BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) (Diwygio) 2010 No. 1791 (Cy. 173) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2010/wsi_20101791_we_1.html |
[New search] [Help]
Gwnaed
10 Gorffennaf 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
13 Gorffennaf 2010
Yn dod i rym
31 Awst 2010
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) (Diwygio) 2010 a deuant i rym ar 31 Awst 2010.
2. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
3. Diwygir Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2009(3) yn unol â'r rheoliad canlynol.
4. Yn nhestun Cymraeg rheoliad 28–
(a) yn lle "rheoliad 33" rhodder "rheoliad 27"; a
(b) yn lle "rheoliad 27" rhodder "rheoliad 29".
Leighton Andrews
Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru
10 Gorffennaf 2010
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2009 ("Rheoliadau 2009").
Mae Rheoliadau 2009 yn darparu ar gyfer cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â chwrs dynodedig ym maes addysg uwch yn yr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd sy'n cychwyn ar 1 Medi 2010 neu ar ôl hynny.
Mae'r Rheoliadau hyn yn cywiro gwall drafftio yn nhestun Cymraeg rheoliad 28 o Reoliadau 2009.
1998 p.30; diwygiwyd adran 22 gan Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21), adran 146 ac Atodlen 11 iddi, Deddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p.1), Atodlen 6, Deddf Cyllid 2003 (p.14), adran 147, Deddf Addysg Uwch 2004 (p.8), adrannau 42 a 43 ac Atodlen 7 iddi a Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p.22), adran 257. Back [1]
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (ac eithrio i'r graddau y maent yn ymwneud â gwneud unrhyw ddarpariaeth a awdurdodir gan is-adran (2)(a), (c), (j) neu (k), (3)(e) neu (f) neu (5) o adran 22) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 44 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 a Gorchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1833 (Cy.149)(C.79)) fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) (Diwygio) 2006 (O.S. 2006/1660 (Cy.159)(C.56)). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraffau 30(1) a 30(2)(c) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Back [2]
O.S. 2009/3359 (Cy.295). Back [3]