BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2010 No. 682 (Cy. 65) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2010/wsi_20100682_we_1.html |
[New search] [Help]
Gwnaed
5 Mawrth 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
10 Mawrth 2010
Yn dod i rym
1 Ebrill 2010
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2010, a daw i rym ar 1 Ebrill 2010.
2.–(1) Diwygir adran 66 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 fel a ganlyn.
(2) Yn is-adran (1), ar ôl "(2B)" mewnosoder ", (2BB)".
(3) Ar ôl is-adran (2A) mewnosoder–
"(2AA) Subsection (2B) applies only in so far as this Part applies in relation to England."
(4) Ar ôl is-adran (2B) mewnosoder–
"(2BA) Subsection (2BB) applies only in so far as this Part applies in relation to Wales.
(2BB) A building or self-contained part of a building is not domestic property if each of the following paragraphs apply in relation to it–
(a) the relevant person intends that, in the year beginning with the end of the day in relation to which the question is being considered, the whole of the building or self-contained part will be available for letting commercially, as self-catering accommodation, for short periods totalling 140 days or more;
(b) on that day the relevant person´s interest in the building or part is such as to enable the person to let it for such periods;
(c) the whole of the building or self-contained part of the building was available for letting commercially, as self-catering accommodation, for short periods totalling 140 days or more in the year prior to the year beginning with end of the day in relation to which the question referred to in paragraph (a) is being considered;
(d) the short periods for which it was so let amounted in total to at least 70 days.".
(5) Yn is-adran (2C), ar ôl "(2B)" mewnosoder "and subsection (2BB)".
(6) Yn is-adran (2D), yn lle "above does" rhodder "and subsection (2BB) above do".
Carl Sargeant
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
5 Mawrth 2010
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio adran 66 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 ("Deddf 1988"), sy'n diffinio eiddo domestig at ddibenion Rhan III (ardrethu annomestig) o'r Ddeddf honno a bydd yn effeithiol o 1 Ebrill 2010 ymlaen.
Mae erthygl 2 yn diwygio adran 66 o Ddeddf 1988. Mae'r adran honno'n pennu ystyr "eiddo domestig" at ddibenion Rhan 3 (ardrethu annomestig) o'r Ddeddf honno.
Mae paragraff (4) o erthygl 2 yn mewnosod is-adran (2BB) yn adran 66, sy'n darparu nad yw adeilad neu ran hunangynhaliol o adeilad yn eiddo domestig at ddibenion Rhan 3–
(a) os bydd am gyfnod o 12 mis calendr o leiaf ar ôl asesiad ar gael i'w osod yn fasnachol, fel llety hunanddarpar, am gyfnodau sy'n dod i gyfanswm o 140 o ddiwrnodau neu fwy; a
(b) yn y 12 mis calendr cyn asesiad–
(i) os oedd ar gael i'w osod yn fasnachol, fel llety hunanddarpar, am gyfnodau sy'n dod i gyfanswm o 140 o ddiwrnodau neu fwy; a
(ii) os cafodd ei osod felly am gyfnodau sy'n dod i gyfanswm o 70 o ddiwrnodau neu fwy.
Mae'r paragraff hwn hefyd yn mewnosod is-adran (2BA) newydd i ddarparu bod is-adran (2BB) yn gymwys yn unig o ran Cymru.
Mae erthygl 2(3) yn gwneud darpariaeth ganlyniadol ac yn mewnosod is-adran (2AA) newydd sy'n darparu bod is-adran (2B) i fod yn gymwys yn unig o ran Lloegr.
Mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi'i baratoi ar gyfer y Gorchymyn hwn. Gellir cael copi yn http:www.assemblywales.org/bus-home/buslegislation/bus-legislation-sub.
1988 p.41. Back [1]
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol a geid yn Neddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru o dan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi. Back [2]