BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd (Cyfansoddiad Timau a Swyddogaethau Byrddau) (Cymru) 2010 No. 1690 (Cy. 159)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2010/wsi_20101690_we_1.html

[New search] [Help]


 

Rheoliadau Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd (Cyfansoddiad Timau a Swyddogaethau Byrddau) (Cymru) 2010

Gwnaed

24 Mehefin 2010

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

29 Mehefin 2010

Yn dod i rym

1 Medi 2010

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y swyddogaethau a roddwyd gan adrannau 60(1) a 62(2) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso

1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd (Cyfansoddiad Timau a Swyddogaethau Byrddau) (Cymru) 2010 a deuant i rym ar 1 Medi 2010.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru

(3) Yn y Rheoliadau hyn–

Cyfansoddiad timau integredig cymorth i deuluoedd

2.–(1) Rhaid i dîm gynnwys o leiaf bum person y mae pob un ohonynt yn dod o un o'r categorïau proffesiynol a ganlyn–

(a) gweithiwr cymdeithasol;

(b) nyrs; neu

(c) ymwelydd iechyd.

(2) Rhaid i dîm gynnwys o leiaf un person o bob un o'r categorïau yn is-baragraffau (a) i (c) o baragraff (1).

(3) Rhaid i un aelod o'r tîm fod yn weithiwr cymdeithasol ymgynghorol.

3. Rhaid i dîm gynnwys staff sy'n meddu ar sgiliau a phrofiad addas, gan ystyried–

(a) y categorïau o achosion y gellir eu hatgyfeirio at y tîm;

(b) yr angen sydd ar y staff proffesiynol am gymorth gweinyddol; ac

(c) unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 65 o Fesur 2010.

Byrddau Integredig Cymorth i Deuluoedd

4. Er mwyn cyrraedd yr amcanion yn adran 62(1) o Fesur 2010 (Swyddogaethau byrddau integredig cymorth i deuluoedd) rhaid i fwrdd integredig cymorth i deuluoedd–

(a) cael ac ystyried adroddiadau rheolaidd oddi wrth y person sy'n rheoli'r tîm gan gynnwys gwybodaeth am lefelau gweithgarwch gwasanaethu a chanlyniadau;

(b) ceisio datrys problemau o ran cyd-drefnu gwasanaethau a ddarperir gan y tîm a gwasanaethau eraill a ddarperir gan yr awdurdod lleol a'r bwrdd iechyd lleol;

(c) sicrhau bod gan y tîm weithdrefnau o ran

(i) amddiffyn plant;

(ii) amddiffyn oedolion;

(ch) sefydlu gweithdrefn i ddatrys anghydfod rhwng yr awdurdod lleol a'r bwrdd iechyd lleol am y trefniadau ar gyfer y tîm;

(d) sicrhau bod trefniadau digonol i oruchwylio pob aelod o staff proffesiynol ac i ofalu am eu datblygiad proffesiynol;

(dd) cael adroddiadau ar incwm a gwariant y tîm a hysbysu'r awdurdod lleol a'r bwrdd iechyd lleol am unrhyw broblemau ariannol neu broblemau yn ymwneud ag adnoddau eraill a fyddai'n debygol o effeithio ar allu y tîm i gyflawni ei amcanion.

Gwenda Thomas

Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

24 Mehefin 2010

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud gofynion ynglŷn â'r categorïau proffesiynol y mae'n rhaid dewis gweithwyr ohonynt i fod yn aelodau o dîm integredig cymorth i deuluoedd (ICiD). Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn pennu'r hyn y mae'n rhaid i fwrdd ICiD ei wneud i gyrraedd yr amcanion a roddwyd iddo gan adran 62 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010.

Mae Rheoliad 2 yn gwneud yn ofynnol bod rhaid i dîm ICiD gynnwys craidd o bum gweithiwr proffesiynol o'r tri phroffesiwn: gwaith cymdeithasol; nyrsio; a gwasanaethau ymwelwyr iechyd. Rhaid i bob un o'r proffesiynau gael ei gynrychioli yn y tîm. Ar ben hynny, rhaid i'r gweithiwr cymdeithasol, neu os oes rhagor nag un gweithiwr cymdeithasol, rhaid i o leiaf un ohonynt, fod yn weithiwr cymdeithasol ymgynghorol, fel y'i diffinnir yn rheoliad 1. Mae Rheoliad 3 yn gwneud yn ofynnol bod gan y tîm sgiliau a phrofiad addas, o ystyried y mathau gwahanol o achosion yr atgyfeirir at y tîm, unrhyw ganllawiau y caiff Gweinidogion Cymru eu dyroddi a'r angen sydd ar aelodau proffesiynol o'r tîm am gymorth gweinyddol.

Mae Rheoliad 4 yn egluro'r swyddogaethau y mae'n rhaid i fwrdd ICiD eu cyflawni er mwyn cyrraedd ei amcanion.

(1)

2010 mccc. 1 Back [1]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2010/wsi_20101690_we_1.html