BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Athrawon Ysgol (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041745w.html

[New search] [Help]



2004 Rhif1745 (Cy.184)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Athrawon Ysgol (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2004

  Wedi'u gwneud 6 Gorffennaf 2004 
  Yn dod i rym 1 Medi 2004 

Drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 214 o Ddeddf Addysg 2002[1], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Athrawon Ysgol (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 1 Medi 2004.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Diwygio Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Addysg Bellach (Cymru) 2002
    
2.  - (1) Mae Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Addysg Bellach (Cymru) 2002[2] yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

    (2) Yn rheoliad 2 hepgorer y diffiniad o "cymhwyster Rheoliadau 1999", a mewnosoder y diffiniad canlynol yn y lle priodol  - 

    (3) Yn rheoliad 3 yn lle is-baragraff (a) ym mhob un o baragraffau (2), (3) a (4) rhodder yr is-baragraff canlynol  - 

Diwygio Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Ffioedd) 2002
     3.  - (1) Mae Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Ffioedd) 2002[4] yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

    (2) Yn rheoliad 3 yn lle'r geiriau "y mae'n ofynnol" i'r diwedd rhodder y geiriau "y mae'n ofynnol iddynt gael eu cofrestru yn rhinwedd rheoliadau a wnaed o dan adran 134(1) o Ddeddf Addysg 2002[5]".

    (3) Yn rheoliad 4(4) yn lle paragraff (b) rhodder y canlynol  - 

Diwygio Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2003
     4.  - (1) Mae Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2003[6] yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

    (2) Yn rheoliad 2(1)  - 

    (3) Yn rheoliad 6(2)(a)(i), mewnosoder ar ôl y geiriau "athro neu athrawes gofrestredig" y geiriau "neu ar gynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth".

    (4) Yn y fersiwn Gymraeg o reoliad 8(1) a (2), rhodder y geiriau "athro neu athrawes gymwysedig" yn lle'r geiriau "athro neu athrawes gymwys".

    (5) Yn Atodlen 1  - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[11]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

6 Gorffennaf 2004



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Addysg Bellach (Cymru) 2002, Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Ffioedd) 2002 a Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2003. Mae'r diwygiadau hyn yn cymryd i ystyriaeth y newidiadau a wnaed gan adrannau 132, 133 a 134 o Ddeddf Addysg 2002 i gymwysterau athrawon, i'r gwaith y caniateir ei wneud mewn ysgolion gan athrawon ac eraill ac i'r gofyniad i gofrestru gyda Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru.


Notes:

[1] 2002 p.32.back

[2] O.S. 2002/1663 (Cy.158), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2003/1717 (Cy.184).back

[3] O.S. 2004/1729 (Cy.173).back

[4] O.S. 2002/326 (Cy.39).back

[5] Gweler Rheoliadau Addysg (Gwaith Penodedig a Chofrestru) (Cymru) 2004, O.S. 2004/1744 (Cy.183).back

[6] O.S. 2003/543 (Cy.77) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2004/872 (Cy.87).back

[7] O.S. 1999/2817 a ddiwygiwyd gan O.S. 2002/1663 (Cy.158), 2002/2938 (Cy.279), 2003/140 (Cy.12) a 2003/2458 (Cy.240), ac a ddirymwyd, yn rhannol gan O.S. 2004/1729 (Cy.173) ac O.S. 2004/1744 (Cy.183).back

[8] Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Cymru) 2004, O.S. 2004/1729 (Cy.173), oedd y rheoliadau a oedd mewn grym pan wnaed y rheoliadau hyn.back

[9] O.S. 1999/2817 (Cy.18) a ddiwygiwyd gan O.S. 2002/1663 (Cy.158), 2002/2938 (Cy.279), 2003/140 (Cy.12) a 2003/2458 (Cy.240), ac a ddirymwyd, yn rhannol, gan O.S.2004/1729 (Cy.173) ac O.S. 2004/1744 (Cy.183).back

[10] O.S. 2004/1729 (Cy.173).back

[11] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090978 X


  © Crown copyright 2004

Prepared 19 July 2004


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041745w.html