BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Diwygio’r Rhestr o Awdurdodau Cymreig) 2021 Rhif 1361 (Cy. 357) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2021/wsi_20211361_en_1.html |
[New search] [Help]
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Welsh Statutory Instruments
Llywodraeth Leol, Cymru
Plant A Phobl Ifanc, Cymru
Gwnaed
am 10.00 a.m. ar 1 Rhagfyr 2021
Yn dod i rym
3 Rhagfyr 2021
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 84(2)(a) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021( 1).
Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad yn unol ag adran 174(4) a (5)(l) o’r Ddeddf honno.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Diwygio’r Rhestr o Awdurdodau Cymreig) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 3 Rhagfyr 2021.
2. Yn adran 6(1) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010( 2), ar ôl paragraff (b) mewnosoder—
“(ba) cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir drwy reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1); ”.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
Am 10.00 a.m. ar 1 Rhagfyr 2021
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (“y Mesur”) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau Cymreig wneud a dangos eu cyfraniad tuag at ddileu tlodi plant yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn yn ychwanegu cyd-bwyllgorau corfforedig a sefydlir drwy reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (“ Deddf 2021”) at y rhestr o awdurdodau Cymreig sy’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd i lunio a chyhoeddi strategaeth ar gyfer cyfrannu at ddileu tlodi plant yng Nghymru ac y mae’n rhaid iddynt roi sylw i ganllawiau neu gyfarwyddiadau a roddir o dan y Mesur gan Weinidogion Cymru.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gysylltiedig â rheoliadau a sefydlodd gyd-bwyllgorau corfforedig penodol o dan Ran 5 o Ddeddf 2021.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r rheoliadau a sefydlodd gyd-bwyllgorau corfforedig a rheoliadau cysylltiedig. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.