BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau Safonau Ansawdd Aer (Cymru) 2010 No. 1433 (Cy. 126)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2010/wsi_20101433_we_1.html

[New search] [Help]


 

Rheoliadau Safonau Ansawdd Aer (Cymru) 2010

Gwnaed

16 Mai 2010

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

19 Mai 2010

Yn dod i rym

11 Mehefin 2010

Contents

Go to Preamble

  1. RHAN 1

    Cyffredinol

    1. 1.Enwi, cychwyn a chymhwyso

    2. 2.Diffiniadau

    3. 3.Dynodi awdurdod cymwys

    4. 4.Parthau a chrynoadau

  2. RHAN 2

    Asesu ansawdd aer amgylchynol

    1. PENNOD 1

      Sylffwr deuocsid, nitrogen deuocsid ac ocsidau nitrogen, PM10, PM2·5, plwm, bensen a charbon monocsid

      1. 5.Trothwyon asesu

      2. 6.Gofynion asesu

      3. 7.Lleoliad a nifer y pwyntiau samplu

    2. PENNOD 2

      Osôn

      1. 8.Gofynion asesu

      2. 9.Lleoliad a nifer y pwyntiau samplu

    3. PENNOD 3

      Arsenig, cadmiwm, mercwri, nicel, benso(a)pyren a hydrocarbonau aromatig polysyclig eraill

      1. 10.Trothwyon asesu

      2. 11.Gofynion asesu

      3. 12.Lleoliad a nifer y pwyntiau samplu a'r safleoedd monitro

  3. RHAN 3

    Dyletswyddau Gweinidogion Cymru mewn perthynas â gwerthoedd terfyn etc.

    1. 13.Dyletswydd mewn perthynas â gwerthoedd terfyn

    2. 14.Dyletswydd mewn perthynas â gwerthoedd targed

    3. 15.Dyddiad cymhwyso gwerthoedd terfyn a gwerthoedd targed

    4. 16.Dyletswydd mewn perthynas ag amcanion hirdymor ar gyfer osôn

    5. 17.Dyletswydd mewn perthynas â throthwyon gwybodaeth a rhybuddio ar gyfer diogelu iechyd pobl

    6. 18.Dyletswydd mewn perthynas â lefelau critigol ar gyfer diogelu llystyfiant

  4. RHAN 4

    Lleihau'r cysylltiad â PM2·5 yn genedlaethol

    1. 19.Dyletswydd Gweinidogion Cymru i gyfyngu ar y cysylltiad â PM2·5

  5. RHAN 5

    Cynlluniau

    1. 20.Cynlluniau ansawdd aer

    2. 21.Cynlluniau gweithredu cyfnod byr

    3. 22.Cyfranogiad y cyhoedd o ran llunio cynllun ansawdd aer a chynllun gweithredu cyfnod byr

  6. RHAN 6

    Gwybodaeth i'r cyhoedd

    1. 23.Gwybodaeth i'r cyhoedd

    2. 24.Adroddiadau blynyddol

  7. RHAN 7

    Dirymiadau

    1. 25.Dirymiadau

  8. ATODLEN 1

    Gwerthoedd terfyn

  9. ATODLEN 2

    Gwerthoedd targed

  10. ATODLEN 3

    Amcanion hirdymor ar gyfer osôn

  11. ATODLEN 4

    Trothwyon gwybodaeth a rhybuddio

  12. ATODLEN 5

    Lefelau critigol ar gyfer diogelu llystyfiant

  13. ATODLEN 6

    Yr wybodaeth sydd i'w chynnwys mewn cynlluniau ansawdd aer

  14. ATODLEN 7

    Gwybodaeth i'r cyhoedd o ran trothwyon rhybuddio a gwybodaeth ar gyfer nitrogen deuocsid, sylffwr deuocsid ac osôn

Go to Explanatory Note

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy ei ddynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas â chamau sy'n ymwneud ag asesu a rheoli ansawdd aer amgylchynol a chydymffurfedd â gwerthoedd terfyn, gwerthoedd targed ac amcanion ansawdd aer, ac sydd bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru(3), a thrwy arfer y pwerau a roddwyd gan baragraff 1A o Atodlen 2 i'r Ddeddf honno(4), yn gwneud y Rheoliadau canlynol.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau at Atodiadau I i VI ac VIII i X ac Adran B o Atodiad XV i Gyfarwyddeb 2008/50/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ansawdd aer amgylchynol ac aer glanach ar gyfer Ewrop ac Adran II o Atodiad II ac Atodiadau III i V i Gyfarwyddeb 2004/107/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n ymwneud ag arsenig, cadmiwm, mercwri, nicel a hydrocarbonau aromatig polysyclig mewn aer amgylchynol gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr Atodiadau hynny a'r Adrannau hynny fel y'u diwygir o bryd i'w gilydd.

RHAN 1 Cyffredinol

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Safonau Ansawdd Aer (Cymru) 2010 a deuant i rym ar 11 Mehefin 2010.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diffiniadau

2.–(1) Yn y Rheoliadau hyn–

(2) Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at Atodiadau I i VI ac VIII i X ac Adran B o Atodiad XV i Gyfarwyddeb 2008/50/EC ac i Adran II o Atodiad II ac Atodiadau III i V i Gyfarwyddeb 2004/107/EC yn gyfeiriadau at yr Atodiadau hynny a'r Adrannau hynny fel y'u diwygir o bryd i'w gilydd.

Dynodi awdurdod cymwys

3. Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi fel yr awdurdod cymwys at ddibenion Cyfarwyddeb 2008/50/EC (ac eithrio at y diben a bennir yn Erthygl 3(f) o'r Gyfarwyddeb honno) ac at ddibenion Cyfarwyddeb 2004/107/EC.

Parthau a chrynoadau

4.–(1) Rhaid i Weinidogion Cymru, at ddibenion y Rheoliadau hyn, rannu tiriogaeth Cymru'n barthau ac yn grynoadau.

(2) Bydd parth yn cael ei ddosbarthu'n grynhoad os yw'n gytref a chanddi boblogaeth o fwy na 250,000 o drigolion.

(3) Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriadau at barth yn cynnwys parth sydd wedi ei ddosbarthu'n grynhoad.

RHAN 2 Asesu ansawdd aer amgylchynol

PENNOD 1 Sylffwr deuocsid, nitrogen deuocsid ac ocsidau nitrogen, PM10, PM2·5, plwm, bensen a charbon monocsid

Trothwyon asesu

5.–(1) Rhaid i Weinidogion Cymru ddosbarthu pob parth yn ôl p'un a yw'r trothwyon asesu uwch neu is a bennir yn Adran A o Atodiad II i Gyfarwyddeb 2008/50/EC wedi eu croesi ai peidio mewn perthynas â sylffwr deuocsid, nitrogen deuocsid ac ocsidau nitrogen, PM10, PM2·5, plwm, bensen a charbon monocsid.

(2) Rhaid i Weinidogion Cymru adolygu'r dosbarthiad parthau ym mharagraff (1) bob pum mlynedd o leiaf, a rhaid gwneud hynny'n amlach na phob pum mlynedd os oes newidiadau sylweddol yn y gweithgareddau a allai effeithio ar lefelau'r llygryddion mewn aer amgylchynol, y cyfeirir atynt ym mharagraff (1).

(3) Pan fyddant yn adolygu'r dosbarthiad parthau yn unol â'r trothwyon asesu, rhaid i Weinidogion Cymru gydymffurfio ag Adran B o Atodiad II i Gyfarwyddeb 2008/50/EC.

Gofynion asesu

6.–(1) Rhaid i Weinidogion Cymru asesu lefel y sylffwr deuocsid, nitrogen deuocsid ac ocsidau nitrogen, PM10, PM2·5, plwm, bensen a charbon monocsid mewn aer amgylchynol ym mhob parth yn unol â pharagraffau (2) i (4) a'r meini prawf a osodir yn Atodiad III i Gyfarwyddeb 2008/50/EC.

(2) Mewn parthau lle y mae lefel unrhyw lygrydd a grybwyllir ym mharagraff (1) wedi croesi'r trothwy asesu uwch ar gyfer y llygrydd hwnnw y cyfeirir ato yn rheoliad 5, rhaid defnyddio mesuriadau sefydlog mewn perthynas â'r llygrydd hwnnw, ond caniateir ychwanegu at y mesuriadau drwy wneud mesuriadau dangosol neu drwy fodelu neu'r naill ddull a'r llall er mwyn darparu digon o wybodaeth ar ddosbarthiad gofodol ansawdd aer amgylchynol.

(3) Mewn parthau lle y mae lefel unrhyw lygrydd a grybwyllir ym mharagraff (1) yn cyfateb i'r trothwy asesu uwch neu'r trothwy asesu is ar gyfer y llygrydd hwnnw y cyfeirir atynt yn rheoliad 5 neu'n dod rhwng y trothwyon hynny, rhaid defnyddio mesuriadau sefydlog mewn perthynas â'r llygrydd hwnnw, ond caniateir cyfuno hynny â gwneud mesuriadau dangosol neu â modelu neu â'r naill ddull a'r llall.

(4) Mewn parthau lle nad yw lefel unrhyw lygrydd a grybwyllir ym mharagraff (1) wedi cyrraedd y trothwy asesu is ar gyfer y llygrydd hwnnw y cyfeirir ato yn rheoliad 5, caniateir defnyddio techneg modelu neu dechneg amcangyfrif gwrthrychol neu'r naill a'r llall yn lle mesuriad mewn perthynas â'r llygrydd hwnnw.

(5) Os ychwanegir at fesuriadau sefydlog gan fodelu neu fesuriadau dangosol, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i ganlyniadau'r dulliau ychwanegol hynny pan fyddant yn gwneud yr asesiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1).

(6) Yn ychwanegol at yr asesiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1), rhaid i Weinidogion Cymru fesur PM2·5 mewn lleoliadau cefndir gwledig sydd i ffwrdd oddi wrth ffynonellau sylweddol o lygredd aer, er mwyn darparu gwybodaeth ar sail cyfartaledd blynyddol am gyfanswm crynodiad màs a chrynodiadau ffurfiant rhywogaethau cemegol o'r llygrydd hwnnw.

(7) At ddibenion paragraff (6), rhaid mesur yn unol â'r meini prawf a osodir yn Atodiad IV i Gyfarwyddeb 2008/50/EC a rhaid eu cydgysylltu â strategaeth fonitro a rhaglen fesur y Rhaglen Gydweithredol ar gyfer Monitro a Gwerthuso Trosglwyddiad Hirbell Llygryddion Aer yn Ewrop (EMEP), pan fo hynny'n briodol.

(8) Rhaid cymhwyso'r amcanion a'r gofynion ansawdd data a osodir yn Adrannau A ac C o Atodiad I i Gyfarwyddeb 2008/50/EC wrth gyflawni'r asesiad a'r mesuriad y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1) a (6).

(9) Ac eithrio fel a ddarperir ym mharagraff (10), rhaid gwneud mesuriadau o dan y rheoliad hwn yn unol â'r dulliau mesur sy'n ddulliau cyfeirio ac a bennir yn Adran A ac Adran C o Atodiad VI i Gyfarwyddeb 2008/50/EC.

(10) Caniateir defnyddio dulliau amgen i'r rhai y cyfeirir atynt ym mharagraff (9) ar yr amod y cydymffurfir â'r amodau a osodir yn Adran B o Atodiad VI i Gyfarwyddeb 2008/50/EC.

(11) Yn y rheoliad hwn, ystyr "crynodiadau ffurfiant rhywogaethau cemegol" ("chemical speciation concentrations") yw crynodiadau o gydrannau neu rywogaethau cemegol gwahanol o PM2·5.

Lleoliad a nifer y pwyntiau samplu

7.–(1) Rhaid i Weinidogion Cymru osod pwyntiau samplu yn unol â'r meini prawf a osodir yn Atodiad III i Gyfarwyddeb 2008/50/EC ar gyfer asesu sylffwr deuocsid, nitrogen deuocsid ac ocsidau nitrogen, PM10, PM2·5, plwm, bensen a charbon monocsid.

(2) Mewn parthau lle'r unig ffynhonnell wybodaeth ar gyfer asesiad ansawdd aer mewn perthynas ag unrhyw lygrydd a grybwyllir ym mharagraff (1) yw mesuriadau sefydlog, rhaid i nifer y pwyntiau samplu ar gyfer y llygrydd hwnnw, at ddibenion asesu cydymffurfedd â throthwyon rhybuddio a gwerthoedd terfyn ar gyfer diogelu iechyd dynol, fod yn fwy na'r isafswm a bennir yn Adran A o Atodiad V i Gyfarwyddeb 2008/50/EC neu'n hafal iddo.

(3) Mewn parthau ac eithrio crynoadau lle'r unig ffynhonnell wybodaeth ar gyfer asesiad ansawdd aer mewn perthynas â sylffwr deuocsid neu ocsidau nitrogen yw mesuriadau sefydlog, rhaid i nifer y pwyntiau samplu ar gyfer y llygrydd hwnnw, at ddibenion asesu cydymffurfedd â lefelau critigol ar gyfer diogelu llystyfiant, fod yn fwy na'r isafswm a bennir yn Adran C o Atodiad V i Gyfarwyddeb 2008/50/EC neu'n hafal iddo.

(4) Mewn parthau lle yr ychwanegir at wybodaeth a geir yn sgil mesuriadau sefydlog gan wybodaeth a geir yn sgil modelu neu wneud mesuriadau dangosol neu'r naill ddull a'r llall–

(a) caniateir gostwng o hyd at 50% nifer y pwyntiau samplu a bennir yn Adran A o Atodiad V i Gyfarwyddeb 2008/50/EC ar yr amod bod yr amodau canlynol yn cael eu bodloni–

(i) bod y dulliau ychwanegol yn darparu digon o wybodaeth ar gyfer asesu ansawdd aer mewn perthynas â gwerthoedd terfyn a throthwyon rhybuddio,

(ii) bod y dulliau ychwanegol yn darparu digon o wybodaeth ar gyfer hysbysu'r cyhoedd ynghylch cyflwr ansawdd aer amgylchynol, a

(iii) bod nifer y pwyntiau samplu sydd i'w gosod a dosbarthiad technegau ychwanegol o ran eu lleoliad yn ddigonol ar gyfer canfod crynodiad o'r llygrydd perthnasol yn unol â'r amcanion ansawdd data a bennir yn Adran A o Atodiad I i Gyfarwyddeb 2008/50/EC ac ar gyfer galluogi canlyniadau asesu i fodloni'r meini prawf yn Adran B o'r un Atodiad; a

(b) caniateir gostwng o hyd at 50% nifer y pwyntiau samplu a bennir yn Adran C o Atodiad V i Gyfarwyddeb 2008/50/EC ar yr amod y gellir canfod crynodiadau asesedig o'r llygrydd perthnasol yn unol â'r amcanion ansawdd data a bennir yn Adran A o Atodiad I i Gyfarwyddeb 2008/50/EC.

(5) Rhaid i Weinidogion Cymru osod o leiaf un pwynt samplu ar gyfer mesur PM2·5 mewn lleoliadau cefndir gwledig.

PENNOD 2 Osôn

Gofynion asesu

8.–(1) Rhaid i Weinidogion Cymru asesu lefel yr osôn mewn aer amgylchynol ym mhob parth.

(2) Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau, at ddibenion paragraff (1), bod mesuriadau sefydlog yn cael eu gwneud mewn unrhyw barth lle y mae lefel yr osôn yn uwch na'r amcanion hirdymor a bennir yn Atodlen 3 yn ystod unrhyw un neu ragor o'r pum mlynedd cyn gwneud y mesuriadau hynny.

(3) Mewn unrhyw barth lle yr ychwanegir at fesuriadau sefydlog gan fodelu neu fesuriadau dangosol neu gan y naill ddull a'r llall, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i ganlyniadau'r dulliau ychwanegol hynny at ddibenion paragraff (1).

(4) Rhaid cymhwyso'r amcanion a'r gofynion ansawdd data a osodir yn Adrannau A ac C o Atodiad I i Gyfarwyddeb 2008/50/EC wrth gyflawni'r asesiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1).

(5) Ac eithrio fel a ddarperir ym mharagraff (6), rhaid gwneud mesuriadau at ddibenion paragraff (1) yn unol â'r dulliau mesur sy'n ddulliau cyfeirio ac a bennir ym mhwynt 8 o Adran A o Atodiad VI i Gyfarwyddeb 2008/50/EC.

(6) Caniateir defnyddio dulliau amgen i'r rhai y cyfeirir atynt ym mharagraff (5) ar yr amod y cydymffurfir â'r amodau a osodir yn Adran B o Atodiad VI i Gyfarwyddeb 2008/50/EC.

Lleoliad a nifer y pwyntiau samplu

9.–(1) Rhaid i Weinidogion Cymru osod pwyntiau samplu'n unol â'r meini prawf a osodir yn Atodiad VIII i Gyfarwyddeb 2008/50/EC ar gyfer asesu'r osôn.

(2) Mewn parthau lle'r unig ffynhonnell wybodaeth ar gyfer asesiad ansawdd aer yw mesuriadau sefydlog, rhaid i nifer y pwyntiau samplu fod yn fwy na'r isafswm a bennir yn Adran A o Atodiad IX i Gyfarwyddeb 2008/50/EC neu'n hafal iddo.

(3) Mewn parthau lle y mae lefel yr osôn wedi bod yn is na'r amcanion hirdymor ar gyfer pob un o fesuriadau'r pum mlynedd blaenorol, rhaid canfod nifer y pwyntiau samplu yn unol â'r meini prawf a osodir yn Adran B o Atodiad IX i Gyfarwyddeb 2008/50/EC.

(4) Mewn parthau lle yr ychwanegir at yr wybodaeth a geir yn sgil mesuriadau sefydlog gan wybodaeth a geir yn sgil modelu neu wneud mesuriadau dangosol neu yn sgil y naill ddull a'r llall, caniateir gostwng nifer y pwyntiau samplu y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) ar yr amod bod yr amodau canlynol yn cael eu bodloni–

(a) bod y dulliau ychwanegol yn darparu digon o wybodaeth ar gyfer asesu ansawdd aer mewn perthynas â gwerthoedd targed, amcanion hirdymor a throthwyon gwybodaeth a rhybuddio,

(b) bod nifer y pwyntiau samplu sydd i'w gosod a dosbarthiad dulliau ychwanegol o ran eu lleoliad yn ddigonol ar gyfer canfod lefel yr osôn yn unol â'r amcanion ansawdd data a osodir yn Adran A o Atodiad I i Gyfarwyddeb 2008/50/EC ac ar gyfer galluogi canlyniadau asesu i fodloni'r meini prawf a bennir yn Adran B o'r un Atodiad,

(c) bod o leiaf un pwynt samplu ym mhob parth, gydag o leiaf un pwynt samplu fesul dwy filiwn o drigolion neu un pwynt samplu fesul 50,000 km2, pa un bynnag sy'n arwain at y nifer mwyaf o bwyntiau samplu, ac

(ch) bod nitrogen deuocsid yn cael ei fesur ym mhob pwynt samplu sydd ar ôl ac eithrio'r rhai sy'n orsafoedd cefndir gwledig.

(5) Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod nitrogen deuocsid yn cael ei fesur mewn dim llai na 50% o'r pwyntiau samplu sy'n ofynnol o dan Adran A o Atodiad IX i Gyfarwyddeb 2008/50/EC.

(6) Rhaid i'r mesuriad y cyfeirir ato ym mharagraff (5) fod yn un parhaus ac eithrio mewn gorsafoedd cefndir gwledig.

(7) Yn y rheoliad hwn, mae i "gorsafoedd cefndir gwledig" yr ystyr a roddir i "rural background stations" gan Adran A o Atodiad VIII i Gyfarwyddeb 2008/50/EC.

PENNOD 3 Arsenig, cadmiwm, mercwri, nicel, benso(a)pyren a hydrocarbonau aromatig polysyclig eraill

Trothwyon asesu

10.–(1) Rhaid i Weinidogion Cymru ddosbarthu pob parth yn ôl p'un a yw trothwyon asesu uwch neu is a bennir yn Adran I o Atodiad II i Gyfarwyddeb 2004/107/EC yn cael eu croesi ai peidio mewn perthynas ag arsenig, cadmiwm, nicel a benso(a)pyren.

(2) Rhaid i Weinidogion Cymru adolygu'r dosbarthiad parthau ym mharagraff (1) o leiaf bob pum mlynedd, a rhaid gwneud hynny'n amlach na phob pum mlynedd os oes newidiadau sylweddol yn y gweithgareddau a allai effeithio ar lefelau'r llygryddion mewn aer amgylchynol y cyfeirir atynt ym mharagraff (1).

(3) Pan fyddant yn adolygu'r dosbarthiad parthau yn unol â'r trothwyon asesu, rhaid i Weinidogion Cymru gydymffurfio ag Adran II o Atodiad II i Gyfarwyddeb 2004/107/EC.

Gofynion asesu

11.–(1) Rhaid i Weinidogion Cymru asesu lefel yr arsenig, y cadmiwm, y nicel a'r benso(a)pyren mewn aer amgylchynol ym mhob parth yn unol â pharagraffau (2) i (4).

(2) Mewn parthau lle y mae lefel unrhyw lygrydd a grybwyllir ym mharagraff (1) wedi croesi'r trothwy asesu uwch ar gyfer y llygrydd hwnnw y cyfeirir ato yn rheoliad 10, rhaid defnyddio mesuriadau sefydlog mewn perthynas â'r llygrydd hwnnw, ond caniateir ychwanegu at y mesuriadau drwy fodelu er mwyn darparu lefel ddigonol o wybodaeth ar ansawdd aer amgylchynol.

(3) Mewn parthau lle y mae lefel unrhyw lygrydd a grybwyllir ym mharagraff (1), dros gyfnod cynrychioliadol, yn dod rhwng y trothwy asesu uwch a'r trothwy asesu is ar gyfer y llygrydd hwnnw y cyfeirir ato yn rheoliad 10, rhaid defnyddio mesuriadau sefydlog mewn perthynas â'r llygrydd hwnnw, ond caniateir cyfuno hynny â mesuriadau dangosol fel y cyfeirir atynt yn Adran 1 o Atodiad IV i Gyfarwyddeb 2004/107/EC neu â modelu, neu â'r naill ddull a'r llall.

(4) Mewn parthau lle nad yw lefel unrhyw lygrydd a grybwyllir ym mharagraff (1) wedi cyrraedd y trothwy asesu is ar gyfer y llygrydd hwnnw y cyfeirir ato yn rheoliad 10, caniateir defnyddio techneg modelu neu dechneg amcangyfrif gwrthrychol neu'r naill dechneg a'r llall yn lle mesuriad mewn perthynas â'r llygrydd hwnnw.

(5) Yn ychwanegol at yr asesiad y cyfeirir ato ym mharagraffau (1) i (4), rhaid i Weinidogion Cymru fonitro crynodiadau o hydrocarbonau aromatig polysyclig eraill yn ychwanegol at benso(a)pyren fel y gwêl Gweinidogion Cymru'n dda i'w wneud, gan gynnwys o leiaf y canlynol–

(a) benso(a)anthrasen,

(b) benso(b)fflworanthen,

(c) benso(j)fflworanthen,

(ch) benso(k)fflworanthen,

(d) indeno(1,2,3-cd)pyren,

(dd) dibens(a,h)anthrasen.

(6) Yn ychwanegol at hyn, rhaid i Weinidogion Cymru weithredu pwyntiau samplu cefndir i ddarparu mesuriadau dangosol ar gyfer y canlynol–

(a) y crynodiadau o arsenig, cadmiwm, nicel, mercwri nwyol llwyr, benso(a)pyren a hydrocarbonau aromatig polysyclig eraill mewn aer amgylchynol y cyfeirir atynt ym mharagraff (5), a

(b) y cyfraddau llwyr ddyddodiad o arsenig, cadmiwm, mercwri, nicel, benso(a)pyren a hydrocarbonau aromatig polysyclig eraill y cyfeirir atynt ym mharagraff (5).

(7) Rhaid cydgysylltu mesuriadau at ddibenion paragraff (6) gyda strategaeth fonitro a rhaglen fesur y Rhaglen Gydweithredol ar gyfer Monitro a Gwerthuso Trosglwyddiad Hirbell Llygryddion Aer yn Ewrop (EMEP), pan fo hynny'n briodol.

(8) Rhaid cymhwyso'r amcanion a'r gofynion ansawdd data a osodir yn Atodiad IV i Gyfarwyddeb 2004/107/EC wrth gyflawni'r asesiadau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1), (5) a (6).

(9) Rhaid i fesuriadau yn y rheoliad hwn gael eu gwneud yn unol â'r dulliau mesur sy'n ddulliau cyfeirio a bennir yn Atodiad V i Gyfarwyddeb 2004/107/EC.

(10) Yn y rheoliad hwn, ystyr "mercwri nwyol llwyr" ("total gaseous mercury") yw anwedd mercwri elfennaidd (Hg0) a mercwri nwyol adweithiol, sef rhywogaethau mercwri sy'n doddadwy mewn dŵr gyda phwysedd anweddol digon uchel iddynt fodoli yn y cyfnod nwyol.

Lleoliad a nifer y pwyntiau samplu a'r safleoedd monitro

12.–(1) Rhaid i Weinidogion Cymru osod pwyntiau samplu yn unol â'r meini prawf a osodir yn Adrannau I, II a IV o Atodiad III i Gyfarwyddeb 2004/107/EC ar gyfer asesu arsenig, cadmiwm, nicel a benso(a)pyren.

(2) Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod safleoedd monitro hydrocarbonau aromatig polysyclig ac eithrio benso(a)pyren–

(a) wedi eu lleoli yn yr un lle â phwyntiau samplu benso(a)pyren,

(b) wedi eu lleoli'n unol â'r meini prawf a osodir yn Adrannau I i III o Atodiad III i Gyfarwyddeb 2004/107/EC, ac

(c) wedi eu dewis fel y gellir nodi amrywiadau daearyddol a thueddiadau hirdymor mewn crynodiadau o hydrocarbonau aromatig polysyclig.

(3) Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau–

(a) bod o leiaf un pwynt samplu cefndir yn cael ei osod i ddarparu mesuriadau dangosol at ddibenion paragraff (6) o reoliad 11,

(b) bod y cyfryw bwyntiau samplu cefndir wedi eu lleoli'n unol â'r meini prawf a osodir yn Adrannau I i III o Atodiad III i Gyfarwyddeb 2004/107/EC, ac

(c) bod y cyfryw bwyntiau samplu cefndir wedi eu dewis fel y gellir nodi amrywiadau daearyddol a thueddiadau hirdymor mewn crynodiadau o'r llygryddion perthnasol ac yng nghyfraddau llwyr ddyddodiad y llygryddion perthnasol.

RHAN 3 Dyletswyddau Gweinidogion Cymru mewn perthynas â gwerthoedd terfyn etc.

Dyletswydd mewn perthynas â gwerthoedd terfyn

13.–(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau nad yw lefelau sylffwr deuocsid, nitrogen deuocsid, bensen, carbon monocsid, plwm, PM10 a PM2·5 yn uwch mewn unrhyw barth na'r gwerthoedd terfyn a osodir yn Atodlen 1.

(2) Os yw'r dyddiad ar gyfer cyrraedd y gwerthoedd terfyn ar gyfer nitrogen deuocsid yn cael ei ohirio mewn unrhyw barth yn unol â rheoliad 15(2), rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau nad yw lefel nitrogen deuocsid yn y parth hwnnw'n uwch o fwy na 50% na'r gwerth terfyn ar gyfer y llygrydd hwnnw a osodir yn Atodlen 1.

(3) Mewn parthau lle y mae lefel unrhyw lygrydd a grybwyllir ym mharagraff (1) yn is na'r gwerth terfyn a osodir yn Atodlen 1 ar gyfer y llygrydd hwnnw, rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod lefel y llygrydd hwnnw'n cael ei gadw'n is na'r gwerth terfyn a rhaid iddynt ymdrechu i gynnal ar gyfer ansawdd aer amgylchynol y safon orau sy'n cydweddu â datblygu cynaliadwy.

(4) Os hysbyswyd y Comisiwn, yn unol ag Erthygl 20 o Gyfarwyddeb 2008/50/EC, fod mynd yn uwch nag unrhyw werth terfyn a grybwyllir ym mharagraff (1) i'w briodoli i ffynonellau naturiol, nid yw'r gormodiant hwnnw i'w ystyried yn ormodiant at ddibenion y Rheoliadau hyn.

Dyletswydd mewn perthynas â gwerthoedd targed

14.–(1) Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod pob cam angenrheidiol nad yw'n arwain at gostau anghymesur yn cael ei gymryd i sicrhau nad yw lefelau PM2·5, osôn, arsenig, cadmiwm, nicel a benso(a)pyren yn uwch mewn unrhyw barth na'r gwerthoedd targed yn Atodlen 2.

(2) Rhaid i Weinidogion Cymru lunio rhestr o'r holl barthau lle y mae lefelau arsenig, cadmiwm, nicel neu benso(a)pyren yn is na'r gwerthoedd targed a osodir yn Atodlen 2 ar gyfer y llygryddion hynny.

(3) Mewn perthynas â pharthau a restrir o dan baragraff (2), rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod lefel unrhyw lygrydd sy'n is na gwerth targed y llygrydd yn cael ei gadw'n is na'r gwerth targed hwnnw a rhaid iddynt ymdrechu i gynnal ar gyfer ansawdd aer amgylchynol y safon orau sy'n cydweddu â datblygu cynaliadwy.

(4) Rhaid i Weinidogion Cymru lunio rhestr o'r holl barthau lle y mae lefelau arsenig, cadmiwm, nicel neu benso(a)pyren yn uwch na'r gwerthoedd targed ar eu cyfer.

(5) Mewn perthynas â pharthau a restrir o dan baragraff (4), rhaid i Weinidogion Cymru–

(a) nodi'r ardaloedd lle y mae lefelau'n uwch na'r gwerthoedd targed a'r ffynonellau sy'n cyfrannu at y gormodiannau hynny, a

(b) sicrhau bod y camau a gymerir yn unol â pharagraff (1) yn cael eu cyfeirio at y prif ffynonellau allyriad sydd wedi eu nodi a bod y camau hynny'n cymhwyso, os ydynt yn berthnasol, y technegau gorau sydd ar gael yn unol â Chyfarwyddeb 2008/1/EC(8).

(6) Mewn parthau lle y mae lefel yr osôn yn uwch na'r gwerth targed a osodir yn Atodlen 2 ar gyfer y llygrydd hwnnw, rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod y rhaglen a baratowyd yn unol ag Erthygl 6 o Gyfarwyddeb 2001/81/EC yn cael ei gweithredu i gyrraedd y gwerth targed, oni bai mai dim ond drwy gamau a fyddai'n arwain at gostau anghymesur y gellir cyrraedd y gwerth hwn.

(7) Yn y rheoliad hwn–

Dyddiad cymhwyso gwerthoedd terfyn a gwerthoedd targed

15.–(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), o ran gwerthoedd terfyn a gwerthoedd targed–

(a) maent yn gymwys o'r dyddiad a bennir ar gyfer pob gwerth terfyn neu werth targed sydd dan sylw yn Atodlenni 1 neu 2, neu

(b) maent yn gymwys pan fydd y Rheoliadau hyn yn dod i rym, os na phennir dyddiad yn yr Atodlenni hynny.

(2) Os hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd, yn unol ag Erthygl 22 o Gyfarwyddeb 2008/50/EC, na ellir sicrhau cydymffurfedd â gwerthoedd terfyn ar gyfer nitrogen deuocsid, yn Atodlen 1 erbyn y dyddiad a bennir ym mharagraff (1) mewn parth neilltuol, caniateir gohirio dyddiad cyrraedd y gwerthoedd terfyn hynny yn y parth hwnnw am hyd at bum mlynedd ar y mwyaf, ar yr amod–

(a) bod Gweinidogion Cymru wedi paratoi cynllun ansawdd aer ar gyfer nitrogen deuocsid yn y parth y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef yn unol â rheoliad 20, ynghyd â'r wybodaeth a restrir yn Adran B o Atodiad XV i'r Gyfarwyddeb honno, a'u bod wedi dangos y sicrheir cydymffurfedd â'r gwerthoedd terfyn ar gyfer y llygrydd hwnnw yn y parth hwnnw cyn y dyddiad erbyn pryd y gohiriwyd cymhwyso'r gwerthoedd terfyn hynny, a

(b) nad yw'r Comisiwn wedi codi unrhyw wrthwynebiadau o dan Erthygl 22 o'r Gyfarwyddeb honno i ohirio cymhwyso'r gwerthoedd terfyn hynny tan y dyddiad hwyrach hwnnw.

Dyletswydd mewn perthynas ag amcanion hirdymor ar gyfer osôn

16.–(1) Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod pob cam angenrheidiol nad yw'n arwain at gostau anghymesur yn cael ei gymryd i gyflawni'r amcanion hirdymor ar gyfer osôn a osodir yn Atodlen 3 ym mhob parth.

(2) Rhaid i gamau a gymerir yn unol â pharagraff (1) fod yn gyson â'r rhaglen y cyfeirir ati ym mharagraff (6) o reoliad 14 a'r cynlluniau ansawdd aer a baratowyd yn unol â rheoliad 20.

(3) Mewn parthau lle y mae amcanion hirdymor ar gyfer osôn wedi eu cyflawni, rhaid i Weinidogion Cymru, i'r graddau y mae ffactorau sy'n cynnwys cyflyrau meteorolegol a natur drawsffiniol llygredd osôn yn caniatáu–

(a) sicrhau eu bod yn dal i gael eu cyflawni,

(b) cynnal ar gyfer ansawdd aer amgylchynol y safon orau sy'n cydweddu â datblygu cynaliadwy, ac

(c) cynnal safon uchel o ran diogelu'r amgylchedd ac iechyd pobl.

Dyletswydd mewn perthynas â throthwyon gwybodaeth a rhybuddio ar gyfer diogelu iechyd pobl

17. Os croesir unrhyw un neu ragor o'r trothwyon gwybodaeth neu rybuddio a osodir yn Atodlen 4 mewn unrhyw barth, rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu'r cyhoedd drwy gyfrwng y radio, y teledu, y papurau newydd neu'r rhyngrwyd.

Dyletswydd mewn perthynas â lefelau critigol ar gyfer diogelu llystyfiant

18. Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau nad yw'r lefelau'n uwch mewn unrhyw barth na'r lefelau critigol a osodir yn Atodlen 5.

RHAN 4 Lleihau'r cysylltiad â PM2·5 yn genedlaethol

Dyletswydd Gweinidogion Cymru i gyfyngu ar y cysylltiad â PM2·5

19.–(1) Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod pob cam angenrheidiol nad yw'n arwain at gostau anghymesur yn cael ei gymryd i leihau'r cysylltiad â PM2·5 gyda'r bwriad o gyrraedd y targed cenedlaethol ar gyfer lleihau cysylltiad erbyn 2020.

(2) Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod pob cam priodol yn cael ei gymryd gyda'r bwriad o sicrhau nad yw'r dangosydd cysylltiad cyfartaleddog ar gyfer 2015 yn fwy na 20 μg/m3.

(3) Yn y rheoliad hwn–

RHAN 5 Cynlluniau

Cynlluniau ansawdd aer

20.–(1) Os yw lefel sylffwr deuocsid, nitrogen deuocsid, bensen, carbon monocsid, plwm neu PM10 mewn aer amgylchynol yn uwch mewn unrhyw barth nag unrhyw un neu ragor o'r gwerthoedd terfyn yn Atodlen 1, neu os yw lefel PM2·5 mewn aer amgylchynol yn uwch mewn unrhyw barth na'r gwerth targed perthnasol yn Atodlen 2, yna, yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i Weinidogion Cymru lunio a gweithredu cynllun ansawdd aer er mwyn cyrraedd y gwerth terfyn neu'r gwerth targed perthnasol yn y parth hwnnw.

(2) Os yw Gweinidogion Cymru wedi dynodi parthau lle y mae gwerthoedd yn uwch na'r gwerthoedd terfyn ar gyfer PM10 oherwydd ail-ddaliant gronynnau yn sgil gwasgaru tywod neu halen yn y gaeaf, yn unol ag Erthygl 21 o Gyfarwyddeb 2008/50/EC, dim ond i'r graddau y mae gwerthoedd uwch na'r gwerthoedd terfyn hynny i'w priodoli i ffynonellau PM10 ac eithrio gwasgaru tywod neu halen yn y gaeaf y mae dyletswydd Gweinidogion Cymru o dan baragraff (1) yn gymwys i'r parthau hynny.

(3) Os yw lefel yr osôn mewn aer amgylchynol yn uwch mewn unrhyw barth nag unrhyw un neu ragor o'r gwerthoedd targed ar gyfer osôn yn Atodlen 2, rhaid i Weinidogion Cymru, os yw'n briodol, lunio a gweithredu cynllun ansawdd aer i gyrraedd y gwerth targed perthnasol oni fyddai'r camau angenrheidiol ar gyfer cyrraedd y gwerth targed hwnnw'n arwain at gost anghymesur.

(4) Rhaid i gynllun ansawdd aer o dan baragraff (1) neu (3) gynnwys camau y bwriedir iddynt sicrhau cydymffurfedd ag unrhyw werth terfyn perthnasol o fewn yr amser byrraf posibl.

(5) Os yw lefel PM2·5 mewn aer amgylchynol mewn unrhyw barth, ar unrhyw adeg cyn 31 Rhagfyr 2014, yn uwch na'r lefel a gyfrifwyd drwy gymhwyso'r ffin goddefiant ar gyfer y llygrydd hwnnw yn Atodlen 1 i'r gwerth terfyn perthnasol yn yr Atodlen honno, rhaid i Weinidogion Cymru lunio a gweithredu cynllun ansawdd aer i gyrraedd y gwerth terfyn hwnnw yn y parth hwnnw.

(6) Rhaid i gynllun ansawdd aer gynnwys yr wybodaeth a restrir yn Atodlen 6.

(7) Pan fo hynny'n bosibl, rhaid i gynllun ansawdd aer fod yn gyson â chynlluniau eraill a lunnir yn unol ag ymrwymiadau a osodir o dan–

(a) Cyfarwyddeb 2001/80/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar gyfyngu ar allyriadau llygryddion penodol i'r aer o weithfeydd hylosgi mawr(11),

(b) Cyfarwyddeb 2001/81/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar derfynau cenedlaethol uchaf ar allyriadau ar gyfer llygryddion atmosfferig penodol, a

(c) Cyfarwyddeb 2002/49/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar asesu a rheoli sŵ n amgylcheddol(12).

(8) Os bydd cynllun ansawdd aer yn ofynnol mewn perthynas â mwy nag un llygrydd mewn unrhyw barth, rhaid i Weinidogion Cymru, pan fo hynny'n briodol, lunio a gweithredu cynllun integredig ar gyfer y parth hwnnw mewn perthynas â phob llygrydd o dan sylw.

Cynlluniau gweithredu cyfnod byr

21.–(1) Os oes risg y bydd y lefel o sylffwr deuocsid neu nitrogen deuocsid, mewn unrhyw barth, yn croesi un neu fwy o'r trothwyon rhybuddio a osodir yn Atodlen 4, rhaid i Weinidogion Cymru lunio a gweithredu cynllun gweithredu cyfnod byr.

(2) Rhaid i gynllun gweithredu cyfnod byr osod y camau a fwriedir ar gyfer lleihau'r risg o groesi'r trothwyon rhybuddio, neu, os croesir y trothwyon hynny, ar gyfer cwtogi'r amser y pery'r digwyddiad.

(3) Os yw lefel yr osôn, mewn unrhyw barth, yn croesi'r trothwy rhybuddio a osodir yn Atodlen 4 neu os oes risg y bydd yn croesi'r trothwy hwnnw, rhaid i Weinidogion Cymru lunio a gweithredu cynllun gweithredu cyfnod byr gan roi sylw i Benderfyniad 2004/279/EC(13), os ydynt o'r farn ei bod yn rhesymol debygol ei bod yn bosibl lleihau'r risg sy'n deillio o'r cyfryw ddigwyddiad neu leddfu ei ddifrifoldeb neu gwtogi'r amser y mae'n para o ystyried cyflyrau daearyddol, meteorolegol ac economaidd.

(4) At ddibenion paragraff (3), rhaid i'r lefel groesi'r trothwy rhybuddio am dair awr o leiaf yn olynol neu mae'n rhaid rhagfynegi y bydd hynny'n digwydd.

(5) Caniateir llunio hefyd gynlluniau gweithredu cyfnod byr pan fo risg y bydd gwerthoedd yn uwch nag unrhyw un neu ragor o'r gwerthoedd terfyn neu'r gwerthoedd targed a osodir yn Atodlenni 1 a 2.

Cyfranogiad y cyhoedd o ran llunio cynllun ansawdd aer a chynllun gweithredu cyfnod byr

22.–(1) Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r cyhoedd pan fo Gweinidogion Cymru'n cynnig paratoi, addasu neu adolygu cynllun ansawdd aer neu gynllun gweithredu tymor byr.

(2) Os yw paragraff (1) yn gymwys, rhaid i Weinidogion Cymru–

(a) hysbysu'r cyhoedd ynghylch y cynnig, ynghylch unrhyw wybodaeth gefndirol berthnasol ac ynghylch hawl y cyhoedd i gyfranogi yn y weithred o lunio'r cynllun,

(b) pennu ym mha fodd y gall y cyhoedd gyfranogi yn yr ymgynghoriad, gan gynnwys rhoi cyfeiriad ar gyfer anfon ymatebion, ac amserlen resymol ar gyfer yr ymgynghoriad, ac

(c) rhoi sylw i ganlyniadau'r ymgynghoriad wrth lunio'r cynllun.

(3) Pan gyhoeddir y cynllun, rhaid i Weinidogion Cymru hefyd ddarparu gwybodaeth ar gyfer y cyhoedd am y rhesymau dros gynnwys y cynllun ynghyd â gwybodaeth ynghylch proses gyfranogi gan y cyhoedd sydd wedi ei chyflawni.

RHAN 6 Gwybodaeth i'r cyhoedd

Gwybodaeth i'r cyhoedd

23.–(1) Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod y canlynol ar gael i'r cyhoedd ac i sefydliadau priodol a chanddynt fuddiant–

(a) map yn nodi'r parthau a sefydlwyd o dan reoliad 4;

(b) gwybodaeth gyfredol, a roddir yn ddyddiol o leiaf, ac unwaith yr awr os yn bosibl, ar lefelau sylffwr deuocsid, nitrogen deuocsid, PM10, osôn, carbon monocsid ac, os yn bosibl, PM2·5;

(c) gwybodaeth gyfredol ar lefelau bensen a phlwm, wedi ei chyflwyno ar ffurf cyfartaledd dros y deuddeng mis diwethaf, ac wedi ei diweddaru bob tri mis neu bob mis os yn bosibl;

(ch) gwybodaeth gyfredol o ran gohirio unrhyw ddyddiad erbyn pryd y mae gwerthoedd terfyn ar gyfer nitrogen deuocsid i'w cyrraedd yn unol â pharagraff (2) o reoliad 15;

(d) gwybodaeth gyfredol am achosion pan fo lefelau sylffwr deuocsid, nitrogen deuocsid, bensen, plwm, PM10, PM2·5, carbon monocsid ac osôn yn uwch na'r gwerthoedd terfyn, gwerthoedd targed, neu'r amcanion hirdymor ar eu cyfer a osodir yn Atodlenni 1 i 3, ynghyd â'r rhesymau dros y cyfryw achosion a gwybodaeth briodol ynghylch effeithiau ar iechyd a'r amgylchedd;

(dd) gwybodaeth gyfredol am achosion pan fo trothwyon rhybuddio neu wybodaeth sylffwr deuocsid, nitrogen deuocsid ac osôn a osodir yn Atodlen 4 wedi eu croesi mewn gwirionedd, neu pan ragfynegir y cânt eu croesi, ynghyd â'r rhesymau dros y cyfryw achosion a gwybodaeth briodol ynghylch effeithiau ar iechyd;

(e) gwybodaeth gyfredol am achosion lle y mae lefelau ocsidau nitrogen a sylffwr deuocsid yn uwch na'r gwerthoedd critigol ar eu cyfer a osodir yn Atodlen 5, ynghyd â'r rhesymau dros y cyfryw achosion a gwybodaeth briodol ynghylch effeithiau ar yr amgylchedd;

(f) gwybodaeth gyfredol am grynodiadau o arsenig, cadmiwm, nicel, mercwri, benso(a)pyren a hydrocarbonau aromatig polysyclig eraill ac am gyfraddau llwyr ddyddodiad yr uchod;

(ff) gwybodaeth gyfredol am achosion pan fo lefelau arsenig, cadmiwm, nicel a benso(a)pyren yn uwch na'r gwerthoedd targed ar eu cyfer, ynghyd â rhesymau dros y cyfryw achosion, pa ardal sydd dan sylw, a gwybodaeth briodol ynghylch effeithiau ar iechyd a'r amgylchedd;

(g) gwybodaeth am y camau a gymerwyd i gyrraedd y gwerthoedd targed ar gyfer arsenig, cadmiwm, nicel a benso(a)pyren;

(ng) cynlluniau ansawdd aer; a

(h) cynlluniau gweithredu cyfnod byr, ynghyd â chanlyniadau ymchwiliadau Gweinidogion Cymru i ddichonoldeb a chynnwys y cynlluniau hynny, a gwybodaeth am roi'r cynlluniau ar waith.

(2) Rhaid sicrhau bod yr wybodaeth ym mharagraff (1)(dd) ar gael yn unol ag Atodlen 7.

(3) Rhaid i wybodaeth gael ei dosbarthu'n ddi-dâl ac mewn dull clir a dealladwy drwy unrhyw gyfrwng y mae'n hawdd cael mynediad ato gan gynnwys y rhyngrwyd neu ddulliau telathrebu priodol eraill a chadw mewn cof ofynion Cyfarwyddeb 2007/2/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar sefydlu seilwaith ar gyfer gwybodaeth ofodol yn y Gymuned Ewropeaidd(14).

(4) At ddibenion y Rhan hon, mae "cyrff a chanddynt fuddiant" yn cynnwys, yn benodol, cyrff amgylcheddol, cyrff defnyddwyr, cyrff sy'n cynrychioli poblogaethau sensitif, cyrff gofal iechyd perthnasol a ffederasiynau diwydiannol.

Adroddiadau blynyddol

24.–(1) Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi adroddiadau blynyddol ynghylch pob llygrydd.

(2) Rhaid i adroddiadau blynyddol gynnwys yr wybodaeth ganlynol–

(a) manylion yr holl achosion pan fo lefelau llygryddion yn uwch na gwerthoedd terfyn, gwerthoedd targed ac amcanion hirdymor ac wedi croesi'r trothwyon gwybodaeth a rhybuddio a osodir yn Atodlenni 1 i 4 ar gyfer y cyfnodau cyfartaleddu priodol; a

(b) asesiad crynodol o effeithiau'r achosion hyn.

(3) Pan fo'n briodol, caniateir cynnwys mwy o wybodaeth mewn adroddiadau blynyddol, gan gynnwys asesiadau am ddiogelu coedwigoedd a gwybodaeth am ragsylweddion osôn a restrir yn Adran B o Atodiad X i Gyfarwyddeb 2008/50/EC fel sy'n briodol yn nhyb Gweinidogion Cymru.

RHAN 7 Dirymiadau

Dirymiadau

25. Dirymir Rheoliadau Safonau Ansawdd Aer (Cymru) 2007(15).

Jane Davidson

Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru

16 Mai 2010

Rheoliadau 13, 15, 20(1), (2), (4) a (5), 21(5), 23(1) a 24(2)

ATODLEN 1 Gwerthoedd terfyn

Sylffwr deuocsid

Cyfnod cyfartaleddu Gwerth terfyn
Un awr 350 μg/m3, sef ffigur na ddylid mynd yn uwch nag ef fwy na 24 o weithiau mewn blwyddyn galendr
Un diwrnod 125 μg/m3, sef ffigur na ddylid mynd yn uwch nag ef fwy na 3 gwaith mewn blwyddyn galendr

Nitrogen deuocsid

Cyfnod cyfartaleddu Gwerth terfyn
Un awr na 18 o weithiau mewn blwyddyn galendr 200 μg/m 3, sef ffigur na ddylid mynd yn uwch nag ef fwy
Blwyddyn galendr 40 μg/m3

Bensen

Cyfnod cyfartaleddu Gwerth terfyn
Blwyddyn galendr 5 μg/m3

Carbon monocsid

Cyfnod cyfartaleddu Gwerth terfyn
Y cymedr wyth awr dyddiol uchaf(16) 10 mg/m3

Plwm

Cyfnod cyfartaleddu Gwerth terfyn
Blwyddyn galendr 0.5 μg/m3

PM10

Cyfnod cyfartaleddu Gwerth terfyn
Un diwrnod na 35 o weithiau mewn blwyddyn galendr 50 μg/m3, sef ffigur na ddylid mynd yn uwch nag ef fwy
Blwyddyn galendr 40 μg/m3

PM2·5

Cyfnod cyfartaleddu Gwerth terfyn Y ffin goddefiant Y dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid cyrraedd y gwerth terfyn
Blwyddyn galendr 25 μg/m3 20% ar 11 Mehefin 2008, ac yn lleihau o ganrannau blynyddol hafal ar 1 Ionawr sy'n dilyn a phob 12 mis ar ôl hynny er mwyn cyrraedd 0% erbyn 1 Ionawr 2015 1 Ionawr 2015

Rheoliadau 14, 20(1) a (3), 21(5), 23(1) a 24(2)

ATODLEN 2 Gwerthoedd targed

Arsenig, cadmiwm, nicel a benso(a)pyren

Llygrydd Gwerth targed ar gyfer y cyfanswm cynnwys yn y ffracsiwn PM10 ar gyfartaledd dros flwyddyn galendr Y dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid cyrraedd y gwerth terfyn
Arsenig 6 ng/m3 31 Rhagfyr 2012
Cadmiwm 5 ng/m3 31 Rhagfyr 2012
Nicel 20 ng/m3 31 Rhagfyr 2012
Benso(a)pyren 1 ng/m3 31 Rhagfyr 2012

Osôn

Amcan Cyfnod cyfartaleddu Gwerth targed
Diogelu iechyd pobl Y cymedr wyth awr dyddiol uchaf(17) 120 μg/m3, sef ffigur na ddylid mynd yn uwch nag ef ar fwy na 25 o ddiwrnodau fesul blwyddyn galendr ar gyfartaledd dros dair blynedd(18)
Diogelu llystyfiant Mai i Orffennaf AOT 40 (a gyfrifwyd o werthoedd 1 awr) ) 18,000 μg/m3. awr ar gyfartaledd dros bum mlynedd(18)

PM2·5

Cyfnod cyfartaleddu Gwerth targed
Blwyddyn galendr 25 μg/m3

Rheoliadau 8(2), 16, 23(1), 24(2)

ATODLEN 3 Amcanion hirdymor ar gyfer osôn

Amcan Cyfnod cyfartaleddu Amcan hirdymor Y dyddiad erbyn pryd y dylid gwireddu amcan hirdymor
Diogelu iechyd pobl Y cymedr wyth awr dyddiol uchaf o fewn blwyddyn galendr 120 μg/m3 Nis diffinnir
Diogelu llystyfiant Mai i Orffennaf AOT 40 (a gyfrifwyd o werthoedd 1 awr) 6000 μg/m3. awr Nis diffinnir

Rheoliadau 17, 21(1) a (3), 23(1) a 24(2)

ATODLEN 4 Trothwyon gwybodaeth a rhybuddio

Trothwyon rhybuddio ar gyfer sylffwr deuocsid a nitrogen deuocsid

Llygrydd Trothwy rhybuddio(19)
Sylffwr deuocsid 500 μg/m3
Nitrogen deuocsid 400 μg/m3

Trothwyon gwybodaeth a rhybuddio ar gyfer osôn

Diben Cyfnod cyfartaleddu Trothwy
Gwybodaeth 1 awr 180 μg/m3
Rhybuddio 1 awr 240 μg/m3

Rheoliadau 18 a 23(1)

ATODLEN 5 Lefelau critigol ar gyfer diogelu llystyfiant

Sylffwr deuocsid

Cyfnod cyfartaleddu Lefel gritigol
Blwyddyn galendr a'r gaeaf (1 Hydref i 31 Mawrth) 20 μg/m3

Ocsidau nitrogen

Cyfnod cyfartaleddu Lefel gritigol
Blwyddyn galendr 30 μg/m3 NOx

Rheoliad 20(6)

ATODLEN 6 Yr wybodaeth sydd i'w chynnwys mewn cynlluniau ansawdd aer

1. Lleoliad gormodiant o lygredd–

(a) rhanbarth;

(b) dinas (map); ac

(c) gorsaf fesur (map, cyfesurynnau daearyddol).

2. Gwybodaeth gyffredinol–

(a) math o barth (dinas, ardal ddiwydiannol neu ardal wledig)

(b) amcangyfrif o'r ardal lygredig (km2) a'r boblogaeth sy'n dod i gysylltiad â'r llygredd;

(c) data defnyddiol am yr hinsawdd;

(ch) data perthnasol am dopograffi; a

(d) gwybodaeth ddigonol am y math o dargedau y mae'n ofynnol eu diogelu yn y parth.

3. Awdurdodau cyfrifol (enwau a chyfeiriadau personau sy'n gyfrifol am ddatblygu a gweithredu cynlluniau ansawdd aer).

4. Natur y llygredd ac asesiad ohono–

(a) crynodiadau y sylwyd arnynt yn ystod blynyddoedd blaenorol (cyn gweithredu'r camau gwella);

(b) crynodiadau a fesurwyd ers dechrau'r prosiect; ac

(c) technegau a ddefnyddiwyd ar gyfer asesu.

5. Tarddiad llygredd–

(a) rhestr o brif ffynonellau'r allyriad sy'n gyfrifol am y llygredd (map);

(b) cyfanswm yr allyriadau o'r ffynonellau hyn (tunelli'r flwyddyn); ac

(c) gwybodaeth am lygredd a fewnforiwyd o ranbarthau eraill.

6. Dadansoddi'r sefyllfa–

(a) manylion y ffactorau hynny sy'n gyfrifol am lefelau uwch na'r gwerth terfyn neu'r gwerth targed; a

(b) manylion y camau posibl ar gyfer gwella ansawdd aer.

7. Manylion y camau neu'r prosiectau hynny ar gyfer gwella a oedd yn bodoli cyn 11 Mehefin 2008–

(a) camau lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol; a

(b) effeithiau'r camau y sylwyd arnynt.

8. Manylion y camau neu'r prosiectau hynny a fabwysiadwyd gyda'r bwriad o ostwng llygredd ar ôl 11 Mehefin 2008–

(a) rhestr a disgrifiad o'r holl gamau a nodwyd yn y prosiect;

(b) amserlen ar gyfer gweithredu; ac

(c) amcangyfrif o'r cynllun arfaethedig i wella ansawdd aer a'r amser y disgwylir y bydd ei angen i gyflawni'r amcanion hyn.

9. Manylion y camau neu'r prosiectau sydd yn yr arfaeth neu yr ymchwilir iddynt ar gyfer yr hirdymor.

10. Rhestr o'r cyhoeddiadau, y dogfennau a'r gwaith etc. a ddefnyddir i ychwanegu at yr wybodaeth sy'n ofynnol gan yr Atodlen hon.

Rheoliad 23(2)

ATODLEN 7 Gwybodaeth i'r cyhoedd o ran trothwyon rhybuddio a gwybodaeth ar gyfer nitrogen deuocsid, sylffwr deuocsid ac osôn

1. Mewn achosion pan groesir naill ai'r trothwyon gwybodaeth neu rybuddio ar gyfer nitrogen deuocsid, sylffwr deuocsid neu osôn yn Atodlen 4, rhaid sicrhau bod y manylion a geir ym mharagraffau 3 i 6, o leiaf, ar gael i'r cyhoedd.

2. Mewn achosion pan ragfynegir y bydd y trothwyon gwybodaeth neu rybuddio ar gyfer un o'r llygryddion hynny yn Atodlen 4 yn cael eu croesi, rhaid darparu'r wybodaeth a geir ym mharagraffau 3 i 6, pan fo hynny'n ymarferol, fel pe bai cyfeiriadau at ormodiannau yn y paragraffau hynny'n gyfeiriadau at ormodiannau a ragfynegir.

3. Gwybodaeth ynghylch unrhyw achos lle y mae'r trothwyon gwybodaeth neu rybuddio wedi eu croesi–

(a) y lleoliad neu'r ardal lle y mae'r trothwyon wedi eu croesi;

(b) y math o drothwy sydd wedi ei groesi (trothwy gwybodaeth neu rybuddio);

(c) faint o'r gloch y cafodd y trothwy ei groesi ac am faint o amser y parodd y digwyddiad; ac

(ch) yn achos osôn, y crynodiad un awr ac wyth awr uchaf.

4. Y rhagolygon ar gyfer y prynhawn, y diwrnod a'r diwrnodau canlynol–

(a) yr ardal ddaearyddol lle y disgwylir y bydd trothwy gwybodaeth neu rybuddio yn cael ei groesi; a

(b) y newid a ddisgwylir o ran llygredd, hynny yw, gwelliant, sefydlogiad neu ddirywiad, a'r rhesymau dros y newid hwnnw.

5. Gwybodaeth am y math ar boblogaeth sydd dan sylw, effeithiau posibl ar iechyd a'r ymddygiad a argymhellir, yn arbennig–

(a) gwybodaeth am y grwpiau o'r boblogaeth sydd mewn perygl;

(b) disgrifiad o symptomau tebygol;

(c) rhagofalon yr argymhellir i'r boblogaeth dan sylw eu cymryd; ac

(ch) ymhle i gael rhagor o wybodaeth.

6. Gwybodaeth am y materion ychwanegol canlynol–

(a) gwybodaeth am gamau ataliol i ostwng llygredd neu i leihau'r cysylltiad ag ef;

(b) arwydd o'r prif sectorau ffynhonnell; ac

(c) argymhellion ar gyfer gweithredu i ostwng allyriadau.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi ar waith y Cyfarwyddebau canlynol–

(i) Cyfarwyddeb 2008/50/EC ar ansawdd aer amgylchynol ac aer glanach ar gyfer Ewrop. (Mae'r Gyfarwyddeb hon yn disodli Cyfarwyddeb y Cyngor 96/62/EC ar asesu a rheoli ansawdd aer amgylchynol, Cyfarwyddeb y Cyngor 1999/30/EC sy'n ymwneud â gwerthoedd terfyn ar gyfer sylffwr deuocsid, nitrogen deuocsid ac ocsidau nitrogen, a mater gronynnol a phlwm mewn aer amgylchynol, Cyfarwyddeb y Cyngor 2000/69/EC sy'n ymwneud â gwerthoedd terfyn ar gyfer bensen a charbon monocsid mewn aer amgylchynol, a Chyfarwyddeb y Cyngor 2002/3/EC sy'n ymwneud ag osôn mewn aer amgylchynol); a

(ii) Cyfarwyddeb 2004/107/EC sy'n ymwneud ag arsenig, cadmiwm, mercwri, nicel a hydrocarbonau aromatig polysyclig mewn aer amgylchynol.

Mae'r Rheoliadau hyn yn disodli Rheoliadau Safonau Ansawdd Aer (Cymru) 2007 (O.S. 2007/717 (Cy.63)) a ddirymir gan y Rheoliadau hyn.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Mae Rhan 1 o'r Rheoliadau'n ymdrin â diffiniadau ac yn dynodi Gweinidogion Cymru fel yr awdurdod cymwys at ddibenion Cyfarwyddeb 2008/50/EC (ac eithrio at ddiben cydweithredu ag Aelod-wladwriaethau eraill a'r Comisiwn Ewropeaidd) ac at ddibenion Cyfarwyddeb 2004/107/EC. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru rannu Cymru'n barthau a chrynoadau at ddibenion y Rheoliadau hyn.

Mae Rhan 2 o'r Rheoliadau'n ymdrin ag asesu aer amgylchynol. Mae Pennod 1 yn ymwneud ag asesu sylffwr deuocsid, nitrogen deuocsid ac ocsidau nitrogen, mater gronynnol, plwm, bensen a charbon monocsid, mae Pennod 2 yn ymwneud ag asesu osôn, ac mae Pennod 3 yn ymwneud ag asesu arsenig, cadmiwm, mercwri, nicel, benso(a)pyren a hydrocarbonau aromatig polysyclig eraill.

Mae Rhan 3 o'r Rheoliadau'n gosod dyletswyddau ar Weinidogion Cymru mewn perthynas â gwerthoedd terfyn, gwerthoedd targed, amcanion hirdymor, trothwyon gwybodaeth a rhybuddio a lefelau critigol ar gyfer y llygryddion uchod a osodir yn Atodlenni 1 i 5.

Mae Rhan 4 o'r Rheoliadau'n gosod dyletswyddau ychwanegol ar Weinidogion Cymru mewn perthynas â'r math ar fater gronynnol a elwir PM2·5. Mae'r dyletswyddau hyn yn ymwneud â chyrraedd y targed cenedlaethol yn y Deyrnas Unedig ar gyfer PM2·5 o ran lleihau cysylltiad ag ef ac â chydymffurfio â'r terfyn ar y dangosydd cysylltiad cyfartaleddog ar gyfer 2015.

Mae Rhan 5 o'r Rheoliadau'n rhoi gofynion penodol ar Weinidogion Cymru i lunio cynlluniau ansawdd aer mewn perthynas â gwerthoedd terfyn a gwerthoedd targed, a chynlluniau gweithredu cyfnod byr mewn perthynas â throthwyon rhybuddio. Caniateir llunio hefyd gynlluniau gweithredu cyfnod byr mewn perthynas â gwerthoedd terfyn a gwerthoedd targed mewn amgylchiadau penodol.

Mae Rhan 6 o'r Rheoliadau'n ymwneud â gwybodaeth gyhoeddus.

Mae Atodlenni 1 i 5 yn gosod gwerthoedd terfyn, gwerthoedd targed, amcanion hirdymor, trothwyon gwybodaeth a rhybuddio a lefelau critigol ar gyfer y llygryddion y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt.

Mae Atodlen 6 yn pennu pa wybodaeth sydd i'w chynnwys mewn cynlluniau ansawdd aer.

Mae Atodlen 7 yn pennu pa wybodaeth gyhoeddus sydd i'w darparu pan fydd trothwyon gwybodaeth yn cael eu croesi neu pan ragfynegir y byddant yn cael eu croesi.

Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at Atodiadau I i VI ac VIII i X ac at Adran B o Atodiad XV i Gyfarwyddeb 2008/50/EC ac at Adran II o Atodiad II ac Atodiadau III i V i Gyfarwyddeb 2004/107/EC i'w darllen fel pe baent yn gyfeiriadau at yr Atodiadau hynny a'r Adrannau hynny fel y'u diwygir o bryd i'w gilydd.

Mae asesiad effaith llawn o'r effaith y bydd yr offeryn hwn ac offerynnau cyfatebol mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig yn ei chael ar gostau busnes a'r sector gwirfoddol ar gael gan: Rhaglen yr Atmosffer a'r Amgylchedd Lleol, Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, Ergon House, Horseferry Road, Llundain, SW1P 3JR.

(1)

O.S. 2000/2812. Back [1]

(2)

1972 p. 68. Back [2]

(3)

Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraffau 28 a 30 o Atodlen 11 i'r Ddeddf honno, mae'r pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy'r dynodiad hwn yn arferadwy bellach gan Weinidogion Cymru. Back [3]

(4)

Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51). Back [4]

(5)

OJ Rhif L 393, 30.12.89, t. 1, a ddiwygiwyd gan Gyfarwyddeb 2007/30/EC (OJ Rhif L 165, 27.6.07, t. 21). Back [5]

(6)

OJ Rhif L 23, 26.1.05, t.3, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 219/2009 (OJ Rhif L 87, 31.3.09, t. 109). Back [6]

(7)

OJ Rhif L 152, 11.6.08, t. 1. Back [7]

(8)

OJ Rhif L 24, 24.1.08, t.8, a ddiwygiwyd gan Gyfarwyddeb 2009/31/EC (OJ Rhif L 140, 5.6.09, t.114). Back [8]

(9)

OJ Rhif L 309, 27.11.09, t.22, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 219/2009 (OJ Rhif L 87, 31.3.09, t.109). Back [9]

(10)

O.S. 2010/1001. Back [10]

(11)

OJ Rhif L 309, 27.11.01, t.1, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 2009/31/EC (OJ Rhif L 140, 5.6.09, t.114). Back [11]

(12)

OJ Rhif L 189, 18.7.02, t.12, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1137/2008 (OJ Rhif L 311, 21.11.08, t.1). Back [12]

(13)

OJ Rhif L 87, 25.3.04, t.50 Back [13]

(14)

OJ Rhif L 108, 25.4.07, t.1. Back [14]

(15)

O.S.2007/717 (Cy.63). Back [15]

(16)

Rhaid dewis y crynodiad cymedrig wyth awr dyddiol uchaf o garbon monocsid drwy archwilio'r cyfartaleddau cyfredol wyth awr, wedi eu cyfrifo ar sail data fesul awr ac wedi eu diweddaru bob awr. Rhaid neilltuo pob cyfartaledd wyth awr a gyfrifir felly i'r diwrnod pryd y daw i ben, hynny yw, bydd y cyfnod cyfrifo cyntaf ar gyfer unrhyw un diwrnod yn ymestyn o 17:00 ar y diwrnod blaenorol hyd 01:00 ar y diwrnod hwnnw, a'r cyfnod cyfrifo diwethaf ar gyfer unrhyw un diwrnod fydd y cyfnod rhwng 16:00 a 24:00 ar y diwrnod hwnnw. Back [16]

(17)

Rhaid dewis y crynodiad cymedrig wyth awr dyddiol uchaf drwy archwilio'r cyfartaleddau cyfredol wyth awr, wedi eu cyfrifo ar sail data fesul awr ac wedi eu diweddaru bob awr. Rhaid neilltuo pob cyfartaledd wyth awr a gyfrifir felly i'r diwrnod pryd y daw i ben, hynny yw, bydd y cyfnod cyfrifo cyntaf ar gyfer unrhyw un diwrnod yn ymestyn o 17:00 ar y diwrnod blaenorol hyd 01:00 ar y diwrnod hwnnw, a'r cyfnod cyfrifo diwethaf ar gyfer unrhyw un diwrnod fydd y cyfnod rhwng 16:00 a 24:00 ar y diwrnod hwnnw. Back [17]

(18)

Os na ellir canfod y cyfartaleddau tair blynedd neu bum mlynedd ar sail set lawn ac olynol o ddata blynyddol, bydd yr isafswm data blynyddol sy'n ofynnol ar gyfer gwirio cydymffurfedd â'r gwerthoedd targed yn ddata dilys am flwyddyn mewn perthynas â gwerth targed ar gyfer diogelu iechyd pobl ac yn ddata dilys am dair blynedd mewn perthynas â gwerth targed ar gyfer diogelu llystyfiant. Back [18]

(19)

I'w fesur dros dair awr olynol mewn lleoliadau sy'n gynrychioliadol o ansawdd aer dros 100 km2 o leiaf neu dros barth cyfan, pa un bynnag yw'r lleiaf. Back [19]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2010/wsi_20101433_we_1.html