldeb un eitem arwyddo, goleuo neu warchod, bydd y taliad a godir yn daliad sengl o £100 ar yr amod bod yr ymgymerydd yn symud yr eitem ymaith o fewn y terfyn amser penodedig yn dilyn cais gan yr awdurdod priffyrdd iddo wneud hynny. Darperir ar gyfer gostwng neu hepgor taliad mewn amryfal achosion.
Mae Rheoliadau 9 a 10, nad ydynt yn gymwys pan fo gofyn caniatâd i gyflawni gwaith stryd, yn galluogi ymgymerydd i gyflwyno i'r awdurdod priffyrdd, dan rai amgylchiadau, amcangyfrif neu amcangyfrif diwygiedig o hyd y gwaith, ac maent yn darparu bod modd cymryd bod yr hyd hwnnw wedi ei gytuno fel cyfnod rhesymol oni cheir gwrthwynebiad.
Mae Rheoliad 11 yn darparu ar gyfer rhoi taliadau mewn grym a chadw cyfrifon. Mae Rheoliad 12 yn creu trosedd o fethu â chyflwyno unrhyw hysbysiad sy'n ofynnol gan y Rheoliadau.
Mae Rheoliadau 13 a 14 yn pennu ffurf unrhyw hysbysiad a'r modd y mae'n rhaid ei gyflwyno.
Mae asesiad o'r effaith y caiff yr offeryn hwn ar gostau'r sector busnes a'r sector cyhoeddus ar gael gan .
1991 p.22. Cafodd adran 74 ei diwygio gan Ddeddf Trafnidiaeth 2000 (p.38), adran 256, Atodlen 31, Rhan V, a chan Ddeddf Rheoli Traffig 2004 (p.18), adrannau 40(4) a 52. Back [1]
Mae swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 74, 97 a 104 wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru, cyn belled ag y bônt yn arferadwy o ran Cymru. Cafodd y swyddogaethau hynny eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2, Atodlen 1. Yn rhinwedd paragraffau 30 a 32 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), cawsant eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru. Back [2]
2000 p.7. Cafodd Adran 15(1) ei diwygio gan Ddeddf Cyfathrebu 2003 (p.21), adran 406(1) ac Atodlen 17, paragraff 158. Back [4]
1984 p.27. Cafodd adrannau 1, 6 a 9 eu diwygio gan Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (p.22), adran 168 ac Atodlen 8, paragraffau 17, 21 a 23, a'u haddasu gan Reoliadau Tramiau a Cherbydau Troli (Addasu Deddfiadau) 1992 (O.S. 1992/1217) ("y Rheoliadau Tramiau"). Cafodd adrannau 1 a 6 eu diwygio'n ogystal gan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p.25), adran 120 ac Atodlen 22, paragraff 36. Cafodd adran 1 ei diwygio'n ogystal gan Ddeddf Trafnidiaeth 2000, adran 161 ac Atodlen 11, paragraffau 6 a 7.. Cafodd adrannau 6 a 9 eu diwygio gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1985 (p.51), adran 8 ac Atodlen 5, paragraff 4, a chafodd adran 9 ei diwygio'n ogystal gan Ddeddf Traffig Ffyrdd 1991 (p.27), adran 48 ac Atodlen 4, paragraff 24. Cafodd adran 14 ei hamnewid gan Ddeddf Traffig Ffyrdd (Cyfyngiadau Dros Dro) 1991 (p.26), adran 1(1) ac Atodlen 1 a'i haddasu gan y Rheoliadau Tramiau. Back [5]
2004 p.18. Back [6]
O.S. 2008/540 (Cy.52). Back [7]
Mae hon ar gael o www.dft.gov.uk. Back [8]
1990 p.8. Cafodd adran 249(2) ei diwygio gan Ddeddf Awdurdod Llundain Fwyaf 1999 (p.29), adran 270, Atodlen 22, paragraff 5. Back [9]
Gweler adran 52 o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (p.22) am y diffiniad o "waith argyfwng" ("emergency works"). Back [10]
1980 p.66. Back [11]
O.S 1992/2985; fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/990 a 2128 a 1999/1049. Cafodd Rheoliadau 1992 eu datgymhwyso o ran Cymru gan Reoliadau Gwaith Stryd (Cofrestrau, Hysbysiadau, Cyfarwyddiadau a Dynodiadau) (Cymru) (Rhif 2) 2008 (O.S. 2008/540 (Cy.52)), rheoliad 2, yn ddarostyngedig i drefniadau trosiannol sydd wedi eu cynnwys yn rheoliad 19. Back [12]
Cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, mae darpariaethau Rheoliadau Gwaith Stryd (Cofrestrau, Hysbysiadau, Cyfarwyddiadau a Dynodiadau) (Cymru) (Rhif 2) (O.S. 2008/540) yn gymwys. Back [13]
Cyfeiriad y wefan i ddilyn. Back [14]
Dylid dehongli "cyfnod rhesymol" yn unol ag adran 74(2) o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (p.22). Back [15]
1991 p.22. Cafodd Atodlen 3A ei mewnosod gan Ddeddf Rheoli Traffig 2004 (p.18), adran 52(2). Back [16]