BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Athrofa Brifysol Ewropeaidd) (Cymru) 2009 No. 3359 (Cy. 295)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20093359_we_1.html

[New search] [Help]


RHAN 1 CYFFREDINOL

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2009 a deuant i rym ar 21 Ionawr 2010.

2. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

3. Yn y Rheoliadau hyn–

Dirymu a darpariaethau arbed

4. Yn ddarostyngedig i reoliad 5 dirymir y rheoliadau canlynol ar 1 Medi 2010–

(a) Rheoliadau 2008;

(b) Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) (Diwygio) 2008(12);

(c) Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2008(13);

(ch) Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) (Diwygio) 2009(14).

5. Bydd Rheoliadau 2008 yn parhau i fod yn gymwys wrth ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2009 ond cyn 1 Medi 2010.

6. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran darparu cymorth i fyfyriwr cymwys mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010, p'un a gaiff unrhyw beth a wneir o dan y Rheoliadau hyn ei wneud cyn, ar neu ar ôl, 1 Medi 2010.

RHAN 2 GWNEUD CAIS AM GYMORTHA CHYMHWYSTRA

Ceisiadau

7.–(1) Onid yw person sy'n ceisio cymorth o dan y Rheoliadau hyn eisoes yn fyfyriwr cymwys yn rhinwedd rheoliad 8(9), rhaid iddo gyflwyno cais am gael ei ystyried yn fyfyriwr cymwys a chais am gymorth ar y ffurf sy'n ofynnol gan Weinidogion Cymru i'r Athrofa erbyn y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau.

(2) Pan fo person sy'n ceisio cymorth o dan y Rheoliadau hyn eisoes yn fyfyriwr cymwys yn rhinwedd rheoliad 8(9), rhaid iddo hysbysu Gweinidogion Cymru yn ysgrifenedig erbyn y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ei fod yn dymuno gwneud cais am gymorth o dan y Rheoliadau hyn.

(3) Y dyddiad cau o ran blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010 yw 31 Ionawr 2010.

(4) Caiff Gweinidogion Cymru estyn y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau os ydynt o'r farn bod amgylchiadau'r achos yn cyfiawnhau hynny.

Myfyrwyr cymwys

8.–(1) Mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael cymorth ariannol mewn cysylltiad â bod yn bresennol ar gwrs dynodedig yn ddarostyngedig i'r Rheoliadau hyn ac yn unol â hwy.

(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) ac (7), mae person yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig yn yr Athrofa–

(a) os yw'r awdurdod academaidd yn hysbysu Gweinidogion Cymru yn ysgrifenedig bod gan y person gyfle rhesymol o gael cynnig lle ar y cwrs hwnnw gan yr awdurdod academaidd; a

(b) os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu mewn cysylltiad â chais am gymorth o dan y Rheoliadau hyn ei fod yn dod o fewn un o'r categorïau yn Rhan 2 o Atodlen 1.

(3) Nid yw person yn fyfyriwr cymwys–

(a) os yw'r person hwnnw, yn ddarostyngedig i baragraff (4), wedi bod yn bresennol ar gwrs cymwys;

(b) os yw wedi torri rhwymedigaeth i ad-dalu unrhyw fenthyciad;

(c) os yw wedi cyrraedd ei 18 oed ac nad yw wedi cadarnhau unrhyw gytundeb ynghylch benthyciad a wnaed gydag ef pan oedd o dan 18 oed; neu

(ch) os yw, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi dangos drwy ei ymddygiad ei fod yn anffit i gael cymorth.

(4) Nid yw paragraff (3)(a) yn gymwys os yw'r person wedi bod yn bresennol ar gwrs cymwys ond bod Gweinidogion Cymru wedi penderfynu, o roi sylw i amgylchiadau penodol y person hwnnw, ei bod yn briodol talu cymorth iddo mewn cysylltiad â'r cwrs cyfredol.

(5) At ddibenion paragraff (3)(b) ac (c) ystyr "benthycia" yw benthyciad a wneir o dan y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau i fyfyrwyr.

(6) Mewn achos pan fo'r cytundeb ar gyfer benthyciad yn ddarostyngedig i gyfraith yr Alban, dim ond os cafodd y cytundeb ei wneud–

(a) cyn 25 Medi 1991; a

(b) gyda chydsyniad curadur y benthyciwr neu ar adeg pan na fu ganddo guradur

y mae paragraff (3) (c) yn gymwys.

(7) Rhaid i nifer y myfyrwyr cymwys beidio â bod yn fwy nag un.

(8) Ni chaiff myfyriwr cymwys y mae blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs yn dechrau mewn cysylltiad ag ef ar neu ar ôl 1 Medi 2000, ar unrhyw adeg, gymhwyso i gael cymorth at fwy nag un cwrs dynodedig.

(9) Er gwaethaf paragraffau (2) a (3) ac yn ddarostyngedig i baragraffau (7), (10) ac (11), mae person yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig yn yr Athrofa–

(a) os cymhwysodd fel myfyriwr cymwys mewn cysylltiad–

(i) â blwyddyn academaidd gynharach ar y cwrs cyfredol; neu

(ii) â chwrs dynodedig yr oedd yn bresennol arno yn yr Athrofa ac y trosglwyddwyd ei statws fel myfyriwr cymwys ohono i'r cwrs cyfredol; a

(b) nad yw ei statws fel myfyriwr cymwys wedi'i derfynu.

(10) Pan fo–

(a) Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person ("A"), yn rhinwedd y ffaith ei fod yn ffoadur neu'n briod, partner sifil, plentyn neu lysblentyn i ffoadur, yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer un o flynyddoedd cynharach y cwrs cyfredol neu mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer cwrs dynodedig yn yr Athrofa y trosglwyddwyd ei statws fel myfyriwr cymwys ohono i'r cwrs cyfredol; a

(b) statws ffoadur A neu statws ffoadur priod, partner sifil, rhiant neu lysriant i A, yn ôl y digwydd, i fod i ddod i ben cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi ac nad oes, ar y diwrnod cyn bod y flwyddyn academaidd honno'n dechrau, unrhyw ganiatâd pellach i aros wedi'i roi ac nad oes unrhyw apôl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),

mae statws A fel myfyriwr cymwys yn terfynu ar y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'n gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.

(11) Pan fo–

(a) Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person ("A"), yn rhinwedd y ffaith ei fod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu'n briod, partner sifil, plentyn neu lysblentyn i berson o'r fath, yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer un o flynyddoedd cynharach y cwrs cyfredol neu mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer cwrs dynodedig yn yr Athrofa y trosglwyddwyd ei statws fel myfyriwr cymwys ohono i'r cwrs cyfredol; a

(b) y cyfnod pryd y caniateir i'r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig i fod i ddod i ben cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi ac nad oes, ar y diwrnod cyn bod y flwyddyn academaidd honno'n dechrau, unrhyw ganiatâd pellach i aros wedi'i roi nac unrhyw apôl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),

mae statws A fel myfyriwr cymwys yn terfynu ar y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'n gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.

(12) Nid yw paragraffau (10) a (11) yn gymwys os dechreuodd y myfyriwr y cwrs y penderfynodd Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad â'r cwrs hwnnw fod y myfyriwr yn fyfyriwr cymwys cyn 1 Medi 2007.

(13) Caiff Gweinidogion Cymru gymryd y camau a gwneud yr ymholiadau y maent yn barnu eu bod yn angenrheidiol i benderfynu a yw person yn fyfyriwr cymwys.

(14) Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu person y rhoddwyd gwybod iddynt amdano o dan baragraff (2) (a) a yw'n cymhwyso fel myfyriwr cymwys.

(15) Rhaid i berson sydd wedi cael hysbysiad gan Weinidogion Cymru o dan baragraff (14) ei fod yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs yn yr Athrofa a pherson sy'n fyfyriwr cymwys yn yr Athrofa yn rhinwedd paragraff (9), roi i Weinidogion Cymru, erbyn y dyddiad cau i wybodaeth ariannol ddod i law, unrhyw wybodaeth neu ddogfennaeth y maent yn gofyn amdani er mwyn penderfynu swm y cymorth sy'n daladwy o dan y Rheoliadau hyn mewn cysylltiad â'r flwyddyn academaidd.

(16) Y dyddiad cau i wybodaeth ariannol ddod i law, o ran blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010, yw 31 Ionawr 2010 neu, yn achos grantiau sy'n daladwy o dan reoliad 16(6), 31 Ionawr 2011.

(17) Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu myfyriwr cymwys o swm y cymorth sy'n daladwy mewn cysylltiad â'r flwyddyn academaidd, os o gwbl.

Cyrsiau dynodedig

9. Mae cwrs yn gwrs dynodedig at ddibenion adran 22(1) o Ddeddf 1998 a rheoliad 8 os yw–

(a) yn gwrs ôl-raddedig neu'n gwrs cyffelyb;

(b) yn gwrs llawnamser;

(c) yn para am o leiaf un flwyddyn academaidd; ac

(ch) yn cael ei ddarparu gan yr Athrofa.

Cyfnod cymhwystra

10.–(1) Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol a rheoliad 8, bydd statws myfyriwr fel myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig yn terfynu ar ddiwedd y flwyddyn academaidd y byddai'r Athrofa fel arfer yn disgwyl i'r myfyriwr gwblhau'r cwrs ynddi ("cyfnod cymhwystra").

(2) Bydd cyfnod cymhwystra'r myfyriwr yn terfynu pan fo'r myfyriwr–

(a) yn tynnu'n ôl o'i gwrs dynodedig o dan amgylchiadau lle na fyddai Gweinidogion Cymru yn trosglwyddo ei statws fel myfyriwr cymwys yn unol â rheoliad 11; neu

(b) yn rhoi'r gorau i'w gwrs dynodedig neu'n cael ei ddiarddel oddi arno.

(3) Caiff Gweinidogion Cymru derfynu cyfnod cymhwystra'r myfyriwr os ydynt wedi'u bodloni bod ymddygiad y myfyriwr wedi dangos ei fod yn anffit i gael cymorth.

(4) Os bydd cyfnod cymhwystra'r myfyriwr yn terfynu cyn diwedd y flwyddyn academaidd pryd y bydd y myfyriwr yn cwblhau'r cwrs mewn gwirionedd, caiff Gweinidogion Cymru, ar unrhyw bryd, estyn neu adnewyddu'r cyfnod cymhwystra am y cyfnod y byddant yn penderfynu arno.

(5) Os yw Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni bod myfyriwr cymwys wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad i roi gwybodaeth o dan y Rheoliadau hyn neu ei fod wedi rhoi gwybodaeth sy'n anghywir o ran manylyn perthnasol, caiff Gweinidogion Cymru wneud un neu ragor o'r canlynol–

(a) terfynu cyfnod cymhwystra'r myfyriwr;

(b) penderfynu nad yw'r myfyriwr yn cymhwyso mwyach i gael unrhyw fath penodol o gymorth neu unrhyw swm penodol o gymorth;

(c) trin unrhyw gymorth sydd eisoes wedi'i dalu i'r myfyriwr fel gordaliad y caniateir ei adennill yn unol â rheoliad 31.

Trosglwyddo cymhwystra

11.–(1) Pan fo myfyriwr cymwys yn trosglwyddo i gwrs dynodedig arall yn yr Athrofa, rhaid i Weinidogion Cymru drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys–

(a) os byddant yn cael cais oddi wrth y myfyriwr cymwys am wneud hynny;

(b) os ydynt wedi'u bodloni bod y myfyriwr cymwys wedi dechrau bod yn bresennol ar y cwrs arall hwnnw ar argymhelliad yr awdurdod academaidd; ac

(c) os nad yw statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys wedi terfynu.

(2) Mae myfyriwr cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1) i gael mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo iddo weddill y cymorth a aseswyd gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo oddi wrtho.

(3) Ni chaiff myfyriwr cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1) ar ôl i Weinidogion Cymru asesu cymorth mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'r myfyriwr yn trosglwyddo oddi wrtho ond cyn i'r myfyriwr gwblhau'r flwyddyn honno, mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo iddo, wneud cais am grant arall o fath y mae eisoes wedi gwneud cais amdano o dan y Rheoliadau hyn mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo oddi wrtho.

RHAN 3 DARPARU GWYBODAETH

Gwybodaeth

12. Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cael cais am wneud hynny, rhaid i bob ceisydd a phob myfyriwr cymwys roi i Weinidogion Cymru yr wybodaeth y mae Gweinidogion Cymru yn credu bod arnynt ei hangen at ddibenion y Rheoliadau hyn.

13. Rhaid i bob ceisydd a phob myfyriwr cymwys roi gwybod ar unwaith i Weinidogion Cymru a rhoi'r manylion iddynt os bydd unrhyw rai o'r canlynol yn digwydd–

(a) ei fod yn tynnu'n ôl o'i gwrs, yn rhoi'r gorau iddo neu'n cael ei ddiarddel oddi arno;

(b) ei fod yn trosglwyddo i gwrs arall yn yr Athrofa;

(c) ei fod yn rhoi'r gorau i fod yn bresennol ar y cwrs ac nad yw'n bwriadu parhau ag ef am weddill y flwyddyn academaidd neu nad yw'n cael caniatâd i barhau ag ef am weddill y flwyddyn academaidd;

(ch) ei fod yn absennol o'i gwrs am fwy na 60 o ddiwrnodau oherwydd salwch neu am unrhyw gyfnod am unrhyw reswm arall;

(d) bod y mis ar gyfer dechrau'r cwrs neu ei gwblhau yn newid;

(dd) bod ei gyfeiriad cartref neu ei gyfeiriad yn ystod y tymor yn newid.

14. Rhaid i'r wybodaeth a roddir i Weinidogion Cymru yn unol â'r Rheoliadau hyn fod ar y ffurf y gofynnir amdani gan Weinidogion Cymru ac, os yw Gweinidogion Cymru yn gofyn bod yr wybodaeth yn cael ei llofnodi gan y person sy'n ei rhoi, mae llofnod electronig ar y ffurf a bennir ganddynt yn bodloni'r gofyniad hwn.

RHAN 4 CYMORTHARIANNOL

Cyffredinol

15.–(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), y rheol gyffredinol yw bod myfyriwr cymwys sy'n bresennol ar gwrs dynodedig a ddarperir gan yr Athrofa yn cymhwyso mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd i gael–

(a) grantiau at gostau byw a chostau eraill yn unol â Phennod 1; a

(b) grantiau atodol yn unol â Phennod 2.

(2) Os yw'r flwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr cymwys wedi gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi yn flwyddyn o ailadrodd astudiaethau, caiff Gweinidogion Cymru benderfynu–

(a) nad yw'r myfyriwr yn cymhwyso i gael math neu swm penodol o gymorth mewn cysylltiad â'r flwyddyn o ailadrodd astudiaethau; neu

(b) nad yw'r myfyriwr yn cymhwyso i gael unrhyw gymorth mewn cysylltiad â'r flwyddyn o ailadrodd astudiaethau.

(3) Wrth benderfynu na fyddai myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael rhyw gymorth neu unrhyw gymorth yn unol â pharagraff (2), rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i amgylchiadau'r achos ac yn benodol i'r rhesymau pam y gofynnwyd i'r myfyriwr ailadrodd blwyddyn academaidd.

(4) At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr "blwyddyn o ailadrodd astudiaethau" yw blwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr wedi bod yn bresennol arni o'r blaen ond y mae'r Athrofa yn ei gwneud yn ofynnol iddo fod yn bresennol arni eto.

PENNOD 1 GRANTIAU AT GOSTAU BYWA CHOSTAU ERAILL

Grantiau at gostau byw a chostau eraill

16.–(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd i gael y grantiau at gostau byw a chostau eraill a bennir ym mharagraffau (3) i (7) ac a gyfrifir yn unol â hwy.

(2) Nid yw myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael yr un o'r grantiau sy'n daladwy o dan y rheoliad hwn os paragraff 9 o Ran 2 o Atodlen 1 yw'r unig baragraff o Ran 2 o'r Atodlen honno y mae'r myfyriwr yn dod odano.

(3) Mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael grant at gostau byw o 18,099 ewro o ran blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010.

(4) Mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael grant i deithio adref am y swm y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu mai dyna gost resymol un siwrnai ddychwel o gyfeiriad cartref y myfyriwr i'r Athrofa.

(5) Mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael grant ar gyfer teithio colegol am y swm y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu mai dyna gost resymol teithio o breswylfa'r myfyriwr, tra bydd yn bresennol yn yr Athrofa, i'r Athrofa.

(6) Ar yr amod bod Gweinidogion Cymru'n cytuno ymlaen llaw a chyn tynnu costau mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael grant at deithio ar gyfer ymchwil am y swm y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu mai dyna gost resymol teithio sydd wedi'i thynnu er mwyn cwblhau cyfnodau o ymchwil a awdurdodwyd gan yr Athrofa yn ystod y flwyddyn academaidd y gwneir cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.

(7) Mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael grant at yswiriant meddygol am y swm y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu mai dyna gost resymol yswirio'r myfyriwr yn erbyn rhwymedigaeth i dalu cost triniaeth feddygol a ddarperir y tu allan i'r Deyrnas Unedig os yw cyfnod arferol y cwrs yn fwy nag un flwyddyn academaidd.

17. Caniateir didynnu yn unol â Rhan 5 o'r swm sy'n daladwy mewn cysylltiad ag unrhyw un o'r grantiau a gyfrifir o dan baragraffau (3) i (6) o reoliad 16.

PENNOD 2 GRANTIAU ATODOL

Lwfans myfyriwr anabl

18.–(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael lwfans myfyriwr anabl i helpu gyda'r gwariant ychwanegol y mae Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni bod rhaid i'r myfyriwr ei dynnu oherwydd anabledd sydd ganddo mewn cysylltiad â bod yn bresennol ar gwrs dynodedig.

(2) Nid yw myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael lwfans myfyriwr anabl os paragraff 9 o Ran 2 o Atodlen 1 yw'r unig baragraff o Ran 2 o'r Atodlen honno y mae'r myfyriwr yn dod odano.

Swm lwfans myfyriwr anabl

19.–(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), swm y lwfans myfyriwr anabl yw'r swm y mae Gweinidogion Cymru o'r farn ei fod yn briodol yn unol ag amgylchiadau'r myfyriwr i fod yn gymorth at un neu ragor o fathau o wariant cymwys.

(2) Rhaid i swm lwfans myfyriwr anabl beidio â bod yn fwy na £10,260 mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd.

(3) Y "mathau o wariant cymwys" yw–

(a) gwariant ar gynorthwyydd personol anfeddygol;

(b) gwariant ar eitemau pwysig o offer arbenigol;

(c) unrhyw wariant ychwanegol a dynnir–

(i) yn yr Eidal er mwyn bod yn bresennol yn yr Athrofa; a

(ii) yn y Deyrnas Unedig neu y tu allan iddi at ddibenion teithio i'r Athrofa er mwyn bod yn bresennol ar y cwrs perthnasol.

Grant ar gyfer dibynyddion

20.–(1) Mae'r grant ar gyfer dibynyddion yn cynnwys yr elfennau canlynol–

(a) grant dibynyddion mewn oed; a

(b) lwfans dysgu rhieni.

(2) Nodir amodau cymhwyso ar gyfer pob elfen a'r symiau sy'n daladwy yn rheoliadau 21 i 25.

Grant dibynyddion mewn oed

21.–(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael grant dibynyddion mewn oed mewn cysylltiad â bod yn bresennol ar gwrs dynodedig yn unol â'r rheoliad hwn.

(2) Mae'r grant dibynyddion mewn oed ar gael mewn perthynas ag un dibynnydd myfyriwr cymwys sydd naill ai–

(a) yn bartner y myfyriwr; neu

(b) yn ddibynnydd mewn oed i'r myfyriwr a hwnnw'n ddibynnydd nad yw ei incwm net yn fwy na £3,801.

(3) Nid yw myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael y grant sy'n daladwy o dan y rheoliad hwn os paragraff 9 o Ran 2 o Atodlen 1 yw'r unig baragraff o Ran 2 o'r Atodlen honno y mae'r myfyriwr yn dod odano.

22. Mae swm y grant dibynyddion mewn oed sy'n daladwy mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yn cael ei gyfrifo yn unol â rheoliad 24, a'r swm sylfaenol yw–

(a) mewn cysylltiad â'r flwyddyn academaidd gyfredol, £2,647; neu

(b) pan fo'r person y mae'r myfyriwr yn gwneud cais mewn cysylltiad ag ef am grant dibynyddion mewn oed yn preswylio fel arfer y tu allan i'r Deyrnas Unedig, y swm nad yw'n fwy na £2,647 ac sydd ym marn Gweinidogion Cymru yn rhesymol yn yr amgylchiadau.

Lwfans dysgu rhieni

23.–(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso, mewn cysylltiad â bod yn bresennol ar gwrs dynodedig, i gael y lwfans dysgu rhieni os oes ganddo un neu fwy o blant dibynnol.

(2) Nid yw myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael y grant sy'n daladwy o dan y rheoliad hwn os paragraff 9 o Ran 2 o Atodlen 1 yw'r unig baragraff o Ran 2 o'r Atodlen honno y mae'r myfyriwr yn dod odano.

(3) Mae swm y lwfans dysgu rhieni sy'n daladwy mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yn cael ei gyfrifo yn unol â rheoliad 24, a'r swm sylfaenol yw £1,508.

Cyfrifo

24.–(1) Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, y swm sy'n daladwy mewn cysylltiad ag elfen benodol o'r grant ar gyfer dibynyddion y mae'r myfyriwr cymwys yn cymhwyso i'w gael o dan reoliadau 21 i 23 yw swm yr elfen honno sy'n weddill ar ôl cymhwyso, hyd nes y daw i ben neu hyd nes nad oes elfen yn dal yn daladwy o dan reoliadau 21 i 23, swm sy'n hafal i (AB) fel a ganlyn ac yn y drefn ganlynol–

(a) i ostwng swm sylfaenol y grant dibynyddion mewn oed os yw'r myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael yr elfen honno o dan reoliad 21; a

(b) i ostwng swm sylfaenol y lwfans dysgu rhieni os yw'r myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael yr elfen honno o dan reoliad 23.

(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (5), os yw B yn fwy nag A neu'n hafal i A, mae swm sylfaenol pob elfen o'r grant ar gyfer dibynyddion y mae'r myfyriwr cymwys yn cymhwyso i'w chael yn daladwy.

(3) Os yw (AB) yn hafal i agregiad y symiau sylfaenol o elfennau'r grant ar gyfer dibynyddion y mae'r myfyriwr cymwys yn cymhwyso i'w cael neu'n fwy na'r agregiad hwnnw, y swm sy'n daladwy mewn cysylltiad â phob elfen yw dim.

(4) Mae swm y grant dibynyddion mewn oed a gyfrifir o dan baragraff (1) yn cael ei ostwng o ran dibynnydd mewn oed gan un hanner–

(a) os yw partner y myfyriwr–

(i) yn fyfyriwr cymwys; neu

(ii) yn dal dyfarniad statudol; a

(b) os cymerir dibynyddion y partner hwnnw i ystyriaeth wrth gyfrifo swm y cymorth y mae'r partner hwnnw yn cymhwyso i'w gael, neu'r taliad y mae ganddo hawlogaeth i'w gael, o dan y dyfarniad statudol.

(5) Os yw swm y lwfans dysgu rhieni a gyfrifir o dan baragraff (1) yn £0.01 neu fwy ond yn llai na £50, swm y lwfans dysgu rhieni sy'n daladwy yw £50.

(6) At ddibenion y rheoliad hwn–

25. Caniateir didynnu yn unol â Rhan 5 o'r swm sy'n daladwy mewn cysylltiad ag elfen benodol yn y grant ar gyfer dibynyddion a gyfrifir yn unol â rheoliadau 21 i 24.

Dehongli

26.–(1) At ddibenion rheoliadau 21 i 25–

(a) ystyr "dibynnydd mewn oed" ("adult dependant"), mewn perthynas â myfyriwr cymwys, yw person mewn oed sy'n dibynnu ar y myfyriwr heblaw plentyn y myfyriwr, partner y myfyriwr (gan gynnwys priod neu bartner sifil y mae Gweinidogion Cymru o'r farn bod y myfyriwr wedi gwahanu oddi wrtho) neu gyn-bartner y myfyriwr;

(b) mae "plentyn" ("child") mewn perthynas â myfyriwr cymwys yn cynnwys unrhyw blentyn i bartner y myfyriwr sy'n ddibynnol ar y myfyriwr ac unrhyw blentyn y mae gan y myfyriwr gyfrifoldeb rhiant drosto sy'n ddibynnol arno;

(c) ystyr "dibynnydd" ("dependant"), mewn perthynas â myfyriwr cymwys, yw partner y myfyriwr, plentyn dibynnol y myfyriwr neu ddibynnydd mewn oed i'r myfyriwr, nad yw ym mhob achos yn fyfyriwr cymwys ac nad oes ganddo ddyfarniad statudol;

(ch) ystyr "dibynnol" ("dependent") yw ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu'n bennaf;

(d) ystyr "plentyn dibynnol" ("dependent child"), mewn perthynas â myfyriwr cymwys yw plentyn sy'n ddibynnol ar y myfyriwr;

(dd) ystyr "rhiant unigol" ("lone parent") yw myfyriwr cymwys nad oes ganddo bartner ac sydd â phlentyn dibynnol neu blant dibynnol;

(e) mae i "incwm net" ("net income") yr ystyr a roddir ym mharagraff (2);

(f) yn ddarostyngedig i is-baragraffau (ff), (g), (ng) ac (h), ystyr "partner" ("partner") yw unrhyw un o'r canlynol–

(i) priod myfyriwr;

(ii) partner sifil myfyriwr;

(iii) person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr fel pe bai'r person hwnnw'n briod i'r myfyriwr–

(aa) os oedd y myfyriwr hwnnw yn 25 oed neu drosodd ar ddechrau'r flwyddyn academaidd y mae cyfraniad y myfyriwr i fod i gael ei asesu mewn cysylltiad â hi; a

(bb) os dechreuodd y myfyriwr hwnnw y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2000;

(iv) person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr fel pe bai'r person hwnnw'n bartner sifil i'r myfyriwr–

(aa) os oedd y myfyriwr hwnnw yn 25 oed neu drosodd ar ddechrau'r flwyddyn academaidd y mae cyfraniad y myfyriwr i fod i gael ei asesu mewn cysylltiad â hi; a

(bb) os dechreuodd y myfyriwr hwnnw y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2005;

(ff) oni nodir fel arall, nid yw person a fyddai fel arall yn bartner o dan is-baragraff (f) i'w drin fel partner–

(v) os yw'r person hwnnw a'r myfyriwr, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi'u gwahanu; neu

(vi) os yw'r person yn byw fel arfer y tu allan i'r Deyrnas Unedig ac nad yw'n cael ei gynnal gan y myfyriwr;

(g) at ddibenion diffinio "dibynnydd mewn oed" , mae person i'w drin fel partner pe bai'r person yn bartner o dan is-baragraff (f) oni bai am y ffaith nad oedd y myfyriwr y mae'r person yn byw gydag ef yn 25 oed neu drosodd ar ddechrau'r flwyddyn academaidd y mae cyfraniad y myfyriwr i fod i gael ei asesu mewn cysylltiad â hi;

(ng) at ddibenion diffinio "plentyn" a "rhiant unigol" , mae person i'w drin fel partner pe bai'r person yn bartner o dan is-baragraff (f) oni bai am y dyddiad y dechreuodd y myfyriwr y cwrs dynodedig neu'r ffaith nad oedd y myfyriwr y mae'r person fel arfer yn byw gydag ef yn 25 oed neu drosodd ar ddechrau'r flwyddyn academaidd y mae cyfraniad y myfyriwr i fod i gael ei asesu mewn cysylltiad â hi;

(h) yn ddarostyngedig i is-baragraff (i), at ddibenion diffinio "dibynnydd mewn oed" , caiff Gweinidogion Cymru drin oedolyn neu blentyn fel rhai sy'n ddibynnol ar fyfyriwr cymwys os ydynt wedi'u bodloni o ran yr oedolyn neu'r plentyn–

(i) nad yw'n ddibynnol ar–

(aa) y myfyriwr cymwys; neu

(bb) ei bartner; ond

(ii) ei fod yn ddibynnol ar y myfyriwr cymwys a'i bartner gyda'i gilydd;

(i) rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thrin oedolyn ("A") fel dibynnydd ar fyfyriwr cymwys yn unol ag is-baragraff (h), os Ayw–

(i) priod neu bartner sifil partner y myfyriwr cymwys (gan gynnwys priod neu bartner sifil y mae Gweinidogion Cymru yn barnu bod partner y myfyriwr cymwys wedi gwahanu oddi wrtho); neu

(ii) partner blaenorol partner y myfyriwr cymwys.

(j) at ddibenion penderfynu a yw person yn bartner blaenorol i bartner myfyriwr cymwys, ystyr "partner" o ran partner myfyriwr cymwys yw–

(i) priod partner myfyriwr cymwys;

(ii) partner sifil partner myfyriwr cymwys;

(iii) os dechreuodd y myfyriwr cymwys y cwrs dynodedig penodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2000, person sydd fel arfer yn byw gyda phartner myfyriwr cymwys fel pe bai yn briod iddo;

(iv) os dechreuodd y myfyriwr cymwys y cwrs dynodedig penodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2005, person sydd fel arfer yn byw gyda phartner myfyriwr cymwys fel pe bai yn bartner sifil iddo.

(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), incwm net dibynnydd yw incwm y dibynnydd o bob ffynhonnell am y flwyddyn academaidd o dan sylw wedi'i ostwng yn ôl swm y dreth incwm a'r cyfraniadau nawdd cymdeithasol sy'n daladwy mewn cysylltiad â hi ond gan anwybyddu–

(a) unrhyw bensiwn, lwfans neu fudd-dal arall a delir oherwydd anabledd neu analluedd sydd gan y dibynnydd;

(b) budd-dal plant sy'n daladwy o dan Ran IX o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(15);

(c) unrhyw gymorth ariannol sy'n daladwy i'r dibynnydd gan awdurdod lleol yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adrannau 2, 3 a 4 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002(16);

(ch) unrhyw lwfans gwarcheidwad y mae gan y dibynnydd hawlogaeth i'w gael o dan adran 77 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992;

(d) yn achos dibynnydd y mae plentyn sy'n derbyn gofal awdurdod lleol wedi'i fyrddio gydag ef, unrhyw daliad a wneir i'r dibynnydd hwnnw at ddibenion adran 23 o Ddeddf Plant 1989(17);

(dd) unrhyw daliad a wnaed i'r dibynnydd o dan adran 23C(5A) o Ddeddf Plant 1989(18)

(e) unrhyw daliadau a wneir i'r dibynnydd o dan adran 15 o Ddeddf Plant 1989 ac Atodlen 1 iddi mewn cysylltiad â pherson nad yw'n blentyn i'r dibynnydd neu unrhyw gymorth a roddir gan awdurdod lleol yn unol ag adran 24 o'r Ddeddf honno(19); ac

(f) unrhyw gredyd treth plant y mae gan y dibynnydd hawlogaeth i'w gael o dan Ran 1 o Ddeddf Credydau Treth 2002(20).

(3) Os yw myfyriwr cymwys neu bartner y myfyriwr cymwys yn gwneud unrhyw daliadau ailgylchol a oedd gynt yn cael eu gwneud gan y myfyriwr yn unol â rhwymedigaeth a ysgwyddwyd cyn blwyddyn academaidd gyntaf cwrs y myfyriwr, incwm net y partner yw'r incwm net wedi'i gyfrifo yn unol â pharagraff (2) ac wedi'i ostwng yn ôl–

(a) swm sy'n hafal i'r taliadau o dan sylw am y flwyddyn academaidd, os cafodd y rhwymedigaeth, ym marn Gweinidogion Cymru, ei hysgwyddo'n rhesymol; neu

(b) y swm llai, os bydd unrhyw swm o gwbl, y mae Gweinidogion Cymru yn barnu ei fod yn briodol pe gallai rhwymedigaeth lai, yn eu barn hwy, fod wedi'i hysgwyddo'n rhesymol.

(4) At ddibenion paragraff (2)–

(a) os yw'r dibynnydd yn blentyn dibynnol; a

(b) os oes taliadau'n cael eu gwneud i'r myfyriwr tuag at gynhaliaeth y plentyn;

mae'r taliadau hynny i gael eu trin fel incwm i'r plentyn.

RHAN 5 CYFRANIADAU

Cyfraniad y myfyriwr

27.–(1) Cyfraniad myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yw'r swm a gyfrifir o dan Atodlen 2, os oes unrhyw swm o gwbl.

(2) At ddibenion arfer swyddogaethau Gweinidogion Cymru o dan y Rheoliadau hyn, caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i fyfyriwr roi o dro i dro yr wybodaeth y mae arnynt ei hangen er mwyn asesu cyfraniad y myfyriwr.

Cymhwyso cyfraniad y myfyriwr

28. Rhaid i'r cyfraniad a gyfrifir yn unol â rheoliad 33 gael ei gymhwyso yn unol â rheoliad 27.

29.–(1) Rhaid i Weinidogion Cymru gymhwyso cyfraniad y myfyriwr cymwys–

(a) yn gyntaf, i ostwng swm y grant at gostau byw a gyfrifir yn unol â rheoliad 16(3);

(b) yn ail–

(i) yn achos myfyriwr sy'n gymwys i gael y grant ar gyfer dibynyddion, i ostwng yn y drefn ganlynol–

(aa) swm unrhyw grant ar gyfer dibynyddion mewn oed a gyfrifir yn unol â rheoliad 24;

(bb) swm unrhyw lwfans dysgu rhieni a gyfrifir yn unol â rheoliad 24; ac

(cc) swm unrhyw grant ar gyfer teithio adref a gyfrifir yn unol â rheoliad 16(4);

(ii) mewn unrhyw achos arall, i ostwng swm y grant ar gyfer teithio adref a gyfrifir yn unol â rheoliad 16(4);

(c) yn drydydd, i ostwng swm y grant ar gyfer teithio colegol a gyfrifir yn unol â rheoliad 16(5).

(ch) yn bedwerydd, yn ddarostyngedig i baragraff (2), i ostwng swm y grant ar gyfer teithio i ymchwilio a gyfrifir yn unol â rheoliad 16(6).

(2) Os yw'r cyfraniad sydd ar gael i ostwng swm y grant ar gyfer teithio i ymchwilio yn unol â pharagraff (1)(ch) yn fwy na swm y grant hwnnw a gyfrifir o dan reoliad 16(6), swm y grant hwnnw sy'n daladwy i'r myfyriwr yw dim.

RHAN 6 TALIADAU

Talu grantiau at gostau byw a chostau eraill a grantiau atodol

30.–(1) Caiff Gweinidogion Cymru dalu'r grantiau at gostau byw a chostau eraill a'r grantiau atodol y mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i'w cael yn y rhandaliadau ac ar yr adegau sy'n briodol yn eu barn hwy.

(2) Os ydynt o'r farn ei bod yn briodol iddynt wneud hynny, caiff Gweinidogion Cymru dalu grant sy'n daladwy o dan reoliad 16(3) i'r awdurdod academaidd er mwyn i'r awdurdod dalu'r grant ar eu rhan.

(3) Pan na ellir gwneud, ar sail yr wybodaeth a ddarperir gan y myfyriwr, asesiad terfynol o swm y grantiau at gostau byw a chostau eraill neu o grantiau atodol sy'n daladwy i fyfyriwr cymwys, caiff Gweinidogion Cymru wneud taliadau dros dro mewn cysylltiad â'r grantiau hynny hyd oni wneir yr asesiad terfynol.

(4) Os ydynt o'r farn ei bod yn briodol iddynt wneud hynny, caiff Gweinidogion Cymru wneud taliad lwfans myfyriwr anabl cyn dechrau'r flwyddyn academaidd y mae'r taliad hwnnw'n ddyledus mewn cysylltiad â hi.

(5) Pan fo'r amgylchiadau yn rheoliad 13(a) neu yn rheoliad 13(c) yn gymwys, rhaid i Weinidogion Cymru beidio â gwneud unrhyw daliadau cymorth i fyfyriwr ar ôl y dyddiad y mae'r myfyriwr yn peidio o bod yn bresennol ar ei gwrs onid ydynt o'r farn ei bod yn briodol iddynt wneud hynny o ystyried amgylchiadau achos y myfyriwr.

(6) Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â gwneud unrhyw daliadau cymorth i fyfyriwr sy'n absennol o'r cwrs–

(a) am fwy na 60 o ddiwrnodau oherwydd salwch; neu

(b) am unrhyw gyfnod am unrhyw reswm arall, onid ydynt o'r farn ei bod yn briodol iddynt wneud hynny o ystyried amgylchiadau achos y myfyriwr.

Gordaliadau

31. Os yw Gweinidogion Cymru'n ei gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny, rhaid i fyfyriwr cymwys ad-dalu unrhyw swm a dalwyd i'r myfyriwr hwnnw o dan Ran 4 ac sydd, am ba reswm bynnag, yn fwy na'r swm o gymorth y mae gan y myfyriwr hawlogaeth i'w gael o dan Ran 4.

Leighton Andrews

Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru

17 Rhagfyr 2009

Rheoliad 8

ATODLEN 1 MYFYRWYR CYMWYS

RHAN 1 Dehongli

1.–(1) At ddibenion yr Atodlen hon–

(2) Ystyr "person hunangyflogedig y ffin o'r AEE" ("EEA frontier self-employed person") yw un o wladolion yr AEE–

(a) sy'n berson hunangyflogedig yng Nghymru; a

(b) sy'n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth un o Wladwriaethau'r AEE ac eithrio'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu yn y Wladwriaeth honno yn yr AEE, yn ôl y digwydd, bob dydd neu o leiaf unwaith yr wythnos.

(3) Ystyr "gweithiwr y ffin o'r AEE" ("EEA frontier worker") yw un o wladolion yr AEE–

(a) sy'n weithiwr yng Nghymru; a

(b) sy'n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth un o Wladwriaethau'r AEE ac eithrio'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu yn y Wladwriaeth honno yn yr AEE, yn ôl y digwydd, bob dydd neu o leiaf unwaith yr wythnos.

(4) Ystyr "person cyflogedig Swisaidd y ffin" ("Swiss frontier employed person") yw gwladolyn Swisaidd–

(a) sy'n berson cyflogedig yng Nghymru; a

(b) sy'n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth un o Wladwriaethau'r AEE ac eithrio'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu yn y Wladwriaeth honno yn yr AEE, yn ôl y digwydd, bob dydd neu o leiaf unwaith yr wythnos.

(5) Ystyr "person hunangyflogedig Swisaidd y ffin" ("Swiss frontier self-employed person") yw gwladolyn Swisaidd–

(a) sy'n berson hunangyflogedig yng Nghymru; a

(b) sy'n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth un o Wladwriaethau'r AEE ac eithrio'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu yn y Wladwriaeth honno yn yr AEE, yn ôl y digwydd, bob dydd neu o leiaf unwaith yr wythnos.

(6) At ddibenion yr Atodlen hon, mae "rhiant" ("parent") yn cynnwys gwarcheidwad, unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn ac unrhyw berson a chanddo ofal dros blentyn a rhaid dehongli "plentyn" ("child") yn unol â hynny.

(7) At ddibenion yr Atodlen hon, mae person i'w drin fel petai'n preswylio fel arfer yng Nghymru, yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd, yn y diriogaeth y mae'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn ei ffurfio neu yn y diriogaeth y mae'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci yn ei ffurfio pe byddai wedi bod yn preswylio felly oni bai am y ffaith–

(a) bod y person;

(b) bod ei briod neu ei bartner sifil;

(c) bod ei riant; neu

(ch) yn achos perthynas uniongyrchol dibynnol yn y llinell esgynnol, bod ei blentyn neu briod neu bartner sifil ei blentyn,

yn cael ei gyflogi neu wedi bod yn cael ei gyflogi dros dro y tu allan i'r ardal o dan sylw.

(8) At ddibenion is-baragraff (7), mae gwaith dros dro y tu allan i Gymru, i'r Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd, i diriogaeth y mae'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swisdir yn ei ffurfio neu i diriogaeth y mae'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci yn ei ffurfio yn cynnwys–

(a) yn achos aelodau o lynges, o fyddin neu o awyrlu rheolaidd y Goron, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu fel aelodau o'r lluoedd hynny y tu allan i'r Deyrnas Unedig;

(b) yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd un o Wladwriaethau'r AEE neu'r Swistir, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu fel aelodau o'r lluoedd hynny y tu allan i'r diriogaeth y mae'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swisdir yn ei ffurfio; a

(c) yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Twrci, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu fel aelodau o'r lluoedd hynny y tu allan i'r diriogaeth y mae'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci yn ei ffurfio.

RHAN 2 Categorïau

Personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig

2.–(1) Person–

(a) sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ar y dyddiad perthnasol ac eithrio drwy fod wedi caffael yr hawl i breswylio'n barhaol;

(b) sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol;

(c) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad perthnasol yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd; ac

(ch) yn ddarostyngedig i baragraff 2, nad oedd yn ystod unrhyw ran o'r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) wedi bod yn preswylio'n arferol yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd yn gyfan gwbl neu'n bennaf at y diben o dderbyn addysg lawnamser.

(2) Nid yw paragraff (ch) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy'n cael ei drin fel pe bai'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd yn unol â pharagraff 1(7).

3. Person–

(a) sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ar y dyddiad perthnasol oherwydd ei fod wedi caffael yr hawl i breswylio'n barhaol;

(b) sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol;

(c) a oedd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad perthnasol; ac

(ch) a oedd, mewn achos pan oedd ei breswyliaeth arferol y cyfeirir ati ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu'n bennaf at y diben o dderbyn addysg lawnamser, yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn ei ffurfio yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (c).

Ffoaduriaid a phersonau sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros

4.–(1) Person–

(a) sy'n ffoadur;

(b) sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan gafodd ei gydnabod yn ffoadur; ac

(c) sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol.

(2) Person–

(a) sy'n briod neu'n bartner sifil i ffoadur;

(b) a oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r ffoadur ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur ei gais am loches;

(c) sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan gafodd ganiatâd i aros yn y Deyrnas Unedig; ac

(ch) sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol.

(3) Person–

(a) sy'n blentyn i ffoadur neu'n blentyn i briod neu bartner sifil i ffoadur;

(b) a oedd, ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur ei gais am loches, yn blentyn i'r ffoadur neu'n blentyn i berson a oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r ffoadur ar y dyddiad hwnnw;

(c) a oedd o dan 18 mlwydd oed ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur ei gais am loches;

(ch) sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan gafodd ganiatâd i aros yn y Deyrnas Unedig; a

(d) sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol.

5.–(1) Person–

(a) sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

(b) sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol; ac

(c) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad perthnasol.

(2) Person–

(a) sy'n briod neu'n bartner sifil i berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

(b) a oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad y gwnaeth y person hwnnw ei gais am loches;

(c) sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol; ac

(ch) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad perthnasol.

(3) Person–

(a) sy'n blentyn i berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu'n blentyn i briod neu i bartner sifil person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

(b) a oedd, ar y dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ei gais am loches, yn blentyn i'r person hwnnw neu'n blentyn i berson a oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad hwnnw;

(c) a oedd o dan 18 mlwydd oed ar y dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ei gais am loches;

(ch) sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol; a

(d) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad perthnasol.

Gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o'u teuluoedd

6.–(1) Person–

(a) sydd, ar y dyddiad perthnasol–

(i) yn weithiwr mudol o'r AEE neu'n berson hunangyflogedig o'r AEE;

(ii) yn berson cyflogedig Swisaidd neu'n berson hunangyflogedig Swisaidd;

(iii) yn aelod o deulu person a grybwyllir ym mharagraff (i) neu (ii);

(iv) yn weithiwr y ffin o'r AEE neu'n berson hunangyflogedig y ffin o'r AEE;

(v) yn berson cyflogedig Swisaidd y ffin neu'n berson hunangyflogedig Swisaidd y ffin; neu

(vi) yn aelod o deulu person ym mharagraff (iv) neu (v);

(b) sydd, yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol;

(c) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn ei ffurfio drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad perthnasol.

(2) Nid yw paragraff (b) o is-baragraff (1) yn gymwys pan fo'r person sy'n gwneud cais am gymorth yn dod o fewn paragraff (a) (iv), (v) neu (vi) o is-baragraff (1).

7. Person–

(a) sydd yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol;

(b) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn ei ffurfio drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad perthnasol; ac

(c) sydd â hawlogaeth i gael cymorth yn rhinwedd Erthygl 12 o Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1612/68 ar rydd symudiad gweithwyr(26), fel y'i hymestynnwyd gan Gytundeb yr AEE.

Personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio mewn man arall

8.–(1) Person–

(a) sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig;

(b) a oedd yn preswylio fel arfer yng Nghymru ac wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn union cyn ymadael â'r Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio;

(c) sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar y dyddiad perthnasol;

(ch) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn ei ffurfio drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad perthnasol; a

(d) a oedd, mewn achos lle yr oedd ei breswyliaeth arferol y cyfeirir ati ym mharagraff (b) yn gyfan gwbl neu'n bennaf at ddibenion derbyn addysg lawnamser, yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn ei ffurfio yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (ch).

(2) At ddibenion y paragraff hwn, mae person wedi arfer hawl i breswylio os yw'n wladolyn y Deyrnas Unedig, yn aelod o deulu gwladolyn y Deyrnas Unedig at ddibenion Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 (neu ddibenion cyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir) neu'n berson a chanddo hawl i breswylio'n barhaol ac sydd ymhob achos wedi arfer hawl o dan Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu unrhyw hawl gyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir mewn gwladwriaeth ac eithrio'r Deyrnas Unedig neu, yn achos person sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd â hawl i breswylio'n barhaol, os yw'n mynd i'r wladwriaeth o fewn y diriogaeth y mae'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn ei ffurfio ac y mae'n un o'i gwladolion neu y mae'r person y mae'n aelod o'i deulu yn un o'i gwladolion.

Gwladolion yr UE

9.–(1) Person–

(a) sydd, ar y dyddiad perthnasol, naill ai–

(i) yn un o wladolion yr UE; neu

(ii) yn aelod o deulu person o'r fath;

(b) sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol;

(c) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn ei ffurfio drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad perthnasol; ac

(ch) yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), nad yw wedi preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn ei ffurfio yn ystod unrhyw ran o'r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu'n bennaf at y diben o dderbyn addysg lawnamser.

(2) Nid yw paragraff (ch) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy'n cael ei drin fel pe bai'n preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn ei ffurfio yn unol â pharagraff 1(7).

10. Person–

(a) sydd, ar y dyddiad perthnasol, yn un o wladolion yr UE ac eithrio'n un o wladolion y Deyrnas Unedig;

(b) sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol;

(c) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn y dyddiad perthnasol; ac

(ch) a oedd, mewn achos pan oedd ei breswyliaeth arferol y cyfeirir ati ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu'n bennaf at y diben o dderbyn addysg lawnamser, yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn ei ffurfio yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (c).

Plant gwladolion Swisaidd

11. Person–

(a) sydd, ar y dyddiad perthnasol, yn blentyn i wladolyn Swisaidd â'r hawlogaeth i gael cymorth gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn rhinwedd Erthygl 3(6) o Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;

(b) sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol;

(c) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn ei ffurfio drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(ch) a oedd, mewn achos pan oedd ei breswyliaeth arferol y cyfeirir ati ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu'n bennaf at y diben o dderbyn addysg lawnamser, yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn ei ffurfio yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (c).

lant gweithwyr Twrcaidd

12. Person–

(a) a oedd yn blentyn i weithiwr Twrcaidd ar y dyddiad perthnasol;

(b) sydd yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar y diwrnod perthnasol; ac

(c) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci yn ei ffurfio drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

Rheoliad 27

ATODLEN 2 CYFRANIAD Y MYFYRIWR

RHAN 1 Dehongli

1.–(1) Yn yr Atodlen hon–

(2) Yr incwm y cyfeirir ato yn yr is-baragraff hwn yw unrhyw fudd-daliadau o dan drefniant pensiwn yn unol â gorchymyn a wnaed o dan adran 23 o Ddeddf Achosion Priodasol 1973(27) sy'n cynnwys darpariaeth a wnaed yn rhinwedd adrannau 25B(4) a 25E(3) o'r Ddeddf honno neu fudd-daliadau pensiwn o dan Ran 1 o Atodlen 5 i Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004(28) sy'n cynnwys darpariaeth a wnaed yn rhinwedd Rhannau 6 a 7 o'r Atodlen honno.

RHAN 2 Cyfrifo cyfraniad

Incwm yr aelwyd

2.–(1) Mae swm cyfraniad myfyriwr cymwys yn dibynnu ar incwm yr aelwyd.

(2) Incwm yr aelwyd–

(a) yn achos myfyriwr cymwys a chanddo bartner, yw agregiad o incwm gweddilliol y myfyriwr ac incwm gweddilliol partner y myfyriwr hwnnw; neu

(b) yn achos myfyriwr cymwys nad oes ganddo bartner, yw incwm gweddilliol y myfyriwr hwnnw.

(3) Wrth ganfod beth yw incwm yr aelwyd o dan is-baragraff (2), mae swm o £1,130 i'w ddidynnu am bob plentyn sy'n ddibynnol yn ariannol yn gyfan gwbl neu'n bennaf ar y myfyriwr cymwys neu ar ei bartner.

Cyfrifo incwm gweddilliol y myfyriwr

3.–(1) Er mwyn canfod beth yw incwm gweddilliol myfyriwr cymwys, didynnir o'i incwm trethadwy (onid yw eisoes wedi'i ddidynnu wrth ganfod beth yw ei incwm trethadwy) agregiad unrhyw symiau sy'n dod o fewn unrhyw un o'r is-baragraffau canlynol–

(a) unrhyw gydnabyddiaeth am waith a wneir yn ystod unrhyw flwyddyn academaidd o gwrs y myfyriwr cymwys, ar yr amod nad yw'r gydnabyddiaeth honno'n cynnwys unrhyw symiau a delir mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod pan fo ganddo ganiatâd i fod yn absennol neu pan fo wedi'i ryddhau o'i ddyletswyddau arferol er mwyn bod yn bresennol ar y cwrs hwnnw;

(b) swm gros unrhyw bremiwm neu swm arall a delir gan y myfyriwr cymwys mewn perthynas â phensiwn (nad yw'n bensiwn sy'n daladwy o dan bolisi yswiriant bywyd) y mae rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef o dan adran 273 o Ddeddf Treth Incwm a Threth Gorfforaeth 1988(29) neu o dan adran 188 o Ddeddf Cyllid 2004(30), neu pan fo incwm y myfyriwr yn cael ei gyfrifo at ddiben deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, swm gros unrhyw bremiwm neu swm o'r fath y byddai rhyddhad yn cael ei roi mewn cysylltiad ag ef pe bai'r ddeddfwriaeth honno yn gwneud darpariaeth gyfatebol i ddarpariaeth y Deddfau Treth Incwm.

(2) Pan fo'r myfyriwr cymwys yn cael incwm mewn arian cyfredol ac eithrio sterling, gwerth yr incwm hwn at ddiben y paragraff hwn–

(a) os yw'r myfyriwr yn prynu sterling â'r incwm, yw swm y sterling a gaiff y myfyriwr felly; neu

(b) fel arall, yw gwerth y sterling y byddai'r incwm yn ei brynu gan ddefnyddio'r gyfradd ar gyfer y mis y daw i law, sef cyfradd a gyhoeddir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol(31).

Cyfrifo incwm gweddilliol partner y myfyriwr cymwys

4.–(1) At ddibenion canfod beth yw incwm trethadwy partner myfyriwr cymwys, nid yw unrhyw ddidyniadau sydd i'w gwneud neu esemptiadau a ganiateir–

(a) ar ffurf rhyddhadau personol y darperir ar eu cyfer ym Mhennod 1 o Ran VII o Ddeddf Treth Incwm a Threth Gorfforaeth 1988 neu, os cyfrifir yr incwm at ddibenion deddfwriaeth treth incwm un o Wladwriaethau eraill yr AEE neu'r Swistir, ar ffurf swm gros unrhyw bremiwm o'r fath y byddai rhyddhad yn cael ei roi mewn cysylltiad ag ef pe bai'r ddeddfwriaeth honno'n gwneud darpariaeth gyfatebol i ddarpariaeth y Deddfau Treth Incwm;

(b) yn unol ag unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol, na chaiff taliadau, a fyddent fel arall, o dan gyfraith y Deyrnas Unedig, yn rhan o incwm person, eu trin felly oddi tano neu oddi tani; neu

(c) o dan is-baragraff (2),

i'w gwneud na'u caniatáu.

(2) Er mwyn canfod beth yw incwm gweddilliol partner myfyriwr cymwys, didynnir o'r incwm trethadwy a ganfyddir o dan is-baragraff (1) agregiad unrhyw symiau sy'n dod o fewn unrhyw un o'r is-baragraffau canlynol–

(a) swm gros unrhyw bremiwm neu swm arall a delir gan y myfyriwr mewn perthynas â phensiwn (nad yw'n bensiwn sy'n daladwy o dan bolisi yswiriant bywyd) y mae rhyddhad yn cael ei roi mewn cysylltiad ag ef o dan adran 273 o Ddeddf Treth Incwm a Threth Gorfforaeth 1988 neu o dan adran 188 o Ddeddf Cyllid 2004, neu os cyfrifir incwm y myfyriwr at ddiben deddfwriaeth treth incwm un o Wladwriaethau eraill yr AEE neu'r Swistir, swm gros unrhyw bremiwm neu swm o'r fath y byddai rhyddhad yn cael ei roi mewn cysylltiad ag ef pe byddai'r ddeddfwriaeth honno'n gwneud darpariaeth gyfatebol i ddarpariaeth y Deddfau Treth Incwm;

(b) mewn unrhyw achos lle y cyfrifir incwm yn unol ag is-baragraff (6) unrhyw symiau sy'n gyfwerth â'r didyniad a grybwyllir ym mharagraff (a) o'r is-baragraff hwn, ar yr amod nad yw unrhyw symiau a ddidynnir felly i fod yn fwy na'r didyniadau a wneid os byddai'r cyfan o incwm partner y myfyriwr cymwys mewn gwirionedd yn incwm at ddibenion y Deddfau Treth Incwm; ac

(c) yn achos partner myfyriwr cymwys y mae ganddo ddyfarniad statudol, £1,130.

(3) Os yw Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni bod incwm partner y myfyriwr cymwys yn y flwyddyn ariannol yn dechrau yn union cyn y flwyddyn berthnasol ("y flwyddyn ariannol gyfredol"), yn debygol o beidio â bod yn fwy nag 85 y cant o werth sterling ei incwm yn y flwyddyn ariannol flaenorol, rhaid i Weinidogion Cymru, at ddiben galluogi'r myfyriwr cymwys i fod yn bresennol ar y cwrs heb ddioddef caledi, gadarnhau beth yw incwm yr aelwyd ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol.

(4) Os yw Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni bod incwm partner y myfyriwr cymwys mewn unrhyw flwyddyn ariannol, o ganlyniad i unrhyw ddigwyddiad, yn debygol o beidio â bod, ac yn debygol o barhau i beidio â bod ar ôl y flwyddyn honno, yn fwy nag 85 y cant o werth sterling ei incwm yn y flwyddyn ariannol flaenorol, rhaid i Weinidogion Cymru, at ddiben galluogi'r myfyriwr cymwys i fod yn bresennol ar y cwrs heb ddioddef caledi, gadarnhau beth yw incwm yr aelwyd ar gyfer blwyddyn academaidd cwrs y myfyriwr y digwyddodd y digwyddiad ynddi drwy gymryd fel incwm gweddilliol y partner gyfartaledd ei incwm gweddilliol ar gyfer pob un o'r blynyddoedd ariannol y mae'r flwyddyn academaidd honno'n dod oddi mewn iddynt.

(5) Os yw partner y myfyriwr cymwys yn bodloni Gweinidogion Cymru fod ei incwm yn deillio'n gyfan gwbl neu'n bennaf o elw busnes y mae'n ei rhedeg neu broffesiwn y mae'n ei ddilyn, yna mae unrhyw gyfeiriad yn y Rhan hon o'r Atodlen at flwyddyn ariannol flaenorol i'w ddarllen fel cyfeiriad at y cyfnod cynharaf o ddeuddeng mis sy'n diweddu ar ôl dechrau'r flwyddyn ariannol flaenorol ac y cedwir cyfrifon mewn cysylltiad ag ef sy'n gysylltiedig â'r busnes neu'r proffesiwn hwnnw.

(6) Os yw partner myfyriwr cymwys yn derbyn unrhyw incwm nad yw'n rhan o incwm y partner hwnnw at ddibenion y Deddfau Treth Incwm neu ddibenion deddfwriaeth treth incwm un o Wladwriaethau eraill yr AEE neu'r Swistir dim ond oherwydd–

(a) nad yw'r partner yn preswylio, yn preswylio fel arfer neu wedi ymgartrefu yn y Deyrnas Unedig, neu os cyfrifir ei incwm fel pe bai at ddibenion deddfwriaeth treth incwm un o Wladwriaethau eraill yr AEE neu'r Swistir, nad yw'n preswylio felly, yn preswylio fel arfer felly, neu wedi ymgartrefu felly yn y Wladwriaeth honno yn yr AEE neu yn y Swistir;

(b) nad yw'r incwm yn deillio yn y Deyrnas Unedig, neu os cyfrifir incwm y partner at ddibenion deddfwriaeth treth incwm un o Wladwriaethau eraill yr AEE neu'r Swistir, nad yw'n deillio yn y Wladwriaeth honno yn yr AEE neu yn y Swistir; neu

(c) bod yr incwm yn deillio o swyddfa, o wasanaeth neu o gyflogaeth, a bod incwm o'r rhain yn esempt o dreth yn unol ag unrhyw ddeddfwriaeth,

mae ei incwm trethadwy at ddiben yr Atodlen hon i'w gyfrifo fel pe bai'r incwm o dan yr is-baragraff hwn yn rhan o'i incwm at ddiben y Deddfau Treth Incwm neu ddeddfwriaeth treth incwm un o Wladwriaethau eraill yr AEE neu'r Swistir, yn ôl y digwydd.

(7) Os yw incwm partner y myfyriwr cymwys yn cael ei gyfrifo fel pe bai at ddibenion deddfwriaeth treth incwm un o Wladwriaethau eraill yr AEE neu'r Swistir, mae i'w gyfrifo o dan ddarpariaethau'r Atodlen hon yn arian cyfredol y Wladwriaeth honno yn yr AEE neu'r Swistir ac incwm partner y myfyriwr cymwys at ddibenion yr Atodlen hon yw gwerth sterling yr incwm hwnnw a ganfyddir yn unol â'r gyfradd ar gyfer y mis y mae diwrnod olaf y flwyddyn ariannol o dan sylw yn dod oddi mewn iddo, sef y gyfradd fel y'i cyhoeddir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

(8) Os bydd Gweinidogion Cymru'n penderfynu bod y myfyriwr cymwys a'i bartner wedi bod ar wahân drwy gydol y flwyddyn berthnasol, nid yw incwm y partner i'w gymryd i gyfrif wrth benderfynu incwm yr aelwyd.

(9) Os bydd Gweinidogion Cymru'n penderfynu bod y myfyriwr cymwys a'i bartner wedi gwahanu yn ystod y flwyddyn berthnasol, canfyddir incwm y partner drwy gyfeirio at ei incwm o dan is-baragraff (1) wedi ei rannu â phum deg dau a'i luosi â nifer yr wythnosau llawn yn y flwyddyn berthnasol y mae Gweinidogion Cymru yn canfod nad oedd y myfyriwr cymwys a'i bartner wedi gwahanu.

(10) Os oes gan fyfyriwr cymwys fwy nag un partner mewn unrhyw flwyddyn academaidd, mae darpariaethau'r paragraff hwn yn gymwys i bob un ohonynt.

Cyfrifo cyfraniad

5.–(1) Mae cyfraniad myfyriwr cymwys i'w gyfrifo yn unol â'r rheoliad hwn.

(2) Mewn perthynas â myfyriwr cymwys a chanddo bartner, y cyfraniad yw–

(a) os £23,680 neu fwy yw incwm yr aelwyd, £45 gyda £1 yn cael ei hychwanegu am bob un swm llawn o £9.27 uwchben incwm aelwyd o £23,680; a

(b) mewn unrhyw achos pan fo incwm yr aelwyd yn llai na £23,680, dim.

(3) Mewn perthynas â myfyriwr cymwys nad oes ganddo bartner, y cyfraniad yw

(a) os £11,025 neu fwy yw incwm yr aelwyd, £45 gyda £1 yn cael ei hychwanegu am bob un swm llawn o £9.27 uwchben incwm aelwyd o £11,025; a

(b) os yw incwm yr aelwyd yn llai na £11,025, dim.

(4) Nid yw swm y cyfraniad i fod yn fwy na £7,992.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer cymorth i un myfyriwr cymwys sy'n dilyn cwrs dynodedig ym maes addysg uwch yn yr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010.

Mae grantiau at gostau byw a chostau eraill, lwfans myfyriwr anabl a grant ar gyfer dibynyddion ar gael ar gyfer y myfyriwr cymwys.

Mae'r Rheoliadau hyn yn disgrifio'r meini prawf cymhwystra ar gyfer y grantiau, y weithdrefn ar gyfer gwneud cais a'r dull o gyfrifo swm y grant sy'n daladwy. Mae'r Rheoliadau yn disgrifio hefyd y trefniadau ar gyfer talu'r grantiau ac adennill unrhyw ordaliadau.

Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) 2008 i'r graddau a nodir yn rheoliadau 4 a 5.

(1)

1998 p. 30; diwygiwyd adran 22 gan Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p. 21), adran 146 ac Atodlen 11, Deddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p. 1), Atodlen, Deddf Cyllid 2003 (p. 14), adran 147 a Deddf Addysg Uwch 2004 (p. 8), adrannau 42 a 43 ac Atodlen 7. Back [1]

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (ac eithrio i'r graddau y maent yn ymwneud â gwneud unrhyw ddarpariaeth a awdurdodwyd gan is-adran (2)(a), (c), (j) neu (k), (3)(e) neu (f) neu (5) o adran 22) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 44 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 a Gorchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1833 (Cy.149)(C.79)) fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) (Diwygio) 2006 (O.S. 2006/1660 (Cy.159)(C.56)). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraffau 30(1) a 30(2)(a) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Back [2]

(3)

1962 p.12; rhoddwyd yn lle adrannau 1 i 4 ac Atodlen 1 y ddarpariaeth a osodir yn Atodlen 5 i Ddeddf Addysg 1980 (p.20). Diwygiwyd adran 1(3)(d) gan Ddeddf Addysg (Grantiau a Dyfarniadau) 1984 (p.11), adran 4. Diwygiwyd adran 4 gan Ddeddf Addysg 1994 (p.30), Atodlen 2, paragraff 2. Cafodd y Ddeddf gyfan ei diddymu gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p.30), adran 44(2) ac Atodlen 4, yn ddarostyngedig i'r darpariaethau trosiannol a'r arbedion a osodir yn Neddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Trosiannol) 1998 (O.S. 1998/3237), erthygl 3. Back [3]

(4)

1990 p.6; diddymwyd gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p.30), Atodlen 4. Back [4]

(5)

O.S. 1990/1506 (G.I.11); diwygiwyd gan O.S. 1996/1274 (G.I.1), Erthygl 43 ac Atodlen 5 Rhan II, O.S. 1996/1918 (G.I.15), Erthygl 3 a'r Atodlen ac O.S. 1998/258 (G.I.1), Erthyglau 3 i a ddirymwyd, gydag arbedion, gan RhS (G.I.) 1998 Rhif 306. Back [5]

(6)

1980 p.44.; trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i Weinidogion yr Alban yn rhinwedd adran 53 0 Ddeddf yr Alban 1998 (p.46). Back [6]

(7)

O.S. 1998/1760 (G.I.14), y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn. Back [7]

(8)

Gorch. 9171. Back [8]

(9)

Gorch. 3906 (allan o brint; mae llungopï au ar gael, yn rhad ac am ddim, oddi wrth yr Is-adran Cymorth i Fyfyrwyr, Yr Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau, Mowden Hall, Staindrop Road, Darlington DL3 9BG). Back [9]

(10)

2002 p.41. Diwygiwyd adran 104 gan Ddeddf Lloches a Mewnfudo (Trin Ceiswyr etc) 2004 (p.19) Atodlenni 2 a 4 a Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006 (p.13), adran 9. Back [10]

(11)

O.S. 2008/18 (Cy.7); diwygiwyd gan O.S. 2008/1324 (Cy.137); O.S. 2008/3114 (Cy.276) ac O.S. 2009/2157 (Cy.181). Back [11]

(12)

O.S. 2008/1324 (Cy.137). Back [12]

(13)

O.S. 2008/3114 (Cy.276). Back [13]

(14)

O.S. 2009/2157 (Cy.181). Back [14]

(15)

1992 p. 4 y mae diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn. Back [15]

(16)

2002 p. 38. Back [16]

(17)

1989 p. 41. Diwygiwyd adran 23 gan Ddeddf y Llysoedd a Gwasanaethau Cyfreithiol 1990 (p.41), Atodlen 16, paragraff 12, Deddf Safonau Gofal 2000 (p.14), Atodlen 4, paragraff 14, Deddf Plant 2004 (p.31), adran 49(3) a Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (p.23), Atodlen 3, paragraffau 1 a 7. Back [17]

(18)

Mewnosodwyd is-adrannau (5A) i 5(C) o adran 23C o Ddeddf Plant 1989, o ran Lloegr, gan adran 21 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008 ac mae O.S 2009/268 ac O.S. 2009/2273 yn berthnasol. Back [18]

(19)

Mae diwygiadau i adrannau 15 a 24 ac Atodlen 1 nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn. Back [19]

(20)

2002 p.21 y mae diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn. Back [20]

(21)

OJ L158, 30.04.2004, tt.77– 123. Back [21]

(22)

Gorch. 4904. Back [22]

(23)

Gorch. 2073. Back [23]

(24)

Gorch. 2183. Back [24]

(25)

1971 p.77; mewnosodwyd adran 33(2A) gan baragraff 7 o Atodlen 4 i Ddeddf Cenedligrwydd Prydeinig 1981 (p.61). Back [25]

(26)

OJ Rhif L257, 19.10.1968, t.2 (OJ/SE1968 (ii) t.475). Back [26]

(27)

1973 c. 18; diwygiwyd adran 23 gan Ddeddf Gweinyddu Cyfiawnder 1982 (p.53), adran 18. Mewnosodwyd adran 25B gan Ddeddf Pensiynau 1995 (p.26), adran 11 (1) ac fe'i diwygiwyd gan Ddeddf Pensiynau a Diwygio Lles 1999 (p.30), Atodlen 4. Mewnosodwyd adran 25E gan Ddeddf Pensiynau 2004 (p.35), adran 319(1), Atodlen 12, paragraff 3. Back [27]

(28)

2004 c. 33, addaswyd paragraff 25 o Atodlen 5 gan O.S. 2006/1934. Back [28]

(29)

1988 p. 1. Back [29]

(30)

2004 p. 12. Back [30]

(31)

"Financial Statistics" (ISSN 0015-203X). Back [31]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20093359_we_1.html