BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Presgripsiynau am Ddim a Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) (Diwygio) 2009 No. 2607 (Cy. 210)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20092607_we_1.html

[New search] [Help]


 

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Presgripsiynau am Ddim a Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) (Diwygio) 2009

Gwnaed

24 Medi 2009

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

28 Medi 2009

Yn dod i rym

20 Hydref 2009

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 121, 130, 132 a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Presgripsiynau am Ddim a Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) (Diwygio) 2009 a deuant i rym ar 20 Hydref 2009.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3) Yn y Rheoliadau hyn–

Diwygio rheoliad 2 o'r prif Reoliadau

2. Yn rheoliad 2 o'r prif Reoliadau (dehongli) mewnosoder yn y man priodol yn ôl trefn yr wyddor–

Diwygio rheoliad 3 o'r prif Reoliadau

3.–(1) Mae rheoliad 3 o'r prif Reoliadau (cyflenwi cyffuriau a chyfarpar gan fferyllwyr) yn cael ei ddiwygio yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

(2) Yn lle paragraff (10) rhodder y canlynol–

"(10) Rhaid i fferyllydd sy'n codi ac yn casglu ffi–

(a) o dan baragraff (2) oddi wrth neu ar ran claf sy'n berson a ddisgrifir yn rheoliad 11A(1), os gofynnir iddo gan y claf neu gan gynrychiolydd y claf, ddarparu derbynneb am y swm a gafwyd yn y ffurf a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru;

(b) o dan baragraff (2) neu (5) oddi wrth neu ar ran claf nad yw'n berson a ddisgrifir yn rheoliad 11A(1), os gofynnir iddo gan y claf neu gan gynrychiolydd y claf, ddarparu derbynneb am y swm a gafwyd ar y ffurflen a ddarparwyd at y diben a rhaid i'r ffurflen honno gynnwys ffurfiau o ddatganiad yn cefnogi cais ar gyfer ad-daliad a gwybodaeth o ran i bwy y dylai cais am ad-daliad gael ei wneud.".

Diwygio rheoliad 4 o'r prif Reoliadau

4.–(1) Mae rheoliad 4 o'r prif Reoliadau (cyflenwi cyffuriau a chyfarpar gan feddygon) yn cael ei ddiwygio yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

(2) Yn lle paragraff (7) rhodder y canlynol–

"(7) Rhaid i feddyg sy'n codi ac yn casglu ffi o dan baragraff (2)–

(a) oddi wrth neu ar ran claf sy'n berson a ddisgrifir yn rheoliad 11A(1), os gofynnir iddo gan y claf neu gan gynrychiolydd y claf, ddarparu derbynneb am y swm a gafwyd yn y ffurf a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru;

(b) oddi wrth neu ar ran claf nad yw'n berson a ddisgrifir yn rheoliad 11A(1), os gofynnir iddo gan y claf neu gan gynrychiolydd y claf, ddarparu derbynneb am y swm a gafwyd ar y ffurflen a ddarparwyd at y diben a rhaid i'r ffurflen honno gynnwys ffurfiau o ddatganiad yn cefnogi cais ar gyfer ad-daliad a gwybodaeth o ran i bwy y dylai cais am ad-daliad gael ei wneud.".

Diwygio rheoliad 8 o'r prif Reoliadau

5. Yn rheoliad 8 o'r prif Reoliadau (esemptiadau), ar ôl paragraff (1)(d) mewnosoder y canlynol–

"(da) person sydd â thystysgrif esemptio ddilys a ddyroddwyd gan Fwrdd Iechyd Lleol ar y sail bod y person yn cael triniaeth am–

(i) cancr;

(ii) effeithiau cancr, neu

(iii) effeithiau triniaeth am gancr,

pan ddefnyddir y dystysgrif ynghylch cyffuriau neu gyfarpar a gyflenwir ar neu ar ôl 1 Tachwedd 2009.

(db) person sydd â thystysgrif esemptio ddilys a ddyroddwyd ar unrhyw un o'r seiliau yn is-baragraff (da) o dan drefniadau cyfatebol sy'n cael effaith yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon pan ddefnyddir y dystysgrif ynghylch cyffuriau neu gyfarpar a gyflenwir ar neu ar ôl 1 Tachwedd 2009.".

Diwygio rheoliad 9 o'r prif Reoliadau

6.–(1) Mae rheoliad 9 o'r prif Reoliadau (tystysgrifau esemptio – gwneud cais amdanynt a'u rhoi) yn cael ei ddiwygio yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

(2) Ym mharagraff (1)–

(a) ar ôl is-baragraff (c), mewnosoder y canlynol–

(b) yn lle'r geiriau "o dan is-baragraff (a) neu (b)", rhodder "o dan is-baragraff (a), (b) neu (ch)".

(3) Ym mharagraff (3) yn lle'r geiriau "o dan baragraff (1)(b)", rhodder "o dan baragraff (1)(b) neu (1)(ch)".

Mewnosod rheoliad 11A yn y prif Reoliadau

7.–(1) Ar ôl rheoliad 11 (cardiau hawl) mewnosoder y canlynol–

"Ad-dalu ffioedd penodol a dalwyd o dan Reoliadau Ffioedd 2000

11A.–(1) Os cafodd ffi ei thalu o dan Reoliadau Ffioedd 2000, boed yn unol â'r Rheoliadau hyn ai peidio, gan neu ar ran person sydd, ar yr adeg pan dalwyd y ffi, yn berson–

(a) sy'n preswylio yng Nghymru; a

(b) sy'n derbyn gwasanaethau meddygol sylfaenol o dan Ran 4 o Ddeddf 2006 gan ddarparydd a gontractiwyd i ddarparu gwasanaethau o'r fath gyda Bwrdd Iechyd Lleol,

caniateir i gais am ad-dalu'r ffi honno gael ei wneud yn unol â pharagraff (2).

(2) Rhaid i gais am ad-daliad a wneir gan neu ar ran person a ddisgrifir ym mharagraff (1)–

(a) cael ei wneud yn y cyfryw ffurf a dull ag y caiff Gweinidogion Cymru eu penderfynu;

(b) cael ei wneud o fewn 3 mis o'r dyddiad y talwyd y ffi, neu o fewn y cyfryw gyfnod y caiff Gweinidogion Cymru, am reswm da, ei ganiatáu; ac

(c) cael derbynneb gydag ef am y ffi a dalwyd a datganiad fod y person, ar yr adeg y talwyd y ffi, yn berson a ddisgrifir ym mharagraff (1).".

Edwina Hart

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

24 Medi 2009

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Presgripsiynau am Ddim a Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2007 ("y prif Reoliadau").

Yr oedd y prif Reoliadau'n dileu ffioedd o ran cyffuriau a chyfarpar a gyflenwir i gleifion sydd wedi'u cofrestru gydag Ymarferwyr Cyffredinol yng Nghymru, neu wedi'u cofrestru gydag Ymarferwyr Cyffredinol yn Lloegr ac sydd yn dal cardiau hawl dilys. Maent hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer codi a chasglu ffioedd mewn amgylchiadau rhagnodedig.

Er gwaethaf y ddarpariaeth yn y prif Reoliadau, mae'r Rheoliadau hyn yn ehangu rhestr y cyflyrau meddygol sy'n rhoi hawl i glaf wneud cais am dystysgrif sy'n rhoi esemptiad i'r claf hwnnw o'r gofyniad i dalu ffi am y ddarpariaeth o gyffuriau a chyfarpar a gyflenwir o dan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol i gynnwys cancr, effeithiau cancr ac effeithiau triniaeth am gancr.

Mae tystysgrif esemptiad a ddyroddir yn unol â'r diwygiadau a wnaed i'r prif Reoliadau gan reoliadau 3 a 4 yn rhoi hawl i'r claf gael esemptiad o unrhyw ofyniad i dalu ffioedd am gyffuriau a chyfarpar a allai fod yn daladwy fel arall yn unol â Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau ac Offer) 2000 ("y Rheoliadau Ffioedd am Gyffuriau ac Offer").

Maent hefyd yn gwneud darpariaeth fel y gall cleifion sydd yn preswylio yng Nghymru ac wedi'u cofrestru gydag Ymarferydd Cyffredinol sydd wedi ei gontractio gan Fwrdd Iechyd Lleol i gyflenwi gwasanaethau o'r fath i geisio ad-daliad o ffioedd am gyffuriau a chyfarpar a dalwyd yn unol â'r Rheoliadau Ffioedd am Gyffuriau ac Offer.

(1)

2006 p.42. Back [1]

(2)

O.S. 2007/121 (Cy.11), yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 2009/1175 (Cy.102). Back [2]

(3)

2006 p.42. Back [3]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20092607_we_1.html