BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) (Diwygio) 2010 No. 1796 (Cy. 172) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2010/wsi_20101796_we_1.html |
[New search] [Help]
Gwnaed
12 Gorffennaf 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
13 Gorffennaf 2010
Yn dod i rym
17 Awst 2010
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1) ac (1A) a 36(a) o Ddeddf Amrywogethau a Hadau Planhigion 1964(1) sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy(2).
Mae Gweinidogion Cymru wedi cyflawni ymgynghoriad yn unol ag adran 16(1) o'r Ddeddf honno.
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) (Diwygio) 2010. Deuant i rym ar 17 Awst 2010 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
2.–(1) Diwygir Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2006(3) fel a ganlyn.
(2) Yn lle paragraff 4 o Atodlen 1, rhodder–
"4.–(1) Ni cheir dyroddi tystysgrif cnwd sy'n tyfu sy'n cynnwys datganiad bod modd marchnata tatws hadyd fel tatws hadyd cyn-sylfaenol o unrhyw ddosbarth oni fydd y swyddog awdurdodedig wedi'i fodloni bod y tir y tyfir, neu y tyfwyd, y tatws hadyd arno yn dir–
(a) y canfuwyd, o ganlyniad i brawf pridd a wnaed gan Weinidogion Cymru cyn plannu'r cnwd, nad yw wedi ei halogi â'r Llyngyr Tatws (rhywogaeth Globodera sy'n heintio tatws);
(b) nad yw wedi ei ddynodi o dan Atodlen 15 i Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006 fel tir wedi ei halogi â phoblogaeth Ewropeaidd o Lyngyr Tatws; ac
(c) nas defnyddiwyd ar gyfer tyfu tatws ar unrhyw adeg yn ystod y 7 mlynedd yn union cyn plannu'r cnwd.
(2) Ond nid yw is-baragraff (1)(a) yn gymwys yn achos tatws hadyd a dyfir mewn cyfrwng di-bridd.".
(3) Yn lle paragraff 7 o Atodlen 1, rhodder–
"7.–(1) Ni cheir dyroddi tystysgrif cnwd sy'n tyfu sy'n cynnwys datganiad bod modd marchnata tatws hadyd fel tatws hadyd sylfaenol o unrhyw ddosbarth, oni fydd y swyddog awdurdodedig wedi'i fodloni bod y tir y tyfir, neu y tyfwyd, y tatws hadyd arno yn dir–
(a) y canfuwyd, o ganlyniad i brawf pridd a wnaed gan Weinidogion Cymru cyn plannu'r cnwd, nad yw wedi ei halogi â'r Llyngyr Tatws (rhywogaeth Globodera sy'n heintio tatws);
(b) nad yw wedi ei ddynodi o dan Atodlen 15 i Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006 fel tir wedi ei halogi â phoblogaeth Ewropeaidd o Lyngyr Tatws; ac
(c) nas defnyddiwyd ar gyfer tyfu tatws ar unrhyw adeg yn ystod y 5 mlynedd yn union cyn plannu'r cnwd.
(2) Ond nid yw is-baragraff (1)(a) yn gymwys yn achos tatws hadyd a dyfir mewn cyfrwng di-bridd.".
(4) Yn lle paragraff 10 o Atodlen 1, rhodder–
"10.–(1) Ni cheir dyroddi tystysgrif cnwd sy'n tyfu sy'n cynnwys datganiad bod modd marchnata tatws hadyd fel tatws hadyd ardystiedig oni fydd y swyddog awdurdodedig wedi'i fodloni bod y tir y tyfir, neu y tyfwyd, y tatws hadyd arno yn dir-
(a) y canfuwyd, o ganlyniad i brawf pridd a wnaed gan Weinidogion Cymru cyn plannu'r cnwd, nad yw wedi ei halogi â'r Llyngyr Tatws (rhywogaeth Globodera sy'n heintio tatws);
(b) nad yw wedi ei ddynodi o dan Atodlen 15 i Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006 fel tir wedi ei halogi â phoblogaeth Ewropeaidd o Lyngyr Tatws; ac
(c) nas defnyddiwyd ar gyfer tyfu tatws ar unrhyw adeg yn ystod y 4 mlynedd yn union cyn plannu'r cnwd.
(2) Ond nid yw is-baragraff (1)(a) yn gymwys yn achos tatws hadyd a dyfir mewn cyfrwng di-bridd.".
(5) Yn Atodlen 3, Rhan II–
(a) yng ngholofnau 3 a 4, yn lle'r symbol "-" gyferbyn ag "Y Clwy Tatws (Phytophthora infestans (Mont.) de Bary)", rhodder y symbol ")";
(b) yng ngholofn 3, yn lle "3.0%" mewn perthynas â Grwpiau III, IV a V yng ngholofn 1, rhodder "5.0%"; ac
(c) yng ngholofn 4, yn lle "4.0%" mewn perthynas â Grwpiau II, III, IV a V yng ngholofn 1, rhodder "5.0%".
(6) Yn Atodlen 3, Rhan III–
(a) yng ngholofn 3, yn lle "4.0%" mewn perthynas â Grwpiau III a IV yng ngholofn 1, rhodder "5.0%"; a
(b) yng ngholofn 4, yn lle "4.0%" mewn perthynas â Grwpiau II, III, IV a V yng ngholofn 1, rhodder "5.0%".
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
12 Gorffennaf 2010
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2006 (O.S. 2006/2929 (Cy.264) drwy amnewid paragraffau 4, 7 a 10 o Atodlen 1. Maent yn darparu na cheir dyroddi tystysgrif cnwd sy'n tyfu ynghyd â datganiad bod modd marchnata tatws hadyd fel tatws hadyd cyn-sylfaenol, sylfaenol neu ardystiedig oni fydd y tir y'u tyfir ynddo yn rhydd o'r Llyngyr Tatws, a heb ei ddynodi o dan Atodlen 15 i Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006 nac wedi ei ddefnyddio i dyfu tatws am gyfnod penodedig.
Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud diwygiadau bach yn y tablau yn Rhannau II a III o Atodlen 3.
Ni pharatowyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gyfer yr offeryn hwn, gan na ragwelir unrhyw effaith ar y sectorau preifat na gwirfoddol.
1964 p.14; diwygiwyd adran 16(1), a mewnosodwyd adran 16(1A), gan adran 4 o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p.68) a pharagraff 5 o Atodlen 4 i'r Ddeddf honno. Gweler adran 38(1) am ddiffiniad "the Minister". Back [1]
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i'r Ysgrifennydd Gwladol gan erthygl 2 o Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978 (O.S. 1978/272) ac Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwnnw. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny wedyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwnnw. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 i'r Ddeddf honno. Back [2]
O.S. 2006/2929 (Cy.264) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2008/1063 (Cy.112) a 2009/2980 (Cy.259). Back [3]