BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau Milheintiau a Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2009 No. 2427 (Cy. 197) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20092427_we_1.html |
[New search] [Help]
Gwnaed
6 Medi 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
7 Medi 2009
Yn dod i rym
28 Medi 2009
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 56(1) a (2) o Ddeddf Cyllid 1973(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy gan adran 59(5) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a pharagraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2), a chyda chydsyniad y Trysorlys, yn gwneud y Rheoliadau canlynol.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, ac mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau penodol at ddarpariaethau mewn offerynnau Cymunedol gael eu dehongli fel cyfeiriadau at y darpariaethau hynny fel y'u diwygir o bryd i'w gilydd.
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Milheintiau a Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2009. Maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 28 Medi 2009.
2. Yn rheoliad 2 (Dehongli) o Reoliadau Milheintiau a Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) 2008 yn lle'r diffiniad o "samplau rheoli swyddogol" rhodder y diffiniad canlynol–
"ystyr "samplau rheoli swyddogol" ("official control samples") yw samplau a gymerir gan Weinidogion Cymru o dan unrhyw un o'r canlynol–
pwynt 2.1.2.2 o'r Atodiad i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1003/2005 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003 o ran targed Cymunedol ar gyfer gostwng nifer yr achosion o seroteipiau salmonela penodol mewn heidiau bridio o Gallus gallus ac yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003(3), fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd;
pwynt 2.1 o'r Atodiad i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1168/2006 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003 o ran targed Cymunedol ar gyfer gostwng nifer yr achosion o seroteipiau salmonela penodol mewn heidiau dodwy o Gallus gallus ac yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1003/2005(4), fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd; neu
pwynt 1(b) ac (c) o'r Atodiad i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 646/2007 sy'n gweithredu Rheoliad 2160/2003 o ran targed Cymunedol ar gyfer gostwng nifer yr achosion o seroteipiau salmonela penodol mewn heidiau o frwyliaid Gallus gallus ac yn diddymu Rheoliad (EC) Rhif 1091/2005(5), fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.".
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
6 Medi 2009
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn diwygio Rheoliadau Milheintiau a Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) 2008 (O.S. 2008/2716) (Cy. 245). Maent yn gwneud darpariaeth i Weinidogion Cymru godi ffioedd am gymryd, neu oruchwylio'r broses o gymryd, samplau swyddogol y mae'n ofynnol eu cymryd o dan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 646/2007.
Mae asesiad effaith rheoleiddiol o effaith y Rheoliadau hyn wedi'i baratoi a gellir cael copïau gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
1973 p.51. Back [1]
1972 p.68; mewnosodwyd paragraff 1A gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p.51). Back [2]
OJ Rhif L 170, 1.7.2005, t.12, fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1168/2006 (OJ Rhif L 211, 1.8.2006, t.4). Back [3]
OJ Rhif L 211, 1.8.2006, t.4. Back [4]
OJ Rhif L 151, 13.6.2007, t.21. Back [5]