BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau Meini Prawf Purdeb ar gyfer Lliwiau, Melysyddion ac Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Cymru) (Diwygio) 2009 No. 2201 (Cy. 186) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20092201_we_1.html |
[New search] [Help]
Gwnaed
13 Awst 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
14 Awst 2009
Yn dod i rym
7 Medi 2009
Mae Gweinidogion Cymru'n gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(a) ac 17(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1).
Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i'r cyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(2), cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.
1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Meini Prawf Purdeb ar gyfer Lliwiau, Melysyddion ac Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Cymru) (Diwygio) 2009 a deuant i rym ar 7 Medi 2009.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2.–(1) Diwygir y Rheoliadau Meini Prawf Purdeb ar gyfer Lliwiau, Melysyddion ac Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Cymru) 2009(3) fel a ganlyn.
(2) Yn nhestun Cymraeg rheoliad 3(2)(a) yn lle "Directive 95/45/EC" rhodder "Directive 95/31/EC".
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
13 Awst 2009
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau Meini Prawf Purdeb ar gyfer Lliwiau, Melysyddion ac Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Cymru) 2009 ("Rheoliadau 2009") yn darparu ar gyfer rhoi ar waith tair Gyfarwyddeb Comisiwn newydd ac sy'n cydgrynhoi rheolau presennol y Gymuned Ewropeaidd sy'n llywodraethu meini prawf purdeb ar gyfer lliwiau, melysyddion ac ychwanegion amrywiol eraill a ddefnyddir mewn bwydydd.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 3 o Reoliadau 2009 i gywiro gwall teipograffyddol yn y testun Cymraeg.
Nid oes asesiad effaith llawn wedi ei baratoi mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn gan na ragwelir unrhyw effaith ar y sector gwirfoddol neu'r sector preifat.
1990 p.16; amnewidiwyd adran 1(1) a (2) (diffiniad o "food") gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adran 17 a 48 gan baragraffau 12 a 21 o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28). Cafodd adran 48 ei diwygio hefyd gan O.S. 2004/2990.
Trosglwyddwyd y swyddogaethau a oedd yn arferadwy'n flaenorol gan y "Secretary of State" i'r graddau yr oeddynt yn arferadwy o ran Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S.1999/672) fel y'i darllenir ar y cyd ag adran 40(3) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28), ac fe'u trosglwyddwyd wedi hynny i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p.32). Back [1]
OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 202/2008 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor ynghylch nifer ac enwau Panelau Gwyddonol Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (OJ Rhif L60, 5.3.2008, t.17). Back [2]
O.S. 2009/1092 (Cy.97). Back [3]