BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Diwygio Rhif 2) 2009 No. 1500 (Cy. 145) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20091500_we_1.html |
[New search] [Help]
Gwnaed
16 Mehefin 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
18 Mehefin 2009
Yn dod i rym
15 Gorffennaf 2009
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 94(5A), 95(3A) ac 138(7) ac (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(1) ac a freinir bellach ynddynt hwy(2), ac ar ôl ymgynghori â'r Cyngor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd yn unol ag Atodlen 7 i Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodi 2007(3), yn gwneud y Rheoliadau canlynol.
1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Diwygio Rhif 2) 2009, ac maent yn dod i rym ar 15 Gorffennaf 2009.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2.–(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) 2005(4) fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau, ym mhob man y mae'n digwydd–
yn lle "awdurdod lleol" gosoder "awdurdod addysg lleol".
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
16 Mehefin 2009
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) 2005 O.S. 2005/1398 (Cy.112) ("Rheoliadau 2005") ac yn dod i rym ar 15 Gorffennaf 2009. Mae'r diwygiad yn rheoliad 2 yn gwneud newid technegol bychan yn Rheoliadau 2005, ac yn gosod y geiriau "awdurdod addysg lleol" yn lle'r geiriau "awdurdod lleol" yn Atodlen 2.
1998 p.31. Mewnosodwyd is-adran 5A yn adran 94 gan adran 50 o Ddeddf Addysg 2002 (p.32). Mewnosodwyd is-adran 3A yn adran 95 gan baragraff 9 o Atodlen 4 i Ddeddf Addysg 2002 (p.32). Back [1]
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adrannau hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac wedyn i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Back [2]
2007 p.15. Mae paragraff 24(1) o Atodlen 7 i Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodi 2007 yn cyfarwyddo mai ar ôl ymgynghori â'r Cyngor, yn unig, y ceir arfer pŵer Gweinidogion Cymru i wneud, cymeradwyo, cadarnhau neu gydsynio i reolau gweithdrefnol ar gyfer unrhyw dribiwnlys a restrir. Back [3]
O.S. 2005/1398 (Cy.112). Back [4]